Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 22ain Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd Derrick Bevan

Cynghorydd Clive Meredith

 

Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Stewart Healy fuddiant yn eitem 10 – Adroddiad Perfformiad a Monitro Hamdden Aneurin (Ebrill 2020 – Mawrth 2021).

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y dylid cynnal cyfarfodydd y dyfodol ar ddyddiau Mawrth i gychwyn am 10.00 a.m.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 232 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 258 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Dalen Weithredu – 20 Ebrill 2021 pdf icon PDF 103 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021, yn cynnwys:-

 

Grantiau a Ddyfarnwyd i’r Gyfarwyddiaeth Addysg

 

Holodd Aelod pam fod y swm y gyllid a dderbyniwyd ar gyfer Ysgol Gyfun Tredegar bron yn ddwywaith y swm a dderbyniwyd ar gyfer Ysgol Sylfaen Brynmawr a Chymuned Ddysgu Abertyleri. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’n edrych ar y gwahaniaethau ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y byddai Cynghorwyr Her PDG yn rhyngweithio gyda ac yn herio penaethiaid ysgolion, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddai’r Cynghorwyr Her yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i sicrhau y caiff y cyllid ei ddefnyddio mewn modd priodol ar draws yr ysgolion a sicrhau y defnyddir yr adnodd yn effeithlon i gefnogi’r dysgwyr hynny a gaiff eu targedu, yn unol â’r meini prawf ar gyfer grantiau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gwahaniaethau a ddangosir yn y symiau Grantiau PDG, mae’r grantiau hyn yn seiliedig ar nifer y disgyblion prydau ysgol am ddim o fewn ysgolion a theimlai y gellid cyflwyno eitem ar yr ymyriadau mewn gwahanol ysgolion a sut mae’n helpu disgyblion prydau ysgol am ddim i sicrhau cynnydd. Cyfeiriodd yr Aelod at y canran o brydau ysgol am ddim ym Mlaenau Gwent  a holodd os y gellid edrych ar hyn, gan y teimlai nad oedd pob plentyn sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo a bod hyn yn effeithio ar y grantiau sy’n mynd i ysgolion. Teimlai ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth ar wefan Blaenau Gwent am hawl i brydau ysgol am ddim ac y dylai’r ddolen ar gyfer ceisiadau fod yn fwy amlwg. Cododd bryderon hefyd fod asesiadau prydau ysgol am ddim yna awr yn cael eu cynnal bob 3 blynedd.

 

Yng nghyswllt y sefyllfa am brydau ysgol am ddim a’r ffordd y caiff ei asesu o fewn ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr y gwnaed llawer o waith yn ystod y pandemig sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn gysylltiedig gyda chymhwyster o amgylch prydau ysgol am ddim. Y sefyllfa ddiweddaraf oedd bod gan tua 1,700 o blant yn awr hawl i brydau ysgol am ddim ac y cedwir golwg agos ar y sefyllfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ei bod yn debyg bod cynnydd o tua 30 i 40% yn nhermau teuluoedd a phlant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd yr effaith yn gysylltiedig gyda COVID yn ymwneud â statws economaidd-gymdeithasol yr ardal.    Yng nghyswllt pwynt cyntaf yr Aelod, mae un o’r papurau gwybodaeth yn amlinellu rhai o’r meysydd ar gyfer gwariant posibl ar y PDG fel bod aelodau yn cael eu gwerthuso o safbwynt Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal ar draws y stad ysgolion. Byddai’r Cyfarwyddwr yn rhoi gwybodaeth ddi-enw i Aelodau am y mater hwn a hefyd yn sicrhau fod y ddolen i geisiadau ar gyfer prydau ysgol am ddim yn fwy amlwg  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 386 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod hon yn ddogfen y gellid ei newid.

 

Nododd Aelod fod yr adroddiad ar Gytundebau Adran 106 yn eitem er gwybodaeth a theimlai y dylai hyn fod yn eitem agenda ar gyfer y Pwyllgor fel bod Aelodau yn cael dealltwriaeth well ar fuddion Cytundebau Adran 106, sut y defnyddir yr arian a sut maent yn cysylltu gyda’r Cyfarwyddiaethau Addysg, Cynllunio ac Adfywio.

 

Cynigiodd y Cadeirydd fod yr adroddiad ar Gytundebau Adran 106 yn cael ei dynnu o’r pecyn gwybodaeth ac yn cael ei gyflwyno fel eitem Agenda i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Holodd Aelod os oes unrhyw adroddiadau ar y flaenraglen gwaith yng nghyswllt y trosiant mawr o benaethiaid ysgol ym Mlaenau Gwent a hefyd y rhai sy’n dewis gael addysg gartref gan fod hyn effeithio ar bresenoldeb disgyblion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod adroddiadau fel rhan o’r flaenraglen gwaith ar bresenoldeb disgyblion a hefyd waharddiadau fyddai’n rhan o’r adroddiadau Cynhwysiant a Gwella Ysgolion. Byddai hefyd ddiweddariadau yn nhermau ble ydym arni gydag arweinyddiaeth, newidiadau posibl a recriwtio yn yr ysgolion hynny sy’n achos consyrn.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr EAS a holodd am werth am arian. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod perthynas waith dda gyda EAS sy’n gweithio’n agos gyda thîm Gwella Ysgolion a Chynhwysiant. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn flaenorol sy’n rhoi sylw i werth am arian, sy’n seiliedig ar ddau amrywyn allweddol h.y. os yw perfformiad yn cynyddu a safonau’n gwella ac os oedd hynny’n cael ei wneud gyda llai o adnoddau. Teimlai’r Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod a hefyd yr EAS yn gwella safonau gyda chyllideb yn gostwng yn ystod cyfnod o lymder yn y sector cyhoeddus.

 

Ategodd Prif Gynghorydd Her EAS sylwadau’r Cyfarwyddwr ac ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg ar tîm Arweinyddiaeth newydd ym Mlaenau Gwent. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod y bartneriaeth, sef sut y gwelai Llywodraeth Cymru y byddai’r berthynas yn symud ymlaen, yn iach a chryf. Maent yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn cael cyfleoedd ardderchog i edrych ar rolau’r Awdurdod Lleol ac EAS i sicrhau y caiff cefnogaeth i ysgolion ei deilwra yn y ffordd gywir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith 2021-22 y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu  a

 

CHYTUNODD YMHELLACH y dylai’r eitem wybodaeth ar Gytundebau Adran 106 gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fel eitem agenda i gael ei ystyried.

 

9.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 522 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwella Ysgolion a Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar y blaenoriaethau a ddynodwyd gan y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer adferiad ac adnewyddu, fel rhan o’r ymateb i sefyllfa COVID-19.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at ymddygiad disgyblion mewn ysgolion a theimlai y dylai fod cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod cyflwr emosiynol dysgwyr, yn cynnwys eu hymddygiad a’r effaith bosibl y gallai hynny ei gael ar ddysgwyr eraill, yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r adroddiad yn cynnwys datganiadau cynhwysfawr ar y meysydd hyn a byddent yn cael eu gwahanu yn gynlluniau llawer mwy manwl h.y. llesiant dysgwyr, ymddygiad emosiynol ac yn y blaen.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes y pwynt hwn a dywedodd fod hyn yn cysylltu gyda thema dysgwyr a hefyd weithrediadau’r ysgol a chefnogaeth i ysgolion o amgylch ymddygiad ar wedd asesiadau risg a staffio yn y blaen, a theimlai fod hon yn agwedd drosfwaol a fyddai’n cael sylw fel rhan o’r cynlluniau gweithredu manwl o amgylch nifer o’r gwahanol feysydd effaith hyn.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld blaenoriaeth yn cael ei roi i lesiant ysgol gyfan a chymorth gydag iechyd meddwl, a hefyd weld cefnogaeth ar gyfer dysgwyr bregus a diwygio ADY yn cael cymaint o sylw, a bod ymgysylltu â rhieni a deimlai oedd yn hollol hanfodol hefyd yn cael ei restru.  Credai fod y cynllun yn adlewyrchu’n gywir fod yr Awdurdod Lleol yn ymateb i newidiadau presennol a newidiadau’r dyfodol.

 

Yng nghyswllt PPE a masgiau wyneb mewn ysgolion, dywedodd Aelod fod angen i’r Awdurdod fod yn gliriach ar y canllawiau gan fod ansicrwydd am wisgo masgiau wyneb mewn ystafelloedd dosbarth a choridorau. Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod canllawiau clir ym mhob ysgol uwchradd mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn ardaloedd cymunol, lle na fedrid cadw pellter cymdeithasol o ddwy fetr, fod disgyblion yn gwisgo gorchuddion wyneb a bod hyn yn weithredol ar draws y stad ysgolion. Os oes problemau sylweddol a gaiff eu cyflwyno a bod ysgolion yn teimlo dan asesiad risg y gallent ymdopi a gweithredu mesurau rheoli ychwanegol, yna gallai’r tîm edrych ar adolygu hynny gyda’r ysgol. Bu cyswllt sylweddol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac ysgolion pob oed a chafodd y canllawiau hynny ei gyfleu’n glir a’i gyfnerthu ar bob cyfle. Os oes unrhyw bryderon neilltuol, cynigiodd y swyddog i drafod hyn tu allan i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr effeithiau allweddol a ddynodwyd ar addysg ar dudalen 55 ac yng nghyswllt diogelu, ymgyfraniad y trydydd sector gwirfoddol, mesurau iechyd ataliol a mesurau rheoli Covid-19, mae’r adroddiad yn dweud na fu fawr neu ddim ymgysylltu a theimlai fod hyn yn anghywir gan y bu llawer o ymgysylltu gyda phobl ifanc a rhieni yn ystod y pandemig h.y. sicrhau fod prydau  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 441 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd S. Healey fuddiant yn yr eitem ddilynol ac arhosodd yn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ifanc a Phartneriaethau a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar berfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac i egluro’r trefniadau monitro perfformiad ar gyfer y dyfodol.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Soniodd y Cadeirydd am y berthynas well rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a dywedodd fod hyn yn fanteisiol i’r gymuned. Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth y bu ymdrech tîm gan bawb, roedd Cyngor Blaenau Gwent wedi ymgysylltu’n agored gyda’r Ymddiriedolaeth i gael perthynas well. Ychwanegodd y bu staff yr Ymddiriedolaeth yn rhagorol wrth gefnogi ymateb y Cyngor drwy gydol y cyfnod Covid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am hybiau mewn llyfrgelloedd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau iddynt weithio’n agos ar y prosiect o’r dechrau i’r diwedd ac y teimlai nad oedd unrhyw anfanteision gan y gallai preswylwyr lleol yn awr ddefnyddio’r gwasanaeth oedd ar gael ar garreg eu drws. Mae hefyd yn newyddion da i lyfrgelloedd gan ei fod yn agor cynulleidfa newydd gyfan.

 

Holodd y Cadeirydd am bosibilrwydd canolfannau hamdden fel y gallai’r gwasanaeth agor ar fwy nag un diwrnod yr wythnos. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau y gallai hyn fod yn broblem yng nghyswllt staffio. Dim ond ar gyfer y mis nesaf yr oedd y penderfyniad i agor un diwrnod yr wythnos, rhwng 21 Mehefin a 24 Gorffennaf, ac mae hyn oherwydd nifer defnydd gyda phellter cymdeithasol yn ei le. Byddent yn symud i gyfnod newydd o 25 Gorffennaf ac yn ailagor yn llawn.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad rhagorol ac roedd yn falch i nodi y cafodd staff eu hadleoli i helpu gydag ymateb Covid ac roedd eisiau cofnodi ei ddiolch yr agorwyd T? Bedwellte fel canolfan frechu Covid ar gyfer preswylwyr Tredegar gan fod yr ysbyty newydd yn dal i gael ei adeiladu. Roedd hefyd yn falch i nodi fod yr Ymddiriedolaeth yn awr yn cael mynediad i gyllid grant a gobeithiai y byddai hyn yn helpu i godi’r cyfleusterau lan i’r safon a bod yn llwyddiannus o hyn ymlaen.

 

Dywedodd Aelod arall y teimlai fod yr Ymddiriedolaeth mewn lle gwahanol i ble oedd 2-3 blwyddyn yn ôl a chanmolodd y gwaith a wnaed yn troi’r Ymddiriedolaeth o amgylch. Dywedodd fod ysbryd y staff yn llawer gwell a bod y berthynas gydag ysgolion wedi gwella hefyd.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda sylwadau’r Aelodau ar y cynnydd a wnaed a’i fod wedi mynd i’r canolfannau chwaraeon yn ddiweddar i edrych ar y datblygiadau diweddar o fewn yr ardaloedd ffitrwydd a theimlai fod y gwaith a wnaed yno yn flaengar iawn a bod y datblygiadau’n rhoi Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Teimlai fod proffesiynoldeb ac ymrwymiad gan staff ar draws y bwrdd a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau am feithrin y berthynas well rhwng y  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2021 pdf icon PDF 379 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi trosolwg i Aelodau o’r ysgolion hynny a gafodd arolwg yn y cyfnod, yn cynnwys yr ysgolion hynny a gyflwynodd fel achos consyrn, a’u cynnydd a’r gwaith a gyflawnwyd neu sy’n mynd rhagddo i barhau i’w cefnogi i wella.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd y Cadeirydd am y troi o amgylch yng Nghanolfan yr Afon i fyfyrwyr ddychwelyd i addysg brif ffrwd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod Canolfan yr Afon yn ysgol 64 lle gyda 40 lle troi o amgylch a 24 lle parhaol ac un o’r ystyriaethau sydd angen ei ddatblygu a’i gryfhau o’r gwaith a wnaed o amgylch y 40 lle troi o amgylch. Roedd pryderon nad yw dysgwyr yn cael eu rhoi yn ôl mewn gosodiadau prif ffrwd gyda’r gefnogaeth angenrheidiol ac mae hyn yn ystyriaeth sy’n gysylltiedig gyda’r llythyr hysbysiad cyn-rhybudd. Ychwanegodd fod Cytundeb Gwasanaeth yn cael ei ddatblygu. Byddai’n drefniant partneriaeth tairochrog rhwng yr awdurdod lleol, Canolfan yr Afon a’r ysgol sy’n derbyn a theimlai fod angen i’r ysgol angen mwy o gydweithio gyda phartneriaid yn nhermau dychwelyd dysgwyr yn ôl i leoliadau prif ffrwd a bod hyn yn ddarn blaenoriaeth o waith i symud ymlaen.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn eithaf pryderus fod Canolfan yr Afon wedi mynd o Oren i Felyn ac nawr mewn sefyllfa rhybudd. Cyfeiriodd at bara 4.1.2.3 capasiti ysgol a threfniadau derbyn ar gyfer dysgwyr a dywedodd y bu problem barhaus gyda gwaith papur gweinyddol h.y. ar rai achlysuron na chafodd y gwaith papur cywir ei anfon at Ganolfan yr Afon iddynt wybod am y problemau posibl a hefyd pan ddychwelodd disgyblion i leoliadau prif ffrwd, nid oedd y gwaith papur wedi dilyn a holodd os cafodd y materion hyn eu trafod.

 

Teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod categoreiddiad blaenorol Canolfan yr Afon fel ysgol Felyn yn adlewyrchiad hanesyddol o statws perfformiad yr ysgol ac mae’r categoreiddiad hwn yn amheus. Cafodd y Corff Llywodraethu ei gryfhau gyda’r awdurdod lleol wedi penodi tri o lywodraethwyr i gefnogi gwaith y Corff Llywodraethu. Roedd trefniadau derbyn yn rhan o’r llythyr hysbysiad cyn-rybudd a theimlai fod angen mwy o ymgysylltu gan yr ysgol. Nid ydynt yn ymgysylltu ar hyn o bryd yn y trefniadau Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd y gwaith papur gweinyddol yn cael ei gynhyrchu ond teimlai fod angen i’r ysgol gymryd rhan yn y Panel ADY pan fo dysgwyr yn cael eu trafod ar gyfer lleoliad posibl o fewn Canolfan yr Afon ac unwaith eto byddai hyn yn rhan o’r llythyr hysbysiad cyn-rhybudd ac mae angen datrys hynny gyda’r ysgol.

 

Bu’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant mewn trafodaethau gyda’r Pennaeth i ddynodi a datrys unrhyw broblemau parhaus a theimlai ei fod yn bwysig fod aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cymryd rhan yn yr holl drafodaethau fel y byddent yn gwybod am ddisgyblion a allai o bosibl  ...  view the full Cofnodion text for item 11.