Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mercher, 26ain Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, C. Meredith a T. Smith.

 

Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant

Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Sefyllfa Ddiweddaraf Covid mewn Addysg ac ar draws y Stad Ysgolion

Diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ddiweddariad llafar ar sefyllfa Covid mewn addysg ac ar draws y stad ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod 584 achos positif fesul 100,000 o’r boblogaeth ar hyn o bryd, sy’n golygu bod Blaenau Gwent yn y pumed safle ar draws Cymru yng nghyswllt achosion Covid. Mae’r lefel yn parhau’n uchel ond yn sylweddol is nag oedd ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Cytunodd Tîm Rheoli Digwyddiadau Gwent fod lefel rhybudd ysgolion yn parhau yn y categori risg uchel iawn. Roedd nifer achosion ymysg plant ysgol wedi cynyddu i 186 achos positif ac mae Covid wedi effeithio ar 81 o staff, sef 6.5% o’r holl weithlu o fewn ysgolion.

 

Mae sefyllfa Blaenau Gwent ar gategoreiddiad coch Melyn a Gwyrdd Llywodraeth Cymru yn Wyrdd ar hyn o bryd gan fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi cadw dysgu wyneb i wyneb. Fodd bynnag, mae pedair ysgol wedi cyflwyno elfennau o ddysgu cyfunol yn ddiweddar.

 

Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llythyr i bob ysgol yn nodi y byddai symud cenedlaethol i lefel rhybudd 0 o 28 Ionawr 2022. Byddai dull gweithredu wedi’i gynllunio’n ofalus ac mewn camau ar draws ysgolion yn y dyfodol. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gostwng y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion positif i bum diwrnod.

 

Disgwylir i ysgolion barhau i ddefnyddio Fframwaith Rheoli Haint Ysgolion yng nghyswllt gweithredu gan ysgolion lleol o amgylch achosion positif.

 

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau cynlluniau i gynnal arholiadau ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 yn nhymor yr haf. Bwriedir addasu ffiniau gradd arholiad i ddangos y bu tarfu ar addysgu llawer o ddysgwyr dros y ddwy flynedd diwethaf a chafodd hyn ei groesawu’n gyffredinol ar draws y sector Addysg yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg sicrwydd i’r Aelod y disgwylir gweithredu lleol yng nghyswllt Fframwaith Rheoli Haint Ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae’r awdurdod lleol yn cefnogi ysgolion lle maent yn gorfod cymryd penderfyniadau am ddysgu cyfunol yng nghyswllt cyfathrebu gyda rhieni a gofynion iechyd a diogelwch.

 

Yng nghyswllt trwyddedau a dysgwyr dan anfantais digidol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod symud offer gan y dysgwyr hynny oedd wedi gadael addysg a’r dysgwyr hynny sy’n dechrau ar addysg statudol yn cael ei reoli ac yn rhedeg yn gymharol llyfn. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod y broses yn gweithredu’n llyfn ac maent yn cynnal adolygiadau rheolaidd. Mae defnydd a galw ar gyfer unedau a hefyd ddyfeisiau mi-fi wedi gostwng yn sylweddol yn ystod tymor yr hydref wrth i ysgolion geisio darparu parhad dysgu ar y safle, ond maent yn monitro’r sefyllfa yn rheolaidd ac yn gweithio’n agos iawn gydag ysgolion ynghylch gweithredu.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 268 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 30 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 198 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021, yn cynnwys:-

 

Eitem 10 – Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes eu bod yn gweithio gydag ysgolion bob blwyddyn i adolygu unrhyw faterion oedd ganddynt ynghylch capasiti ac addasu yn unol â hynny, gan edrych ar gynlluniau hunan-gymorth, datblygu cynlluniau gweithredu i ostwng lleoedd gwag a hefyd i sicrhau fod digon o leoedd ar gyfer twf yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

7.

Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Addysg pdf icon PDF 543 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg sy’n cyflwyno Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ar gyfer Tymor y Gwanwyn a Thymor yr Haf.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Teimlai Aelod y dylai cynnydd ar y saith argymhelliad ar adroddiad diwethaf Estyn fod wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Cododd bryderon am ddata perfformiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyhoeddi mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer blynyddoedd academaidd 2020/21 a 2021/22 gan ddweud na fyddid yn defnyddio data dyfarniadau cymhwyster i adrodd ar gyrhaeddiad, ond bod yr adroddiad yn cynnwys y data hwnnw. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd cynnydd ar y saith argymhelliad a amlygwyd gan Estyn ei rannu’n flaenorol gydag Aelodau fel rhan o’r adroddiad hunanwerthuso. Gellid hefyd gyflwyno hyn yn Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar Wasanaethau Addysg yn y dyfodol. Yng nghyswllt data perfformiad ni phriodolir yr wybodaeth a gyflwynir i unrhyw ysgol a dim ond ar gyfer dibenion hunanfarnu ac nid ar gyfer materion atebolrwydd ehangach y’i defnyddid. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yr wybodaeth hon drwy raddau a benderfynid gan y ganolfan ac ni fedrir ei gymharu ond ei bod yn asesiad i symud ymlaen a rhoi llinell sylfaen ar berfformiad cyfredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gorff llywodraethu Canolfan yr Afon, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai Aelodau yn gwybod o adroddiad Gwella Ysgolion fod Canolfan yr Afon dros y 12 mis diwethaf wedi dod yn ffurfiol yn ysgol sy’n achosi consyrn. Fel rhan o bwerau ymyriad yr awdurdod lleol, maent wedi penodi Llywodraethwyr ychwanegol ar ran yr awdurdod lleol, yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr sydd wedi cryfhau llawer ar y corff llywodraethu. Teimlai’r Cyfarwyddwr yn sicr fod y corff llywodraethu presennol yn dechrau cymryd camau am dderbyniadau, lleoli dysgwyr ac ystyried cynllunio datblygiad ysgol i wella’r gosodiad ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Yng nghyswllt adrodd cynnydd ar y cwricwlwm newydd, dywedodd y Cyfarwyddwr y cyflwynir elfennau o’r newidiadau dechreuol am y cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022 a chadarnhaodd y byddai diweddariadau ar ddiwygio ADY, diwygio cwricwlwm a diwygio cymwysterau yn dod yn rhan ffurfiol o’r dulliau adrodd gan symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd newydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y dylid ehangu gweithio agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt y bill ADY newydd, tebyg i fod gweithwyr cymdeithasol ar gael mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr rhwng adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r adroddiad hwn y byddent yn medru dangos gweithio traws-gyfarwyddiaeth a fyddai’n cael ei gryfhau ar draws addysg a gofal cymdeithasol, yn neilltuol gan eu bod yn delio gyda’r un plant a’r bobl ifanc mewn lleoliadau cymunedol ac ysgolion.

 

Croesawodd Aelod weithio agosach gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn neilltuol o amgylch iechyd a llesiant gan fod rhai plant gyda phroblemau tebyg i broblemau ymddygiad, anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl wedi bod yn aros am dros 18 mis i gael apwyntiad gydag ymgynghorwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu’r sefyllfa ynghylch cydweithio gyda gwasanaethau iechyd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 564 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y Cynllun Gweithredu Adfer ac Adnewyddu wedi ei ddiweddaru (Atodiad 3) a’r Trosolwg Un Dudalen wedi ei ddiweddaru (Atodiad 4), sy’n trin y blaenoriaethau a ddynodwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer adferiad ac adnewyddu, fel rhan o’r ymateb corfforaethol i sefyllfa Covid-19.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg i gwestiynau a godwyd:-

  • Y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch gweithgaredd rheoleiddiol Estyn oedd y byddai arolygiadau awdurdodau lleol yn parhau ond na fyddai gweithgaredd arolygu mewn ysgolion yn dechrau tan ar ôl hanner tymor mis Chwefror.
  • Yng nghyswllt cymariaethau awdurdod lleol, oherwydd bod mesurau perfformiad wedi eu llacio, ni fedrant feincnodi ar hyn o bryd ac nid ydynt yn edrych ar roi gwybodaeth perfformiad ar hyn o bryd a fyddai’n ystyried naill ai wybodaeth am deulu o ysgolion neu deulu o awdurdodau lleol gan nad yw’r data hwnnw ar gael yn rhwydd.
  • Mae absenoliaeth ar hyn o bryd yn agos at 6.5% o’r gweithlu mewn ysgolion ond ychydig o benaethiaid ysgol y mae Covid wedi effeithio arnynt.
  • Yng nghyswllt parcio ceir ar safleoedd ysgol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod gweithgor rheoli traffig yn ei le i edrych ar faterion allweddol mewn safleoedd ysgol unigol ac y caiff ysgolion eu blaenoriaethu ar sail risg a diogelwch ac ar rota ar gyfer y broses gorfodaeth traffig. Maent yn gweithio’n agos gydag ysgolion unigol a Phriffyrdd i edrych ar gynlluniau rheoli traffig a mesurau lliniaru ar gyfer pob un o’r ysgolion hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 74 – Gwasanaethau Atebolrwydd Ysgolion a dywedodd fod Partneriaid Gwella Ysgolion yn awr wedi cymryd lle Cynghorwyr Her EAS mewn ysgolion. Byddai’r Rheolwr Gwasanaeth yn sicrhau y caiff hyn ei ddiweddaru mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad, y dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir.

 

9.

Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Ieuenctid 2020 – 2021 pdf icon PDF 519 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phartneriaethau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar waith y Gwasanaeth Ieuenctid, gan ddangos sut mae’r Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol o ddarparu gwasanaeth ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25, gwasanaeth cwnsela ar gyfer rhai 11-25 oed ac yn cyflwyno ar y Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.3 a holodd am gynnydd ar ddatblygiadau clwb ieuenctid ym Mrynmawr. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod ailstrwythuro yn cael ei wneud gyda’r tîm Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig i sicrhau y caiff y bobl gywir gyda’r setiau sgiliau cywir eu penodi. Y bwriad yw mynd â’r gwasanaethau i leoliadau yn y gymuned fel bod pobl ifanc yn fwy cysurus gyda a gweithio gyda nhw ar gorneli stryd ac yn y blaen. Byddai hyn yn ymestyn cyrraedd y gwasanaeth ac y byddai’n effeithio ar ardaloedd heb glybiau ieuenctid tebyg i Frynmawr.

 

Dywedodd Aelod fod Gwasanaethau Ieuenctid yn darparu gwasanaeth gwych sy’n gweithio’n dda ac mae ei angen ym mhob tref yn y fwrdeistref. Teimlai mai’r cyfan mae pobl ifanc ei eisiau yw lle diogel i gysgodi i ymgynnull ac mae gweithwyr allgymorth yn gwneud gwaith rhagorol yn rhyngweithio gyda phobl ifanc ar eu lefel.

 

Cododd Aelod bryder am y risg i gyllid ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar sicrhau cyllid Ffyniant Gyffredin. Dywedodd yr Aelod fod y tîm Gwasanaethau Ieuenctid yn gwneud gwaith rhagorol a bod angen ei gefnogi i sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol, gan ei bod yn bwysig gwneud mwy ar gyfer pobl ifanc ledled y fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1.1 diweithdra ieuenctid. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bu cynnydd yn nifer yr achosion o bobl ifanc sy’n dibynnu ar gyfeillion a theulu i hwyluso llety oherwydd y pandemig ond nad oedd hynny wedi ei ddynodi fel digartrefedd gwirioneddol. Daeth yn broblem gynyddol ar draws y fwrdeistref ac maent yn monitro’r sefyllfa yn agos gan ei fod yn effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc. Yng nghyswllt tai blaenoriaeth ar eu cyfer, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phartneriaethau yn aml yn cyfeirio pobl ifanc at gydweithwyr yn yr adran Tai.

 

Soniodd y Cadeirydd am waith rhagorol y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phartneriaethau a’i thîm yng nghyswllt tlodi mislif. Cydnabu’r Cyfarwyddwr hefyd waith y Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes sy’n arwain at y maes hwn o waith tu allan i leoliadau cymunedol a’r gwaith sy’n digwydd yn uniongyrchol o fewn ysgolion.

 

Yng nghyswllt gweithgareddau gwyliau ysgol, atgoffodd y Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes yr aelodau am raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol a dywedodd eu bod yn gweithio’n agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol ac ysgolion i ddynodi lleoliadau sy’n diwallu’r meini prawf ac sydd ag adnoddau staff a chyfleusterau addas i gynnig y ddarpariaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 9.