Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 9fed Rhagfyr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Codwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

Cynghorydd N. Daniels – Eitem rhif 18

Cynghorydd J. Mason – Eitem rhif 25

 

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 467 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 341 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

6.

Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 267 KB

Ystyried cynadleddau, cyrsiau, digwyddiadau a gwahoddiadau.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cwrs dilynol:-

 

Cyflwyniad i Orfodaeth Cynllunio – Hyfforddiant Ar-lein – 09/11/2020

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i’r Cynghorwyr D. Hancock a W. Hodgins, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i fynychu.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

7.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 464 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer Blwyddyn 2021/22 pdf icon PDF 480 KB

To consider the report of the Chief Officer Resources.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau ei bod yn ofyniad statudol i’r Cyngor i gyfrif y sylfaen Treth Gyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Roedd y sylfaen Treth Gyngor yn fesur o allu codi trethi yr Awdurdod a fynegwyd yn nhermau nifer yr anheddau cyfwerth â Band D gan roi ystyriaeth i ostyngiadau eithriadau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn bresennol 20920/201 ei osod ar 20,662.45 ac ar gyfer 2021/22 cynigiodd y dylai’r sylfaen Treth Gyngor fod yn 20,794.09, sy’n dangos cynnydd o 222 annedd yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Esboniodd y Prif Swyddog ymhellach y cynhaliwyd adolygiad o gasglu’r dreth gyngor yn ystod 2019 a arweiniodd at rai newidiadau mewn dulliau casglu. Er bod arwydd cynnar o welliant mewn cyfraddau casglu yn 2019/2020, cafodd y pandemig coronafeirws effaith sylweddol ar gyfraddau cyfredol casglu treth gyngor ar draws Cymru a rhagwelwyd y byddai hyn yn parhau i 2021/22. Teimlai’r Prif Swyddog Adnoddau felly y byddai’n ddarbodus amcangyfrif y caglu o fewn y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 i barhau ar 95%.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gweithredol yr adroddiad ac roedd yn dda nodi’r nifer anheddau. Dywedwyd fod datblygwyr yn parhau i fod â llawer o ddiddordeb ym Mlaenau Gwent er gwaethaf y pandemig.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cyfrifiad sylfaen Treth Gyngor ar gyfer 2021/22 fel y manylir yn Atodiad 1 tablau 1 i 6 yr adroddiad ac y bydd y sylfaen teth gyngor ar gyfer dibenion gosod treth yn 20,794.09.

 

9.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 99 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd T. Sharrem

 

1.

Cyfeillion Pentref Blaenau Gwent

£50

2.

Eglwys Fethodistaidd Blaenau Gwent

   £100

3.

Clwb Rygbi  BG Abertyleri

£75

4.

Clwb Pêl-droed Belles Abertyleri

     £75

5.

Clwb Pêl-droed Bluebirds Abertyleri

£75

6.

Eglwys Sant Paul

£50

7.

Neuadd Eglwys Sant Paul

£50

8.

Clwb Bowls Six Bells

£75

9.

Clwb Bowls Abertyleri

£75

10.

Clwb Colomennod Cwmtyleri

£75

11.

Chillax

£50

12.

Clwb Pysgota Abertyleri

£75

13.

Abertillery Excelsiors

£75

14.

Clwb Rygbi Old Tylerians

£75

15.

Canolfan Gymunedol Bourneville

£75

16.

Eglwys Bedyddwyr Blaenau Gwent

£50

17.

Banc Bwyd Eglwys Bedyddwyr

£50

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd J. Collins

 

1.

Clwb Llan

£150

2.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Llanhiledd

£300

 

 

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd L. Parsons

 

1.

Clwb Llan

£150

 

 

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Blaenau - Cynghorydd J. Morgan

 

1.

Clwb Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ystruth

£150

2.

Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaenau

£500

 

 

 

Ward Blaenau - Cynghorydd L. Winnett

 

1.

Clwb Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ystruth

£150

2.

Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaenau

£500

 

 

 

Ward Blaenau - Cynghorydd G. Collier

 

1.

Clwb Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ystruth

£150

 

 

 

Ward Nantyglo - Cynghorwyr J. Mason a K. Rowson

 

1.

Ymddiriedolaeth Mynwentydd Hermon

£200

2.

Gr?p 1af Sgowtiaid Blaenau

£200

 

 

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd P. Baldwin

 

1.

BGfm

£200

2.

Ymddiriedolaeth Mynwent Hermon

£200

3.

Neuadd Pensiynwyr Nantyglo

£100

4.

Neuadd Pensiynwyr Winchestown

£100

5.

Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd

£100

6.

Eglwys y Drindod Sanctaidd Santes Anne

£100

7.

Clwb Coedcae Interact

£50

8.

Siop Gymunedol Nantyglo

£100

9.

Clwb Rygbi Nantyglo

£150

 

 

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr – Cynghorydd J. Hill

 

1.

Cyfeillion Interact Gogledd Ebwy Fach

£100

 

 

 

TREDEGAR

 

Ward Georgetown a Canol & Gorllewin – Cynghorwyr K. Hayden a J. Morgan a S. Thomas a H. Trollope a B. Willis

 

1.

Clwydi Coffa Glowyr Tredegar

£200

 

 

 

Ward Canol & Gorllewin – Cynghorydd M. Moore

 

1.

Clwydi Coffa Glowyr Tredegar

£200

 

 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

10.

Polisi Diogelwch Ar-lein 360 Gradd ar gyfer Ysgolion pdf icon PDF 505 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol i’r polisi Diogelwch Ar-lein 360 Gradd. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y polisi a gynigir yn dangos ymagwedd integredig at ddiogelwch ar-lein ar draws pob ysgol a gofynnwyd am sylwadau gan ysgolion drwy’r Arweinwyr Dynodedig ar Ddiogelu ac y byddai angen i’r polisi gael ei gymeradwyo gan gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn amserol gydag ysgolion yn darparu dysgu cyfunol mewn ymateb i Covid-19 a bod Arweinwyr Dynodedig ar Ddiogelu wedi croesawu’r polisi. Mae’r polisi yn annog ysgolion i wneud defnydd llawn o’r technolegau digidol sydd ar gael i ymgysylltu â dysgwyr a gwella deilliannau dysgwyr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

11.

Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth i bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Blaenau Gwent yn dilyn ei adolygiad blynyddol. Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a nododd y diweddariadau a wnaed i’r polisi, fel sy’n dilyn:-

 

·      Cyfeiriad at Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019, yn disodli’r cyfeiriad blaenorol at Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru 2008;

·      Cynnwys polisi diogelu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn atodiad 3 y polisi;

·      Cynnwys y protocol casglu data diogelu; a

·      Chynnwys atodiad COVID-19 i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol a chadarnhau gweithdrefnau hysbysu am bryderon. Gellir diweddaru’r atodiad hwn yn gyson wrth i’r sefyllfa argyfwng ddatblygu a newid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 cyn i Bolisi Diogelu y Gyfarwyddiaeth Addysg gael ei ddosbarthu i ysgolion.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

12.

Monitro’r Gyllideb Refeniw -2020/2021, Rhagolwg Alldro hyd at 31 Mawrth 2021 (fel ar 30 Medi 2020) pdf icon PDF 666 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi rhagolwg sefyllfa alldro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 fel ar 30 Medi 2020. Roedd amrywiad anffafriol o £3.402m cyn derbyn cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a ostyngodd y rhagolwg amrywiad anffafriol i £0.248m. Roedd hyn yn sefyllfa well na’r rhagolwg ym mis Mehefin 2020 oedd yn nodi amrywiad anffafriol o £1.2m. Siaradodd y Prif Swyddog ymhellach am y sefyllfa ariannol ar draws pob portffolio ac amlinellu’r pwyntiau allweddol fel y’u manylir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr atodiadau’n cynnwys gwybodaeth ar ffioedd a chostau yn ogystal â chynnydd ar raglen Pontio’r Bwlch. Mae’r Atodiadau hefyd yn manylu camau gweithredu ar gyfer deiliaid cyllideb i liniaru unrhyw bwysau cost a gaiff eu rhagweld.

 

Roedd yr Arweinydd yn ymwybodol fod yr Aelodau Gweithredol ar ben eu hunain ac ar y cyd yn monitro cyllidebau ac oherwydd y sefyllfa bresennol teimlai fod y cyllidebau wedi eu rheoli’n dda gan ddeiliaid cyllideb. Credai fod y Cyngor mewn sefyllfa resymol a gobeithiai, gyda’r cymorth a werthfawrogir yn fawr gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, y byddai’n helpu’r Cyngor i gael cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai arwyddion cyllideb y flwyddyn nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 22 Rhagfyr 2020 ac y gobeithir y bydd y Cyngor yn parhau â’r gwaith ardderchog ar reoli ariannol a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod yr her briodol yn cael ei rhoi i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad.

 

13.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 30 Medi 2020) pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio o gymharu â chymeradwyaeth cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol  2020/2021 fel ar 30 Medi 2020. Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a

 

·         rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad.

·         parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor.

·         nodi gweithdrefnau rheoli a monitro’r gyllideb sydd yn ei lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

14.

Defnydd Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ac wedi’u Clustnodi 2020/2021 pdf icon PDF 677 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd yr Arweinydd y cafodd y Cyngor ei feirniadu mewn blynyddoedd blaenorol am lefelau isel y cronfeydd wrth gefn, fodd bynnag dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi sicrhau y cymerwyd camau cadarnhaol i adfer cronfeydd wrth gefn i lefel dderbyniol.

 

Ar y pwynt hwn, gwahoddodd yr Arweinydd y Prif Swyddog Adnoddau i roi trosolwg o’r adroddiad. Nododd y Prif Swyddog Adnoddau y prif bwyntiau a gynhwysir yn yr adroddiad a chyfeiriodd at y sefyllfa rhagolwg ar gyfer y gronfa gyffredinol wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn 2020/2021 a fyddai’n ostyngiad o £0.048m i £6.387m. Byddai’r balans hwn yn 4.72% o wariant refeniw net, £0.973m uwch na’r lefel targed o 4% o £5.414m. Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd pellach tuag at gryfhau cydnerthedd ariannol y Cyngor a rhoi clustog i ddelio gyda phroblemau annisgwyl yn y dyfodol. Byddai angen lliniaru’r amrywiad anffafriol a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn os na fyddent wedi eu trin, fodd bynnag byddai lefel y cronfeydd wrth gefn yn dal i fod yn uwch na’r targed a osododd y Cyngor i ni ein hunain.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a theimlai ei fod yn dangos ymrwymiad y Cyngor i drin ein cadernid ariannol. Gobeithiai’r Arweinydd y byddai deiliaid cyllideb yn parhau i weithio’n galed i ddileu’r diffygion cyllideb i atal defnyddio arian o gronfeydd wrth gefn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac:

 

·         ystyried yr effaith y byddai’r amrywiad anffafriol o £0.248m ar gyfer 2020/21 yn ei gael ar y cyfraniad yn y gyllideb at y Gronfa wrth Gefn Gyffredinol; a

·         nodi’r gostyngiad a ragwelir yn y Gronfa wth Gefn Gyffredinol yn 2020/2021 i £6.387m, sef 4.72% o’r gwariant refeniw net (uwch na’r lefel targed o 4%);

·         parhau i herio gorwariant y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth priodol lle bo angen. 

 

 

15.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/2020 pdf icon PDF 421 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol wedi cael gwybodaeth am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac y cafodd yr adroddiad ei atgyfeirio at y Pwyllgor Archwilio am sicrwydd fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad a roddwyd wedi adlewyrchu’r arferion hyn.

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

16.

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (2016-2022) pdf icon PDF 690 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis blaenorol.

 

17.

Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-22) Adroddiad Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 559 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi Opsiwn 2, sef y dylid nodi’r adroddiad blynyddol a’r gweithgaredd a argymhellir eleni i gyflawni Dyletswydd Adran 6.

 

Eitemau Monitro - Addysg

18.

Canlyniad yr Adolygiad Hamdden a Monitro Perfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 547 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Arweinydd fuddiant yn yr eitem hon, fodd bynnag caniatawyd iddo aros yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Croesawodd Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad a fyddai’n cryfhau’r berthynas waith rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Awdurdod Lleol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol at Atodiad 3 a chynigiodd y dylai’r cyfarfodydd fod bob chwarter yn hytrach na dwywaith y flwyddyn fel yr awgrymwyd, gyda chyfarfodydd ychwanegol i gael eu galw fel a phan fo angen.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

19.

Deilliannau 2019-2020: Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 pdf icon PDF 823 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol EAS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr adroddiad a nodi fod adroddiadau perfformiad ysgol wedi llacio oherwydd pandemig Covid-19. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn falch i nodi fod perfformiad wedi gwella yn CA4 ar draws ysgolion a bod y canlyniadau yn unol â’r targed a nodwyd yn y Cynlluniau Datblygu Ysgolion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

20.

Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent DRAFFT Ganfyddiadau Hunanarfarnu pdf icon PDF 532 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad ac amlinellodd y prosesau hunanarfarnu a wnaed o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach at y meysydd lle gwnaed cynnydd da a thrafod meysydd lle mae angen gwelliannau pellach.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad a dymunai gydnabod Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent. Bu llawer o feysydd gwella yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac mae ganddo agweddau o arfer ardderchog. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi rhagori ar gyfartaledd Cymru-gyfan ac yn gyd-enillwyr Gwobr Genedlaethol gwaith Ieuenctid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

21.

Crynodeb Deilliannau Arolygu ar gyfer Sefydliadau Addysgol – Tymor yr Hydref 2019 a Thymor y Gwanwyn 2020 pdf icon PDF 674 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth monitro perfformiad yng nghyswllt yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn o sefydliadau addysgol a diweddariad ar y deilliannau arolygu ar gyfer ysgolion a arolygwyd yn ystod tymor yr Hydref 2019 a thymor y Gwanwyn 2020. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cynhaliwyd yr arolygiadau hyn yn 2019/2020 ac y cafodd cyhoeddi ei ohirio oherwydd yr ymateb argyfwng i Covid-19.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ymhellach at y tri arolwg a gynhaliwyd a rhoddodd drosolwg o’r adborth a gafwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

22.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19 pdf icon PDF 455 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Gweithredol adolygu ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn arbennig gefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng. Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad ac amlinellodd y gwaith a wnaethpwyd mewn cysylltiad gyda chydweithwyr corfforaethol ac ysgolion.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at benderfyniad Blaenau Gwent i symud i ddysgu o bell o 10 Rhagfyr 2020 a dywedodd y seiliwyd y penderfyniad ar dystiolaeth cyfraddau heintiad ym Mlaenau Gwent. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai Blaenau Gwent sydd â’r 3ydd nifer uchaf o achosion ledled Cymru ar hyn o bryd gyda 574 achos fesul 100,000. Mae’r ffigurau hyn wedi cael effaith sylweddol ar ein hysgolion gan effeithio ar 19 allan o 25 ysgol. Mae 1300 o ddisgyblion a 66 aelod o staff i ffwrdd o’r ysgol yn hunanynysu ar hyn o bryd.

 

Cafodd y ffigurau hyn effaith sylweddol ar ddysgu wyneb i wyneb ac felly mae rhesymau cadarn dros symud i ddysgu o bell.

 

Roedd cefnogaeth wleidyddol a phroffesiynol gref gyda chefnogaeth unfrydol gan benaethiaid ysgol. Mae’r Athro Iechyd Cyhoeddus, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Rheoli Heintiad wedi cefnogi ymagwedd Blaenau Gwent. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r Awdurdod yn rhoi cefnogaeth i ddysgwyr bregus a phrydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dywedwyd fod penaethiaid ysgol wedi teimlo y byddai dysgu o bell yn fwy effeithlon yn yr amgylchiadau presennol. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg i ben drwy ddweud fod y penderfyniad i symud i ddysgu o bell yn benderfyniad lleol wedi’i seilio ar y sefyllfa leol, oedd yn iawn ar yr adeg hon.

 

Dymunai’r Aelod Gweithredol Addysg ddymuno i’r Gyfarwyddiaeth Addysg am eu hymateb rhagorol i bandemig COVID-19. Cytunodd yr Aelod Gweithredol gyda sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a dywedodd bod y penderfyniad i symud i ddysgu cyfunol yn seiliedig ar resymeg gref. Roedd y penderfyniad wedi derbyn cefnogaeth unfrydol gan benaethiaid ysgol ac wedi’i groesawu’n neilltuol yng nghlwstwr Tredegar lle bu ysgolion ar gau oherwydd y cynnydd mewn heintiad. Roedd yr Aelod Gweithredol yn llwyr gefnogi penderfyniad Arweinyddiaeth y Cyngor a theimlai fod hwn yn benderfyniad da i Flaenau Gwent.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn cefnogi’r penderfyniad i symud i ddysgu cyfunol ar draws pob ysgol ym Mlaenau Gwent a dywedodd nad oedd yn benderfyniad a gymerodd y Cyngor yn ysgafn. Teimlai bod Aelod Gweithredol Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg wedi cymryd y penderfyniad gorau i Flaenau Gwent. Cafodd gefnogaeth unfrydol gan ysgolion a’i groesawu gan rieni.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

23.

Diweddariad ar Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal pdf icon PDF 851 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad cynnydd ar strategaeth tair blynedd i ostwng yn ddiogel y nifer o blant sy’n derbyn gofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu gostyngiad araf ond cyson yn nifer y plant sy’n derbyn gofal o uchafbwynt o 237 i 205 fel ar heddiw ers y cyflwynwyd y strategaeth. Mae’r Awdurdod wedi defnyddio cyllid ychwanegol yn llwyddiannus o’r Gronfa Gofal Integredig sydd wedi cynorthwyo mewn gwella’r strategaeth a chefnogi ein hamcanion o gadw teuluoedd gyda’i gilydd a rhoi cefnogaeth i deuluoedd ar ymyl gofal. Cafodd y strategaeth ei gwerthuso’n annibynnol ac mae’n cael ei hadfywio ar hyn o o bryd ar gyfer strategaeth newydd yn 2021.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y gwaith a wnaed wedi helpu i gadw teuluoedd ynghyd a hefyd ostwng nifer y plant a gaiff eu gosod mewn gofal preswyl. Mae hyn wedi helpu’r gyllideb Gwasanaethau Cyhoeddus, fodd bynnag mae costau cyfreithiol yn parhau’n uchel ond rydym wedi ail-agor trafodaethau gydag awdurdodau lleol cyfagos ar gymorth cyfreithiol posibl. Cafodd y gwaith hwn lawer o adborth cadarnhaol gan staff a theuluoedd.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad sy’n rhoi sylw i waith cadarnhaol Gwasanaethau Plant a dymunai fynegi ei ddiolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pennaeth Gwasanaethau Plant a staff ar y gwaith tu ôl i’r adroddiad cadarnhaol.

 

Dywedodd yr Arweinydd y bu peth amheuaeth pan gymerwyd y mesurau tua 3 mlynedd yn ôl. Mae’r Cyngor ymhell o fod yn hunanfodlon ac roedd llawer iawn o waith i gael ei wneud. Fodd bynnag, mae’r Strategaeth yn awr yn gweld canlyniadau a gobeithiai’r Arweinydd y byddai’r gwaith hwn yn parhau.

 

Atebodd yr Arweinydd y sylwadau a wnaed o ran y gwaith ardderchog a gyflawnwyd mewn Gwasanaethau Plant. Mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac ar draws y Cyngor yn parhau i weithio’n galed yn ystod y pandemig ac mae’r cyhoedd bob amser yn ddiolchgar.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

24.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 453 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef cefnogi penderfyniadau y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

 

25.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

26.

Prif Gynllun Brynmawr a Nantyglo

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Datganodd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fuddiant yn yr eitem yma, fodd bynnag caniatawyd iddo aros yn y cyfarfod yn ystod trafodaethau.

 

Ystyriwyd y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2 sy’n cynnwys gwybodaeth yn gysylltiedig â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod, ac i gymeradwyo canfyddiadau Cynllun Meistr Brynmawr a Nantyglo a chytuno ar y camau nesaf ar gyfer gwneud gwaith fel y manylir yn yr adroddiad.