Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Pennaeth Datblygu Sefydliadol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Cynnig i Ymgynghori ar Gynnydd mewn Capasiti yn Ysgol Arbennig Pen y Cwm PDF 559 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod yr adroddiad yn rhoi deilliannau cyfnod hysbysiad statudol/gwrthwynebu yng nghyswllt y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi manylion y camau nesaf o’r prosesau statudol sydd ei angen yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion a’r prosesau gwneud penderfyniadau cysylltiedig. Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o ganlyniadau’r cyfnod hysbysu statudol a’r broses ymgynghori.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr adroddiad a fydd yn fuddiol i blant a phobl ifanc Blaenau Gwent sy’n mynychu Ysgol Arbennig Pen y Cwm.
Cefnogodd y Pwyllgor Gweithredol yr adroddiad a theimlid fod Ysgol Arbennig Pen y Cwm yn gyfleuster sydd ei fawr angen sydd o fudd i Flaenau Gwent a chymunedau ehangach yn ogystal â sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad i gyfleuster mor ardderchog ym Mlaenau Gwent.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y dogfennau cysylltiedig i symud ymlaen i gam Hysbysiad Penderfyniad (sydd ei angen o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad, yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (2018, fersiwn 2). (Opsiwn 1)
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Cais am ddiwrnod gwyliau blynyddol ychwanegol ar gyfer y gweithlu PDF 394 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Pwyllgor Gweithredol i wneud cais a wnaed gan y Cyd Undebau Llafur (Unsain, GMB ac Unite) i roi diwrnod ychwanegol o wyliau ar gyfer y gweithlu (heblaw’r staff a gyflogir gan ysgolion), ar sail unwaith yn unig, ar gyfer 31 Rhagfyr 2021. Ychwanegodd y Prif Swyddog y Cyd Undebau Llafur wedi codi’r cynnig yn y cyfarfod ymgynghori gyda’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a’r Pwyllgor Gweithredol ar 28 Gorffennaf 2021. Teimlai’r Cyd Undebau Llafur y byddai diwrnod ychwanegol o wyliau yn cydnabod gwaith ardderchog staff mewn ymateb i bandemig Covid 19.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad ac ategodd fod y Cyd Undebau Llafur wedi cyflwyno’r cais hwn i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yn ffordd briodol i’r Cyngor gydnabod y gwaith rhagorol a wnaethpwyd yn ystod y pandemig. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi cais yr Undebau Llafur ac yn rhoi 31 Rhagfyr 2021 (eleni yn unig) fel diwrnod o wyliau ychwanegol ar gyfer y gweithlu (heblaw’r staff hynny a gyflogir gan ysgolion). (Opsiwn 10.
|