Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol:-
Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau Rheolwr Strategol Gwella Addysg
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 291 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 22 Mehefin 2021 PDF 207 KB Ystyried y ddalen weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, yn cynnwys:-
Swydd Wag ar gyfer Aelod Cyfetholedig
Dywedwyd y derbyniwyd enwebiad i gael ei ystyried ar gyfer y Cyngor Llawn ym mis Medi. Pe derbynnid yr enwebiad, byddai’r llywodraethwr yn cael gwybodaeth er mwyn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Craffu ym mis Medi.
Grantiau Datblygu Disgyblion
Cyfeiriodd Aelod at yr wybodaeth a roddwyd ac er y croesawyd y data, dywedodd yr Aelod ei fod eisiau gweld sut y defnyddiwyd grantiau ychwanegol i gefnogi dysgwyr unigol mewn ysgolion.
Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y rhoddid diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwnnw.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu. |
|
Diweddariad Llafar - COVID 19 Derbyn diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar ar statws presennol Covid-19 o fewn Addysg ac ysgolion er y dywedodd fod y sefyllfa yn un ddeinamig ac yn newid bob dydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod nifer yr achosion wedi cynyddu yn yr ychydig ddyddiau diwethaf a bod y sefyllfa yn gwaethygu yn lleoliadau addysg a dysgu yr Awdurdod. Roedd cynnydd neilltuol yng nghategori plant a phobl ifanc rhwng 10-19 oed. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod 119 achos positif ar draws stad ysgolion Blaenau Gwent ar hyn o bryd, gyda 109 yn ddysgwyr a 10 aelod o staff. Roedd hefyd nifer o’r gweithlu yn hunanynysu. Mae’r nifer uchaf yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri – Cyfnod Uwchradd, Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr – Cyfnod Uwchradd, Ysgol Gyfun Tredegar ac Ysgol Gynradd Cwm. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai’r ffigurau ar gyfer ail wythnos y tymor oedd y rhain, sy’n tanlinellu lefel yr her a wynebir ac atgoffodd Aelodau fod y ffigurau hyn yn debyg o newid bob dydd.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y cyfarfodydd gyda phenaethiaid ysgol i baratoi ar gyfer y tymor i ddod a dywedodd fod y cyfarfodydd hyn yn cynnwys addysg, iechyd yr amgylchedd, iechyd a diogelwch a gwasanaethau cymorth. Bu’r ymatebion gan benaethiaid ysgol yn rhagorol a daethpwyd i safbwynt cyffredin. Ystyriwyd fframwaith rheoli haint Llywodraeth Cymru, sy’n hyrwyddo hunanynysu wedi ei reoli ar gyfer plant dan 18 oed. Caiff y grwpiau cyswllt eu dynodi ar gyfer profi a monitro a dilynwyd y llwybr gweithredu hyn gyda golwg ar gadw addysgu a dysgu wyneb i wyneb lle’r oedd hynny’n bosibl. Byddai pob ysgol yn rhoi cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu gan fod heriau capasiti yn y maes hwn.
Mae’r staff arlwyo a glanhau yn fregus oherwydd nifer y staff sy’n hunanynysu a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cedwir golwg agos ar y sefyllfa gydag athrawon a dysgwyr wrth i ni fynd drwy dymor yr hydref.
Ar y pwynt hwn gofynnodd Aelod y cwestiynau dilynol a gafodd eu hystyried.
Sut mae cyflenwadau offer diogelu personol (PPE) mewn ysgolion?
Mae’r stoc o PPE mewn ysgolion yn ddigonol i gefnogi addysgu a dysgu. Cadarnhawyd hefyd y caiff cyllid caledi ei barhau, a fyddai’n cynorthwyo gyda chostau cysylltiedig o’r fath.
A yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar frechiadau ar gyfer rhai 12-19 oed?
Mae’r pedwar Prif Swyddog Meddygol ar draws y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar y rhaglen brechiadau ar gyfer rhai 12-15 oed a disgwylir cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos.
Canmolodd Aelod yr awdurdod lleol am ei ddull gweithredu a’r camau a gymerir mewn ysgolion. Teimlai’r Aelod ei fod yn cael ei drin mewn ffordd gadarnhaol.
Codwyd pryderon am blant yn cael eu hanfon i’r ysgol os oes achos positif o Covid-19 o fewn y cartref ac mae’r farn yn gymysg ar p’un ai ddylai plant aros gartref i hunanynysu neu gael eu hanfon i’r ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi peth hyblygrwydd i weithio ar sail leol ond mae canllawiau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Gwasanaethau Addysg – Prif Adroddiad Hunanarfarnu PDF 581 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu graffu ar ganfyddiadau proses hunanarfarnu cyfredol a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a rhoddodd fanylion y broses hunanarfarnu gynhwysfawr a helpodd i ddynodi’r meysydd hynny lle gwnaed cynnydd a lle mae angen gwelliant pellach. Nodwyd fod y canfyddiadau manwl yn y prif SER yn atodiad 2 a chyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at dri maes arolygu fframwaith arolygu LGES. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg pellach o’r meysydd lle gwnaed cynnydd da a meysydd lle mae angen gwelliant pellach fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
I gloi, cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod prif ddogfen SER yn ddogfen waith faith iawn sy’n rhoi sylw i holl fframwaith LGES. Mae’r ddogfen yn rhoi’r cyd-destun a data i ddangos cynnydd a llywio sylwadau hunanarfarnu. Fodd bynnag, bwriedir diweddaru’r ddogfen SER gryno ar gyfer adroddiadau hunanarfarnu y dyfodol a bydd hyn yn galluogi Aelodau i ganolbwyntio’n benodol ar flaenoriaethau allweddol. Felly awgrymodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Aelodau yn ystyried y meysydd dilynol fel llinellau ymholiad ar gyfer y broses graffu, yn unol gyda’r asesiad effaith corfforaethol a fanylir yn Atodiad 4.
• Adfer ac adnewyddu yn gysylltiedig gyda chynnydd academaidd; • Cefnogaeth i ddysgwyr bregus; • Diwygio ADY/Cwricwlwm; • Llesiant Dysgwyr; a • Chydweithio i gefnogi dysgwyr, yn neilltuol gydag ysgolion.
Gwahoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu ar y pwynt hwn.
Nododd Aelod, er fod sôn am y bwlch rhwng y rhywiau yn yr adroddiad, nad oedd maes ar gyfer gwella a gofynnodd os yw’r maes hwn i gael ei ystyried.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg nad yw’r pynciau y rhoddir sylw iddynt yn yr adran yn cynnwys popeth ac wedi’u crynhoi yn yr adroddiad, er fod gwybodaeth ar y rhywiau ar gael yn y prif adroddiad hunanarfarnu.
Cyfeiriodd Aelod at gywirdeb targedau a deilliannau a amlinellir yn yr adroddiad gan nad yw data manwl gywir yn cael ei roi. Teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig monitro’r wybodaeth hon i sicrhau nad yw disgyblion wedi llithro oherwydd y pandemig a bod gosod targedau yn gywir.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y targedau a osodwyd yn uchelgeisiol, realistig ac ymarferol yn unol â’r Cynlluniau Datblygu Ysgolion. Dywedodd y dynodwyd fod gwaith a wneir mewn cysylltiad gyda EAS ar gyfer ysgolion fel bod angen cymorth ychwanegol gam wrth gam. Mae’r gwaith hwn yn llinyn allweddol o weithgaredd yn y Cynllun Adfer ac Adnewyddu i sicrhau y caiff y data llinell sylfaen ei ailgalibreiddio fel bod data yn canolbwyntio ar sylw wrth symud ymlaen.
Gadawodd y Cynghorydd M. Day y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Codwyd pryderon yng nghyswllt rhagweld graddau gan fod y pandemig wedi effeithio’n ddybryd ar ein hysgolion a gobeithir fod gan y gefnogaeth briodol gan ein dysgwyr bregus. Er nad yw’r data hwn ar gael ar hyn o bryd, mae’n bwysig ei bod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Strategaeth ac Adolygiad Cynhwysiant (2021-2022) PDF 440 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol.
Nodwyd y cynhaliwyd proses ymgynghori helaeth gyda Pen y Cwm. Teimlai Aelod y byddai’n fuddiol sefydlu gr?p ffocws o rieni o’r un anian a gofynnodd os gellid ymchwilio hyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y rhoddir sylw i farn rhieni a hefyd ddisgyblion o fewn datblygiad y strategaeth.
Cyfeiriodd Aelod at y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a gobeithiai ei bod yn ddogfen fyw y mae pawb yn cytuno arni gan ei bod yn bwysig fod Coleg Gwent yn cymryd rhan er mwyn eu hysbysu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytunwyd ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Cynhwysiant i sicrhau y caiff gofynion y Ddeddf Anghenion Datblygu Ychwanegol eu diwallu. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau perthnasol, strwythurau, disgrifiadau swydd a sicrhau fod trefniadau perthnasol yn eu lle i gyflawni anghenion y Ddeddf Anghenion Datblygu Ychwanegol (Opsiwn 2).
|
|
Adolygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Hygyrchedd Addysg PDF 600 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r broses Adolygiad Strategaeth Hygyrchedd Addysg ac amserlen gysylltiedig. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth y caiff y strategaeth ddiwygiedig ei gweithredu o fis Medi 2022 ac amlinellu yn fanwl y cynnydd cryf a wnaed ar y strategaeth ynghyd â chamau gweithredu cysylltiedig rhwng 2017 a 2021.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellodd y cyd-destun cyfredol, aliniad gyda gweinyddiaeth meddyginiaeth ac anghenion meddygol yn ogystal â goblygiadau ariannol y gyllideb.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad ac roedd yn falch fod Blaenau Gwent yn arwain y ffordd.
Gadawodd y Cynghorydd Summers y cyfarfod ar y pwynt hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|
|
Adolygiad Polisi Rhwng y Cartref a’r Ysgol a Chludiant Ôl 16 2022 - 2023 PDF 533 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Addysg a Newid Busnes drosolwg manwl o’r adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol a nodir yn yr adroddiad.
Codwyd pryderon am y pellter teithio ar gyfer plant a theimlid y dylai adnoddau ychwanegol fod ar gael ar gyfer trafnidiaeth ysgol a theimlai Aelod fod angen adolygu hyn. Dywedodd y Swyddog y cynhaliwyd adolygiad helaeth ac mae terfynau presennol Blaenau Gwent yn fwy hael na’r terfynau statudol, fodd bynnag caiff y polisi ei adolygu ar sail flynyddol.
Codwyd pryderon pellach am drafnidiaeth gyhoeddus, oedd yn hwyr ar achlysuron a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Addysg a Newid Busnes fod yr Awdurdod yn gwybod am y materion hyn ac er mai dim ond grantiau teithio ar gyfer disgyblion y mae’r Awdurdod wedi eu darparu, codwyd y pryderon i’r darparwyr hyfforddiant priodol er mwyn trin y mater.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y polisi yn ei ffurf bresennol, er yr argymhellwyd i’r Pwyllgor Gweithredol y dylid cynnal adolygiad o’r polisi y flwyddyn nesaf (Opsiwn 2).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 19 Hydref 2021 PDF 398 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg na fyddai data CA4 ar gael i’w rannu gyda’r Pwyllgor Craffu yn y cyfarfod nesaf ac yn dilyn trafodaethau CYTUNODD y Pwyllgor i gynnwys adroddiad Gwahardd Disgyblion ar agenda’r mis nesaf a’i bod yn eitem statudol.
Yn nhermau ‘helpu aelodau etholedig i ddod i adnabod ein hysgolion’ teimlid fod llawer o bwysau ar ysgolion ar hyn o bryd a theimlwyd nad hwn oedd yr amser cywir i fynd ar ôl y gweithgaredd hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 19 Hydref 2021 gyda’r diwygiadau a nodir uchod (Opsiwn 1).
|