Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 30ain Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  G. Collier, M. Day, L. Elias, J.P. Morgan a D. Wilkshire.

 

Aelod Cyfethol

T. Baxter

 

Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes

Rheolwr Gwella Strategol Addysg

 

Croeso

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Julia Carmichael, a benodwyd yn ddiweddar yn Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 292 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021.

 

Eitem 10 – Blaenraglen Gwaith – 30 Tachwedd 2021

 

Yng nghyswllt y cais am wybodaeth parthed nifer y lleoedd gwarged i gael eu cynnwys yn adroddiad Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21, dywedodd Aelod na chynhwyswyd gwybodaeth yn ymwneud â nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd, ac mai dim ond gwybodaeth am ysgolion uwchradd a roddwyd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 19 Hydref 2021 pdf icon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021, yn cynnwys:-

EItem 8 – Gwaharddiadau Disgyblion

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o’r wybodaeth a roddwyd yng nghyswllt data ar gyfer gwaharddiadau plant sy’n derbyn gofal. Byddai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn ceisio cael eglurhad os yw hyn yn ddata cyfredol a rhoi manylion pellach ar yr wybodaeth a roddwyd ynghylch rhesymau ‘eraill’ am waharddiadau e.e. defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y gellid rhoi mwy o fanylion dienw am achosion penodol ynghylch gwaharddiadau i roi peth gwybodaeth gefndir. Mae pryder cynyddol yng nghyswllt negeseuon cyfryngau cymdeithasol ond sicrhaodd Aelodau eu bod yn cefnogi ysgolion i fod mor wyliadwrus ag sydd modd. Lluniwyd llythyr i rieni yn eu cynghori i fod yn neilltuol o wyliadwrus am negeseuon cyfryngau cymdeithasol eu plant, gan fod hyn yn cael effaith ar lesiant ysgolion a staff.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol i’r uchod, i nodi’r ddalen weithredu

 

6.

Sefyllfa Diweddaru COVID mewn Addysg ac ar draws y Stad Ysgolion

Derbyn diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar byr ar y sefyllfa addysg ac ar draws y stad ysgolion mewn ymateb i COVID-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cyfraddau amledd cyffredinol Blaenau Gwent yn parhau i ostwng a’u bod ar hyn o bryd yn 412 fesul 100,000 o boblogaeth a mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn 20fed yng Nghymru. Mae hon yn sefyllfa sy’n gwella er fod Tîm Rheoli Digwyddiadau Gwent yn cytuno fod y risg rhanbarthol yn parhau’n uchel ar gyfer ysgolion ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae nifer yr achosion positif yn 58 ar hyn o bryd ac mae achosion gweithlu yn gyffredinol sefydlog gyda llai na 40 o staff wedi effeithio arnynt ar draws holl ysgolion Blaenau Gwent. Dywedodd fod dwy ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd wedi cyflwyno elfennau o ddysgu cyfunol a bod hyn yn cael ei adolygu’n barhaus i sicrhau bod dysgu wyneb i wyneb llawn yn dychwelyd i’r lleoliadau hynny pan fydd yn ddiogel.

 

Bu nifer o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ynghylch yr amrywyn Omicron, yn bennaf yn ymwneud â geiriad cryfach ar gyfer defnyddio gorchuddion wyneb. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i ysgolion Blaenau Gwent gan fod staff a disgyblion uwchradd eisoes wedi bod yn defnyddio gorchuddion wyneb dan do.

 

Hysbysodd Aelodau ein bod yn dal i ddisgwyl cyngor cenedlaethol am ystyriaeth cynnig ail ddogn o’r brechlyn i rai 12 i 15 oed. Os symudir ymlaen â hyn, byddai cyfathrebu gydag ysgolion gan y byddai hyn yn effeithio ar ddysgwyr mewn lleoliadau uwchradd.

 

Daeth i ben drwy ddweud fod hyn yn gyffredinol yn sefyllfa sy’n gwella ond mae achos pryder yn parhau, yn neilltuol am yr amrywyn newydd Omicron sy’n dod i’r amlwg.

 

7.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Diweddariad Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf icon PDF 521 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i adolygu’r cynnydd ar ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol ac adnewyddu polisi cysylltiedig.

 

Siaradodd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad rhagorol ond teimlai y dylid amlygu yn yr adroddiad fod diwygiadau ADY yn anelu ar gyfer y gorau i bob disgybl yn cynnwys y mwy galluog a thalentog. Cytunodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant gyda sylwadau’r Aelod ac esboniodd gyda diwygiadau’r ADY na fyddai pobl ifanc mwy galluog a thalentog o reidrwydd yn derbyn Cynllun Datblygu Unigol a phan yn edrych ar ddarpariaeth gyffredinol a thargedig mae angen iddynt sicrhau fod yr ymarfer sy’n digwydd mewn ysgolion yn galluogi plant mwy galluog i ffynnu. Maent yn gweithio gyda’r Gwasanaeth ADY a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol i nodi’n glir y cyfrifoldebau ar gyfer pob un o’r ardaloedd hyn i sicrhau pan ânt i ysgolion nad ydynt ddim ond yn edrych ar gefnogi’r bobl ifanc hynny a all fod yn cael trafferthion, ond hefyd ar gefnogi disgyblion sydd wirioneddol angen cael eu gwthio i gael y profiadau hynny a gafodd eu cyfoethogi.

 

Dywedodd Aelod y cafodd y Ddeddf ei gweithredu’n rhannol ers mis Medi 2021 a holodd os y cafodd yr holl gyngor ac arweiniad eu defnyddio i sicrhau fod y cod yn cael ei weithredu’n gywir. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant y cafodd canllawiau yn ddiweddar ac y cynhaliwyd hyfforddiant ar gyfer penaethiaid ysgolion ac arweinwyr awdurdodau lleol. Fodd bynnag, bu llawer o bryderon posibl am y canllawiau, yn neilltuol ganllawiau i rieni gan nad oedd hyn yn cyd-daro gyda’r negeseuon a roddodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol. Codwyd pryderon a disgwylir ymateb gan Lywodraeth Cymru i gadarnhau os mai hyn yw’r canllawiau pendant.

 

Dywedodd Aelod fod nifer o ysgolion yn gweithio’n dda iawn ar fathemateg a dywedodd fod disgyblion mathemateg yn cael eu mentora mewn rhai ysgolion, a theimlai y gellid ystyried briffiad rywbryd yn y dyfodol i edrych ar yr hyn mae ysgolion yn ei wneud yng nghyswllt mathemateg. Soniodd hefyd am weithio ysgol i ysgol a sut mae cydweithio rhwng ysgolion yn gweithio’n dda.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad, y dogfennau cysylltiedig a’r llwybr gweithredu a gynigir.

 

8.

Presenoldeb Ysgolion pdf icon PDF 701 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a  Chynhwysiant a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ddata presenoldeb ar lefel ysgolion Cynradd ac Uwchradd Blaenau Gwent ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 a hanner tymor cyntaf blwyddyn academaidd 2021-22.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ostwng gwaharddiadau a theimlai na fyddai gostwng gwaharddiadau yn helpu presenoldeb ac y gall ei lesteirio, teimlai ei bod yn bwysig cadw rheolaeth o ysgolion, yn arbennig ar ôl dychwelyd ar ôl COVID, gan fod angen i ddisgyblion deimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac mai dim ond os yw popeth arall wedi methu y dylai penaethiaid ysgolion ddefnyddio gwaharddiadau. Holodd hefyd am ddata ar gyfer disgyblion sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref.

 

Yng nghyswllt gostwng gwaharddiadau, teimlai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod yr adroddiad yn cyfeirio at uchelgais yn ymwneud â mynd i mewn yn gynnar ar atal  i sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu cefnogi cyn cyrraedd pwynt argyfwng a gwaharddiadau posibl. Yng nghyswllt y rhifau sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref, bu cynnydd a byddai’r Swyddog yn rhoi’r union ffigurau i Aelodau maes o law. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio mwy ar ddysgwyr yn y cartref ac wedi cynnal adolygiad o’r gefnogaeth i alluogi ymyriad awdurdodau lleol i wirio prosesau a roddodd rhieni ar waith.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn bwysig gwybod y rhesymau am ddiffyg presenoldeb a bod Swyddogion yn awr yn canolbwyntio ar hyn. Teimlai fod Blaenau Gwent yn perfformio’n dda ar bresenoldeb disgyblion yng nghyswllt y ffigurau cenedlaethol, fodd bynnag bu gostyngiad ym mhresenoldeb disgyblion ym mis Gorffennaf a theimlai y gallai hyn fod oherwydd fod rhieni wedi bod yn mynd â’u plant ar wyliau’n gynnar a holodd os y cynhaliwyd astudiaeth genedlaethol ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y gostyngiad mewn presenoldeb disgyblion ar gyfer mis Gorffennaf yn debyg yn ganlyniad rhieni’n manteisio ar lacio cyfyngiadau COVID i gymryd gwyliau. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu adroddiad a rydym yn dal i ddisgwyl hynny a theimlai y byddai’n ddiddorol gweld os rhoddwyd yr un rheswm ar draws Cymru ar gyfer y gostyngiad ym mhresenoldeb disgyblion. Dywedodd na chaniateir iddynt ddirwyo rhieni ar hyn o bryd gan fod angen i gefnogi teuluoedd a’u llesiant.  Fodd bynnag mae rhai pobl ifanc oedd yn absennol yn aml cyn COVID a bod rhai teuluoedd wedi defnyddio COVID fel rheswm dilys i beidio anfon eu plant i’r ysgol ac na fedrid herio’r rhesymau hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y cafodd ei ddarparu.

 

9.

Adroddiad Ymgynghori Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd Blaenau Gwent pdf icon PDF 598 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar ddrafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd Blaenau Gwent gan roi barn, sylwadau ac ymatebion yn unol â’r broses ymgynghori.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, dywedodd Aelod y dylent ystyried gwneud y Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion a darparu adnoddau ychwanegol i hwyluso hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod darparu dysgu Cymraeg eisoes yn elfen statudol yn y cwricwlwm a theimlai ei bod yn hollbwysig i gyflwyno darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mor agos ag sy’n bosibl o fewn y system addysg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yng nghyswllt cynnydd ar ddatblygiadau ar gyfer yr ysgol Gymraeg yn Nhredegar, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod cynnydd yn mynd yn dda, roedd peth gwaith ymchwilio ar y safle arfaethedig wedi rhoi sicrwydd fod y safle yn addas ar gyfer ei ddatblygu a’u bod ar hyn o bryd yn dal ar y trywydd i gael yr ysgol newydd ar gael o fis Medi 2023. Gobeithiai y gellid ystyried ymweliadau safle ar ôl y pandemig ar gyfer Aelodau i weld rhai o’r arferion sy’n mynd rhagddynt o fewn ysgolion.

 

Dywedodd Aelod fod y rhan fwyaf o ysgolion ym Mlaenau Gwent yn defnyddio Cymraeg achlysurol drwy gydol yr ysgol a chredai fod pob ysgol uwchradd yn addysgu’r Gymraeg, o flwyddyn 7 mae opsiynau i ddisgyblion rhwng Cymraeg llawn-amser neu Gymraeg cwrs byr fel bod pob plentyn yn sefyll arholiad Cymraeg. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiad fod disgwyl i ysgolion ddefnyddio Cymraeg achlysurol a bod pob person ifanc o’r dosbarth meithrin lan yn cael gwersi Cymraeg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg ei bod yn bwysig cydnabod yn y ddogfen Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y flaenoriaeth am y Gymraeg fel ail iaith a hyrwyddo hynny ymysg ysgolion cyfrwng Saesneg i gynyddu faint o ddefnydd a wneir o’r Gymraeg mewn lleoliadau ysgol.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig fod plant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg yn cael eu cefnogi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod gallu rhieni i fedru cyfathrebu yn Gymraeg yn y cartref yn ystyriaeth bwysig i ddysgwyr fedru defnyddio’r iaith mewn ffordd trochi. Dywedodd fod elfen o ddarpariaeth Dysgu Oedolion y Gymuned oedd angen ei gryfhau yn y dyfodol i sicrhau fod gan bobl y sgiliau cywir i helpu i gefnogi eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y drafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10-mlynedd.

 

10.

Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21 pdf icon PDF 634 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar reoli lleoedd disgyblion a’r stad ysgolion, drwy gydol sesiwn academaidd 2020/21.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am y data ar enedigaethau byw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg nad yw’r Cyngor hyd yma wedi derbyn data genedigaethau byw 2020/21 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yng nghyswllt cynllunio ar gyfer lleoedd ysgol maent hefyd yn edrych ar ddadansoddi tueddiadau gan fod rhai ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau. Mae’r cyfraddau genedigaethau a’r dadansoddiad tueddiadau yn rhoi darlun cyffredinol sy’n dangos amcanestyniadau tebygol ar gyfer lleoedd gwag ar draws y stad ysgolion. Dywedodd eu bod yn disgwyl i gyfanswm y boblogaeth disgyblion i gynyddu a’u bod hefyd yn dechrau gweld rhai tueddiadau cadarnhaol ynghylch mewnfudo i’r fwrdeistref sirol.

 

Cyfeiriodd Aelod at leoedd gwag ac roedd yn siomedig na roddwyd gwybodaeth ar gyfer ysgolion cynradd a gofynnodd i hyn fod yn bwynt gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg fod yr wybodaeth yn y tabl ar dudalen 325 yn cyfeirio at ysgolion uwchradd. Dywedodd y paratowyd tabl tebyg ar gyfer y sector cynradd a byddai’n sicrhau y caiff hyn ei rannu gydag Aelodau. Roedd lleoedd gwag yn y sector cynradd oddeutu 29% sydd wedi gostwng yn sylweddol erbyn hyn.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at arolygon cyflwr sy’n dangos fod cyflwr ysgolion Blaenau Gwent wedi gwella’n sylweddol iawn dros gyfnod. Cyfeiriodd at ddadansoddiad tueddiadau a holodd os y caiff gwaith ei wneud gyda rhieni i rannu’r gwelliannau a wnaed i ysgolion i roi hyder iddynt anfon eu plant i ysgolion Blaenau Gwent, i ostwng allfudo gan fod nifer disgyblion yn effeithio ar gyllid ysgolion. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y data yn cynnwys dadansoddiad tueddiadau a’u bod yn gweithio gyda rhieni i roi sicrwydd a hyder iddynt, wrth i ddysgwyr bontio o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd, bod y lleoliadau uwchradd mewn sefyllfa dda o safbwynt ansawdd yr amgylchedd dysgu. Dywedodd fod blwyddyn 7 Cymuned Ddysgu Abertyleri eleni wedi derbyn 160 o ddysgwyr a fu’n welliant sylweddol yn y galw am leoedd i’r ysgol.

 

Holodd Aelod sut y caiff Ysgol Penycwm a Chanolfan yr Afon eu hasesu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y cynyddwyd capasiti Ysgol Penycwm yn ddiweddar i 175 a bod capasiti Canolfan yr Afon yn 64. Fel ysgolion arbennig, caiff y dysgwyr o fewn y lleoliadau hynny eu lleoli drwy’r Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae’n seiliedig ar anghenion a gofynion dysgwyr.

 

Yng nghyswllt Cymuned Dysgu Ebwy Fawr, dywedodd y Cadeirydd fod y data ar gyfer Ionawr 2022 yn 992 ac wedi gostwng i 943 ar gyfer Ionawr 2028 a chododd bryderon fod y data yn gostwng gyda’r holl ddatblygiadau preswyl newydd ym Mlaenau Gwent. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y ffigurau yn seiliedig ar y boblogaeth ddisgyblion y disgwylir iddynt ddod drwy’r system, sy’n dangos cwymp bychan yn yr ardal honno. Byddai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 397 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 1 Chwefror 2022 yn sylweddol a chynigiodd y dylid trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu i ystyried Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Ieuenctid, yr adroddiad Adfer ac Adnewyddu ac Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2021 y Gyfarwyddiaeth Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer 1 Chwefror 2022 yn ystyried yr adroddiadau dilynol:-

·         Cynnydd Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a throsolwg o’r prosiect addysg

·         Polisi Derbyn Ysgolion ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol

·         Strategaeth TGCh Addysg

 

a CHYTUNWYD YMHELLACH y dylid trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu i ystyried yr adroddiadau dilynol:-

 

·         Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Ieuenctid

·         Adroddiad Adferiad ac Adnewyddu

·         Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2021 y Gyfarwyddiaeth Addysg