Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Davies, Dirprwy Aelod/Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion |
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 593 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforedig |
|
Blaenraglen Gwaith – 2 Mawrth 2022 PDF 459 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn y Flaenraglen Gwaith a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|
|
Gweithredu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru PDF 475 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy’n nodi model interim at gyfer llywodraethiant a chyflenwi sy’n ddigonol i weithredu’r gofynion statudol ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn rhoi manylion dull ‘dau drywydd’’ i weithredu Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd wrth ochr cyfnod dechreuol ‘lleiafswm’ dechreuol y Cydbwyllgor Corfforedig cyn i Gydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru osod ei gyllideb statudol gyntaf ar 31 Ionawr 2022.
Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol o’r gofynion cyfreithiol a fanylir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at faint o waith a wnaethpwyd eisoes a dywedodd, nes y bydd wedi sefydlu’n llawn, y bydd y cyd-bwyllgor yn rhedeg yn gyfochrog gyda threfniadau presennol y Fargen Ddinesig.
Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr ymhellach y goblygiadau ariannol a dywedodd na fyddai unrhyw effeithiau ar y gyllideb yn 2022/2023 gan y caiff y gwaith ei wneud gyda’r cyllid sydd eisoes wedi ei ymrwymo ar gyfer y Fargen Ddinesig.
I gloi, cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at yr argymhellion oedd bennaf ar gyfer eu nodi gan y Pwyllgor Gweithredol. Ceisiodd yr argymhelliad terfynol gefnogaeth i Arweinydd y Cyngor osod y gyllideb a byddai hynny’n digwydd ar 31 Ionawr 2022.
Dywedodd yr Arweinydd y bu llawer o drafodaeth ar y mater a gafodd ei dderbyn erbyn hyn. Dywedodd yr Arweinydd, er fod yr adroddiad yn fanwl iawn, ei fod yn rhoi eglurdeb o’r rhesymeg y byddai awdurdodau lleol yn gweithredu arno.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr argymhellion a gofyn i’r Pwyllgor Gweithredol i gymeradwyo argymhelliad (g) ar wahân.
Cynigiodd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol argymhelliad (g) ac eiliodd yr Aelod Gweithredol Addysg argymhelliad (g). Roedd pob aelod o’r Pwyllgor Gweithredol o blaid yr uchod ac felly
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi’r argymhellion dilynol:-
(a) y model interim ar gyfer llywodraethiant a chyflenwi ar gyfer gweithredu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru a’r trefniadau ‘dau drywydd’ a gynigiwyd ar draws gweithrediad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wrth ochr gweithrediad dechreuol Cydbwyllgor Corfforedig ‘lleiafswm’ – a than yr amser y gallai’r dull ‘codi a symud’ arfaethedig ddigwydd;
(b) y gofyniad i’r Cydbwyllgor Corfforedig osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn 31 Ionawr 2022 a’r camau a nodir yn yr adroddiad i alluogi hyn;
(c) y risgiau a’r materion a nodir yn yr adroddiad sydd angen monitro, lliniaru a rheoli parhaus;
(d) cais Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddiwygio rheoliadau’r Cydbwyllgor Corfforedig i newid y dyddiad ar gyfer dechrau dyletswyddau uniongyrchol dan y Rheoliadau o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022;
(e) y drafft Reolau Sefydlog yn Atodiad 1 sy’n nodi’r gofynion dechreuol a’r model gweithredu ar gyfer y Cydbwyllgor Corfforedig yn ogystal â’r busnes dechreuol ar gyfer y cyfarfod cyntaf ar 31 Ionawr 2022;
(f) gwaith cyfredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Cynghorau sy’n rhan ohono i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a cynghorwyr fel sy’n addas, i helpu seilio penderfyniad y materion sydd ar ôl lle bynnag sy’n bosibl; ac
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd |
|
Tir yn Rasa Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal y budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn eithriedig.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a rhoddwyd trosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a derbyn yr wybodaeth sy’n cynnwys manylion yn ymwneud â materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 1).
|