Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier a D. Wilkshire.
Aelod Cyfetholedig Tim Baxter
Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
DIWEDDARIAD LLAFUR – PANDEMIG COVID-19
Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y diweddariad diwethaf ar ymateb y Gyfarwyddiaeth i’r pandemig Covid-19.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar 5 Mawrth fod mwy o ddisgyblion i ddychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb. Mae’r Gyfarwyddiaeth wedi gweithio’n agos gyda phenaethiaid ysgol i fabwysiadu dull gweithredu cyffredin ar draws y stad ysgolion er mwyn i ddysgwyr ddychwelyd yn ehangach ac o 15 Mawrth roedd hynny wedi cynnwys pob disgybl cynradd yn mynychu eu hysgol yn llawn-amser. Mae dysgwyr Blwyddyn 11 wedi mynychu o’r un dyddiad ond roedd rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer elfen o ddysgu a bell a gaiff ei phenderfynu gan yr ysgol unigol a’i gyfathrebu i rieni fel sy’n briodol. Roedd hefyd ddarpariaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 i baratoi ar gyfer asesiadau Cyfnod Allweddol 4 yn ystod tymor yr haf. Yn ychwanegol at hynny, cynigiwyd sesiwn ailgydio diwrnod llawn i holl ddysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 cyn cyfnod gwyliau’r Pasg i wirio eu cynnydd a’u lles yn gyffredinol.
Yng nghyswllt y sefyllfa am achosion positif Covid-19, effeithiwyd ar 5 ysgol. Roedd 5 achos positif ymhlith disgyblion a 4 achos positif ymhlith staff, yn cynnwys un aelod o staff o Ail Gyfleoedd. Cyn diwedd tymor y gwanwyn, effeithiwyd ar 180 o ddysgwyr oherwydd eu bod yn hunanynysu am yr ystyriwyd eu bod yn rhan o gr?p cyswllt. Mae’r Cyfarwyddwr yn rhagweld cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am ddychwelyd yn llawn ar gyfer dysgu wyneb-i-wyneb ar gyfer pob dysgwr o 12 Ebrill. Cadarnhaodd fod ysgolion wedi paratoi’n dda ar gyfer penderfyniad o’r fath ar ôl gwyliau’r Pasg a chafodd pob ysgol y profion llif unffordd disgwyliedig ar gyfer staff.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am unedau profion symudol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg y bwriad i ddod ag unedau profion symudol yn ôl i Flaenau Gwent. Esboniodd ei bod yn debyg y byddai cynnydd mewn achosion cadarnhaol oherwydd gwyliau banc y Pasg a dychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb ond rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod ysgolion wedi paratoi’n dda a bod asesiadau risg sicrwydd Covid ar waith.
|
|
Dalen Weithredu – 9 Mawrth 2021 PDF 91 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, yn cynnwys:-
Grantiau a ddyfarnwyd i’r Gyfarwyddiaeth Addysg
Nodwyd, oherwydd camgymeriad, y byddid yn newid Atodiad 2 ar system Modern.Gov yn dilyn y cyfarfod.
Yng nghyswllt cyllid dogn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y byddai’n cydlynu gyda chydweithwyr cyllid ac yn rhoi diweddariad i Aelodau.
Holodd Aelod pam nad oedd cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion wedi ei restru ar Atodiad 2. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg mai dim ond cyllid a dderbyniwyd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a restrir yn Atodiad 1 yn unol â’r cais gwreiddiol. Caiff y Grant Amddifadedd Disgyblion ei weinyddu drwy EAS.
Teimlai Aelod ei bod yn bwysig cael gwybodaeth ar gyllid Grant Amddifadedd Disgyblion gan y caiff yn awr ei asesu bob 3 blynedd a gallai ysgolion weld gostyngiad sylweddol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y rhoddir gwybodaeth am gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer blynyddoedd 2019/20 a 2020/21 ar gyfer y cyfarfod nesaf drwy’r Ddalen Weithredu a dywedodd eto y caiff ei weinyddu’n rhanbarthol gan EAS. Esboniodd y Cyfarwyddwr mai oherwydd meini prawf y caiff y Grant ei ddosbarthu drwy’r consortia rhanbarthol, fodd bynnag mae EAS yn defnyddio’r wybodaeth a gyflwynir gan y Cyngor yng nghyswllt nifer y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim i benderfynu lefel y Grant i’r Cyngor. Bu cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ac roedd tua 1,700 yn derbyn taliadau uniongyrchol. Caiff y broses ei monitro’n wythnosol a lansiwyd ceisiadau yn unol â dymuniadau ysgolion gan gydlynu’n gyson gyda rheini er mwyn diwallu anghenion teuluoedd.
Holodd Aelod os caiff ffioedd gweinyddiaeth eu tynnu o’r grantiau a roddir. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru yn cynnig swm bach iawn o gyllid ar gyfer gweinyddu’r grant. Mae cyfanswm y gyllideb a ddirprwywyd a gaiff ei throsglwyddo’n uniongyrchol i ysgolion tua 86%.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Atodiad 1 a chododd bryder am y swm bach o grantiau a dderbynnir ar gyfer prosiectau tebyg i Gwnsela Ysgolion a Phrosiect Gweithgaredd Haf Ysgolion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y swm hwn yn ychwanegol at y cyllid a dderbyniwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth Cwnsela Ysgolion. Mae’n cydnabod y galw ychwanegol a fu ar y gwasanaeth a byddai’n ategu’r gyllideb a dderbyniwyd eisoes. Yng nghyswllt y £6,000 ar gyfer y Prosiect Gweithgaredd Haf Ysgolion, mae hyn yn gysylltiedig gyda’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol i gefnogi dysgwyr mewn cyfnodau o wyliau ysgol. Byddai’r Rheolwr Trawsnewid Addysg yn rhannu’r adroddiad deilliant o gynllun y llynedd i ddangos peth o’r gwaith a wnaethpwyd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithgaredd.
|
|
Cynnig i Ymgynghori ar gynyddu capasiti Pen y Cwm PDF 576 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd Aelod at wrthdaro buddiant gan fod rhai Aelodau o’r Pwyllgor hwn hefyd yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg na chredai y bydd gwrthdaro buddiant gan y byddai’r drafodaeth yn rhoi sylw i’r potensial ar gyfer ailwampio adeilad presennol Ysgol Pen y Cwm ond na fyddai’n canolbwyntio ar fanylion o safbwynt cynllunio a theimlai y gallai Aelodau gymryd rhan a chynnig eu barn a’u sylwadau am y cynnig.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i geisio barn y Pwyllgor Craffu ac Addysg yng nghyswllt y cynnig i ymestyn capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 120 i 175 disgybl, gan ateb y galw am leoedd. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgynghorai statudol os bydd y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi caniatâd i’r cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg sylw at ddiwygiad yn yr adroddiad ym mharagraff 2.13 sef bod yr ymgynghoriad i ddod i ben ddydd Sul 6 Mehefin 2021, ac nid 6 Mai fel y nodir yn yr adroddiad.
Holodd Aelod os byddai angen staff ychwanegol pe byddai’r ysgol yn cyrraedd ei chapasiti llawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gallai unrhyw oblygiadau staffio ychwanegol gael eu trin yn y gwahaniaethyn posibl rhwng y gyllideb bresennol a’r gyllideb arfaethedig, a fyddai’n £575,000 ychwanegol, yn dibynnu ar anghenion dysgwyr. Byddai angen o bosibl i’r elfen honno o’r gyllideb i gyllido staff ychwanegol i gefnogi dysgwyr yn y safle.
Cododd Aelod bryderon am y nifer fach o leoliadau tu allan i’r sir y darperir ar eu cyfer. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhaliwyd yr adolygiad dechreuol gan y tîm Cynhwysiant, fodd bynnag byddai angen adolygiad mwy manwl yn y dyfodol. Caiff lleoliadau tu allan i’r sir eu penderfynu ar yr anghenion ac amgylchiadau sy’n gysylltiedig gyda phob disgybl unigol ac yn yr adolygiad dechreuol rhagwelwyd mai 5 oedd y nifer uchaf y gellid dod â nhw’n ôl i’r Awdurdod Lleol ar hyn o bryd. Lle mae capasiti ac y gallai anghenion disgyblion unigol gael eu diwallu o fewn yr Awdurdod Lleol yna byddai’r tîm yn edrych ar ddod â mwy o leoliadau allan o’r sir yn ôl i’r Awdurdod Lleol.
Yng nghyswllt y capasiti hysbysodd y Cyfarwyddwr Addysg yr Aelodau mai’r capasiti yn y tymor byr yw 175 disgybl. Byddai cam 2 yn ystyried y trefniadau mwy tymor canol i hirdymor a’r potensial i gynyddu capasiti ymhellach mewn blynyddoedd dilynol.
Holodd Aelod os byddai’r capasiti o 175 disgybl yn ddigonol yn y dyfodol agos neu os byddai mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael yn yr ysgol eto gyda’r cynnydd yn nifer disgyblion ADY. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y ffocws ar ddelio gyda galw yn y dyfodol rhagweladwy ond wedyn byddai angen adolygu capasiti yn yr ysgol fel rhan o gam 2. Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y ffocws ar y blaenoriaethau cyntaf a thrin y gwaith a ... view the full Cofnodion text for item 5. |