Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Cynnig Ymgynghori ar Addysg Cyfrwng Cymraeg PDF 511 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol i ymgynghori ar greu ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda 210 lle yn Nhredegar/Cwm Sirhywi. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gefndir gweledigaeth Llywodraeth Cymru a’r strategaeth genedlaethol.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ynghyd â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Blaenau Gwent 2017-20. Mae’r WESP yn gydnaws gyda fframweithiau strategol Llywodraeth Cymru a hefyd fframwaith strategol y Cyngor ar y Gymraeg ac amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol flaenoriaethau strategol WESP fel y’u manylir yn yr adroddiad.
Ychwanegwyd mai Blaenau Gwent yw’r unig Awdurdod yng Nghymru gyda dim ond un ysgol gynradd Gymraeg a phe byddai’r Cyngor yn penderfynu peidio cynyddu addysg Cymraeg, mai cwmpas cyfyngedig oedd ar gyfer twf a datblygu’r Gymraeg yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd fod pob awdurdod cyfagos eisoes wedi cynnal neu’n bwriadu cynnal ymgynghoriad ar ddarpariaeth gynradd Gymraeg yn eu hardaloedd eu hunain.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ymhellach am yr adroddiad a chyfeiriodd Aelodau at bedair elfen allweddol y cynnig. Os caiff ei gymeradwyo, byddai amserlen yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Iau 17 Rhagfyr 2020 ac yn dod i ben ddydd Gwener 29 Ionawr 2021. Mae’r amserlen hon yn bodloni gofyniad cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru o fod yn ‘fyw’ dros 20 diwrnod gwaith ysgolion.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol cyfalaf yn gysylltiedig gyda’r cynnig gan y dyfarnwyd cyllid o 100%. Dyfarnwyd mwy o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o Grant Cyfalaf Gofal Plant. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai goblygiadau i’r gyllideb refeniw yn gysylltiedig gyda’r cynnig yn y tymor canol i’r hirdymor ac y byddai angen cynyddu cyllidebau ysgolion unigol o flwyddyn ariannol 2023/2024. Byddai’r cyllid gofynnol yn cynyddu’n flynyddol wrth i’r ysgol dyfu i gapasiti. Byddai effaith ariannol gadarnhaol ar gludiant rhwng cartref ac ysgol gan na fyddai cludo disgyblion o ardaloedd Ebwy Fawr a Thredegar i Fro Helyg.
Byddai’r effaith ariannol, pe cytunid ar y cynnig, yn cael ei gynnwys o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd y cyllid a gwariant refeniw ei fodelu dros 7 mlynedd a rhoddir y manylion yn atodiadau’r adroddiad.
Ar wahoddiad yr Arweinydd, fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg amlinellu Atodiadau 3 a 4 sy’n rhoi manylion goblygiadau refeniw y cynigir a ffefrir.
Diolchodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am y trosolwg manwl o’r adroddiad a’r atodiadau. Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol i symud ymlaen i ymgynghoriad i geisio barn rhanddeiliaid a chanfod os oes galw am ysgol Gymraeg newydd. Dywedwyd fod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi cefnogi’r opsiwn a ffefrir. Gofynnwyd yno os y cynhelid yr ymgynghoriad ar draws y Fwrdeistref ac os byddai sesiwn arbennig i lywodraethwyr ar y cynnig. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg wedi cadarnhau y cynhelid yr ... view the full Cofnodion text for item 4. |