Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Cynghorydd J. Mason – Eitem Rhif 6 – Cofnodion y Gweithgor Grantiau (Cronfa Eglwysi Cymru) (Cymdeithas Pensiynwyr Winchestown).
|
|
Cofnodion |
|
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol PDF 340 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 436 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Cofnodion y Gweithgor Grantiau – 10 Mawrth 2021 PDF 222 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y Gweithgor Grantiau a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y Cofnodion a dywedodd fod y Gweithgor wedi cytuno y dylid dilyn dull gweithredu cyson yn nhermau dyraniadau grant ar draws y gwahanol grwpiau ymgeisio os nad oedd sefydliad wedi gofyn am swm penodol is. Defnyddiwyd y rhesymeg hon ar gyfer eglwysi, capeli ac amgueddfeydd a chymdeithasau pensiynwyr, canolfannau cymunedol a thenantiaid a phreswylwyr.
Dywedodd yr Arweinydd y gwrthodwyd cais am grant ar gyfer cymdeithas gan y teimlai y byddid yn effeithio ar fuddiolwyr tebyg i eglwysi, capeli ac yn y blaen pe byddai grwpiau chwaraeon yn cael eu cefnogi yn y ffordd hon.
Dymunai’r Arweinydd ddiolch i’r swyddogion am y gwaith da i sicrhau y cytunwyd ar y grantiau hyn cyn 31 Mawrth yn unol â’r dyddiadau cau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Grantiau i Sefydliadau PDF 91 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|