Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 18fed Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen hysbysiad o 3 diwrnod gwaith o leiaf os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Mason.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 520 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd.

 

Soniodd yr Aelod Gweithredol Addysg am ddiwygiad i Dudalen 20, Eitem 14, Perfformiad Ysgolion 2019 ar gyfer: Diwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 (darpariaethol yn unig) a ddylai ddarllen 'ysgolion' ac nid 'awdurdodau' fel sy'n dilyn:-

 

Rhoddodd yr Aelod Gweithredol Addysg drosolwg o'r adroddiad a dywedodd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol ar gyfer yr Awdurdod. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda'r sylwadau a dywedodd fod ysgolion ym Mlaenau Gwent yn perfformio yn unol ag ysgolion tebyg yn rhanbarth y De Ddwyrain. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hyn oherwydd ymroddiad penaethiaid, athrawon a staff cymorth ysgolion.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol i'r uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

Materion Cyffredinol

5.

Cynadleddau a Chyrsiau pdf icon PDF 267 KB

Ystyried y Cynadleddau, Cyrsiau a Gwahoddiadau

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i bresenoldeb yn y dilynol:-

 

Lluoedd Arfog yng Nghymru a Gwobrau Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn

28 Tachwedd 2019

 

PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i'r Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog fynychu.

6.

Blaenraglen Gwaith - 29 Ionawr 2020 pdf icon PDF 492 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd/Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r flaenraglen gwaith ar gyfer 29 Ionawr 2020.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

7.

Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2020/21 pdf icon PDF 486 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gyflwynwyd i osod sylfaen y Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2020/21. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr opsiwn yn ceisio cymeradwyaeth i osod y sylfaen y Dreth Gyngor ar 20,662.455.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cyfrif sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 fel y manylir yn Atodiad 1 tablau 1 i 6 a sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer dibenion gosod treth yn 20,662.45.

 

8.

Monitro Cyllideb Gyfalaf, Ebrill i Medi, Blwyddyn Ariannol 2019/2020 pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg manwl o'r adroddiad sy'n amlinellu gwariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob portffolio o gymharu â chymeradwyaeth cyllid fel ar 30 Medi 2019.

 

Nododd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid 100% ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ac nad oedd angen adnoddau'r Cyngor ei hun fel canlyniad. Felly cynigiwyd y dylai'r £520,0009 gael ei ailddyrannu i gronfa gyfalaf wrth gefn.

 

Yn ychwanegol yn ystod 2019/20 derbyniodd y Cyngor cyllid Ysgogiad Economaidd o £444,465 gan Lywodraeth Cymru. Cynigiwyd y dylai'r cyllid hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer Rhaglen Gwella Unedau Diwydiannol a fyddai'n rhyddhau £280,000 o adnoddau'r Cyngor ei hun i'r gronfa cyfalaf wrth gefn i'w ddyrannu yn y dyfodol.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr arian ychwanegol i gael ei ailddyrannu i'r gronfa cyfalaf wrth gefn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef -

 

·       rhoi her briodol i'r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

·       parhau â'r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor;

·       nodi'r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb sydd yn eu lle i warchod cyllid yr Awdurdod; a

chymeradwyo'r cynigion cyllid yng nghyswllt prosiectau Rhaglen Wella Unedau Diwydiannol a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

9.

Monitro'r Gyllideb Refeniw 2019/2020, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2020 (fel ar 30 Medi 2019) pdf icon PDF 616 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy'n rhoi rhagolwg o'r sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a chyfeiriodd at yr wybodaeth yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a gymerwyd i symud tuag at gyllideb gytbwys fel y manylir yn yr atodiadau. Nododd y Prif Swyddog yr effaith ar y gyllideb a dywedodd fod y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir fel ar 31 Mawrth 2020 yn dangos amrywiad anffafriol bach o £7,200 yn erbyn cyfanswm y gyllideb net.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau y rhesymau am amrywiadau anffafriol mewn Addysg a'r Amgylchedd ac amlinellodd y camau gweithredu a gymerwyd tuag at yr amrywiad ffafriol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd y Prif Swyddog fod y portffolio Addysg wedi derbyn trosglwyddiad o £60,000 i gynorthwyo gyda chostau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sy'n mynychu ysgolion tu allan i Flaenau Gwent.

 

Croesawodd yr Arweinydd sefyllfa dda y gyllideb sy'n dangos rheolaeth gyllidebol ardderchog ac yn enghraifft dda o sut mae'r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a deiliaid portffolio wedi rheoli'r adnoddau a ddyrannwyd i'r Awdurdod. Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda'r sylwadau a wnaed a gobeithiai y medrid cynnal y sefyllfa yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a derbyn yr her briodol i'r deilliannau ariannol. Nodwyd y cynlluniau gweithredu a roddir yn Atodiad 4 i fynd i'r afael â'r amrywiadau anffafriol a ragwelir fel ar ddiwedd mis Medi 2019 a chymeradwyo'r trosglwyddiadau cyllideb a nodir yn Atodiad 5 sy'n fwy na £250,000.

 

10.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 95 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:-

 

GLYNEBWY

Ward Badminton – Cynghorydd C. Meredith

 

 

1.

Gr?p Cymorth Awtistiaeth One Life

£50

Ward Cwm – Cynghorydd D. Bevan a G. L. Davies

 

 

1.

Gayden Barrass

£200

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.

 

11.

Gweithgor Grantiau - 28 Tachwedd 2019 pdf icon PDF 225 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r wybodaeth a gynhwysir ynddo

12.

Rhaglen Ailsetliad Gynhwysfawr pdf icon PDF 492 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef:-

 

·       nodi'r diweddariad ar gyfranogiad cyfredol;

·       ymrwymiad parhaus ar gymorth drwy'r Rhaglen Ailsetliad Gynhwysfawr yn gymesur i gapasiti lleol gwasanaethau; a

·       derbyn diweddariadau pellach ar gynnydd a wnaed dan y cynllun.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Amgylcheddol

13.

Adroddiadau Gweithgareddau - Gorfodaeth Gorchymyn Sbwriel a Rheoli Cŵn ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2018/19 pdf icon PDF 681 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2 sef:- cymeradwyo ymestyn y contract cyfredol gyda Kingdom am 12 mis pellach (gyda chyfnod rhybudd o 2 mis) yn amodol ar wybodaeth gwasanaeth a chost y byddai angen ei fodelu fel rhan o adolygiad ehangach. (Byddai ymestyn y contract cyfredol yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd Caffael Strategol).

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

14.

Prosbectws Ynni pdf icon PDF 609 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyfeiriodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd at y straeon cyfoes yn y cyfryngau ar newid hinsawdd a dywedodd fod y Prosbectws Ynni'n dangos dull rhagweithiol y Cyngor i fod yn flaenllaw wrth ostwng ôl-troed carbon yr Awdurdod. Mynegodd yr Aelod Gweithredol ei ddiolch i'r swyddogion a baratôdd y Prosbectws Ynni a chanmolodd eu hymchwiliadau i'r ffynonellau ynni sydd ar gael.

 

Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod y prosiect yn cysylltu gyda phrosiect Pontio'r Bwlch a gwaith gan y Rheolwr Gyfarwyddwyr ar ôl-troed carbon y Cyngor. Byddai'r Prosbectws Ynni hefyd yn bwydo i'r Rhaglen Refit a byddai'n rhoi cyfleoedd adfywio pellach gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Cymoedd Technoleg. Teimlai Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd bod angen cysylltu gyda phartneriaid ac etholwyr ar y Prosbectws y medrid ei gysylltu gyda dyhead yr Awdurdod ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd.

 

I gloi, dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod y Cyngor yn flaenllaw gyda'r prosiect sylweddol hwn gyda rhai o'r swyddogion gorau yng Nghymru yn arwain ar y prosiect. Awgrymodd y dylai'r prosiect gael ei lansio gan fod nifer o gyfleoedd i gael eu hymchwilio mewn cymunedau a gydag ysgolion, busnesau a phreswylwyr.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol gyda'r sylwadau a wnaed a mynegodd ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru oedd wedi cefnogi'r Awdurdod ar y daith. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi gweithio'n galed a bod y Prosbectws Ynni yn dangos ymrwymiad yr Awdurdod.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Prosbectws Ynni yn brosiect rhagorol a chytunodd y byddai lansiad yn fanteisiol i hysbysu pobl am y gwaith y mae'r Awdurdod yn ei wneud. Cyfeiriodd yr Awdurdod at ymweliadau ganddo ef a'r Aelod Gweithredol Addysg i Gynghorau Ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a dywedodd fod disgyblion yn yr holl gyfarfodydd hyn wedi codi materion yn ymwneud â newid hinsawdd ac ailgylchu. Mae'n galonogol fod ein pobl iau mewn cymunedau yn gwybod am broblemau mor bwysig. Byddai Canolfan Addysg i weithio gydag ysgolion yn gynllun gwych i anelu ato yng nghynlluniau'r Awdurdod ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2 sef:- cymeradwyo'r prosbectws ynni (yn cynnwys y cynllun cyfathrebu cysylltiedig) gan alluogi dull rhagweithiol ar gyfer gwaith y cyngor i gynyddu'r ddibyniaeth ar ffynonellau adnewyddadwy o ynni a datblygu modelau busnes ac ynni cymunedol cysylltiedig.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

15.

Sicrwydd Ansawdd i Ddiogelu mewn Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (LGES) pdf icon PDF 472 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Nododd yr Aelod Gweithredol Addysg yr adroddiad sy'n amlinellu'r protocol sicrwydd diwygiedig ar gyfer trefniadau diogelu mewn Gwasanaethau Addysg llywodraeth leol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y canfyddiadau o'r broses yn ddefnyddiol a byddai'n bwydo i brosesau hunan-arfarnu'r awdurdod lleol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

16.

Defnyddio Cronfeydd Cyffredinol wrth Gefn a Chronfeydd wedi'u Clustnodi wrth Gefn 2019/2020 pdf icon PDF 465 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r adroddiad a atodwyd am y cynnydd bwriadol a ragwelwyd o'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol i 4.58% (uwch y lefel targed o 4%) ar gyfer 2019/2020 a blynyddoedd y dyfodol yn cryfhau Cydnerthedd Ariannol y Cyngor. Ystyriodd y Pwyllgor Gweithredol effaith y byddai'r amrywiad niweidiol £0.007m a ragwelir ar gyfer 2019/2020 yn ei gael ar darged y Gronfa Gyffredinol wrth Gefn a her pe byddai gorwariant y gyllideb yn parhau ynghyd â gweithredu'r cynllun gweithredu priodol ar gyfer gwasanaethau lle bo angen.

 

17.

Perfformiad Absenoldeb Salwch pdf icon PDF 907 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at drafodaethau yn y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yng nghyswllt monitro absenoldeb ac o fis Ionawr 2020 bydd pob Pwyllgor Craffu yn cael adroddiadau adolygu salwch cyfarwyddiaethau unigol i'w hystyried fel rhan o'u Blaenraglen Gwaith. Byddai trosolwg o'r adroddiadau hyn hefyd yn bwydo i'r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer trafodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi perfformiad absenoldeb salwch staff ar gyfer 2018/19 a'r camau gweithredu a gynigir.

 

 

18.

Arolwg Staff 2019 - Crynodeb o'r Canlyniadau pdf icon PDF 521 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Prif Swyddog Masnachol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

19.

Adroddiad ar y Cyd Cyllid a Pherfformiad Chwarter 1 a 2 (Ebrill i Medi) pdf icon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Eitemau Monitro - Addysg

20.

Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), Adroddiad Gwerth am Arian, Blwyddyn Ariannol 2018/19 pdf icon PDF 646 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

21.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2019 pdf icon PDF 529 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg y rhoddwyd Ysgol Sylfaen Brynmawr mewn mesurau arbennig ers cyhoeddi'r adroddiad, yn dilyn Arolwg Estyn ym mis Hydref. Nododd yr Aelod Gweithredol fod yr ysgolion yn categorïau coch ac oren wedi gwneud cynnydd cadarnhaol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod nifer yr ysgolion gwyrdd wedi cynyddu ers 2017 gyda 4 ysgol, 8 ysgol yn 2018 ac 11 ysgol yn 2019. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod 2 ysgol yn y categori coch, un gyda phroblemau cymhleth, ac y byddai'r ysgolion hyn yn parhau i gael eu cefnogi i sicrhau gwelliannau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad i gyfrannu at yr asesiad parhaus o effeithlonrwydd drwy wneud argymhellion priodol pellach ar gyfer gweithredu.

 

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Cymdeithasol

22.

Cynnydd ar Weithredu Strategaeth Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal 2017-2020. pdf icon PDF 806 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

23.

Adroddiad Diogelu Oedolion 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf icon PDF 457 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

24.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf icon PDF 699 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwsanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r dull gweithredu a'r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad.

 

25.

Cyfleuster Profi Uwch Dechnoleg Glynebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Hysbysodd yr Aelod Gweithredol a Datblygu Economaidd y Pwyllgor Gweithredol am y gwaith helaeth a wnaed gan yr ymgynghorwyr a'r cyfleoedd i gael eu hymchwilio. Nododd bwysigrwydd symud ymlaen â'r ymchwiliadau i ganfod os oedd potensial ar gyfer datblygu pellach a dywedodd mai'r lefel nesaf fyddai ymchwilio buddsoddiad.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y trefnwyd cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod y rhaglen a dywedodd fod Bwrdd Cymoedd Technoleg wedi dangos cefnogaeth i'r cyfleusterau. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y gwahanol gwmnïau y cysylltwyd â hwy i fesur diddordeb a dywedodd y bu'n bwysig y cymerwyd y camau dechreuol hyn i ymchwilio pob opsiwn. Pe byddid yn cael cymeradwyaeth ar gyfer profion marchnad, byddai'r Awdurdod yn cadw'r holl dystiolaeth briodol. Fodd bynnag, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol os nad yw'r broses yn cael canlyniad cadarnhaol, y byddai'n fodlon fod pob opsiwn wedi ei ymchwilio er mwyn ceisio'r cyfleoedd gorau oll ar gyfer Blaenau Gwent.

 

Cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr gyda'r sylwadau a wnaed a nododd y gwaith da a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Ategodd y Rheolwr Gyfarwyddwr bwysigrwydd dynodi tystiolaeth  gan y byddai ei angen ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Byddai hefyd yn dangos y bu'r Cyngor yn gadarn wrth weithio fel Cyngor gyda meddwl masnachol.

 

Nododd yr Arweinydd y sylwadau a chanmolodd swyddogion ar yr holl waith a wnaed. Teimlai'r Arweinydd y byddai'n hanfodol yn y dyfodol fod cyllid yn cael ei fonitro fel rhan o'r tîm mewnol a gofynnodd hefyd am i faterion ariannol gael eu cynnwys fel rhan o drafodaethau gyda'r Pwyllgor Gweithredol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn yr adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw'r Awdurdod ac opsiwn, 3, sef cytuno ar brofion marchnad i ddynodi partner sector preifat a datblygu'r cynllun mewn partneriaeth i sefyllfa lle gellir penderfynu os oedd achos busnes i symud ymlaen.

 

 

26.

Adroddiad Perfformiad Silent Valley Waste Services Cyf

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf bydd cyhoeddus o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw'r Awdurdod a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.