Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 22ain Chwefror, 2021 12.30 pm

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

4.

Ysgol Gynradd Gymraeg – Adroddiad All-dro yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 464 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  Addysg fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg manwl o’r ymgynghoriad statudol ac ymatebion yn gysylltiedig gyda’r cynnig i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda darpariaeth gofal plant ar yr un safle yng Nghwm Sirhywi.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad ymhellach ac amlinellodd drosolwg o’r ymgysylltu â’r cyhoedd, ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, dadansoddiad thematig, yr ymateb gan blant a phobl ifanc ac Estyn. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd dynnu sylw Aelodau at yr ymatebion a gafwyd am y cynnig a’r goblygiadau ariannol yn gysylltiedig gyda’r cynnig.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na fyddai unrhyw oblygiadau costau cyfalaf i’r Cyngor gan y dyfarnwyd cyllid 100% heb unrhyw ofyniad am arian cyfatebol. Fodd bynnag, byddai costau refeniw a chyllideb ysgol unigol yn gysylltiedig â’r cynnig a rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg o’r costau fel y’u manylir yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Aelod Gweithredol Addysg yn falch i weld lefel yr ymatebion a gafwyd ar gyfer yr ymgynghoriad, yn neilltuol yn ystod yr amgylchiadau anodd hyn. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Gweithredol i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol i roi esboniad ar symud ymlaen i hysbysiad statudol a’r camau nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai’r opsiwn a ffafrir yw symud ymlaen i hysbysiad statudol, pe byddai’r Pwyllgor Gweithredol yn penderfynu ar y llwybr gweithredu hwn, y camau nesaf fyddai cyhoeddi’r hysbysiad statudol am 28 diwrnod i alluogi rhanddeiliaid i wneud unrhyw wrthwynebiadau. Ar ddiwedd y cyfnod hysbysiad statudol rhoddir adroddiad yn ôl ar yr ymatebion ac os bydd unrhyw wrthwynebiadau, byddem yn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn gyda golwg ar ateb y rheswm am wrthwynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai dyma’r broses arferol yn nhermau cynnig ad-drefnu ysgol fel hwn.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn rhoi cyfle i asesu ac ystyried yr ymatebion a gafwyd. Dywedwyd y cafodd trafodaethau manwl eraill o amgylch yr agwedd ariannol eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gweithredol ym mis Rhagfyr lle cytunwyd i fynd allan i ymgynghoriad. Ychwanegodd yr Arweinydd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn betrus yng nghyswllt yr hinsawdd presennol ac roedd wedi bod yn bryderus am lefel yr ymatebion a fyddai’n dod i law. Fodd bynnag, cafodd ei galonogi gan yr ymatebion, yn cynnwys yr ymateb gan Estyn a fu’n gadarn iawn.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a theimlai yn ystod y cyfnod anodd hwn fod y staff wedi gwneud gwaith rhagorol. O’r ymatebion a gafwyd mae’n awr yn bwysig cymryd y camau nesaf a symud ymlaen gyda’r cynnig. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod ymrwymiad i Lywodraeth Cymru yn nhermau cynyddu addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent a bod gan yr Awdurdod gyllid i symud ymlaen.

 

Cytunodd yr Aelod Gweithredol Addysg gyda’r sylwadau yng nghyswllt lefel yr ymgynghoriad ac roedd hefyd yn falch i weld cefnogaeth gan Estyn. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol, er bod risgiau ariannol am fynd â’r cynnig hwn ymlaen, roedd risg peidio cydymffurfio ag ymrwymiadau WESP yr Awdurdod yn llawer mwy na pheidio symud ymlaen gyda’r cynnig a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.