Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg Prif Swyddog Masnachol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitem(au) Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd |
|
Cynigion Depot Newydd y Cyngor Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Rheolwr Tîm, Golwg Strydoedd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi cynnydd ar ddatblygu Depot newydd i’r Cyngor. Mae’n amlinellu safleoedd ymgeisiol addas i gael eu hymchwilio y byddid yn mynd â nhw ymlaen fel rhan o’r cam nesaf i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gan y depot presennol arwynebedd safle amcanol o tua 15,500 metr sgwâr a lletya nifer o wasanaethau.
Oherwydd y gost i adnewyddu safle’r depot presennol teimlid y dylid hefyd ymchwilio safleoedd eraill. Edrychodd y Cyngor ar y gwaith a wnaed mewn awdurdodau eraill lle codwyd cyfleusterau tebyg. Mae’r Cyngor yn ceisio’n barhaus i ateb heriau’r targedau Dim Carbon a osodwyd ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n cynnwys adeiladau’r Cyngor a sut mae’r Cyngor yn gweithredu eu gwasanaethau.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad ac amlinellodd y cyfleoedd cydweithio posibl, yr adolygiad a gynhaliwyd i benderfynu ar ofynion y dyfodol, maint fflyd a’r camau dylunio dechreuol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol er mwyn cyrraedd lleoliad a ffafrir o’r safleoedd a ymchwiliwyd ein bod yn mesur ar werthusiad opsiynau gyda meini prawf yn cael eu mesur ar bob safle o ran maint, mynediad, lleoliad, cyfleoedd cydweithio a staff ar y safle.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at yr opsiynau ar gyfer argymhellion a nodwyd Opsiwn 2 fel yr opsiwn a ffafrir.
Rhoddwyd trosolwg o drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a nodwyd y gwnaed cais i edrych ar leoliad ar safle’r Gweithfeydd. Nodwyd nad oedd hyn yn ddiwygiad i’r adroddiad, fodd bynnag cytunodd y Pwyllgor Gweithredol y dylai’r Cyfarwyddydd Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol gynnal yr ymchwiliadau angenrheidiol fel mater o frys ar y lleoliad y soniwyd amdano a rhoi adroddiad yn ôl ar y canfyddiadau mewn modd priodol.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad a’r gefnogaeth a ddarperir gan WRAP. Byddai’r prosiect yn cysylltu gyda phrosiectau ynni gwyrdd a carbon niwtral a theimlai fod hwn yn gyfle cyffrous i fynd ymlaen ag ef.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 gyda chais i edrych ar y safle a ddygwyd ymlaen gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad.
|