Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mercher, 15fed Ionawr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

M. Cook, G.A. Davies, C. Meredith aB. Summers.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 226 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 336 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:-

 

Eitem 8 – Rhaglen Gwella Ysgolion

 

Cododd Aelod bryder y cafodd y cam gweithredu ei nodi fel bod wedi ei gwblhau pan na dderbyniwyd ymateb. Dywedodd y Swyddog Craffu a Democrataidd fod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi siarad â’r Aelod Gweithredol Addysg a chafodd ei hysbysu y byddai’r Aelod Gweithredol yn cysylltu’n uniongyrchol gydag Arweinydd y Gr?p Llafur.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Gr?p Llafur nad yw’r Aelod Gweithredol Addysg wedi cysylltu ag ef hyd yma. Dywedodd Aelod y dylai holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael ateb.

 

Cytunodd Arweinydd y Gr?p Llafur gyda barn ei gydweithiwr y dylai holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael yr holl wybodaeth ac awgrymodd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Gweithredol Addysg i osgoi’r sefyllfa hon rhag digwydd eto.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda’r llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

6.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 91 KB

Derbyn Dalen Weithredu y Pwyllgor Gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Gwahardd Disgyblion pdf icon PDF 870 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ddata gwahardd disgyblion yn ysgolion Cynradd ac Uwchradd Blaenau Gwent am flwyddyn academaidd 2018/19.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gadawodd y Cynghorwyr John C. Morgan a Steve Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y rheswm dros waharddiadau dan y categori ‘Arall’, teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant na ddylai fod categori ‘Arall’ gan nad yw’n dangos unrhyw eglurdeb am y rhesymau dros wahardd.

 

Holodd Aelod os oedd cysylltiad rhwng y gostyngiad yn nifer gwaharddiadau â chanlyniadau arholiadau a chyfeiriodd at y data cymharol gyda Blaenau Gwent yn y 13eg safle allan o 22 ar gyfer gwaharddiadau 5 diwrnod neu lai. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod ffigurau’n cymharu’n ffafriol, yn neilltuol yn CA4. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant mai ymddygiad sy’n peri ymyrraeth yn gyson oedd un o’r prif resymau dros waharddiadau a bod angen parhaus i leihau gwaharddiadau. Yng nghyswllt symudiadau a reolir, mae symudiadau a reolir ar gyfer disgyblion yn gytundeb rhwng dwy ysgol a’r rhiant/gofalwyr i roi dechrau newydd i ddisgybl ac mae’n seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae Canolfan yr Afon yn darparu cwricwlwm llawn a chaiff lleoliadau arbenigol eu rheoli’n agos. Mae’r ysgol hefyd yn darparu hyfforddiant cartref i rai disgyblon gydag anghenion meddygol arbennig.

 

Gofynnodd Aelod am ddata cymharu ar gyfer blynyddoedd blaenorol yng nghyswllt gwaharddiadau 6.1.7 yn ôl mis a pharagraff 6.1.8 yn dangos gwaharddiadau yn ôl gr?p blwyddyn fel canran. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant ddarparu’r data cymharu ar gyfer Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y nifer isel o waharddiadau mewn ysgolion cynradd a pha gymorth sydd ar gael. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant y byddai cymorth yn y lle cyntaf yn cael ei ddarparu drwy’r Seicolegydd Addysg a ddyrannwyd i’r ysgol. Gellid defnyddio Cynllun Cymorth Bugeiliol sy’n cefnogi dull gweithredu aml-asiantaeth gyda ffocws ar weithredu. Os byddai angen hynny, gallai’r ysgol ystyried pa mor briodol yw gofyn am ystyried newid lleoliad. Ychwanegodd y bu ysgolion cynradd yn llwyddiannus wrth gadw gwaharddiadau yn isel.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn craffu’r wybodaeth a fanylir o fewn yr adroddiad, gan felly gyfrannu at hunanwerthusiad parhaus cyn gwneud argymhellion priodol i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

8.

Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif - Adolygiad Porth pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu’r rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, yn arbennig ganlyniad yr Adolygiad Porth a hwyluswyd gan Lywodraeth Cymru (Medi 2019).

 

Siaradodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am adennill costau gwyro’r garthffos a’r seilwaith priffyrdd. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod gwaith gwyro’r garthffos wedi costio £1.3m a bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £650,000 at y costau. Yng nghyswllt seilwaith priffyrdd, defnyddiwyd grant cynnal cyfalaf Llywodraeth Cymru o tua £400,000 i lacio pwysau cost refeniw a chadarnhaodd y cafodd cyfanswm o £800,000 hefyd ei roi yn rhaglen cyfalaf y Cyngor o gynigion Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd Aelod am eglurdeb ar yr ysgol cyfrwng Cymraeg. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg y cynhaliwyd trafodaethau am oblygiadau refeniw a bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai unrhyw gymorth refeniw pellach ar gael ar hyn o bryd. Rhoddir cyflwyniad i gyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor Gweithredu/Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol ym mis Chwefror ac yn dilyn y trafodaethau cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor i hysbysu Aelodau Craffu am y sefyllfa.

 

Dywedodd yr Aelod bod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth ar gyfer yr Awdurdod a bod angen symud ymlaen â’r mater hwn. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gellid cario ymlaen y £6m o gyfalaf ar gyfer y prosiect hwn. Prosiectau blaenoriaeth Band B yw ailwampio ysgolion uwchradd, ailwampio Bro Helyg yn ogystal ag ysgol gynradd i gymryd lle un arall yng nghwm Ebwy Fawr. Caiff busnes achos ei gyflwyno yn y dyfodol agos i Lywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys gwaith adnewyddu pellach mewn ysgolion cynradd eraill os yw adnoddau’n caniatáu. Mae ailwampio ysgolion yn effeithio ar bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion ac mae gwaith gyda’r Adran Cynllunio yng nghyswllt cytundebau A106 yn sicrhau fod lefelau capasiti’r dyfodol mewn ysgolion yn gysylltiedig gyda datblygiadau preswyl yn yr ardal.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn fel y’i cyflwynwyd,

 

Gadawodd y Cynghorydd Jonathan Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

9.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Addysg pdf icon PDF 402 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Phennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau pwyllgorau craffu penodol i graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch y cyfarwyddiaethau perthnasol a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod os yw cynnal cyfarfodydd blynyddol o’r gweithlu yn ddigonol. Dywedodd y Cyfarwyddwr yr adolygir cyfarfodydd gweithlu a bod data perfformiad salwch hefyd yn cael ei drafod yng nghyfarfodydd strategol penaethiaid ysgolion. Mae Datblygu Sefydliadol yn gweithio’n agos gyda phenaethiaid ysgolion ac yn cael eu llywio gan gyngor Iechyd Galwedigaethol a meddygon teulu.

 

Croesawodd yr Aelod a gyflwynir yr adroddiad i bob Pwyllgor Craffu ond roedd ganddo bryderon na chydymffurfir gyda pholisi Absenoldeb Salwch, a gwyddai hefyd nad yw rhai rheolwyr yn defnyddio system iTrent. Teimlai hefyd na ddylai ysgolion unigol gael eu dynodi yn yr adroddiad. Byddai’r Cyfarwyddwr yn mynd â’r pwynt hwn yn ôl i gydweithwyr.

 

Cyfeiriodd Aelod bod absenoldeb salwch o fewn yr Awdurdod yn risg allweddol a holodd os yw lefelau uchel o salwch yn cael effaith ar berfformiad ysgolion a holodd am sbardunau salwch iTrent. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn achosi heriau a gallai fod yn gysylltiedig â llesiant. Cynhaliwyd cynllun treialu iTrent llwyddiannus a chafodd 39% o gyfweliadau dychwelyd i’r gwaith eu cofnodi ar y system, fodd bynnag, mae angen gwelliant pellach.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau y caiff rhai staff cymorth seiliedig mewn ysgolion tebyg i staff arlwyo a glanhau eu cyflogi gan Gyfarwyddiaeth wahanol. Gan y caiff adroddiadau unigol ar Berfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu ym mhob Pwyllgor Craffu, caiff sylwadau Aelodau eu hystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod fod angen eglurdeb am ba gyfarwyddiaeth sy’n cyflogi pa staff a dywedodd y gall fod angen ystyried amgylchiadau arbennig wrth ddelio gydag ysgolion arbennig.

 

Cyfeiriwyd at yr amcangyfrif o gostau absenoldeb salwch. Dywedodd y Cyfarwyddwr yr amcangyfrifir fod y costau i’r Awdurdod am y cyfnod chwe mis yn £398,718 ac nad oedd yn cynnwys costau cyflenwi h.y. argostau, trefniadau llanw ac yn y blaen a byddai angen edrych yn fanwl ar hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef craffu ar yr wybodaeth perfformiad absenoldeb a’r trefniadau a gynigir i wella cyfraddau presenoldeb o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg i ddynodi unrhyw feysydd eraill ar gyfer eu gwella er mwyn hybu gwella perfformiad.

 

Ail-ymunodd y Cynghorydd Jonathan Millard â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

10.

Blaenraglen Gwaith - 26 Chwefror 2020 pdf icon PDF 482 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Gofynnodd Aelod am ychwanegu diweddariad chwe mis ar y canlyniadau amcanol ar gyfer pob ysgol at y flaenraglen gwaith. Byddai’r Cyfarwyddwr Addysg yn gosod cais gyda EAS i’r adroddiad gael ei baratoi a’i gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 26 Chwefror 2020.