Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 2ail Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd J. Wilkins (Perchennog Busnes)

Eitem No. 9 – Cymorth Ardrethi Busnes –

Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2022/2023

 

 

Cofnodion

4.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 233 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

5.

Cynadleddau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 274 KB

Cymeradwyo cynadleddau/cyrsiau a gwahoddiadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cynadleddau/Cyrsiau a Gwahoddiadau.

 

2022 Partïon Gardd Brenhinol, Llundain

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd C. Meredith yn mynychu.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

6.

Blaenraglen Gwaith – 16 Mawrth 2022 pdf icon PDF 464 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd y caiff adroddiadau monitro ychwanegol eu hychwanegu at yr agenda a gaiff eu derbyn er mwyn gorffen unrhyw fusnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Flaenraglen Gwaith a chytuno ar y Flaenraglen Gwaith fel y’i cyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol ar 16 Mawrth 2022 (Opsiwn 1).

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 254 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Con  Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

         Nodwyd y grantiau diliynol i sefydliadau a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r adroddiad.

  ABERTYLERI

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd L. Parsons

 

 

1.

Cyfeillion Illtyd Sant

£166.75

2.

Knit & Natter

£100

3.

Gr?p Gweithgareddau Brynithel

£250

4.

Clwb Bowls Brynithel

£100

5.

Groundwork Cymru

£100

 

BRYNMAWR

 

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd W. Hodgins

 

 

1.

BGfm

£250

 

2.

Eglwys Libanus

£3007

 

3.

Fforwm Busnes Brynmawr

£150

 

4.

G – Expressions

£144.85

 

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd L. Elias

 

 

1.

Eglwys Libanus

£150

2.

Cwmni Theatr Gerdd Brynmawr

£54.85

 

GLYNEBWY

 

 

Ward Badminton - Cynghorydd C. Meredith

 

 

1.

Clwb CameraTredvale

£150

 

2.

Apêl Elusennol Cadeirydd y Cyngor

£100

 

3.

WOAP Raglan Terrace

£150

 

4.

Canolfan Cyswllt Plant Glynebwy

£100

 

5.

Eglwys Dewi Sant

£113.07

 

 

Ward Rasa - Cynghorydd D. Wilkshire

 

 

1.

Ysybty Tri Chwm

£150

2.

Bowls Rasa a Beaufort

£68.34

3.

Pensiynwyr Rasa

£68.34

4.

Puddleducks

£68.34

5.

Clwb Rygbi Beaufort

£68.34

6.

Rhos y Fedwen

£68.34

7.

Côr Meibion Beaufort

£68.34

8.

Capel y Graig

£68.34

9.

Pêl-rwyd Glynebwy

£68.40

 

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd P. Baldwin

 

 

1.

Katie Treharne

£200

 

2.

Clwb Rygbi Nantyglo

£150

 

3.

Capel Wesleyaidd

£100

 

4.

Hooks & Pins

£100

 

5.

Eglwys St Anne y Drindod Sanctaidd

£100

 

6.

Pensiynwyr Winchestown

£100

 

7.

Ymddiriedolaeth Mynwent Hermon

£600

 

8.

Siop Gymunedol Nantyglo

£250

 

9.

Clwb Pêl-droed Nantyglo

£200

 

10.

BGfm

£150

 

11.

Cyfellion Parc Nant y Waun

£100

 

12.

Grwp Sgowtiaid 1af Blaenau

£100

 

13.

Pensiynwyr Nantyglo

£100

 

14.

T? Cymunedol Nantyglo

£184.10

 

 

Ward Blaenau - Cynghorydd J. P. Morgan

 

 

1.

Clwb Pêl-droed Nantyglo

£250

2.

Archaeoleg Aberystruth

£100

3.

BGfm

£144.10

4.

Caban Menywod Ystruth

£200

5.

Bowls Dynion Blaenau

£500

6.

Eglwys Fethodistaidd Cwmcelyn

£100

7.

Sgowtiaid Blaenau

£100

8.

Coedcae Interact

£100

9.

Canolfan Gymunedol Blaenau

£200

10.

Apêl Elusennol Cadeirydd y Cyngor

£50

 

TREDEGAR

 

 

Ward Sirhywi - Cynghorwyr T. Smith a M. Cross

 

 

1.

Clwb Rygbi Trefil

£200

 

2.

Côr Meibion Orffews Tredegar

£100

 

3.

Corfflu Hyfforddiant Awyr Sgwadron 2167

£100

 

4.

Clwb Pysgota Tredegar

£50

 

5.

Fforwm Treftadaeth Blaenau Gwent

£100

 

6.

Clwb Rygbi Tredegar Ironside

£200

 

7.

Ardal Gwent Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig

£50

 

8.

Coetiroedd Cwm Sirhywi

£50

 

9.

Canolfan Gymunedol Nantybwch

£350

 

10.

Canolfan Gymunedol Sirhywi

£350

 

11.

Canolfan Gymunedol Ystrad Deri

£350

 

12.

Capel Horeb

£50

 

13.

Capel Sardis

£50

 

14.

Eglwys San Siôr

£100

 

15.

Clwb Bocsio Amatur Silwraidd

£50

 

16.

Clwb Pêl-droed Iau Tredegar

£50

 

17.

Cymdeithas Operatig Tredegar

£200

 

18.

Cymdeithas Gefeillio Tredegar

£100

 

19.

Ysgol Gynradd Glanhywi (Awtistiaeth)

£100

 

20.

Eglwys Gynulleidfaol Gymraeg Ebenezer

£100

 

21.

Eglwys yr Ymdd?yn Difrecheulyd

£50

 

22.

Sefydliad Merched Tredegar

£50

 

23.

Cymru Creations

£169.70

 

24.

Valleys Life Afterstroke

£50

 

25.

Clwb Rhedeg Brynbach

£100

 

26.

Clwb Pêl-droed Derwen

£50

 

27.

Capel Siloam

£50

 

28.

Bowls Dynion Parc Bedwellte

£250

 

29.

Clwb Pysgota Sirhywi

£100

 

30.

Apêl Arch Noa

£50

 

31.

Clwb Rygbi Tredegar

£100

 

32.

Apêl Maer Tredegar

£100

 

33.

Moose Rhyngwladol

£50

 

 

Ward Sirhywi - Cynghorydd B. Thomas

 

 

1.

Kids  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cynllun Adferiad Covid-19 Blaenau Gwent pdf icon PDF 671 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad sy’n ceisio cytundeb gan y Pwyllgor Gweithredol ar y dull a ddefnyddir i fonitro’r adferiad o bandemig Covid-19 ar draws gwasanaethau’r Cyngor a’r gymuned yn ehangach.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at y sefyllfa ymateb argyfwng a fu yn ei lle ar draws yr Awdurdod dros y 2 flynedd diwethaf a dywedodd y bydd y gwaith hwn yn awr yn dod i ben a bod y Cyngor wedi dynodi cyfnod adferiad. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y caiff y gwaith adferiad ei integreiddio i drefniadau llywodraethiant y Cyngor gan ddefnyddio’r prosesau Cynllunio Busnes a Rheoli Perfformiad. Caiff set o fesurau ei datblygu hefyd a ddefnyddid i fesur adferiad ar lefel strategol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Cynllun Adferiad a’r dull gweithredu a ddilynir yn cael ei gefnogi gan Craffu a chroesewir y byddai llawer o’r ffocws ar yr economi ar sut y byddai’r Cyngor yn cefnogi busnesau ac unigolion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod aelodau perthnasol y Pwyllgor Gweithredol wedi cymryd rhan lawn yn y gwahanol feysydd o waith a wnaed a themâu adferiad, ac y cafodd hyn i gyd ei adrodd drwy’r Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Dymunai’r Aelod Gweithredol – Datblygu Economaidd ac Adfywio ddiolch i staff ar draws y Cyngor am eu gwaith mewn ymateb i’r pandemig. Yn nhermau’r portffolio Datblygu Economaidd ac Adfywio, nododd yr Aelod Gweithredol yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau, fodd bynnag teimlid mai’r ffordd y cafodd ei ddosbarthu drwy’r Timau Adfywio ac Adnoddau oedd wedi galluogi’r Cyngor i gefnogi busnesau fel y gwnaeth yn ystod y pandemig. Teimlai’r Aelod Gweithredol y gwnaed gwaith gwych ac y gallai’r Cyngor yn awr dyfu o hyn lle y gallai fod wedi bod yn drychineb.

 

Mynegodd yr Aelod Gweithredol hefyd ei ddiolch i’r holl awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i gefnogi busnesau ar draws y wlad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y dull gweithredu a nodir i reoi adferiad o bandemig Covid 19 ar draws gwasanaethau’r Cyngor a’r gymuned yn ehangach (Opsiwn 1).

 

9.

Cymorth Ardrethi Busnes – Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2022/23 pdf icon PDF 552 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Wilkins fuddiant yn yr eitem hon a ni chymerodd ran yn y trafodaethau na’r bleidlais.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol ei ystyried a mabwysiadu cynllun Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2022/23, fel cymorth ardrethi dewisol adran 47 ar gyfer 2022/23 ar ran y Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad. Ychwanegodd y Prif Swyddog y byddai tua 300 o fusnesau ar draws Blaenau Gwent yn cael budd o’r cynllun, fodd bynnag er mwyn rhoi cymorth i drethdalwyr mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu mabwysiadu y cynllun a ragnodir gan Lywodraeth Cymru fel cynllun cymorth ardrethi dewisol yn unol ag adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a mabwysiadu cynllun Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23 ar ran y Cyngor i atodi cynllun cymorth ardrethi dewisol y Cyngor (Opsiwn 2).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

10.

Strategaeth Cyrchfan Aneurin Bevan pdf icon PDF 434 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Cyrchfan Aneurin Bevan ac yn rhoi crynodeb o gynnwys y strategaeth ynghyd â’r themâu ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ar gyfer twristiaeth ac adfywio economaidd.

 

Nododd y Pennaeth Adfywio y gwaith a wnaed ar y cyd yng nghyswllt twristiaeth a datblygu economaidd ac amlinellodd y prosiectau a ddynodwyd. Dywedwyd fod y Strategaeth yn clymu mewn i ac yn ategu Cynllun Rheoli Cyrchfan Blaenau Gwent ac y byddai’n rhoi fframwaith ar gyfer cyflenwi prosiectau lleol dan ymbarél strategol y cynllun rheoli. Ychwanegodd y Pennaeth Adfywio y byddai’n galluogi swyddogion i ddatblygu’r prosiectau, yn cynnwys gwaith dichonoldeb a sefydlu’r costau diweddaraf, unwaith y derbyniwyd cymeradwyaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio y gweithiwyd ar y strategaeth ers cryn amser a’i fod yn awr wedi dechrau ffitio mewn i Gynlluniau Creu Lleoedd y Cyngor gyda mwy o effaith yn Nhredegar ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dywedodd yr Aelod Gweithredol fod Nye Bevan yn cynrychioli Blaenau Gwent i gyd ac felly y dylai’r Cyngor edrych ar y strategaeth ar draws pob tref. Aeth yr Aelod Gweithredol ymlaen drwy ddweud nad am Nye Bevan yn unig oedd y strategaeth a theimlai ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn edrych ar agweddau eraill yn cynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol a’r Siartwyr sy’n rhan enfawr o’n hanes. Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol at arwyr chwaraeon y gellid hefyd eu hystyried a theimlai fod cyfle i ddatblygu llawer o agweddau treftadaeth o’n hanes ar draws y Fwrdeistref yn ein holl gymunedau yn unol â chynlluniau Creu Lleoedd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar Strategaeth Aneurin Bevan (Opsiwn 1)

 

11.

Cais am Gynnig i Gronfa Codi’r Gwastad pdf icon PDF 654 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod i gyflwyno cynnig i gronfa Codi’r Gwastad yn ystod yr ail alwad yn unol ag amserlen Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg o gyllid Codi’r Gwastad a’r broses gynnig. Tynnodd y Pennaeth Adfywio hefyd sylw at waith y Tîm Adfywio ynghyd â’r prosiectau a ddynodwyd sy’n cyflawni’r meini prawf a gobeithiai y gellid symud ymlaen ag un o’r prosiectau.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio mai un o’r heriau mwyaf am gronfa Codi’r Gwastad a’r cyllid Adnewyddu Cymunedol oedd amseriad ac er bod y pandemig wedi ymyrryd ar waith, roedd yr Adran wedi rhoi pwysau sylweddol i gyflwyno prosiectau gyda’r cyllid sydd ar gael. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol mai Cam 1 yw hyn a gobeithid y gallai’r Cyngor gynnig am fwy o brosiectau fel y byddai cyllid yn dod ar gael.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud fod y prosiectau a ymchwilir yn broblemau hirsefydlog ar gyfer y Fwrdeistref yn cynnwys maes parcio Glynebwy a gorsaf bysus Brynmawr. Mae’r rhain yn brosiectau mawr sy’n diwallu’r meini prawf ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad a theimlai’r Aelod Gweithredol eu bod yn brosiectau a fyddai o fudd i’r Fwrdeistref cyfan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunwyd paratoi ceisiadau ar gyfer cylch nesaf cronfa Codi’r Gwastad o gynnig am y cynlluniau a ddynodir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

12.

Drafft Adroddiad Ymgynghori Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd Blaenau Gwent pdf icon PDF 602 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o ddrafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd Blaenau Gwent, gan roi barn, sylwadau ac ymatebion yn unol â’r broses ymgynghori. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr ymatebion i’r ymgynghoriad a dywedodd fod nifer o’r ymatebwyr yn cyfeirio at y cynnydd cadarnhaol a wnaed hyd yma, tra hefyd yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a’r iaith Gymraeg. Byddai pob ymateb yn cael ei ystyried sy’n cynnwys meysydd lle’r oedd yr ymgyngoreion wedi awgrymu y gellid cryfhau’r drafft gynllun. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y diweddarwyd y ddogfen i adlewyrchu’r ymgynghoriad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd y cynllun drafft ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad yn unol â’u canllawiau clir ar 31 Ionawr 2022, fodd bynnag dywedodd y byddai’r ddogfen yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol ac y cyflwynir y fersiwn terfynol ym Mawrth 2022 unwaith y cafodd ei chytuno gan y Pwyllgor Gweithredol. Nodwyd fod nifer o awdurdodau eraill yn dilyn y llwybr gweithredu hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y drafft Gynllun Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd (Opsiwn 1).

13.

Diwygiadau i Gytundeb Cydweithredu ac Aelodau (CAMA) Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 604 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad yw rhoi cyfle i’r Pwyllgor Gweithredol i ddiweddaru CAMA Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru. Ychwanegwyd y byddai’r cynnig a amlinellir yn yr adroddiad yn rhoi lefel addas ac angenrheidiol o gefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) pe byddai angen iddo wneud newidiadau sylweddol i staffio, gyda chostau cyfyngol dilynol sy’n effeithio ar eu gallu i weithredu fel busnes parhaus.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad a nododd bod yr EAS yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwyr yn cynnig fod y pum awdurdod sy’n ei reoli yn ffurfioli cytundeb, tebyg i Brotocol Gwasanaethau ar y Cyd yr awdurdodau cartref i danysgrifio rhai costau diswyddo (h.y. taliadau dileu swyddi ac unrhyw gostau pensiwn cyfalaf gan y cyflogydd) yn deillio oherwydd bod EAS yn gorfod cymryd camau priodol i sicrhau cyllideb gytbwys. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflawnir hyn drwy i:-

 

·         Yr awdurdodau cartref yn tanysgrifio’r costau diswyddo hynny a wnaed o fewn EAS sy’n codi drwy’r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau cyllideb gytbwys. Byddai awdurdodau cartref yn tanysgrifio’r costau hyn, pro rata i’w canrannau cyfraniad creiddiol cyfredol, yn amodol ar i’r cwmni yn gyntaf gyfrannu 50% o’i falansau a gadwyd tuag at gyfanswm y gost.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Pwyllgor Gweithredol ymhellach at yr effaith ar y gyllideb sy’n rhoi manylion sefyllfa cyswllt a gyflwynwyd ar gyfer pob awdurdod lleol yn seiliedig ar gyfraniadau perthnasol i’r EAS.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg fod y risg i’r Awdurdod yn isel o ran yr ymrwymiad ariannol y gofynnir amdano.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y ffurf ddiwygiedig o eiriad yn yr adroddiad. Cytunwyd hefyd y dylid caniatáu EAS i gadw hanner cant y cant o’u balansau i ddiogelu eu hylifedd.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

14.

Adroddiad Cyllid a Pherfformiad Chwarteri 1 a 2 (Ebrill 2021 i Medi 2021) pdf icon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

15.

Rhaglen Prentisiaeth Aneli’n Uchel pdf icon PDF 576 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr adroddiad yn amlinellu perfformiad rhaglen Anelu’n Uchel ac ymgysylltu cysylltiedig â busnesau allanol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth perfformiad ar raglen prentisiaeth mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Soniodd y Pennaeth Adfywio pa mor dda yr oedd y rhaglen wedi datblygu ac ychwanegodd fod rhaglen Anelu’n Uchel wedi ennill nifer o wobrau. Cafodd ei chydnabod wrth ochr prentisiaethau eraill ar gael pobl ifanc i waith. Tynnodd y Pennaeth Adfywio sylw at bwyntiau allweddol o’r adroddiad a dywedodd y byddai unigolion wedi mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch pe na fyddent wedi mynd i swyddi. Gobeithir y gellir parhau rhaglen Anelu’n Uchel a gobeithiai gael trafodaethau gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac awgrymodd y gallai fod cyfleoedd i gysylltu gyda Hive.

 

Teimlai Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio fod y rhaglen Anelu’n Uchel yn llwyddiant gwych i’w sefydlu a bu’n bleser ei gweld yn tyfu. Croesawodd y diddordeb a ddangosodd Cyngor Merthyr Tudful a Choleg Gwent a theimlai y gallai rhaglen Anelu’n Uchel gystadlu yn erbyn unrhyw brentisiaethau yn y wlad gan ei bod yn ardderchog. Mae’n dynodi cyfleoedd ar gyfer yr awdurdod lleol a busnesau lleol sydd wedi manteisio o’r prentisiaethau a gynhaliwyd.

 

Dymunai’r Aelod Gweithredol hefyd dalu teyrnged i Mark Langshaw a fu’n hyrwyddo rhaglen Anelu’n Uchel o’r cychwyn cyntaf a gobeithir y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’r cyllid i sicrhau y caiff y gwaith da ei barhau i’r dyfodol.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a theimlai ei fod yn rhywbeth i’r Awdurdod ymfalchïo ynddo gyda chefnogaeth wleidyddol yr Aelod Gweithredol dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Addysg

16.

Cynnydd Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif pdf icon PDF 639 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

17.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 568 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir (Opsiwn 1).

 

18.

Adroddiad Tymhorau Gwanwyn a Haf y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg pdf icon PDF 536 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig â’r llwybr gweithredu a gynigir (Opsiwn 1).

 

19.

Strategaeth a Diweddariad Prosiect TGCh Addysg/Ysgolion Blaenau Gwent pdf icon PDF 643 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

20.

Adroddiad Blynyddol 2021/22 (Chwarteri 1 a 2) Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 493 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

 

21.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg – 1 Ebrill i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 628 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

22.

Cronfa Rheoli Eiddo Gwag Trawsnewid Cartrefi

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio yr adroddiad a theimlai ei fod yn newid pwysig yn sut y mae’r awdurdod lleol yn trin adeiladau gwag. Teimlai ei fod yn cyflwyno cyfle gwirioneddol ar draws ein trefi i wneud adeiladau ar gael a gwella canol ein trefi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth sy’n cynnwys manylion yn ymwneud ag unigolyn a materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 2).