Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 10fed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 548 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 457 KB

Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Flaenraglen Gwaith a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddi.

 

6.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

GRANTIAU I SEFYDLIADAU

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Derbyniwyd y grantiau ychwanegol dilynol ers cyhoeddi’r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd - Cynghorydd N. Daniels

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

2.

Chillax

£100

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd J. Holt

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd M. Cook

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd T. Sharrem

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd J. Wilkins

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Cwmtyleri – Cynghorydd M Day

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd H. McCarthy

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd  J. Collins

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

2.

Pensiynwyr Brynithel

£200

 

 

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd N. Parsons

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

2.

Canolfan Gymunedol Wyndham Vowles

£100

 

Ward Six Bells – Cynghorydd D. Hancock

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

 

Ward Six Bells - Cynghorydd M. Holland

 

1.

Gorymdaith Cofio

£14.10

2.

Tenantiaid a Phreswylwyr Six Bells

£300

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr  - Cynghorydd  J. Hill

 

1.

Gorymdaith Cofio

£62

2.

Cyfeillion Interact Gogledd Ebwy Fach

£150

3.

Cymdeithas Feteraniaid Gwasanaethu Blaenau Gwent

£150

 

Ward Brynmawr – Cynghorydd L. Elias

 

1.

Gorymdaith Cofio

£62

2.

Goleuadau Nadolig Partneriaeth Canol Tref Brynmawr

£100

3.

Ysgol Gatholig Santes Fair

£50

4.

Ysgol Blaen y Cwm

£50

 

Ward Brynmawr – Cynghorydd  W. Hodgins

 

1.

Gorymdaith Cofio

£62

 

GLYNEBWY

 

Ward Badminton - Cynghorydd G. Paulsen

 

1.

Gorymdaith Cofio

£45

 

Ward Badminton - Cynghorydd C. Meredith

 

1.

Gorymdaith Cofio

£45

 

Ward Beaufort - Cynghorwyr G. Thomas a S. Healy

 

1.

Gorymdaith Cofio 

£82.50

 

 

Gogledd Glynebwy – Cynghorydd D. Davies, P. Edwards a

R. Summers

 

1.

Gorymdaith Cofio 

£135

 

De Glynebwy - Cynghorydd J. Millard a K. Pritchard

 

1.

Gorymdaith Cofio

£90

 

Ward Rasa - Cynghorydd G. Davies

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£41.25

 

Ward Rasa – Cynghorydd D. Wilkshire

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£41.25

2.

Côr Meibion Orffews Glynebwy

£100

3.

Clwb Pêl-droed RTB

£150

4.

Hosbis y Cymoedd

£75

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd P. Baldwin

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£72.25

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd J. Mason a K. Rowson

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£144.50

 

Ward Blaenau – Cynghorydd J. P. Morgan

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£72.25

2.

Clwb Criced Blaenau a’r Cylch

£500

 

Ward Blaenau – Cynghorydd  L. Winnett

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£72.25

 

Ward Blaenau – Cynghorydd G. Collier

 

1.

Gorymdaith y Cofio

£72.25

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo

 

 

7.

Diweddariad ar Gynlluniau Adsefydlu a Lledaenu Ceiswyr Lloches y Deyrnas Unedig pdf icon PDF 469 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gyfranogiad yn cefnogi cynllun Adsefydlu y Deyrnas Unedig. Nododd y Prif Swyddog yr ychwanegiad diweddar sy’n cynnwys cefnogi adsefydlu dinasyddion Afghan a dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn ceisio cytundeb ar gyfer cymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Gwasgariad Ceiswyr Lloches y Deyrnas Unedig.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog sylw pellach i’r gwaith a wnaed hyd yma yn gweithio gyda swyddogion arweiniol a phartneriaid fel y’u manylir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi pobl sy’n ceisio lloches ym Mlaenau Gwent. Cyfeiriodd yr Arweinydd at waith y Prif Swyddog ynghyd â swyddogion eraill a’r Gweithgor a fu’n weithredol ers nifer o flynyddoedd. Dynododd y Gweithgor waith partneriaeth allanol da gyda’r Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio. Roedd gan yr Arweinydd Gweithredol Addysg hefyd rôl allweddol yn y Gweithgor a dymunai’r Arweinydd gydnabod gwaith rhagorol y Gweithgor, yn arbennig yr Aelodau Gweithredol a nodir uchod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r chynnydd a wnaed mewn cyfranogiad gydag adsefydlu y Deyrnas Unedig, a nodi’r rhaglen adsefydlu Afghan yn fwyaf diweddar. Cytunwyd i’r cynnig i gymryd rhan yn y Cynllun Ehangu Gwasgariad Ceiswyr Lloches fel cynllun peilot (opsiwn 1).

 

Gadawodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Cymdeithasol

8.

Cynnig i ddatblygu Tîm Fy Nghefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent pdf icon PDF 651 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn amlinellu’r cynnig a’r achos busnes i ddatblygu Fy Nhîm Cefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent yn lle’r MyST presennol ar y cyd gyda Sir Fynwy. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Sir Fynwy yn awr wedi cytuno ar eu Tîm annibynnol drwy eu proses ddemocrataidd.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r union arbedion a’r costau a gafodd eu hosgoi a sicrhaodd MyST yn ystod 2019/2020 a 2020/2021. Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am gostau tîm llawn Blaenau Gwent fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd y cafodd hyn ei seilio ar y rhagolwg a roddodd Sir Fynwy ar gyfer tîm ar y cyd Blaenau Gwent a Sir Fynwy ar gyfer 2021/2022.

 

Nodwyd pwyntiau allweddol pellach yng nghyswllt buddion ariannol gwaith ataliol Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â’r arbedion disgwyliedig yr amcangyfrifir y byddant yn cael eu cyflawni drwy sefydlu MyST BG.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a gofynnodd am gefnogaeth y Pwyllgor Gweithredol i ddatblygu Tîm a fyddai’n sicrhau buddion pellgyrhaeddol ar gyfer plant a theuluoedd Blaenau Gwent. Roedd y gwaith a wnaed wedi dod â phlant yn ôl i’r Fwrdeistref ac wedi gosod Gwasanaethau Cymdeithasol wrth galon ein cymunedau yn awr ac i’r dyfodol.

 

Nododd yr Aelod Gweithredol lwyddiant y gwaith partneriaeth rhwng Blaenau Gwent a Sir Fynwy oedd yn glod mawr i’r holl staff ymroddedig. Roedd yr Aelod Gweithredol yn hyderus y byddai Tîm annibynnol i Flaenau Gwent yn parhau i sicrhau buddion i’n plant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent.

 

I gloi, dymunai’r Aelod Gweithredol ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Cefnogodd Arweinydd y Cyngor sylwadau’r Aelod Gweithredol a theimlai fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Aelod Gweithredol wedi gwneud gwaith hynod yn y maes hwn. Teimlai’r Arweinydd ei bod yn hollbwysig fod Blaenau Gwent yn parhau gyda’r gwaith hwn ac edrychai ymlaen at weld y gwaith cadarnhaol yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi gwaith cadarnhaol MyST a chefnogi datblygu MyST Blaenau Gwent (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

9.

Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd Adran 19, Llanhiledd pdf icon PDF 604 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn cyflwyno Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd A19 ar gyfer Llanhiledd yn dilyn y llifogydd a fu yn Meadow Street a Railway Street yn ystod 15 a 16 Chwefror 2020. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg manwl o ganfyddiadau allanol Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd A19 Llanhiledd a chyfeiriodd y Pwyllgor Gweithredol at yr adroddiad llawn a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol wybodaeth bellach i’r Pwyllgor Gweithredol am y camau gweithredu allweddol o Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd A19.

 

Nododd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad sy’n ymchwilio’r digwyddiad llifogydd a effeithiodd ar nifer sylweddol o gartrefi yn Ward Llanhiledd. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod yr adroddiad yn ffeithiol iawn, fodd bynnag ni allai gydnabod yr effaith dynol a chymunedol a gafodd y llifogydd ar deuluoedd yn yr ardal. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol y byddai’r gwaith yn parhau a rhoddir diweddariadau fel rhan o’r Cynllun Blynyddol Rheoli Llifogydd i’r Pwyllgor Craffu a hefyd y Pwyllgor Gweithredol maes o law.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd ag Adroddiad Adran 19 Ymchwiliad Llifogydd, Llanhiledd a chytunodd i gyhoeddi’r adroddiad yn unol â deddfwriaeth FWMA 2010 (opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

10.

Model Buddsoddiad Cydfuddiannol (MIM) Partneriaeth Addysg Ysgolion 21ain Ganrif Cymru – Y Cytundeb Partneriaeth Strategol pdf icon PDF 592 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a

 

(a)        cytuno ar weithredu, cyflenwi a pherfformiad cytundeb atodol i Gytundeb Partneriaeth Strategol WEP dyddiedig 30 Medi 2020 (y “Weithred Cydymffurfiaeth”) ac o ddyddiad gweithredu’r Weithred Cydymffurfiaeth i weithredu a chael ei rhwymo gan delerau Cytundeb Partneriaeth Strategol WEP dyddiedig 30 Medi 2020 fel rhan ohono, i hwyluso cyflenwi amrywiaeth o wasanaethau seilwaith a chyflenwi cyfleusterau addysg a chymunedol;

 

(b)        cymeradwyo telerau’r Weithred Cydymffurfiaeth a Chytundeb Partneriaeth Strategol WEP dyddiedig 30 Medi 2020 yn Atodiad A a B yr adroddiad hwn a’r crynodeb yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn er mwyn gweithredu argymhelliad (a), yn amodol ar argymhelliad (c) islaw;

 

(c)          nodi y bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yn cwblhau’r Weithred Cydymffurfiaeth ar gyfer gweithredu a chafodd gymeradwyaeth i lenwi’r holl fylchau gwybodaeth;

 

(d)          nodi y dylai’r Weithred Cydymffurfiaeth gael ei gweithredu fel gweithred a’i chadarnhau yn unol ag Adran 12.5 Cyfansoddiad y Cyngor; a

 

(e)          chymeradwyo (i) penodi’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fel ‘Cynrychiolydd Cyfranogwyr’ i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol ar gyfer dibenion Cymal 12 (Cynrychiolwyr Partïon) Cytundeb Partneriaeth Strategol WEP; a (ii) enw, cyfeiriad a manylion cyswllt ar gyfer dibenion Cymal 40 (Hysbysiadau) Cytundeb Partneriaeth Strategol WEP; a

 

(f)               nodi, wrth gytuno i ymrwymo i Weithred Cydymffurfiaeth, na ofynnir yn ystod y cyfnod hwn i symud ymlaen gydag unrhyw Brosiect; ac y caiff unrhyw benderfyniad i symud ymlaen gyda phrosiect ei ystyried ar wahân ac y rhoddir adroddiad yn ôl i’r Cabinet mewn adroddiad(au) yn y dyfodol er penderfyniad.

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

11.

Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau Cymunedol 2020/21 pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 1).

 

12.

Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2020-21 pdf icon PDF 787 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o ddeilliannau perfformiad gwastraff ac ailgylchu ar gyfer 2020/2021. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y cyflawnwyd targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru ac roedd y Cyngor wedi cynnal ei lwyddiant am y flwyddyn bresennol gan ragori ar y targed o 64%.

 

Teimlai’r Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y cyflawnwyd hyn oherwydd gwaith caled ac ymroddiad y staff rheng flaen, swyddogion a wardeiniaid a weithiodd mewn partneriaeth gyda WRAP a gyda chefnogaeth gan y Tîm Cyfathrebu, y Tîm Perfformiad, yr Uwch Reolwyr, yr Arweinyddiaeth Etholedig ac yn bwysicaf oll breswylwyr Blaenau Gwent. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y bu hon yn un o’r blynyddoedd anoddaf mewn hanes diweddar ac roedd felly’n ddiolchgar am ei gefnogaeth i gynnal cysylltiadau ledled y pandemig.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol ymhellach bod yr awdurdod lleol yn parhau i wynebu cosbau ariannol gan Lywodraeth Cymru os yw’r Cyngor yn methu cyrraedd targedau ailgylchu statudol, fodd bynnag ar hyn o bryd roedd Chwarteri 1 a 2 yn uwch na’r targedau.

 

Adleisiodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd ac Arweinydd y Cyngor y sylwadau a godwyd gan y Swyddog a dymunai ymestyn ei ddiolch i bawb oedd yn gysylltiedig. Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor ei bod hefyd yn bwysig cydnabod cyfranogiad mwyafrif y cyhoedd yng ngwasanaethau gwastraff ac ailgylchu y Cyngor. Os nad oedd y Cyngor yn cyrraedd y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, byddai’r cosbau yn cael effaith sylweddol ar gyllideb a gwasanaethau a ddarparodd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

13.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/2021 pdf icon PDF 412 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 1).

 

14.

Monitro Cyllideb Refeniw -2021/2022, Rhagolwg Alldro o 31 Mawrth 2022 (fel ar 30 Mehefin 2021). pdf icon PDF 788 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi manylion y rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 fel y’i rhagwelwyd ar 30 Mehefin 2021 ac amlinellwyd y pwyntiau allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad wedi dynodi’r camau breision ymlaen a wnaed yn y 3-4 blynedd ddiwethaf ar gyllideb y Cyngor. Ychwanegodd yr Arweinydd y cafodd y Cyngor ei feirniadu mewn blynyddoedd diweddar am lefel isel eu cronfeydd wrth gefn. Mae’r rhain yn awr yn cael eu hadeiladu i lefel dderbynjiol ac mae ein cyllidebau mewn sefyllfa fwy ffafriol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a

 

(a)        bod Aelodau yn rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; ac yn

 

(b)        cymeradwyo’r trosglwyddiadau a fanylir ym mharagraff 5.1.4 i 5.1.7.

 

15.

Monitro Cyllideb Cyfalaf, Rhagolwg BlwyddynAriannol 2021/22 (fel ar 30 Mehefin 2021) pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio o gymharu â’r cyllid a gymeradwywyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 fel ar 30 Mehefin 2021. Siaradodd y Prif Swyddog ymhellach am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r wybodaeth ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a

 

(a)          Bod Aelodau wedi rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adrodddiad.

(b)          Bod Aelodau’n parhau i gefnogi’r gweithdrefnau rheolaeth ariannol priodol  a gytunwyd gan y Cyngor.

(c)          Bod Aelodau’n nodi y gweithdrefnau rheoli a monitro’r cyllideb sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

16.

Rhaglen Pontio’r Bwlch - 2021/2022 – Diweddariad Cynnydd Ebrill i Mehefin 2021 pdf icon PDF 533 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn nhermau’r Adolygiadau Busnes Strategol yn ystod y cyfnod Ebrill i Mehefin 2021. Ymhellach, amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau y pwyntiau allweddol yng nghyswllt bylchau cyllideb (gwarged) yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (Mawrth 2021), yr amcangyfrifon diweddaraf o’r hyn a gyflawnwyd a’r bylchau sy’n parhau i fod yn y gyllideb yn dilyn cymhwyso Cyfleoedd BtG.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol wedi rhoi her briodol i raglen Pontio’r Bwlch (opsiwn 1).

 

Eitemau Monitro – Addysg

17.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 524 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Pennaeth Gwella Ygolion a Chynhwysiant a Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, y dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir (opsiwn 1).

 

18.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2021 pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o raglen Gwella Ysgolion Blaenau Gwent, yn unol â newidiadau cenedlaethol i werthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i gynllun peilot y dull gweithredu rhanbarthol newydd ar gyfer 2021-2022. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y trefniadau newydd sydd yn eu lle i gefnogi ysgolion a rhoddodd drosolwg o lefel y cymorth a ddarparwyd sydd wedi arwain at gynnydd cadarnhaol mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

19.

Gwahardd Disgyblion pdf icon PDF 610 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

20.

Unedau Hybrid a Hwb Bocs – Monitro Perfformiad pdf icon PDF 792 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Busnes ac Adfywio..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Busnes ac Adfywio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 1).

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

21.

Grant Plant a Chymunedau pdf icon PDF 598 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac

 

(a)        ystyriwyd y cynnydd a wnaed hyd yma ar y grant Plant a Chymunedau; a

 

(b)        nodwyd fod Gr?p Llywio’r CCG yn parhau i oruchwylio a gweithredu’r rhaglen cyflenwi ac yn rhoi adroddiad blynyddol ar gynnydd i’r Pwyllgor Craffu, y Pwyllgor Gweithredol a’r trefniadau lleol newydd yn lle’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

22.

Arolygiaeth Gofal Cymru – Gwiriad Sicrwydd 2021: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 415 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Cymdeithasol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn cyflwyno crynodeb gwiriad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru a nodir yn eu llythyr dyddiedig 11 Mehefin 2021 sydd ynghlwm fel Atodiad 1. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai diben y gwiriad sicrwydd yw adolygu pa mor dda mae Gwasanaethau Cymdeithasol awdurdodau lleol yn parhau i helpu a cefnogi oedolion a phlant gyda ffocws ar iechyd a llesiant.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cwestiynau a godwyd gan yr Arolygiaeth a soniodd am yr atebion ynghyd â meysydd sydd angen gwella.

 

Roedd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yn falch fod yr Arolygiaeth wedi cydnabod gwaith caled ac ymroddiad tîm Blaenau Gwent. Dywedodd fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd, fodd bynnag roedd y tîm wedi cadw eu ffocws ar ddefnyddwyr gwasanaeth a sefyllfa benodol eu teuluoedd.

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad cynhwysfawr ac onest a roddwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a dymunai ddiolch ar ran y Pwyllgor Gweithredol i’r tîm sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi teuluoedd Blaenau Gwent a chaiff eu gwaith a’u hymroddiad ei gydnabod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a fanylir o fewn llythyr Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (opsiwn 1).

23.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r gyfarfod (mae’r rheswm am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

24.

Adroddiad Perfformiad Silent Valley Waste Services Cyf

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, fod o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth sy]n cynnwys manylion ynghylch materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 1).