Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Iau, 11eg Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, y Cynghorydd H. Trollope, a’r Cynghorydd D. Wilkshire.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 298 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

 

(Dylid nodi mai dim ond er pwyntiau cywirdeb y cyflwynir y cofnodion).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

DIWEDDARIAD LLAFAR – PANDEMIG COVID-19

 

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i bandemig COVID-19. Mae dau ddiweddariad strategol; mae’r cyntaf yn gysylltiedig â Llythyr Adolygiad Thematig Estyn. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Estyn gynnal adolygiad o sut mae cynghorau wedi cefnogi ysgolion ers dechrau pandemig Covid-19 yn cwmpasu’r cyfnod mis Mawrth i fis Hydref 2020. Cyflwynir y Llythyr, drwy adroddiad, i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. Bu adborth adeiladol gan y rheoleiddiwr yn gyffredinol gyda phedwar maes o arfer nodedig yn cael eu dynodi, yn cynnwys cydweithio cryf ar draws yr Awdurdod Lleol, yn neilltuol y ffyrdd yr oedd y Cyngor ac ysgolion, wedi gweithio mewn modd gydlynus, dorfol a cholegol. Roedd cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth fuddiol i ddisgyblion bregus gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a chydnabuwyd bod gwaith cryf gan Wasanaethau Ieuenctid yr Awdurdod Lleol a defnydd effeithlon o adnoddau TGCh.

 

Yr ail ddiweddariad strategol allweddol oedd bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai disgyblion Cyfnod Sylfaen gael dysgu wyneb i wyneb yn dilyn yr hanner tymor o 26 Chwefror 2021. Roedd y Cyfarwyddwr yn falch i ddweud y cynhaliwyd trafodaethau gyda phenaethiaid ysgol ac y cytunwyd y byddai disgyblion Cyfnod Sylfaen ym Mlaenau Gwent yn cael dysgu wyneb i wyneb o 22 Chwefror.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad os byddai pob disgybl Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd i’r ysgol ar yr un dyddiad.

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant mai ei ddealltwriaeth ef o’r cyfarfod gyda phenaethiaid ysgolion oedd y byddai’r holl ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd i’r ysgol ar yr un dyddiad, ond byddai’n gofyn am gadarnhad.

 

Holodd Aelod os yr hysbyswyd y Cyngor pryd y byddai’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru am gyfarpar diogelu personol ychwanegol ar gyfer ysgolion a gofynnodd am sicrwydd y gwerid yr arian hwn ar offer ychwanegol, oherwydd adroddiadau y gallai nifer achosion gynyddu pan mae ysgolion yn dychwelyd.

 

Byddai’r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant yn cysylltu â’r Rheolwr Trawsnewid Addysg i gadarnhau.

 

5.

Dalen Weithredu – 15 Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 192 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu..

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Parodrwydd ar gyfer y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf icon PDF 585 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant a gyflwynwyd i roi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru (2018) a chynnydd y Gyfarwyddiaeth Addysg i baratoi am hynny.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y pwysau cost y cyfeirir ato yn yr adroddiad yng nghyswllt dyletswyddau statudol, fodd bynnag oherwydd ymdopi ag anawsterau rhedeg dwy system a’r capasiti ychwanegol sydd ei angen o fewn y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddai’r pwysau cost yn nes at £100,000.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm am yr holl waith caled a’r cydweithio a fu.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a gofynnodd am ddiweddariad gyda dadansoddiad o blant â datganiad, plant ADY, plant dyslecsig ac yn y blaen. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y gallai roi dadansoddiad o ddisgyblion sydd yn Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sydd â datganiad a’u hanghenion sylfaenol ac yn cynnwys manylion am y sylfaen adnoddau er gwybodaeth Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Yng nghyswllt y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n dod i rym ym mis Medi, soniodd Aelod am y gwaith rhagorol a wnaed a llongyfarch y Rheolwr Gwasanaeth a’r tîm am arwain ar y mater hwn.

 

Gofynnodd Aelod i waith rhagorol y swyddog a’r tîm ar arwain y darn hwn o waith gael ei gydnabod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am drosglwyddo traws-ffin i ysgolion Cynradd ac Uwchradd a’r oedi gyda gwaith papur trosglwyddo ac os y byddai’r Ddeddf newydd yn helpu neu lesteirio hyn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y teimlai’n gadarnhaol y byddai’r newidiadau o fudd sylweddol yn y maes hwnnw. Bu problemau gyda’r system bresennol, oedi gyda gwaith papur trosglwyddo ac yn y blaen a’r pump awdurdod yn dehongli’r meini prawf ar gamau gwahanol mewn ffyrdd hollol wahanol. Mae’r system newydd yn llai biwrocrataidd a byddai cyflwyno Cynllun Datblygu Unigol yn cymryd lle datganiadau. Un cynllun fyddai felly p’un ai oes lefel isel o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion cymhleth sylweddol, yr un cynllun fyddai. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo yng nghyswllt cysondeb ar draws pob un o’r pump awdurdod lleol megis y math o lythyrau a anfonir at rieni ac yn y blaen. Gydag un cynllun yn ei le, ni fyddai mwyach ddehongliadau lluosog o’r gwahanol gamau a byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r gwaith papur a dderbynnir yng nghyswllt deall anghenion disgyblion wrth drosglwyddo o un awdurdod lleol i un arall. Teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth fod fframwaith Llywodraeth Cymru yn rhoi sylfaen dda i fynd i’r afael â’r problemau yn y system bresennol.

 

Cyfeiriodd Aelod at broblemau capasiti a holodd pa fuddsoddiad y byddai’rr Gyfarwyddiaeth neu’r Cyngor yn ei wneud i oresgyn y problemau capasiti hyn i gyflawni argymhellion Estyn ar gyfer gwella. Gyda mater mor bwysig, teimlai fod angen sicrhau fod y capasiti priodol ar gael i gyflawni holl ofynion y Ddeddf. Atebodd y Cyfarwyddwr Addysg  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cynnydd Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif pdf icon PDF 615 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYNNYDD BAND B YSGOLION YR 21ain GANRIF

 

Yng nghyswllt datganiadau buddiant, nodwyd fod rhai Aelodau o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu hefyd yn llywodraethwyr ysgolion.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu graffu ar gynnydd yn unol â chyflenwi’r Rhaglen Band B.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Soniodd Aelod am y gwaith rhagorol a wnaed i ymestyn oes Ysgol Gyfun Tredegar gan 10-15 mlynedd, fodd bynnag teimlai y byddai adeiladau ysgolion eraill yn y Fwrdeistref yn wynebu’r un problemau yn y dyfodol. Cyfeiriodd at baragraff 2.4 yr adroddiad, amcan buddsoddiad 3 – i sefydlu rheolaeth a darpariaeth effeithlon o leoedd ysgol drwy gael yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir ar yr adeg gywir. Holodd os rhoddwyd ystyriaeth i’r 70 i 100 o ddisgyblion ychwanegol fyddai’n mynychu ysgolion yn Nhredegar dros y 5-6 mlynedd nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod adroddiadau blynyddol yn cael eu paratoi a’u cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu i edrych ar reolaeth lleoedd ysgol. Gwnaed llawer o waith yn y gorffennol i ostwng lleoedd gwag. Y sefyllfa bresennol yw fod tua 10% o leoedd gwag yn y sector uwchradd a chynradd. Mae argaeledd lleoedd, ar draws y stad ysgolion, yn cael ei fonitro’n agos. Mae rhai ysgolion yn awr yn cael problemau digonolrwydd a chaiff hyn ei ystyried o fewn trefniadau cynllunio Band B i sicrhau lleoedd digonol ar gyfer y galw sy’n dod drwy’r system. Dywedodd yr Aelod y dylid llongyfarch ar y tîm ar y gwaith ar raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhagolwg cyllid Band B ar gyfer y cynnig ysgol Gymraeg a holodd am y cyllid o £7.5 miliwn. Esboniodd y Cyfarwyddwr mai dyma’r amcangyfrif cost diweddaraf gan Gwasanaethau Technegol; byddai’r adeilad newydd oddeutu £7.5 miliwn a chaiff hyn ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Gyfarwyddiaeth wedi codi’r pwysau cost tebygol yn gysylltiedig gyda’r oedi oherwydd Covid-19 gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael adborth cadarnhaol am y potensial ar gyfer adnoddau ychwanegol pe byddai’r cynnig yn mynd yn ei flaen. Nid oedd hyn yn bwysau cost i’r Cyngor, roedd yn un y byddai angen i Lywodraeth Cymru ei drin.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi ystyried ac yn derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

8.

Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau Ieuenctid 2019 – 2020 pdf icon PDF 611 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar waith y Gwasanaeth Ieuenctid, gan ddangos sut mae’r cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol o ddarparu Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed a Gwasanaeth Cwnsela ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo, sy’n cynnwys diweddariad byr ar sut mae’r gwasanaeth wedi ailffocysu yn ystod pandemig Covid-19.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid a’r tîm ar yr holl waith a wnaethpwyd, yn arbennig yng nghyswllt y cymwysterau a enillwyd a’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n dod yn NEET.

 

Dywedodd Aelod fod y Gwasanaethau Ieuenctid yn gwneud gwaith rhagorol yn yr amgylchiadau a chytunodd gyda sylwadau’r Cadeirydd ac ychwanegodd ei bod yn dda nodi rhan y Gwasanaethau Ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc i ennill cymwysterau.

 

Cododd yr Aelod bryderon am ddiwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a holodd os rhoddwyd ystyriaeth i ble i edrych am gyllid yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda gwahanol weithgorau i edrych ar gyllid yn dod o San Steffan i Gymru. Cynhelir trafodaethau gyda’r Gyfarwyddiaeth Adfywio a’r 10 awdurdod lleol ar draws Cymru fydd yn edrych am gyfleoedd i amlygu’r cyllid sydd ei angen a bod y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau hyn. Byddai cyllid yn dod i Gymru ond ar hyn o bryd mae’n aneglur sut y caiff y cyllid hwnnw ei flaenoriaethu. Teimlai ei bod yn bwysig cymryd rhan mewn trafodaethau rhanbarthol i gyflwyno’r ddadl am ba mor bwysig yw’r maes hwn o waith.

 

Yng nghyswllt colli cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd yn gyffredinol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod hyn yn risg gwirioneddol. Mae Cyfarwyddwyr Addysg yn y 10 ardal awdurdod lleol yn unol â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae posibilrwydd amlwg y byddai’n flaenoriaeth fel rhan o’r Gronfa Rhannu Ffyniant yn y dyfodol. Er na chafodd hyn ei gadarnhau eto, gwyddai’r Cyfarwyddwr fod eiriolaeth yn digwydd ar y lefelau uchaf. Roedd colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn risg uchel ar Gofrestr y Gyfarwyddiaeth Addysg oherwydd y goblygiadau ar gyfer y Tîm Ieuenctid. Mae hefyd ar y Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

Gan fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn awr yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Hamdden o fewn yr Adran, gofynnodd Aelod os oedd gan Reolwr y Gwasanaeth Ieuenctid y capasiti i ateb galw’r llwyth gwaith ychwanegol. Yng nghyswllt capasiti o fewn y Gwasanaethau Ieuenctid, atebodd y Cyfarwyddwr Addysg y bu ailstrwythuro a chafodd swydd newydd, Pobl Ifanc a Phartneriaethau, ei chymeradwyo sy’n cwmpasu’r swyddogaeth cleient hamdden o fewn  Addysg. Byddai ailstrwythuro cam 2 fyddai’n galluogi capasiti i gefnogi’r Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid wrth drin ei phortffolio mawr o waith, gyda ffocws ar y bobl gywir gyda’r setiau sgiliau cywir i fedru rheoli’r Gwasanaethau Ieuenctid a hefyd y swyddogaeth cleient Hamdden.

 

Canmolodd Aelod arall yr adroddiad hefyd a  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Y Defnydd o Ymgynghorwyr pdf icon PDF 670 KB

Ystyriedc adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth a ofynnwyd i Aelodau yn ymwneud â gwariant yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg byr o’r prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt ffioedd ymgynghoriaeth ar gyfer Bryan Jeffreys, holodd Aelod am beth oedd y ffioedd ymgynghoriaeth. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg eu bod yn ymwneud â chefnogaeth rheoli ar gyfer dwy ysgol sydd mewn categori Estyn ac a ystyrid yn ysgolion yn achosi pryder a chadarnhaodd fod y trefniant yn awr wedi dod i ben. Eglurodd fod peth o’r amser yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer y Corff Llywodraethol ond bod elfennau eraill o gefnogaeth allanol a roddodd yr ymgynghorydd i’r Gyfarwyddiaeth Addysg ar ryw adeg.

 

Soniodd Aelod y cytunwyd y byddai’r eitem hon yn nodyn gwybodaeth i Aelodau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg y cytunwyd rhannu nodyn gwybodaeth gydag Aelodau, ond gan i’r cais gael ei gyflwyno’n gorfforaethol, roedd y Prif Swyddog Adnoddau wedi penderfynu ei bod yn briodol cynhyrchu adroddiad a fyddai’n mynd i bob Pwyllgor Craffu gyda’r gwariant perthnasol ar gyfer pob portffolio.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r adroddiad ar y Defnydd o Ymgynghorwyr.

 

10.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 567 KB

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymru, gan fod canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 bellach wedi eu cadarnhau, y byddai eitem 4 – Adroddiad Terfynol Perfformiad Ysgol yn cael ei amnewid gyda Llythyr Adolygiad Thematig Estyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1: sef newid yr adroddiad terfynol ar Berfformiad Ysgolion gyda Llythyr Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 9 Mawrth 2021.