Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y:-
Rheolwr Gyfarwyddwr; a’r Prif Swyddog Masnachol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitem(au) Eithredig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd |
|
Cyfleuster Rhanbarthol Ailgylchu Gwastraff Pren Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gal ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar ddatblygu achos busnes amlinellol ar gyfer cyfleuster rhanbarthol ailgylchu pren sy’n eiddo ac a weithredir gan y sector cyhoeddus a fyddai’n cael ei arwain a’i leoli ym Mlaenau Gwent. Dynododd yr achos busnes gyfle hyfyw i’r sector cyhoeddus sefydlu a gweithredu ei gyfleuster ailgylchu pren gwastraff ei hun yn Ne Ddwyrain Cymru a fyddai’n sicrhau arbedion cost sylweddol a buddion economaidd ac amgylcheddol ar gyfer y sector cyhoeddus.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd yr adroddiad ei groesawu gan y Pwyllgor Craffu a bod yr opsiwn a ffafrir wedi cael cymeradwyaeth unfrydol ar gyfer argymhelliad.
Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol mai hwn oedd cam cyntaf yr achos busnes ac y gwneir gwaith pellach wrth i’r prosiect symud ymlaen. Croesawodd yr Aelod Gweithredol y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n fanteisiol i dargedau ailgylchu a’r economi lleol.
Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a theimlai fod y cais a wnaed i Blaenau Gwent yn lleoliad cyfleuster rhanbarthol yn dangos y cynnydd a fu yn hyder Llywodraeth Cymru yn yr Awdurdod yng nghyswllt gwastraff ac ailgylchu dros y 3½ mlynedd ddiwethaf.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1 fel y’i cynhwysir yn yr adroddiad.
|