Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbynd datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Materion Cyffredinol |
|
Cofnodion |
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 446 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol PDF 346 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Grantiau i Sefydliadau PDF 179 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Derbyniwyd y grantiau ychwanegol dilynol i sefydliadau:-
ABERTYLERI Ward Abertyleri - Cynghorydd N. Daniels 1. Eglwys Bedyddwyr Ebenezer £50
BRYNMAWR Ward Brynmawr - Cynghorydd L. Elias
GLYNEBWY Ward De Glynebwy - Cynghorwyr J. Millard & K. Pritchard 1. Rhandiroedd Rhiw Briery £75 2. Rhandiroedd Tyllwyn £75
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd |
|
Cynllun Argyfwng Bysus (BES) PDF 515 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg ar gynllun Cam 2 y Cynllun Argyfwng Bysus (BSE), yr ymateb i bandemig Covid-19 a’r trefniadau hir a wneir a fyddai’n gwneud y gwasanaethau bws yn fwy cynaliadwy ar draws Cymru. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y daith hyd yma a’r cynlluniau ar gyfer BES2. Mae cytundeb BES2 yn ffurfioli ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwasanaethau bws yn dilyn effaith COVID-19. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai angen i weithredwyr dan delerau cytundeb BES2 i ddarparu gwasanaethau bws sy’n diwallu’r anghenion lleol y byddid yn eu cael gan yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer y rhanbarth. Gwneir y gwaith ar ran cymunedau’r awdurdodau lleol perthnasol. Diwedd gorffen contract BES2 yw 31 Gorffennaf 2022 a ddylai roi digon o amser ar gyfer adfer refeniw yn dilyn y pandemig.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd amlinellu’r cyfrifoldebau cyllido yn cyfeirio darpariaeth gwasanaethau a’r gwaith rhanbarthol a wneir. Amlinellodd hefyd y canlyniadau y gobeithir y caiff eu cyflawni gyda BES2 a’r hyn a olygai i weithredwyr bws sy’n cynnwys dull ar gyfer rheoli adferiad ac ail-lunio gwasanaethau bws i ymateb i effaith y pandemig.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach at yr opsiynau i gael eu hystyried a nododd yr opsiwn a ffafrir fel y manylir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt trafodaethau yn y Pwyllgor Craffu, cadarnhawyd fod Aelodau’r Pwyllgor Craffu yn cefnogi’r dull gweithredu a’r buddion hirdymor.
Croesawodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a’r cynnydd a wneir drwy Trafnidiaeth Cymru sy’n cefnogi’r IRT. Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i dyfu’r gwasanaethau sydd eisoes yn eu lle i wella gwasanaethau ar draws y rhanbarth. Gobeithir y bydd hefyd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd groesawu’r adroddiad a theimlai y byddai gwasanaethau gwell yn fanteisiol i’n cymunedau. Teimlai’r Aelod Gweithredol o safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’n helpu i gynyddu eu hannibyniaeth a datblygu iechyd a llesiant meddwl.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef bod Blaenau Gwent yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac yn cefnogi trefniadau BES2 fel rhan o ddull gweithredu rhanbarthol a chenedlaethol.
|
|
Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Chwarter 1 2020/21 PDF 481 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Adfywio.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Adfywio.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at amseroldeb yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth ar gyfer Chwarter 1, sy’n cwmpasu cyfnod mis Ebrill i fis Mehefin 2020. Er bod y Chwarter hwn yn rhoi sylw i lawer iawn o waith da a wnaed yn y cyfnod hwn, bu hefyd lawer o waith ychwanegol.
Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi codi’r pryderon hyn gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr gan fod angen cyflwyno adroddiadau mwy amserol i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Craffu. Gobeithid y byddai adroddiad mwy diweddar yn cael ei lunio yn y dyfodol i alluogi Aelodau etholedig a phreswylwyr i weld yr effaith a gafodd y Fargen Ddinesig ar Flaenau Gwent.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef ystyried y cynnydd cyffredinol ar raglen waith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2020/21.
|
|
Monitro Perfformiad Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol PDF 424 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr adroddiad a gyflwynwyd i ystyried perfformiad y Strategaeth Cyfathrebu. Oherwydd pandemig Covid-19, teimlai’r Arweinydd nad yw’r strategaeth wedi cyflawni ei photensial, fodd bynnag dymunai ganmol y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol am eu gwaith yn ystod y pandemig i sicrhau fod yr wybodaeth ar gael yn y parth cyhoeddus.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef nodi perfformiad y Strategaeth Cyfathrebu, yn neilltuol ar effaith y strategaeth yn ystod pandemig Covid-19. Y cyfnod dan sylw fyddai rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020. |
|
Monitro Perfformiad y Strategaeth Fasnachol PDF 434 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef nodi perfformiad y Strategaeth Fasnachol yn ystod y cyfnod mis Mawrth 2020 – mis Medi 2020.
|
|
Paratoadau ar gyfer Trosiant yr Undeb Ewropeaidd PDF 500 KB Ystyried adroddiad Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn Un, sef bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi’r cynnydd a wnaed yn y cyfnod trosiant ac yn derbyn adroddiadau diweddaru fel rhan o’i flaen-raglen gwaith.
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch PDF 1018 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Nododd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol mai’r ffigur all-dro cyffredinol ar gyfer y flwyddyn ac all-dro y Cyngor oedd 13.91 diwrnod fesul gweithiwr cyflogedig cyfwerth ag amser llawn – byddai’r ffigur yn gostwng i 13.48 diwrnod drwy eithrio salwch Covid-19. Mae’r ffigurau yn gynnydd o all-dro’r flwyddyn flaenorol o 12.66 diwrnod ac yn fwy na’r targed a osodwyd o 11 diwrnod. Dywedodd y Swyddog fod lefelau absenoldeb y Cyngor wedi bod yn gyson uwch na 11 diwrnod o absenoldeb salwch fesul gweithiwr cyflogedig llawn-amser. Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol at y camau gweithredu parhaus i reolwyr sy’n rhoi manylion nifer o gamau. Rhoddir adroddiad chwarterol ar berfformiad absenoldeb salwch i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a chaiff ei gynnwys fel rhan o’r adroddiad Cyllid a Pherfformiad i Aelodau.
Rhoddodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y sefyllfa bresennol o ran absenoldeb salwch a dywedodd y bu gostyngiad mewn salwch yn Chwarter 1 gyda 2.49 diwrnod (2.21 ac eithrio Covid) fesul gweithiwr cyflogedig llawn-amser oedd yn cymharu gyda 3.05 diwrnod ar gyfer yr un cyfnod y llynedd. O ran Chwarter 2, adroddwyd 4.83 diwrnod (4.43 ac eithrio Covid) o gymharu â 5.96 diwrnod ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.
I gloi, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod y Cyfarwyddiaethau wedi adolygu’r 20 achos uchaf o absenoldeb salwch ar gyfer eu maes gwasanaeth ac y byddai gan y Strategaeth Gweithlu newydd ffocws parhaus ar lesiant y gweithlu.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at bryderon a fynegwyd gan Aelodau yn nhermau adroddiadau am berfformiad absenoldeb salwch a theimlai fod angen trafodaethau pellach ar yr amser priodol i gyflwyno adroddiadau chwarterol i’r pwyllgorau craffu perthnasol hefyd. Dywedodd hefyd y byddai’n ddiddorol deall yr effaith a gafodd gweithio gartref ar ostwng lefelau absenoldeb salwch.
Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd y cyflwynir adroddiadau chwarterol mwy trylwyr ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Gweithredol a Phwyllgorau Craffu.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD, yn amodol â’r uchod, i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef bod Aelodau ar ôl ystyried gwybodaeth perfformiad absenoldeb salwch a’r camau sy’n mynd rhagddynt i gefnogi gwella presenoldeb o fewn y Cyngor, yn dynodi unrhyw feysydd pellach i gael eu gwella er mwyn hybu gwella perfformiad.
|
|
Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd |
|
Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni PDF 606 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad sy’n hollbwysig wrth symud tuag gynnal gwaith dim carbon a byddai prosiectau pellach yn dod ymlaen wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2; sef parhau i gefnogi, hyrwyddo a datblygu’r prosiectau o fewn y prosbectws ynni ac i sicrhau fod y ddogfen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw brosiectau ychwanegol a ddaeth i’r amlwg. Byddir hefyd yn parhau i ddynodi prosiectau yn y dyfodol fyddai hefyd yn ateb gweledigaeth ac amcanion y Cyngor yng nghyswllt ynni a datgarboneiddio.
|
|
Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd |
|
Gorfodaeth Parcio Sifil – Diweddariad Gwasanaeth PDF 525 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn A; sef y diweddariad ar gynndd ar Orfodaeth Parcio Sifil ers ei gyflwyno yn 2019. |
|
Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylched.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1; sef nodi’r gweithgaredd yn gysylltiedig â Phrosiect Ucheldir Cydnerth De Ddwyrain Cymru a pharhau i gefnogi’r dull cydweithio sydd yn y rhaglen.
|
|
Eitemau Monitro – Addysg |
|
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r camau gweithredu cysylltiedig.
|
|
Rhaglen Gwella Ysgolion 2020 PDF 426 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2019/20 PDF 402 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
TGCh Addysg – Prosiect Cysylltedd Seilwaith PDF 652 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol |
|
Diweddariad Cronfa Gofal Integredig (ICF) 2019/20 PDF 517 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fod ynr adroddiad yn rhoi trosolwg ar ddyraniad presennol cyllid ar gyfer prosiectau a gaiff eu monitro gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’u cyllido drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru fel ym mis Tachwedd 2020. Mae hefyd yn dangos y sefyllfa bresennol yng nghyswllt y cyhoeddiad y caiff y gronfa ei hymestyn ymhellach am flwyddyn bontio 12 mis a dynododd waith yr Adran i fynd i’r afael â’r risgiau cysylltiedig gyda’r posibilrwydd y byddai’r cyllid yn dod i ben o fis Ebrill 2022.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar Opsiwn 1; sef y camau gweithredu sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i werthuso’r effaith yn y dyfodol o ddod â swyddi a gwasanaethau a ariannir gan y Gronfa i ben. atal swyddi a gwasanaethau a ariennir gan y Gronfa
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniadau dros yr eithriadau ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd |
|
Diweddariad ar Gapasiti Claddedigaethau Mynwentydd Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1.
|
|
Trosglwyddo Asedau Cymunedol Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes pobl heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 2 fel y manylir yn yr adroddiad.
|
|
Cais i Brydlesu Tir Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes pobl heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1 fel y manylir yn yr adroddiad.
|
|
Trosglwyddo Asedau Cymunedol Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, mae Arweinydd y Cyngor wedi cadarnhau y gellir ystyried y mater dilynol dan Ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
RHESWM AM Y BRYS
Er mwyn osgoi oedi wrth i CRT symud ymlaen gyda gwaith dylunio a chontract a goblygiadau posibl ar gyfer cyllid.
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor y gellid ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dymunai Aelodau Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd gofnodi ei werthfawrogiad o waith nifer o bartneriaid i ddod â’r prosiect hwn i ffrwyth. Teimlai’r Aelod Gweithredol y byddai’r prosiect o fudd mawr i’r gymuned ac roedd wedi gobeithio, yn dilyn i’r Pwyllgor Gweithredol ystyried yr adroddiad ac os caiff ei gymeradwyo, y gellid rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynlluniau priodol o fewn y parth cyhoeddus i sicrhau fod preswylwyr yn gwybod am y prosiect a’r buddion y byddai’n ei roi i’r gymuned.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 4 fel y manylir yn yr adroddiad.
|