Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr J. Millard, L. Elias a J. Holt.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 236 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau'r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 25 Hydref 2019 pdf icon PDF 187 KB

Derbyn y ddalen weithredu..

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi'r ddalen weithredu.

 

6.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 243 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau'r cofnodion.

 

7.

Dalen Weithredu - 6 Tachwedd 2019 pdf icon PDF 195 KB

Derbyn y ddalen weithredu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019, yn cynnwys:-

 

Eitem 6 - Rheoli Lleoedd Disgyblion a'r Stad Ysgolion

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynnydd yn y galw am leoedd yn Ysgol Arbennig Pen-y-cwm. Dywedodd y Rheolwr Cynhwysiant Gwasanaeth fod y gwasanaeth yn edrych ar dueddiadau ac anghenion sylfaenol disgyblion yn dod i mewn i'r system e.e. awtistiaeth, anawsterau dysgu dybryd ac ati er mwyn rhagamcanu. Yn hanesyddol ni fu'n bosibl casglu data ar blant 0-3 oed. Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yng ngofal ac yn monitro'r galw a lleoliad yn Ysgol Pen-y-Cwm ac mae dogfen ymgynghori ac adroddiad yn cael eu paratoi i edrych ar gynyddu capasiti'r ysgol.

 

Holodd Aelod am ddisgyblion o'r tu allan i'r sir ac o ba ardaloedd yn y fwrdeistref mae'r disgyblion yn dod. Dywedodd y Rheolwr Cynhwysiant Gwasanaeth nad yw ysgol Pen-y-Cwm ar hyn o bryd yn derbyn disgyblion o'r tu allan i'r sir am amrywiaeth o resymau ac mae'n rhesymol y dylid neilltuo lleoedd ar gyfer disgyblion yn byw ym Mlaenau Gwent.

 

Yng nghyswllt Canolfan yr Afon ac Ysgol Pen-y-Cwm, gofynnodd y Cadeirydd am ddadansoddiad o'r nifer o blant sy'n mynychu ysgolion y tu allan i'w dalgylch. Dywedodd y Rheolwr Cynhwysiant Addysg y gellid darparu'r wybodaeth hon fel canran yn adroddiadau'r dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

8.

Presenoldeb Ysgolion pdf icon PDF 467 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ddata presenoldeb ar gyfer Blaenau Gwent ar lefel ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19.

 

Siaradodd y Rheolwr Llesiant Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at y 1.6% o absenoliaeth barhaus. Dywedodd y Rheolwr Llesiant Addysg fod peth anghysondeb yn y ffordd mae ysgolion unigol yn trin absenoliaeth barhaus, fodd bynnag mae'r Gwasanaeth Llesiant Addysg yn gweithio'n agos gydag ysgolion i hyrwyddo presenoldeb reolaidd yn yr ysgol ac ymsefydlu arferion gwaith newydd sy'n cefnogi'r nod hon. Mae'r gwasanaeth hefyd yn edrych sut mae awdurdodau lleol eraill yn trin y mater. Ychwanegodd fod mwyafrif yr absenoldebau oherwydd salwch ac nid gwyliau.

 

Dywedodd Aelod fod rhai rhieni yn anodd eu cyrraedd a bod ysgolion yn gweithio'n galed i hyrwyddo presenoldeb da a mynd i'r afael ag absenoliaeth barhaus.

 

Gofynnodd Aelod os cofnodir absenoliaeth staff ysgolion. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg y rhoddir adroddiad ar absenoldeb staff ysgolion i'r pwyllgor craffu perthnasol h.y. cyflwynir data presenoldeb staff ysgolion i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ei ystyried.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddata PISA ar gyfer disgyblion 15 oed. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod hyn yn sampl ar draws Cymru. Mae'r pennawd yn gadarnhaol ond nid yn berffaith ac yn adlewyrchu'r data yn gywir ond mae'r uchelgais yn parhau i wella.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am driwantiaeth, dywedodd y Rheolwr Llesiant Addysg fod absenoldebau yn cael eu herio ac y byddai swyddog yn gwneud ymweliad cartref os oes angen. Mae ysgolion yn rhannu arfer da, mae un ysgol wedi cyflwyno byrddau brwydr a byrddau prydlondeb. Mae gweithio fel aml-asiantaeth i edrych ar bresenoldeb yn rhoi gwasanaeth mwy effeithlon ac mae cysylltiadau da gyda Gwasanaethau Plant wedi ei gwneud yn bosibl gwneud atgyfeiriadau. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod fforenseg data lefel uwch yn galluogi'r tîm i weithio'n fwy effeithlon yn defnyddio dadansoddiad cod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y'i darparwyd.

 

9.

Blaenraglen Gwaith - 15 Ionawr 2020 pdf icon PDF 485 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 15 Ionawr 2020.

 

 

10.

Presenoldeb Ysgolion pdf icon PDF 726 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Consideration was given to the report of the Corporate Director of Education which was presented to provide Members with the opportunity to scrutinise attendance data for Blaenau Gwent at Primary and Secondary school level for the academic year 2018-19.

 

The Education Welfare Manager spoke to the report and highlighted the main points contained therein.

 

A Member referred to the 1.6% persistent absenteeism, the Education Welfare Manager said that there were some inconsistencies with how individual schools dealt with persistent absenteeism, however, the Education Welfare Service worked closely with schools to promote regular school attendance and to embed new working practices which supported this aim.  The Service was also looking at how other local authorities dealt with this issue.  She added that the majority of absences were due to illness and not holidays.

 

A Member commented that some parents were hard to reach and schools were working hard to promote good attendance and address persistent absenteeism.

 

A Member enquired if school staff absenteeism was recorded.  The Director of Education confirmed that school staff absences were reported to the relevant scrutiny committee i.e. school staff attendance data would be presented to the Education & Learning Scrutiny Committee for consideration.

 

A Member referred to PISA data for 15 year olds.  The Director of Education said that this was a sample across Wales.  The headline was positive but not perfect and reflected the data accurately but the ambition remained to improve. 

 

In response to a Member’s question regarding truancy, the Education Welfare Manager said that absences were challenged and an officer would make a home visit if necessary.  Schools shared good practice, one school had introduced battle boards and punctuality boards.  Working as a multi agency to look at attendances provided a more effective service and strong links with Children’s Services enabled referrals to be made.  The Director commented that forensics of high level data enabled the team to work more effectively using code analysis.  

 

The Committee AGREED to recommend that the report be accepted and endorse Option 2, namely that the report be accepted as provided.