Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 29ain Ionawr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod o waith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau ar gyfer absenoldeb ar gyfer:

 

Y Cynghorydd G. Collier, Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol yr Amgylchedd

Rheolwr Gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

 

Dywedodd yr Arweinydd y gwahoddwyd y Cynghorydd S. Thomas i'r cyfarfod i gyflwyno sylwadau'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt eitem rhif 10 (Adroddiad Cynnydd - Darpariaeth Cymorth Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol). Fodd bynnag, nid oedd yn medru bod yn bresennol ac mae'r Cynghorydd K. Rowson, yr Is-gadeirydd, yn bresennol ar ei ran.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gwaith pdf icon PDF 659 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

5.

Cynadleddau a Chyrsiau pdf icon PDF 268 KB

Ystyried Cynadleddau, Cyrsiau a Gwahoddiadau..

 

Cofnodion:

Ystyried gwahoddiadau i fynychu'r dilynol:-

 

Derbyniad a Sesiwn Wybodaeth gan Dîm Ymgysylltu y Fyddin yng Ngholeg Gwent - dydd Iau 13 Chwefror 2020.

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd B. Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog fynychu.

 

Gweithdy Dysgu a Chyfarfod Gr?p Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol (SSPG) - 19 a 20 Chwefror 2020.

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd J. Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol  fynychu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y derbyniwyd y gwahoddiadau dilynol hefyd ers paratoi'r adroddiad. Cadarnhaodd na fyddai unrhyw gostau yn gysylltiedig â'r digwyddiadau:-

 

Cyngerdd Agoriadol Band y Lleng Brydeinig yng Nghymru - 9 Chwefror 2020 - Sir Fynwy

 

Gwobr Arglwydd Raglaw Gwent - 12 Mawrth 2020 - Barics Rhaglan, Casnewydd

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, fynychu.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

6.

Blaenraglen Gwaith - 11 Mawrth 2020 pdf icon PDF 493 KB

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r flaenraglen gwaith ar gyfer 11 Mawrth 2020.

 

7.

Cyllideb Refeniw 2020/2021 i 2024/2025 pdf icon PDF 899 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar y setliad llywodraeth leol darpariaethol cadarnhaol ar gyfer 2020/21 a'i effaith ar gyllideb y Cyngor; cynigiodd y gyllideb fanwl ar gyfer 2020/21 a'r gyllideb ddangosol ar gyfer 2021/22; a chynigiodd lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 yn unol â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Mae'r setliad darpariaethol cadarnhaol ynghyd â'r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio'r Bwlch yn golygu y gall y Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a gwella ei gydnerthedd ariannol. Cyhoeddir manylion pellach y grantiau penodol ar gyfer llywodraeth leol ynghyd â setliad RSG terfynol ym mis Chwefror 2020.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, dywedodd y Swyddog fod heriau ariannol sylweddol ym mlynyddoedd olaf y Strategaeth Ariannol Tymor Canol, felly byddai'n ddarbodus sefydlu Cyllideb Trawsnewid y gellid ei defnyddio i fuddsoddi mewn prosiectau ac ymchwilio opsiynau posibl ar gyfer arbedion yn y dyfodol a phontio'r bylchau sylweddol mewn cyllid.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am sicrwydd na fyddai'r grantiau a drosglwyddir i'r RSG yn cael eu neilltuo a chadarnhaodd y Swyddog na fyddai hynny'n digwydd ac mai mater i'r Cyngor fyddai penderfynu lle byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hyderus y byddai'r Cyngor yn gwneud y penderfyniad cywir. Felly argymhellodd fod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi'r adroddiad ar y cam hwn a bod penderfyniad ffurfiol yn cael ei wneud yn y Cyngor ar 6 Chwefror 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny. 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

8.

Adolygiad o Bolisi Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent pdf icon PDF 606 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm, Datrysiadau Tai a Chydymffurfiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Datrysiadau Tai a Chydymffurfiaeth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad sy'n amlinellu'r polisi a newidiadau gweithredol a gynigir i Gynllun Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent, yn dilyn yr adolygiad diweddar o'r cynllun a'r broses ymgynghori. Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo; mae'r manylion a gynigir i'r polisi yn Atodiad 3.

 

Yng nghyswllt yr ymgynghoriad a gynhaliwyd, gofynnwyd cwestiwn am ymgysylltu Aelodau ac ymddiheurodd y Swyddog os na ymgynghorwyd yn uniongyrchol â phob aelod ar y cynigion. Fodd bynnag cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac maent yn rhoi cefnogaeth lawn i'r newidiadau arfaethedig i'r Cynllun.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Aelod Gweithredol yr Amgylchedd hefyd yn llwyr gefnogol i'r cynigion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo'r newidiadau polisi a gynigir i Gynllun Dyrannu Tai Cartrefi Blaenau Gwent i'w weithredu ar 1 Ebrill 2020 (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

9.

Adolygiad o'r Strategaeth Tai Leol pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd yr adroddiad sy'n amlinellu egwyddorion a gofynion allweddol y canllawiau gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi Strategaeth Tai Leol a soniodd hefyd am y cyfle posibl ar gyfer cydweithio gydag awdurdodau lleol ar sail ranbarthol.

 

Mae'r Strategaeth Tai Leol yn nodi gweledigaeth tai hirdymor y Cyngor o ran y mathau o dai yr ydym yn edrych ar eu hadeiladu dros y 5 mlynedd nesaf. Dywedodd fod tai ar frig yr agenda gwleidyddol ar hyn o bryd, gan effeithio ar draws pob portffolio, a bod y Strategaeth Tai Leol yn ddogfen bwysig iawn i'r Cyngor. Gan edrych ar y tymor hirach mae cyfle i geisio dull gweithredu mwy rhanbarthol ac mae adran 2.12 yr adroddiad yn amlinellu'r cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Fodd bynnag, wrth symud tuag at ddull cydweithio, tanlinellodd yr Aelod Gweithredol bwysigrwydd sicrhau y caiff anghenion lleol eu cyflawni.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud fod y pwyllgor Craffu wedi ystyried yr adroddiad a chymeradwyo y dewis a ffafrir, Opsiwn 2.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gydweithio gydag awdurdodau lleol ar draws Gwent i ymchwilio'r posibilrwydd o gynhyrchu Strategaeth Tai Ranbarthol a chynllun gweithredu leol (Blaenau Gwent) (Opsiwn 2).

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Cymdeithasol

10.

Adroddiad Cynnydd - Darpariaeth Cymorth Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 652 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad sy'n rhoi dadansoddiad o'r galw presennol ac amlinellodd argymhellion ar gyfer costau posibl yn y dyfodol ar gyfer dinasyddion yn defnyddio cludiant yn seiliedig ar gostau trafnidiaeth cyhoeddus cymharol. Mae'r adroddiad yn dilyn cyflwyno'r Polisi Cymorth Cludiant o fis Ebrill 2019 gan gynnal asesiadau cymhwyster ar gyfer dinasyddion newydd a phresennol. Yn dilyn cwblhau'r asesiadau hyn, cytunwyd y rhoddir adborth i'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Yn nhermau'r cefndir, dywedodd fod Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cludo 190 dinesydd y dydd 'i ac o' safleoedd opsiynau cymunedol, 120 dinesydd y dydd ar gyfartaledd. Yn hanesyddol, darperir cymorth cludiant i ddinasyddion sy'n mynychu opsiynau cymunedol heb unrhyw asesiad ffurfiol o angen i ddefnyddio cludiant o'r fath, h.y. bu hawl awtomatig beth bynnag yw sefyllfa unigolyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai un o nodau allweddol y Gyfarwyddiaeth yw cynyddu annibyniaeth a gostwng dibyniaeth dinasyddion er mwyn galluogi unigolion i fyw a theithio'n annibynnol o fewn eu cymunedau. Nid yw'n ddyletswydd statudol ar Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cludiant ond mae ganddynt ddyletswydd i ddiwallu'r angen hwnnw os na all yr angen gael ei gyflawni gan adnoddau yr unigolyn ei hun neu adnodd cymunedol. Ymhellach, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fe wnaethom fabwysiadu egwyddor cynnal asesiad seiliedig ar gryfder sy'n ystyried adnoddau dinasyddion, yn cynnwys mynediad i'w cerbyd symudedd eu hunain, pas bws neu hawl i fudd-dal.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at adrannau 2.4 a 2.5 yr adroddiad sy'n dweud fod galw wedi gostwng yn Ebrill 2019 a bod yr Adran wedi medru rhoi'r gorau i un cerbyd, gan wneud y dyraniad cyllideb presennol am gludiant opsiynau cymunedol yn £321k.

 

Dywedodd y bydd Aelodau hefyd yn nodi y cynhaliwyd 149 asesiad gan weithwyr cymdeithasol i benderfynu ar gymhwyster a chaiff manylion hyn eu hamlinellu yn adran 7 yr adroddiad. Fodd bynnag, mae'r ffigurau wedi newid ers paratoi'r adroddiad ac mae nawr 101 o unigolion yn cael mynediad annibynnol i opsiynau cymunedol. Barnwyd bod 24 o unigolion yn gymwys ac y byddent yn cael cludiant ac am ddim a barnwyd fod gan 14 amgylchiadau eithriadol yn wreiddiol ond bod hyn yn anffodus wedi gostwng i 11 yn ddiweddar oherwydd marwolaeth tri ohonynt, a rydym yn gofyn am godi tâl am ddefnyddio cludiant opsiynau cymunedol ar yr 11 unigolyn hyn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad sy'n rhoi rhai o sylwadau dinasyddion sy'n cael mynediad annibynnol i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Er mwyn darparu ar gyfer hyn a chefnogi rhieni, cadarnhaodd y cafodd yr oriau agor y ddau ben i'r dydd er mwyn gwneud y gwasanaeth yn fwy hyblyg.

 

Cyfeiriodd wedyn at yr opsiynau a amlinellir yn yr adroddiad ac argymhellodd Opsiwn 1. Mae hyn yn gydnaws gyda Pholisi Incwm 2014 y Cyngor sy'n argymell adfer cost llawn lle'n briodol. Dywedodd fod Opsiwn 2 yn anelu i godi cost gyfwerth â chostau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer defnyddio'r cerbydau. Byddai'r ddau  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

11.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol pdf icon PDF 500 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi penderfyniadau'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Opsiwn 1).