Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 9fed Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  H. Trollope (Cadeirydd), G. Collier a T. Smith.

 

Aelod Cyfetholedig

A. Williams

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

 

DIWEDDARIAD LLAFAR – PANDEMIG COVID-19

 

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddiweddariad llafar ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i bandemig COVID-19.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr aelod o achosion positif COVID-19 ar draws y Fwrdeistref wedi gostwng i 38 fesul 100,000 poblogaeth. Bu hynny’n sefyllfa sefydlog dros y 10 diwrnod diwethaf ac yn dangos fod yr holl gydweithio wedi cyfrannu at wneud gwahaniaeth. 

 

Yng nghyswllt y diweddariad ar ysgolion, dim ond un achos positif a fu mewn ysgol ac o safbwynt gweithlu ychydig dros 20 o staff oedd naill ai’n hunan-ynysu neu wedi eu dynodi fel bod yn y categori gwarchod. Mae hynny eto’n sefyllfa sefydlog iawn ac ni chafwyd unrhyw broblemau sylweddol yngl?n â gweithlu a staffio ar draws addysg ar y pwynt hwn. Roedd yn falch i hysbysu Aelodau fod y cyswllt gydag ysgolion wedi parhau i fod yn galonogol iawn a bod ysgolion wedi cytuno ar benderfyniadau strategol ac wedi cymryd dull gweithredu ar y cyd yn nhermau ein hymateb. Mae cyfarfodydd y Gr?p Cynllunio Gweithredol gyda phenaethiaid ysgol yn parhau bob bythefnos ac yn ddiweddar bu symud at i ddysgwyr cyfnod sylfaen ddychwelyd i safleoedd ysgol ar gyfer dysgu wyneb i wyneb o 22 Ionawr. Dywedodd wrth Aelodau fod y trefniadau hyn wedi rhedeg yn llyfn heb unrhyw wir anawsterau ac mae hyn er clod i’r sector cynradd am y ffordd y maent wedi rheoli’r trefniadau hyn wrth iddynt symud tuag at gynyddu niferoedd mewn dysgu wyneb i wyneb.

 

Roedd darpariaeth hyb wedi parhau dros dymor y gwanwyn ar gyfer dysgwyr bregus a gweithwyr allweddol. Yn y cylch derbyn diweddaraf roedd bron 460 o blant oedd yn parhau i gael eu cefnogi. Mae’n achosi ychydig o bryder, o safbwynt prydau ysgol am ddim, fod taliadau uniongyrchol wedi cynyddu i 1,768 o ddysgwyr heb gynnwys dysgwyr Cyfnod Sylfaen. Teimlai fod hyn yn dangos effaith economaidd COVID-19 yn lleol ar rai teuluoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bu’r taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd hynny yn gweithio’n effeithlon ac yn cael eu hadolygu yn wythnosol.

 

O safbwynt dysgu cyfunol o bell, bu cyswllt agos gyda chydweithwyr yn EAS ar gynllun peilot Dathlu, Rhannu, Cefnogi a Mireinio ar draws de ddwyrain Cymru ac roedd yn falch i ddweud fod 13 o 25 ysgol Blaenau Gwent yn cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw, mwy na 50 a dyna’r gyfran fwyaf o unrhyw ardal awdurdod lleol o fewn y rhanbarth.

 

O safbwynt technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, mae nifer y dyfeisiau a’r gefnogaeth i ddysgwyr a theuluoedd bellach yn bron 1,600 dyfais a ddosbarthwyd i deuluoedd lle dynodwyd angen. Mae’r Rheolwr Trawsnewid Addysg a’r tîm wedi gweithio’n agos gyda’r SRS i sicrhau fod y gefnogaeth i ddysgwyr yn gynhwysfawr.

 

Mae brechiadau ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig a’r staff addysgu a heb fod yn addysgu mewn canolfannau adnoddau wedi dechrau. Yng nghyswllt profion, dosbarthwyd profion llif unffordd dros y 10 diwrnod diwethaf a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr y dechreuodd profion llif unffordd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 261 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 11 Chwefror 2021 pdf icon PDF 93 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021, yn cynnwys:-

 

Diweddariad Llafar – Pandemig COVID-19

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad yng nghyswllt y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer offer PPE ychwanegol ar gyfer ysgolion.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cyhoeddwyd canllawiau newydd ar PPE ynghyd â hyfforddiant i bob ysgol ym mis Chwefror. Roedd ceisiadau am PPE ychwanegol yn cael eu monitro bob bythefnos ac roedd gan bob ysgol ddigon o ddarpariaeth yn ei lle ar gyfer cyfnod presennol ailagor. Byddai’r hyfforddiant a’r canllawiau yn cael eu diweddaru gyda gwybodaeth newydd neu sy’n dod i’r amlwg gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Derbyniwyd cyllid Llywodraeth Cymru a’i ddyrannu yn unol â hynny a’i reoli yn unol â dyrannu PPE yn unol â’r cyllid ychwanegol a’r gronfa caledi.

 

Dywedodd Aelod y cafodd nifer o grantiau ychwanegol eu derbyn a gofynnodd am ddiweddariad cynnydd ar grant cymorth COVID-19 ADY, grant dillad mynediad Grant Amddifadedd Disgyblion a’r rhaglen EdTech.

 

Yng nghyswllt grant cymorth COVID-19 ADY a grant mynediad Grant Amddifadedd Disgyblion, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant eu bod yn gweithio gyda EAS i ddyrannu grant cymorth COVID-19 ADY i ysgolion ar sail disgybl. Dylai’r ysgolion dderbyn hyn yn y dyfodol agos. Cafodd grant dillad y Grant Amddifadedd Disgyblion ei ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin ac mae’r broses gais yn awr yn fyw ar wefan Blaenau Gwent. Caiff llythyr ei baratoi ar gyfer ysgolion i’w rannu gyda rhieni, ac mae rhai ysgolion eisoes wedi cynnwys yr wybodaeth ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ddau grant ar gael naill ai i ysgolion neu i rieni.

 

Dywedodd Aelod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £72m ar gyfer addysg a gofynnodd am adroddiad am ba gynigion oedd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gan y bu nifer o gyfleoedd adnoddau a chyllid ychwanegol dros dymor y gwanwyn, cytunwyd gyda chydweithwyr yn yr adran Cyllid i gynhyrchu un ddogfen a fyddai’n rhoi sylw i’r adnodd a sut y defnyddid yr adnodd hwnnw. Caiff Nodyn Gwybodaeth ei baratoi i roi manylion y cyllid grant a dderbynnir gan y Gyfarwyddiaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adolygiad Thematig Estyn – Ymateb Blaenau Gwent i COVID-19 pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Addysg a Dysgu i adolygu adroddiad Adolygiad Thematig Estyn sy’n amlinellu’r naratif ar yr ymateb corfforaethol i sefyllfa COVID-19, yn arbennig yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 32 yr adroddiad a gofynnodd am ddiweddariad ar nifer y disgyblion bregus a fynychodd ddarpariaeth hyb rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r nifer bresennol yw 120.

 

Rhoddodd yr Aelod Cyfetholedig ymateb i’r adolygiad thematig o safbwynt penaethiaid ysgolion. Dywedodd y bu’r ychydig fisoedd diwethaf yn heriol iawn yng nghyswllt ceisio cynnal safon dda o addysg ar gyfer disgyblion pan oedd cynifer o’r staff wedi gorfod ynysu. Bu dau faes o gynnydd cyflym ym Mlaenau Gwent, y cyntaf yw’r cynnydd sylweddol mewn defnyddio technoleg gwybodaeth yn fwy effeithlon i gefnogi disgyblion gyda dysgu o bell, yr ail oedd y lefel  cydweithio gydag ysgolion a swyddogion awdurdod lleol. Bu ymgynghoriad clir a chytundeb llwyr ar bob penderfyniad mawr. Mae hyn yn rhoi mwy o eglurdeb i rieni oherwydd fod dull gweithredu cyson gan bob ysgol a theimlid ei fod wedi helpu i gyfyngu lledaeniad y pandemig. Mae’n dda nodi fod Estyn wedi cydnabod y lefel hon o gefnogaeth, cydweithio ac ymddiriedaeth ac yn gobeithio y byddai’n parhau i’r dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff cyntaf tudalen 33 – ‘Nid yw’n ymddangos fod y trefniadau interim ar gyfer swydd cyfarwyddwr corfforaethol neu ddiffyg swyddog arweiniol gwella ysgolion wedi cael effaith negyddol ar allu’r awdurdod lleol i gefnogi ysgolion yn ystod y pandemig’. Teimlai ei bod yn bwysig sôn fod y Cyfarwyddwr presennol wedi cymryd drosodd ar sail dros dro ar ddechrau’r pandemig a theimlai y dylid llongyfarch y Cyfarwyddwr a’i holl staff ar eu gwaith ers dechrau’r pandemig.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogid a chytuno gyda sylwadau eu cydweithiwr.

 

Cyfeiriodd Aelod at arbedion o £210,000. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod yr adroddiad yn amlygu tanwariant y portffolio ar yr adeg honno yn gysylltiedig â gostyngiad costau, nid arbedion refeniw mohonynt ond y sefyllfa ariannol yr adeg honno. Yng nghyswllt monitro cyllideb, caiff y costau ychwanegol yn gysylltiedig gyda Covid tebyg i arlwyo a glanhau eu hariannu gan bennaf drwy gymorth cronfa caledi Llywodraeth Cymru, heb hynny byddai’r Gyfarwyddiaeth mewn sefyllfa ariannol anffafriol.

 

Mynegodd Aelod ei werthfawrogiad am gymorth amhrisiadwy dysgwyr bregus o’r tîm Cynhwysiant a chydnabu waith da y tîm Gwasanaethau Ieuenctid yng nghyswllt dosbarthu cyfrifiaduron a donglau i alluogi ieuenctid i fynd ar-lein. Croesawodd adroddiad yr Adolygiad Thematig sy’n dangos y dull gweithredu yn ystod dyddiau cynnar y pandemig ac ailagor ysgolion, fodd bynnag roedd ganddo bryderon nad oedd yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd yr Aelod yn falch i nodi ein bod fel Awdurdod Lleol wedi cyflwyno’r pump argymhelliad a amlygwyd yn yr adroddiad i Lywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at recriwtio, adfer, codi safonau a chyllid grant cyflymu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cynllun Busnes EAS 2021-2022 pdf icon PDF 465 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i aelodau ystyried choll gynnwys drafft Gynllun Busnes EAS 2021-2022, fel rhan o’r broses ymgynghori ranbarthol. Drwy’r gweithgaredd hwn, bydd aelodau yn sicrhau fod y cynllun yn galluogi cymorth addas i ysgolion a safleoedd ym Mlaenau Gwent.

 

Cyflwynodd Prif Gynghorydd Her newydd EAS ef ei hun yn gryno i Aelodau. Bu newid yn nhrefniadau EAS. Hayley Davies-Edwards bellach yw’r Prif Gynghorydd Her newydd ar gyfer Blaenau Gwent o fis Ionawr 2021.

 

Siaradodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd yr Aelod Cyfetholedig fod EAS wedi addasu eu ffordd o weithio ac wedi mabwysiadu rôl fwy cefnogol dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi gostwng y galw ychwanegol ar sut mae athrawon yn darparu cymorth ychwanegol wrth gyflwyno gwell dysgu cyfunol. Roedd ganddo un consyrn gyda’r cynllun busnes sy’n ymwneud â’r nod uchelgeisiol yng nghyswllt y cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru a theimlai y byddai’n drueni i ruthro ei weithredu nawr ar draul sicrhau fod pob disgybl wedi dal lan a gofynnodd am sicrwydd na fyddai symud ymlaen ar draul dal lan.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am sut y byddai EAS yn asesu lle mae addysg plant arni ar hyn o bryd a ph’un ai yw’r Awdurdod yn cael gwerth am arian gan EAS, dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS yng nghyswllt y data ar gyfer atebolrwydd, yn yr haf 2020 nad oedd unrhyw asesiadau ar Gyfnod Sylfaen na Chyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, mae data Cyfnod Allweddol 4 yn seiliedig ar asesiadau ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori yn 2021 ar adrodd data, daw’r ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Mawrth ac felly mae’n annhebyg y byddai ystod llawn o ddata diwedd cyfnod allweddol. Yn hanfodol, roedd ysgolion yn adnabod eu dysgwyr a’r cynnydd roedd angen iddynt ei wneud i ddychwelyd i ddysgu. Byddai’r EAS yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi eu dealltwriaeth o ble mae eu dysgwyr arni. Esboniodd fod profion cenedlaethol yn dal i fod, er enghraifft, ond cafodd y gofyniad i wneud y profion cenedlaethol hynny yn flynyddol ei addasu, roedd ar sail ymdrechion gorau yn ystod y flwyddyn oherwydd nad oedd dysgwyr wedi bod yn yr ysgol am lawer o’r flwyddyn i gymryd y profion cenedlaethol addasol hynny. Yr hyn oedd yn hollbwysig oedd pan oedd ysgolion yn defnyddio offer fel hynny eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffordd i asesu lle mae dysgwyr ac i asesu eu hanghenion yn hytrach nag ar gyfer atebolrwydd.

 

Yng nghyswllt gwerth am arian, cyflwynwyd adroddiad gwerth am arian blynyddol i bob awdurdod lleol a’r casgliad a roddwyd ar y pryd gan yr ymgynghorwyr allanol oedd bod EAS yn rhoi gwerth da am arian.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr hyn y mae EAS yn ei wneud i annog ysgolion nad ydynt yn ymgysylltu, dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS fod lefelau uchel o ysgolion wedi cymryd rhan yn y broses CSSR a drwy’r broses Prif Gynghorydd Her, cysylltir ag ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Ysbrydoli i Gyflawni a Pherfformiad Gwaith Ionawr – Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 527 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar brosiectau lleol Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a gyllidir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF). Mae’r prosiectau hyn yn rhan o ddull y tîm Gwasanaeth Ieuenctid i ostwng nifer y bobl ifanc sy’n dod yn NEET (heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1.11 a gostwng staff o 6.5 i 4.5 eleni gan fod dau aelod o’r staff wedi bod dros dro yn cefnogi’r tîm digartrefedd ieuenctid a holodd am gyllid y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid iddynt fod yn llwyddiannus yn sicrhau blwyddyn arall o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith cysylltiedig â digartrefedd, y bwriad oedd fod y ddau aelod o’r staff sydd wedi mynegi diddordeb yn parhau o fewn y tîm digartrefedd ieuenctid a recriwtio ar wahân i ddwy swydd wag. Yng nghyswllt yr ESF, mae’r adroddiad yn sôn fod hyn yn risg ac mae’r tîm mewn trafodaethau gyda phartneriaid rhanbarthol i edrych ar cyllid sy’n dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o’r Gronfa Rhannu Ffyniant. Roedd llwybrau eraill o gyllid yn cael eu hystyried yn y tymor byr ond mae ansicrwydd am amseriad, fodd bynnag mae Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid yn weddol hyderus y daw cyllid ar gael.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed darparwyr hyfforddiant, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid eu bod yn gweithio’n agos gyda nifer o ddarparwyr hyfforddiant o fewn yr ardal, fel rhan o bartneriaeth gr?p codi uchelgais. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall anghenion pobl ifanc a sicrhau fod yr hyfforddiant angenrheidiol ar gael iddynt. Roedd hefyd safleoedd cwricwlwm amgen ar gael lle mae’r tîm yn gweithio gyda’r pobl ifanc yn y safleoedd hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau yn craffu ar yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad ac yn argymell ‘r Pwyllgor Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.

Ffurflen Flynyddol 2019/20 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 540 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid a gyflwynwyd i Aelodau ystyried yr adroddiad a atodir (atodiad 1) a dderbyniwyd gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru yng nghyswllt trydedd flwyddyn y Chweched Fframwaith Asesu ar gyfer ffurflen Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019/20.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 91, dangosydd ansawdd 9 a dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth Hamdden wedi methu cyflawni ei mesur am ddeunydd darllen a theimlai, wrth ddod allan o’r pandemig, ei bod yn bwysig fod amrywiaeth ac ansawdd o ddysgu ar gael i bob oed, a hefyd ar gyfer darllen er pleser ac astudiaeth. Gobeithiai y byddai’r buddsoddiad a ddangosir yn yr adroddiad yn dod yn ei flaen ac na fyddai diffyg darpariaeth ar gyfer deunydd darllen a ffyrdd cyfryngau eraill o ddysgu.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y byddent yn adrodd yn ôl ar gynnydd ar elfen gwariant y gronfa llyfrau a hefyd yn cydnabod y mynediad gwahanol i ddarllen a deunyddiau tebyg i fersiynau electronig. Cyflwynir yr adroddiad hwn ar siâl flynyddol i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am lyfrgelloedd symudol, dywedodd y Rheolwr Partneriaethau, Cyllid a Chontractau fod dau wasanaeth llyfrgell symudol yn weithredol ar hyn o bryd ond mai dim ond am 3 allan o 5  diwrnod yr wythnos yr oeddent yn gweithredu yn ystod y pandemig. Byddai’r gwasanaeth llyfrgell symudol yn gweithredu’n llawn am 5 allan o 5 diwrnod yr wythnos ar ôl y Pasg.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu adroddiad arall blwyddyn ar flwyddyn i sicrhau fod y gronfa llyfrau yn cael ei defnyddio yn y ffordd gywir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn, 1, sef bod Aelodau yn craffu ar yr wybodaeth a fanylir o fewn yr adroddiad ac yn argymell i’r Pwyllgor Gweithredol y dylid derbyn yr adroddiad.

10.

Polisi Derbyn Addysg ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2022/23 Blaenau Gwent pdf icon PDF 447 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i amlinellu canlyniad yr adolygiad blynyddol a’r broses ymgynghori yn gysylltiedig gyda Pholisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol. Gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu roi eu barn a’u sylwadau ar y ddogfen er mwyn paratoi ar gyfer cylch derbyn 2022-23, cyn ei phenderfyniad a’i chyhoeddi ar 15 Ebrill 2021.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y ddogfen polisi.

 

11.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 397 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Oherwydd y pandemig, gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am symud yr adroddiad ar Strategaeth Hygyrchedd Addysg i gyfarfod yn y dyfodol i roi mwy o amser i’r Tîm Trawsnewid i baratoi’r ddogfen ac awgrymodd y gellid rhoi adroddiad diweddaru COVID-19 ar y rhaglen yn lle hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef symud yr adroddiad ar y Strategaeth Hygyrchedd Addysg i gyfarfod yn y dyfodol a rhoi adroddiad diweddariad COVID-19 ar yr agenda yn lle hynny.