Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar hyn o bryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Prif Swyddog Interim Masnachol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Gwnaed y datganiad buddiant dilynol:
Cynghorydd J. Wilkins – Eitem Rhif 7 – Cymorth Rhyddhad Busnes – Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Ysgol Gynradd Gymraeg: Adroddiad Cyfnod Hysbysiad Statudol Gwrthwynebiad PDF 430 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad yw rhoi trosolwg o ganlyniadau ac argymhellion y cyfnod Hysbysiad Statudol/Gwrthwynebiad yn ymwneud â’r cynnig i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd 210 lle gyda darpariaeth gofal plant ar yr un safle yn Nhredegar/Cwm Sirhywi. Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am benderfyniadau blaenorol a gymerwyd yng nghyswllt ymgynghoriad ffurfiol a chymeradwyo yr adroddiad all-dro gan y Pwyllgor Gweithredol.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y broses ymgynghori a nododd i’r cynnig gael ei gefnogi i raddau helaeth. Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach am yr ohebiaeth a dderbyniwyd ac amlinellodd y camau nesaf. Teimlid y caiff y gefnogaeth eang ei ddangos ymhellach gan y cyfnod Hysbysiad Statudol gyda dim ond 1 llythyr gwrthwynebu wedi dod i law. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf ag effaith y datblygiad ar y preswylydd a soniodd yr ohebiaeth fod y preswylydd yn cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.
Nododd yr Aelod Gweithredol Addysg fod yr adroddiad yn hunanesboniadol a daeth i ben drwy ddweud fod yr adroddiad yn dangos fod lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef cytuno ar yr adroddiad Gwrthwynebiad, dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a symud ymlaen i’r cam Hysbysiad Penderfyniad (sydd ei angen o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion (2018, fersiwn 2) Llywodraeth Cymru.
|
|
Cynnig i Ymgynghori ar Gynyddu Capasiti Pen y Cwm PDF 682 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad yw gofyn i’r Pwyllgor Gweithredol gymeradwyo bod yr Awdurdod yn ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 disgybl a fyddai’n darparu ar gyfer y galw am leoedd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Pen y Cwm yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 3-19 oed gyda sbectrwm eang o anghenion addysgol arbennig cymhleth. Mae’r lleoliadau ar gael ar gyfer disgyblion Blaenau Gwent yn ogystal â disgyblion o ardaloedd awdurdodau lleol eraill. Mae mwy o alw nag o leoedd ar gael yn yr ysgol ar hyn o bryd gyda 141 o ddisgybl ar y gofrestr, sy’n cynnwys ystod eang o anableddau ac anawsterau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg bod y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 lle o fis Medi 2021 er mwyn hwyluso ymestyn capasiti. Byddai’r Cyngor yn ailwampio’r amgylchedd dysgu presennol i greu gofodau ystafell ddosbarth ychwanegol a chyfleusterau cysylltiedig. Byddai’r Cyngor hefyd yn gweithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad parhaus.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff y cynnig ei gyflwyno mewn dau ran, fel sy’n dilyn:-
Rhan 1, cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 lle i baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22, a fyddai’n cynnwys gwaith ffisegol i’r adeilad presennol yn cynnwys:-
Rhan 2, datblygu cynllun hirdymor i sicrhau capasiti ychwanegol i hwyluso twf a datblygiad cyson.
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fuddion a manteision y cynnig ac amlinellu gofynion yr ymgynghoriad. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gywiriad i’r dyddiad a amlinellir a ddylai ddarllen 6 Mehefin 2021 ac nid 6 Mai 2021 fel a nodwyd. Mae’r cyfnod ymgynghori hwn yn cynnwys 20 diwrnod ysgol.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
Ymhellach amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y goblygiadau cyfalaf a refeniw a nododd y caiff y costau cyfalaf eu cyllido drwy grantiau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn nhermau refeniw dywedwyd fod Ysgol Arbennig Pen y Cwm yn cael ei chyllido yn unol â pholisi Cyllido Teg Cyngor Blaenau Gwent ac y byddai’n derbyn adnoddau ar yr un sail ag unrhyw ysgol arall o fewn Blaenau Gwent, yn seiliedig ar nifer y disgyblion ac arwynebedd adeilad yr ysgol. Ym mis Ebrill 2020/21 roedd cyllid disgyblion yn Ysgol Arbennig Pen y Cwm ar gyfer unedau disgyblion wedi pwysoli o ran oedran a chyllid categori yn £2,277,494; mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar y 141 disgybl ar y gofrestr. Yn seiliedig ar gost cyfartalog disgybl o £16,925, nodwyd y byddai costau cyllid AWPU/categori ar gyfer 175 disgybl ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Eitem er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Rhyddhad Ardrethi Busnes - Rhyddhad Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch - 2021/22 PDF 518 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Wilkins fuddiant yr yr eitem hon ac arhosodd yn bresennol yn ystod trafodaethau.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Nododd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn hwyr a oedd oherwydd cadarnhad Llywodraeth Cymru y byddid yn ymestyn y cynllun i 2021/22. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr adroddiad sy’n gofyn i’r Pwyllgor Gweithredol ar ran y Cyngor i fabwysiadu Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – cynllun 2021/22, fel cymorth ardrethi ar ddisgresiwn adran 47 ar gyfer 2021/22.
Dywedodd y Prif Swyddog fod ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19 ac adferiad wedi rhewi ardrethi busnesau 2021/22 ar lefelau 2020/21. Er mwyn rhoi ysgogiad cyllidol i fusnesau yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymestyn cyllid grant i ddarparu Cynllun Rhyddhau Ardrethi Busnes, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2021/22. Ni chafodd yr union ddyraniad cyllid i Flaenau Gwent ar gyfer cynllun 2021/22 ei gadarnhau hyd yma, fodd bynnag rhagwelwyd amcangyfrif dyraniad o £3.5m i ganiatáu cyflenwi’r cynllun oedd yn seiliedig ar asesiad dechreuol o fudd i 328 busnes fel canlyniad i fabwysiadu’r cynllun.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a’r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2; sef mabwysiadu Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – cynllun 2021/22 ar ran y Cyngor, i atodi cynllun rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn y Cyngor.
|