Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 11eg Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. .

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer:

 

Cynghorydd J. Collins, Aelod Gweithredol - Addysg

 

Andrea Jones, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd Arweinydd y Cyngor fuddiant yn Eitem 26 – Adolygiad Gwasanaeth ac arhosodd yn y cyfarfod ar ôl ceisio cyngor cyfreithiol.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 460 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

 

Materion Cyffredinol

5.

Cyrsiau, Cynadleddau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 368 KB

Ystyried yr adroddiad ar gyrsiau, cynadleddau, digwyddiadau a gwahoddiadau.

Cofnodion:

Ystyried gwahoddiadau i fynychu’r dilynol:-

 

Lansio Capital Ambition 2.0 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Caerdydd – dydd Iau 6 Chwefror 2020

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i’r Cynghorydd D. Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd, i fynychu.

 

Trip Tramor i Dwrci – 10-12 Chwefror 2020

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i’r Cynghorwyr G. Davies a J. Hill i fynychu ynghyd â Steve Smith, Pennaeth Cynllunio, Ellie Fry, Pennaeth Adfywio a Rob Davies, Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cyngerdd Dewi Sant, Eglwys Sant Mihangel, Abertyleri – dydd Sul 1 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i’r Cynghorydd M Moore, Cadeirydd y Cyngor fynychu.

 

Dywedodd y derbyniwyd y gwahoddiad dilynol ers paratoi’r adroddiad. Cadarnhaodd na fyddai unrhyw gostau yn gysylltiedig â’r digwyddiad –

 

Seremoni Gwobrau Ysgol Paratoad Milwrol – 13 Ebrill 2020

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i’r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, fynychu.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

6.

Blaenraglen Gwaith – 22 Ebrill 2020 pdf icon PDF 490 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r flaenraglen gwaith ar gyfer 22 Ebrill 2020.

 

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd H. McCarthy

 

 

Clwb Bowls Llanhiledd - £150

Gr?p Cymunedol Ebwy Fach Aberbîg - £119.71

Canolfan Gymunedol Aberbîg - £100

Banc Bwyd Sefydliad Llanhiledd - £300

 

GLYNEBWY

 

Ward Badminton – Cynghorydd G. Paulsen

 

 

Gr?p Awtistiaeth One Life - £100

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Blaenau – Cynghorydd G. Collier

 

 

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwmcelyn

- £200

Clwb Rygbi Abertyleri BG –

Tîm Rygbi Dan 8 - £100

 

Ward Blaenau - Cynghorydd J. Morgan

 

 

Clwb Pêl-droed Nantyglo - £200

 

Clwb Bowls Blaenau - £200

 

Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaenau - £100

 

Canolfan Gymunedol Blaenau - £135

 

Corfflu Hyfforddiant Awyr Nantyglo a Blaenau - £150

 

Cymdeithas Hanes ac Archaeoleg Aberystruth - £100

 

Clwb Dawns Nos Llun -  £50

 

Cwt Menywod Ystruth - £50

 

Fflatiau Glanyrafon - £50

 

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ystruth - £250

 

 

TREDEGAR

 

Ward Georgetown a Canol a Gorllewin – Cynghorwyr

K. Hayden, J. Morgan, S. Thomas, H. Trollope a B. Willis

 

 

 

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Glanhywi (Awtistiaeth) - £300

 

 

Clwb Pêl-droed Menywod a Genethod Tredegar - £200

 

 

Cymdeithas Bws Cadwraeth Reliance - £00

 

 

Planet Fitness - £200

 

 

Eglwys Fethodistaidd Tredegar - £200

 

 

Clwb Cinio St George - £400

 

 

Capel Saron - £838.55

 

 

Eglwys Bedyddwyr Canol Tredegar - £400

 

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.

 

8.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 pdf icon PDF 495 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau; Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau a’r Arweinydd Proffesiynol ar Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig cyn ei gymeradwyo i’r Cyngor (Opsiwn 1).

 

9.

Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 420 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad ac amlinellodd y themâu hanfodol o fod yn debyg i sefydliad masnachol; canolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid ar gyfer gwasanaethau presennol a newydd a gostwng aneffeithlonrwydd yn y system ar gyfer cwsmeriaid; darparu gwasanaethau ansawdd da a sicrhau fod y gadwyn gyflenwi yn gweithio’n effeithlon i helpu rheoli costau a hybu enw da y Cyngor.

 

O safbwynt masnachol, mae angen ymchwilio cyfleoedd newydd, comisiynu’r gwasanaethau cywir yn y ffordd gywir i sicrhau gwerth am arian a sicrhau deilliannau gwell er budd cymunedau. 

 

Yng nghyswllt trefniadau adolygu a monitro, gwnaeth y Prif Swyddog Masnachol gywiriad i baragraff 2.6 yr adroddiad a chadarnhaodd y cyflwynir adroddiad ar gyflawni’r rhaglen waith i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn chwarterol ac nid yn flynyddol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a dywedodd ei bod yn dda gweld y Strategaeth Fasnachol yn dod i ffrwyth gyda ffocws ar Gyngor effeithlon a llunio’r portffolio buddsoddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar y Strategaeth Fasnachol a’r rhaglen waith gysylltiedig (Opsiwn 1).

10.

Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a’r Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad sydd wedi’i alinio gyda Strategaeth Fasnachol y Cyngor ac a gafodd ei gynllunio i gefnogi cyflenwi blaenoriaethau, gweledigaeth a gwerthoedd y Cyngor.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog Masnachol gywiriad i baragraff 2.7 yr adroddiad a chadarnhaodd y caiff adroddiad ar gyflenwi’r rhaglen waith ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn chwarterol ac nid yn flynyddol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y bu newid sylweddol yn y tirlun cyfathrebu mewn blynyddoedd diweddar a’i bod yn hanfodol fod y strategaeth yn adlewyrchu disgwyliadau cwsmeriaid. Mae bellach sianeli lluosog i gyrraedd cynulleidfaoedd, yn cynnwys y wasg draddodiadol, a thanlinellodd ei bod yn bwysig defnyddio’r sianeli gorau yn y ffordd orau bosibl i gyrraedd cwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar y Strategaeth Cyfathrebu a’r rhaglen waith gysylltiedig (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

11.

Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2020-2023 pdf icon PDF 498 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Cyflwynodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar ddatblygiad Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Blaenau Gwent.

 

Mae gwella sgiliau a pharodrwydd am waith unigolion yn hollbwysig i sicrhau cyflogaeth drwy gynlluniau tebyg i’r Fargen Ddinesig a Chymoedd Technoleg. Mae’n anodd rhagweld sgiliau ar gyfer y dyfodol ac mae angen manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, sicrhau fod cyflogaeth yn barod ar gyfer y dyfodol a sicrhau gwelliant sylweddol yn yr economi ym Mlaenau Gwent.

 

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bum maes blaenoriaeth sef:

 

·        Busnes a Menter

·        Dysgu a Sgiliau

·        Symudedd Cymdeithasol, Cynhwysiant a Chyflogadwyedd

·        Addysg ac Ysgolion

·        Caffaeliad a Buddion Cymunedol

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol ar fanteision ymgysylltu gyda phartneriaid a’r cyfle i gynnwys eu sylwadau yn y cynllun fel sy’n briodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Blaenau Gwent (Opsiwn 2).

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

12.

Dynodiad a Datganiad Gwarchodfa Natur Leol pdf icon PDF 461 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod saith Gwarchodfa Natur Leol wedi’u dynodi ym Mlaenau Gwent ac maent yn cyflwyno pump arall am ddynodiad a datganiad.

 

Byddai datganiad a dynodiad yn cyfrannu at Flaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem y Cyngor ac yn helpu i  liniaru effeithiau newid hinsawdd i wella’r amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn dynodi ac yn datgan pump Gwarchodfa Natur Lleol: Coetiroedd Rhiw Sirhywi, Llynnoedd a Choetir Rhiw Beaufort, Parc Bryn Bach, Dinas Gerddi a’r Cwm Canolog (Opsiwn 2).

 

13.

Adolygu Gwasanaeth Goleuadau Stryd pdf icon PDF 588 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar yr Adolygiad o Oleuadau Stryd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod sefyllfa ariannol heriol, fodd bynnag, mewn ymateb i anghenion diwydiannau, cynyddwyd goleuadau stryd mewn rhai stadau diwydiannol. Mae hawliadau yswiriant yn awr yn cael eu dilyn parthed difrod i gelfi stryd ac mae system beilota llusernau solar yn cael ei hymchwilio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn derbyn yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

14.

Monitro’r Gylideb Revfeniw – All-dro Darpariaethol 2019/2020 pdf icon PDF 619 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg o’r sefyllfa all-dro ariannol ar drws pob portffolio am y flwyddyn ariannol 2019/2020 (rhagolwg 31 Rhagfyr 2020) a chyfeiriodd at yr wybodaeth yn gysylltiedig â’r camau a gymerwyd i symud ymlaen tuag at sefyllfa all-dro gytbwys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cymhariaeth rhwng Gwasanaethau Corfforaethol Chwarter 3 a 4 yn dangos amrywiad ffafriol oherwydd y cynnydd yn y rhagolwg o wariant ar gyfer y Cynllun Gostwng Treth Gyngor. Mae Addysg yn dangos amrywiad ffafriol. Dengys Gwasanaethau Cymdeithasol fod y rhagolwg amrywiad wedi gostwng oherwydd cynnydd yn nifer y lleoliadau gydag asiantaethau maethu annibynnol. Dangosodd Addysg ragolwg amrywiad niweidiol llai. Mae Economi yn dangos gostyngiad bychan mewn amrywiad oherwydd y cafodd y swydd cyfreithiwr dros dro ei hymestyn i fis Mawrth 2020. Mae’r Amgylchedd yn dangos gwelliant bach oherwydd ffioedd a thaliadau ychwanegol ac ailddyrannu costau ar gyfer gwaith asbestos.

 

Soniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi gwella ers y llynedd ond mae ffigurau’n dal i ddangos bregusrwydd. Roedd yn bwysig cadw ffocws i’r flwyddyn ariannol newydd i symud tuag at cael cyllideb gytbwys.

 

Croesawodd yr Arweinydd sefyllfa dda y gyllideb sy’n dangos rheolaeth dorfol ardderchog ar y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r her priodol i’r deilliannau ariannol. Nodwyd y cynlluniau gweithredu yn Atodiad 4 i fynd i’r afael â’r amrywiadau niweidiol a ragwelid ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019.

 

15.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019/2020 pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg i Aelodau o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio ar gymeradwyaeth cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 fel ar 31 Rhagfyr 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi Opsiwn 1, sef:-

·        rhoi’r her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

·        parhau â’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a

·        nodi gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb i fod yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

16.

Defnydd Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ac wedi’u Clustnodi 2019/2020 pdf icon PDF 464 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn:-

 

·        Nodi’r cynnydd rhagolwg a fwriedir yn y Gronfa wrth Gefn Gyffredinol i 4.54% (uwch na lefel targed 4%) ar gyfer 2019/2020 a blynyddoedd y dyfodol gan gryfhau cadernid ariannol y Cyngor;

·        Ystyried yr effaith y byddai rhagolwg amrywiad niweidiol £0.064m ar gyfer 2019/20 yn ei gael ar darged y Gronfa wrth Gefn Gyffredinol; a

·        Pharhau i herio gorwariant y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth priodol, lle bo angen.

 

 

17.

Datganiad Safleoliad ar System CCTV y Cyngor pdf icon PDF 524 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau,  Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cefnogi Opsiwn 1, sef:

 

·        Ystyried y datganiad safleoliad ar swyddogaeth CCTV agored;

·        Cynnwys y drafft Fframwaith Polisi a Strategaeth ar gyfer CCTV ar Flaenraglen Gwaith 2020/21 ar gyfer ei chymeradwyo; a

·        Derbyn yr adroddiad monitro blynyddol.

 

 

18.

Perfformiad Absenoldeb Gweithlu Gwasanaethau Corfforaethol pdf icon PDF 422 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu Sefydliadol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar yr adroddiad a’r trefniadau a gynigir i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Adfywio a Datblygu Economaidd

19.

Cymoedd Technoleg pdf icon PDF 437 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi ac yn cymeradwyo gwaith y rhaglen Cymoedd Technoleg (Opsiwn 1).

 

20.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Adfywio pdf icon PDF 412 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar yr adroddiad a’r trefniadau a gynigir i gefnogi’r gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd

21.

Archwiliad gyda Ffocws Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd pdf icon PDF 500 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r adroddiad a nodir yn Atodiad 2 (Opsiwn 1).

22.

Adroddiad Gweithgareddau – Gwasanaeth Triniaeth Rheoli Pla pdf icon PDF 504 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r adroddiad fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).

 

23.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Cymunedol pdf icon PDF 412 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar yr adroddiad a’r trefniadau a gynigir i gefnogi’r gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

24.

Strategaeth Byw’n Annibynnol yn y 21ain Ganrif – Diweddariad Cynnydd Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 862 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r adroddiad a’r dystiolaeth a roddwyd i gefnogi cynnydd yn y 8 maes blaenoriaeth, ac i ni barhau i ddarparu diweddariadau ar gynnydd yn flynyddol i’r pwyllgor craffu fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn (Opsiwn 1).

 

 

25.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar yr adroddiad a’r trefniadau a gynigir i gefnogi’r gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).

 

 

26.

Adolygiad Gwasanaeth

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei gynnal gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod ar ôl ceisio cyngor cyfreithiol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, gyda gwella cysylltiadau gwaith a ffordd glir ymlaen, ei fod yn cefnogi opsiwn 2.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai creu’r Bwrdd Partneriaeth Strategol yn allweddol i gyflwyno’r gwasanaeth yn llwyddiannus ac yn mynd ymhell i ddileu problemau’r gorffennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod ac opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor Gweithredol yn craffu ar yr adroddiad a’r atodiadau ynghlwm a gwneud argymhellion i ddilyn Llwybr B.

 

27.

Capasiti Claddedigaethau Mynwentydd

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Hamdden a Golwg Strydoedd.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm (Hamdden a Golwg Strydoedd).

 

Cyflwynodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad oedd i sefydlu dull gweithredu tymor canol i hirdymor at ddarpariaeth mynwentydd ym Mlaenau Gwent.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod ac opsiwn 2, sef cynnal gwerthusiad dichonolrwydd manylach yn cynnwys costau ac opsiynau tir mewn mynwentydd gyda chapasiti claddu cyfyngedig. Mae hyn yn cyfeirio at fynwentydd gyda chapasiti wedi’i ddynodi o lai na 20 mlynedd.