Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 26ain Gorffennaf, 2021 1.30 pm

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd  D. Davies.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

4.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - All-dro Darpariaethol 2020/2021 pdf icon PDF 712 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau..

 

Dywedodd yr Arweinydd y cafodd yr adroddiadau eu hystyried yn y Cyd-bwyllgor Craffu a gofynnodd i’r Prif Swyddog Adnoddau roi diweddariad o drafodaethau o’r cyfarfod.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n diweddaru’r Pwyllgor Gweithredol ar yr all-dro darpariaethol ar y gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 ar draws pob portffolio. Nododd y Prif Swyddog y tabl sy’n dangos fod yr all-dro darpariaethol yn is na’r gyllideb gan £2.639m ar draws pob gwasanaeth. Roedd hyn ar ôl cyfraniad net dechreuol i gronfeydd wrth gefn penodol o £8.5m. Wrth adolygu sefyllfa diwedd blwyddyn, ac i gefnogi cadernid ariannol y Cyngor, gwnaed trosglwyddiad pellach i gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi o £1.2m gyda’r balans o £1.4m yn trosglwyddo i gronfeydd wrth gefn cyffredinol. Dywedodd y Prif Swyddog y dyrannwyd cronfeydd wrth gefn ychwanegol oherwydd yr ymateb parhaus a’r adferiad oherwydd y pandemig.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad yn rhoi manylion y cyllid caledi a gafodd yr Awdurdod gan Lywodraeth Cymru, taliadau cymorth Covid a wnaed i gynlluniau a weinyddwyd gan yr Adran ar ran Llywodraeth Cymru a rhoddodd grynodeb o’r amrywiadau ffafriol ac anffafriol ar draws pob portffolio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr all-dro darpariaethol yn dangos i falansau ysgolion gynyddu i £3.7m gyda dim ond un ysgol mewn sefyllfa ddiffyg ar hyn o bryd a dywedodd fod ysgolion wedi gweld effaith debyg ar eu cyllideb gan fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol i’r Cyngor yn ystod y pandemig. Roedd y cyllid hwn wedi cefnogi ysgolion yn eu hymateb i Covid-19; fodd bynnag ychwanegodd y Prif Swyddog mai budd un flwyddyn yn unig oedd hyn ac nad oedd yn ateb y pwysau cost parhaus y byddai’r ysgolion a’r Cyngor yn eu hwynebu yn y dyfodol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o raglen Pontio’r Bwlch.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau y trafodaethau yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu ar y Gyllideb a dywedodd fod Aelodau wedi gwneud cais am adroddiadau yn y dyfodol fel y gallant ddeall effaith y cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyllidebau penodol. Dywedwyd fod yr wybodaeth ar hyn o bryd yn fanwl am y gwahanol bortffolios, felly gwneir y newid o hyn ymlaen. Ychwanegodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor wedi cytuno i argymell Opsiwn a ffafrir 1.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a’r ffigur all-dro ar gyfer y flwyddyn a fu’n heriol ar draws y sector cyhoeddus. Teimlai’r Arweinydd fod yr Awdurdod ac awdurdodau eraill wedi trin y sefyllfa’n dda iawn ac roedd yn falch iawn i adrodd y sefyllfa hon.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y bu adeiladu ar gadernid ariannol yn allweddol i’r weinyddiaeth hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a theimlai fod yr adroddiad yn rhoi’r Awdurdod mewn sefyllfa dda i ddelio gydag unrhyw risgiau a allai godi. Mae meysydd sydd angen edrych arnynt ac amrywiadau anffafriol i fynd i’r afael â nhw a dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hapus i fynd â hyn ymlaen  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, All-dro Darpariaethol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/21 (fel ar 31 Mawrth 2021) pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol o wariant cyfalaf all-dro darpariaethol pob portffolio yn erbyn cymeradwyaeth cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021. Dywedodd y Prif Swyddog fod y sefyllfa ariannol ddarpariaethol gyffredinol fel ar 31 Mawrth 2021 yn dangos tanwariant o £161k o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £17.78m a rhoddodd fanylion effaith tymor byr a hirdymor ar y gyllideb fel y’i hamlinellir yn yr adroddiad .

 

Yng nghyswllt trafodaethau’r Cyd-bwyllgor Craffu ar y Gyllideb, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y bu trafodaethau am y meysydd gorwariant a chadarnhaodd y cafodd pryderon eu trin.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a

 

a)    rhoddwyd yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad, a

b)    bod y gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor yn parhau i gael eu cefnogi, a

c)    nodi’r gweithdrefnau rheoli’r gyllideb a monitro a weithredir o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

6.

Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol a Chronfeydd wrth Gefn wedi’u Clustnodi 2020/2021 pdf icon PDF 438 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi manylion gwybodaeth yng nghyswllt y ddrafft sefyllfa all-dro cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/2021. Nodwyd fod lefel gyffredinol cronfeydd wrth gefn cyffredinol/cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn o £14.7m i £28.6m, cynnydd o £13.9m a nododd y Prif Swyddog y ffactorau a gyfrannodd at y cynnydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod sefyllfa cronfeydd wrth gefn yn rhoi clustog i ddelio gyda phroblemau annisgwyl yn y dyfodol. Roedd yr elfennau penodol o’r symiau a glustnodwyd yn ymwneud â chyllid grant a ddelir yng nghyswllt prosiectau neu wasanaethau penodol a ddefnyddid wrth gyflawno’r deilliannau gwasanaeth perthnasol. Rhagwelai’r Prif Swyddog ei bod yn debygol y byddai cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus yn y dyfodol er mwyn lliniaru’r lefelau eithriadol o fenthyca gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrth ddelio gyda Covid-19. Teimlai’r Prif Swyddog ei bod yn ddarbodus cadw’r lefelau briodol o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a chronfeydd wrth gefn cyffredinol i gynorthwyo gyda sefyllfa cyllid a fedrai fod yn debyg i’r hyn a gafwyd yn ystod y degawd diweddar yn ystod blynyddoedd o lymder ariannol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Cyd-bwyllgor Craffu yn deall yr angen i fod yn ddarbodus yn y dyfodol yng nghyswllt cronfeydd wrth gefn i sicrhau cydnerthedd ariannol da y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd y caiff cronfeydd wrth gefn eu monitro’n gyson gan y deiliaid portffolio perthnasol ac ar y cyd gan y Pwyllgor Gweithredol. Cafodd monitro cronfeydd wrth gefn ei wella yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf sydd wedi cryfhau’r cydnerthedd ariannol y Cyngor. Ni fu lefel y cronfeydd wrth gefn unrhyw le’n agos i ble y dylai fod ac er fod y lefelau presennol yn fwy ffafriol, mae angen mwy o waith i sicrhau fod yr Awdurdod mewn sefyllfa well ar gyfer y dyfodol. Cytunodd yr Arweinydd y byddai angen ar ryw adeg i drafod y grantiau a ddosbarthwyd i Lywodraeth Cymru a llywodraethau eraill o Lywodraeth San Steffan, fodd bynnag gobeithiai’r Arweinydd na fyddai mor ddifrifol â’r blynyddoedd llymder ariannol a fod yn rhaid i wleidyddion cyfrifol wneud popeth a fedrant i sicrhau fod yr Awdurdod wedi paratoi i ddarparu ar gyfer cyllidebau’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac

 

a)    y rhoddwyd ystyriaeth i ddefnydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn ystod 2020/2021;

b)    nodi’r cynnydd sylweddol mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi fel canlyniad i’r amgylchiadau eithriadol ym mlwyddyn ariannol 2020/21;

c)    nodi bod y ddrafft sefyllfa all-dro y cronfeydd wrth gefn cyffredinol o £7.820m yn 5.7% o’r gwariant refeniw net, yn uwch na’r lefel targed o 4%;

d)    yr angen am reolaeth ariannol ddarbodus o gofio’r potensial am gyfyngiadau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol fydd eu hangen i gyllido effaith Covid-19;

e)    rhoi her barhaus i orwariant cyllideb a gweithredu Cynlluniau Gweithredu gwasanaeth priodol lle mae angen; a

f)     bod cynnal cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 pdf icon PDF 544 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar yr Adolygiadau Busnes Strategol, yn cynnwys yr all-dro darpariaethol ar gyfer 2020/201 a’r asesiad diweddaraf o’r cyflawniad ariannol ar gyfer 2021/22 ymlaen. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r Rhaglen yn parhau i gael ei hadolygu i ganfod unrhyw newidiadau yn y tybiaethau. Os oes angen newidiadau o’r fath, caiff y rhain eu hadlewyrchu yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a byddent yn cael eu cyflwyno i Aelodau yn yr hydref.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau y cwestiynau a godwyd yn y Cydbwyllgor craffu ar y Gyllideb a gafodd eu trin.

 

Nododd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd y byddai’r adroddiad nesaf a fyddai’n cael ei ystyried wrth ochr y Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn allweddol i raglen Pontio’r Bwlch. Roedd yr Arweinydd wedi gobeithio y byddai’r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth lawn o effaith Covid-19 ar yr adolygiadau busnes strategol arfaethedig a chroesawai unrhyw ffrydiau newydd i gael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac y darparwyd yr her briodol i raglen Pontio’r Bwlch (Opsiwn 1).