Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 15fed Rhagfyr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier ac L. Parsons.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd a’r Cynghorwyr J.C. Morgan a T. Smith fuddiant yn Eitem 5 – Cynnig ymgynghori ar addysg cyfrwng Cymraeg

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 277 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020, yn cynnwys:-

 

Crynodeb o ddeilliannau arolwg Sefydliadau Addysgol – tymor yr hydref 2019 a thymor y gwanwyn 2020

 

Yng nghyswllt yr eitem uchod, gofynnodd Aelod am i’w gwestiwn am Ysgol Sylfaen Brynmawr gael ei gynnwys yn y cofnodion i ddangos her craffu. Mae’r adroddiad yn dweud nad yw disgyblion o bob gallu mewn mwyafrif o wersi yn gyffredinol yn gwneud digon o gynnydd. Nid ydynt yn adalw na defnyddio dysgu blaenorol yn ddigon na nac yn datblygu eu sgiliau’n ddigonol, yn arbennig mewn llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn ddiffyg pwysig.

 

Roedd yr Aelod eisiau sicrwydd bod Ysgol Sylfaen Brynmawr yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol gydag ysgolion eraill a sefydliadau eraill.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

DIWEDDARIAD LLAFAR – PANDEMIG COVID-19

 

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ddiweddariad llafar ar bandemig COVID-19.

 

Roedd Blaenau Gwent, ar draws yr holl stad ysgolion, wedi symud i ddysgu o bell o 10 Rhagfyr. Ni chymerwyd y penderfyniad yn ysgafn a’r adborth gan benaethiaid ysgol oedd fod dysgu o bell yn gweithio’n dda, gyda dysgwyr yn parhau i gadw eu diddordeb.

 

Cyhoeddwyd cyfarwyddeb gan Lywodraeth Cymru am ddwy agwedd o ddarpariaeth. Teimlai yng nghyswllt yr agwedd gyntaf, darpariaeth i ddysgwyr bregus, bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gadarn yng nghyswllt darpariaeth dysgwyr bregus gan fod darpariaeth gref ar waith i gefnogi dysgwyr sy’n blant sy’n derbyn gofal a’r dysgwyr hynny sydd ar y gofrestr amddiffyn plant y gall eu teuluoedd fod angen cefnogaeth.

 

Ail agwedd y gyfarwyddeb oedd darpariaeth gweithwyr allweddol gofal plant cyn gwyliau’r Nadolig. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o benaethiaid ysgol ac roeddent wedi cytuno y dylid anfon llythyr at rieni i’w hysbysu am unrhyw ofynion gofal plant y gallai fod eu hangen ar gyfer dydd Iau a dydd Gwener yr wythnos honno. Gwnaed yn glir os mai dim ond os oedd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio hyn oherwydd bod dysgwyr yn fwy diogel o fewn eu cartrefi. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth Aelodau fod yr Awdurdod yn ymateb i’r gyfarwyddeb.

 

Aeth y swyddog ymlaen drwy ddweud fod y penaethiaid ysgol a’r Cyngor yn gweithio tuag at ddechrau’r tymor newydd ar 4 Ionawr ac yn rhagweld mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yng nghyswllt disgwyliadau ar gyfer darpariaeth tymor y gwanwyn ar gyfer ysgolion.

 

Holodd Aelod am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am brofi pob disgybl mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg na ddisgwylid y byddai hyn yn ei le o ddechrau’r tymor, maent yn disgwyl manylion pellach gan Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth profion mewn ysgolion.

 

Dywedodd Aelod eu bod, fel gr?p wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Addysg ym mis Tachwedd i ofyn am newid i ddysgu cyfunol. Mynegodd ei ddiolch i’r Cyfarwyddwr Addysg a’i staff ar y penderfyniad i newid i ddysgu cyfunol. Deallai iddo fod yn benderfyniad anodd ond bu cyfraddau heintio’n codi’n gyflym ym Mlaenau Gwent gyda rhai rhieni wedi tynnu eu plant o’r ysgol oedd wedi arwain  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynnig Ymgynghori ar Addysg Cyfrwng Cymraeg pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd a’r Cynghorwyr J.C. Morgan a T. Smith fuddiant yn yr eitem ddilynol ac ar ôl cael cyngor gan y Swyddog Monitro, fe wnaethant aros yn y cyfarfod. Felly cymerodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd J. Holt, y gadair.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a ofynnwyd i ofyn am farn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt y cynnig i ymgynghori ar greu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyda 210 lle yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Byddai’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yn ymgyngoreion statudol ar y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed y £6.2m a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y gwnaed y dyraniad ar sail ‘mewn egwyddor’ ac y cafodd ei glustnodi ar gyfer y cynllun hwn. Bu dialog ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru yn dweud fod y dyraniad yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio o fewn Blaenau Gwent, yn amodol ar yr ymgynghoriad. Roedd gan yr Aelod bryderon, pe byddai’r ymgynghoriad yn mynd yn erbyn y cynnig, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am y £6.2m yn ôl. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y tîm Trawsnewid Addysg wedi gwneud llawer o waith i gael mynediad i’r cyllid cyfalaf, a’i bod yn amlwg yn flaenoriaeth o fewn y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i gyflawni goblygiadau statudol. Mae bellach angen gofyn yn ffurfiol am sylwadau rhanddeiliaid fel rhan o’r broes ymgynghori cyn symud ymlaen yn ffurfiol â’r cynnig.

 

Holodd Aelod os byddai’r ysgol yn cael ei adeiladu mewn cyfnodau gan mai dim ond 48 lle a ddefnyddid i ddechrau gan arwain at 210 lle dros y chwe mlynedd nesaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn amodol ar gymeradwyo’r cynnig, bod Gwasanaethau Technegol wedi dweud y byddai’n well o safbwynt cost cyfalaf i gael un contract ar gyfer adeiladu’r ysgol ac wedyn agweddau agored o’r ysgol wrth i’r capasiti gynyddu.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg bod cyfleoedd ar gyfer cyflwyno camau yr edrychir arnynt, ac yn amodol ar ganlyniad y prosesau statudol, ystyrid dadansoddiad manwl o amgylch y costau a’r buddion yn gysylltiedig gyda chyflwyno mewn cyfnodau a datblygu’r cynnig.

 

Yng nghyswllt y gwaith ymchwilio safle a wnaed eisoes, holodd Aelod am y gyllideb ar gyfer y gweithiau hynny. Esboniodd y Cyfarwyddwr y cafodd y costau hynny eu codi yn erbyn y rhaglen Cyfalaf Addysg a’u bod yn gostau isel iawn h.y. ymchwiliadau mwyngloddio ac astudiaethau bwrdd gwaith y byddid yn eu hail-godi i’r gost gyfalaf yn gysylltiedig gyda’r cynllun.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad o hyn ymlaen a dim ond ar ôl rhoi ffeithiau gerbron Aelodau y gellid gwneud penderfyniad am y cynnig.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn cefnogi’r ymgynghoriad a gobeithiai y’i cynhelid ar draws Blaenau Gwent gyda phob ysgol a staff a rhieni’n cymryd rhan. Dywedodd mai un peth yw adnoddau cyfalaf i adeiladu’r sector, ond roedd ganddo bryderon am gostau refeniw a’r effaith ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2019/20 Blaenau Gwent ac Adroddiad Cynnydd ar y Cynnig Grant Cyfrwng Cymraeg pdf icon PDF 534 KB

Ystyried adroddiad y Cyfawryddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar gynnydd yng nghyswllt Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Blaenau Gwent 2017-2020 a’r cynnig grant cyfrwng Cymraeg cysylltiedig.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at ragamcanion twf a holodd os oes cynnydd yn y galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg ei bod yn anodd rhagamcan twf, rhoddir ystyriaeth i’r dalgylchoedd a thafluniadau yng nghyswllt tueddiadau a data genedigaethau, roedd hefyd drosglwyddiadau o fewn blwyddyn. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn dymuno gweithio’n fwy agos gyda’r sector Blynyddoedd Cynnar am dwf a throsiant. Nododd hefyd fod hygyrchedd e.e. cludiant yn dal yn fater allweddol ym Mlaenau Gwent.

 

Holodd Aelod am y goblygiadau cyllideb. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol yn gysylltiedig â’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, fodd bynnag gallai’r cynnig ar gyfer datblygu ysgol gynradd Gymraeg newydd gyda 210 lle, sy’n destun proses statudol a chymeradwyaeth wleidyddol, olygu y gall fod rhai goblygiadau refeniw yn gysylltiedig gyda’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y mae’r cynnig yn rhan ohono.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad a’r llwybr gweithredu cysylltiedig.

 

7.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2020 pdf icon PDF 490 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi trosolwg i Aelodau o’r ysgolion hynny sydd wedi cyflwyno fel achos pryder dros y 3 blynedd ddiwethaf, eu cynnydd a’r gwaith a gyflawnwyd neu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i barhau i gefnogi gwella.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Dywedodd y byddai Aelodau yn gwybod y bu newidiadau a llacio trefniadau perfformio yn gysylltiedig â COVID-19, ond y cyflwynir yr adroddiad fel bod Aelodau yn cael cyfle i graffu ar ddatblygiadau.

 

Mynegodd Aelod bryderon yr ymddengys nad yw dwy ysgol uwchradd yn dangos unrhyw welliant mewn perfformiad flwyddyn ar flwyddyn a heb gategoreiddio roedd Aelodau yn dibynnu ar adroddiadau chwarterol i gael awgrym o berfformiad cyfredol. Cododd bryderon pellach am y ddwy ysgol pob oed ym Mlaenau Gwent sydd â diffyg ariannol a holodd beth oedd y diffyg ar gyfer yr ysgol honno a pha gynlluniau sydd yn eu lle i ostwng y diffyg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bu Cymuned Ddysgu Abertyleri yn achos pryder ers cyfnod, fodd bynnag roedd yn rhesymol optimistig ar gyfer dyfodol yr ysgol. Teimlai y cafodd y trefniadau arweinyddiaeth, o safbwynt proffesiynol y corff llywodraethol, eu cryfhau dros y 12-18 mis nesaf a theimlai’n hyderus wrth symud ymlaen. Yng nghyswllt y sefyllfa ariannol ar draws y stad ysgolion, ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/2020 yn gyffredinol, roedd ysgolion ar draws Blaenau Gwent mewn sefyllfa ffafriol, fodd bynnag, mae diffyg mewn ysgolion pob oed. Mae’r rhagamcan diffyg ar gyfer Cymuned Ddysgu Abertyleri yn fwy na £1m ond mae’r union swm tua £600,000. Gosodwyd targed arbedion o £175,000 yn gysylltiedig â’u cynllun diffyg gostwng cyllideb. Roedd yr ysgol wedi dweud y gellid cyrraedd targed arbedion, sefydlwyd Gr?p Corfforaethol, dan arweiniad Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, i gadw golwg agos ar gynaliadwyedd ariannol a safonau addysgol Cymuned Ddysgu Abertyleri o hyn ymlaen. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod cynlluniau yn eu lle i graffu’n agos ar yr ysgol o ran eu trefniadau cynllunio ariannol. Dywedodd wrth Aelodau y byddent yn edrych dros y ddwy flynedd nesaf i gynnal adolygiad o’r Gyllideb Ysgolion Unigol a’r fformiwla cyllid. Byddir yn symud ymlaen â’r adolygiad a rhoddir adroddiad maes o law i’r pwyllgor craffu fel y symudir ymlaen gyda rhai o’r cynigion.

 

Gofynnodd Aelod fod adroddiadau y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth ar gyllidebau ysgolion a all fod yn faes pryder.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddiffyg yn yr ysgolion pob oed, ac os oedd perfformiad ysgolion iau a chynradd yn yr ardal hefyd yn achos pryder, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod rhagamcanion diffyg ariannol cyn sefydlu Cymuned Ddysgu Abertyleri yn seiliedig ar yr ysgol gyfun flaenorol yn Abertyleri. Bu poblogaeth disgyblion yn gostwng sy’n cael effaith ar y sefyllfa refeniw gyffredinol a chynaliadwyedd yr ysgol gyfun. Mae gan Gymuned Ddysgu Abertyleri yn awr y nifer lawn o ddysgwyr ac mae hyn wedi cyfrannu at ostwng y diffyg ariannol a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2019/20 pdf icon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar reoli lleoedd disgyblion a’r stad ysgolion ar hyd sesiwn academaidd 2019/20.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am y lleoedd dros ben yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg a’r gostyngiad mewn ffigurau ar gyfer addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd a gofynnodd os caiff yr wybodaeth hon ei cynnwys yn y ddogfen ymgynghori. Dywedodd nad oedd nifer ddigonol o ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Pen-y-cwm ar gyfer y disgyblion oedd yno eto roedd lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd arall. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y ddogfen ymgynghori yn dangos cyd-destun nifer a thueddiadau disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Hi oedd yr unig ysgol gynradd Gymraeg bryd hynny ac mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am hyrwyddo galw a thwf. I ddechrau bu materion yn ymwneud â safonau a amlygwyd yn arolwg Estyn ond mae’r ysgol wedi gwella’n sylweddol ac mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac yn tyfu flwyddyn ar flwyddyn yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda’r sector Blynyddoedd Cynnar i wella darpariaeth opsiynau gofal plant cyfrwng Cymraeg gyda golwg ar ddenu galw pellach yn arbennig yn y gr?p oedran meithrin a dosbarth derbyn. Bu’n daith wella sylweddol ac mae’r Awdurdod yn ystyried sut i reoli’r lleoedd gwag o fewn Ysgol Gymraeg Bro Helyg i sicrhau digonolrwydd yn y tymor canol i’r hirdymor yn unol gyda’r potensial am alw cynyddol.

 

Yng nghyswllt Ebwy Fawr, cynhaliwyd adolygiad o gapasiti ysgol Pen-y-Cwm ond gan fod nifer disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol a bod yr ysgol wedi gorfod ailweithio ei gweithgareddau, mae angen cynnal adolygiad pellach graddfa lawn o fewn yr ysgol i edrych ar ailgyflwyno’r amgylchedd dysgu a’r capasiti ychwanegol y gallant ei angen yn unol â rhagamcanion posibl. Datblygwyd dogfen ymgynghori gyda drafft ddyluniad a rhestr ystafelloedd i drin anghenion ysgol Pen-y-Cwm yn y tymor byr i’r tymor canol, byddai’r datblygiadau hirdymor yn cynnwys defnydd posibl agweddau o safle cynradd Ebwy Fawr. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ac mae’r tîm yn edrych ar gyflwyno cynigion i gynyddu capasiti ac felly y gofod o fewn ysgol Pen-Cwm yn gynnar yn 2021.

 

Dywedodd Aelod y bu nifer o alw nag o leoedd ar gael mewn nifer o ysgolion flwyddyn ar flwyddyn, roedd rhai oherwydd mewnlif sylweddol o ddisgyblion o ddatblygiadau preswyl newydd yn y dalgylch a holodd os yw hyn yn cael ei drin ac a roddir ystyriaeth i gynnydd sylweddol mewn rhagamcanion disgyblion wrth ddylunio ysgolion newydd. Esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg sut y cynhelir y rhagamcanion, mae fformiwla wedi sefydlu ac mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Adran Cynllunio i ffactora datblygiadau tai ac yn y blaen.

 

Y setiau rhagamcanion oedd:

·         Datblygiadau heb eu cymeradwyo eto (yn cynnwys edrych ar gyfraniadau datblygydd Adran 106 i ddarparu ar gyfer cynyddu capasiti)

·         Datblygiadau a gymeradwywyd (yn cynnwys ceisio sicrhau cyfraniadau Adran 106 gan ddatblygwyr i gefnogi cynyddu capasiti)

·         Data genedigaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Prosiect Cysylltedd TGCh – Seilwaith Addysg pdf icon PDF 482 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar gynnydd yng nghyswllt prosiect cysylltedd seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o Raglen Hwb EdTech Llywodraeth Cymru a’i aliniad gyda phrosiect cysylltedd seilwaith Blaenau Gwent.

 

Siaradodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod fod defnydd technoleg wedi newid yn sylweddol iawn eleni a holodd os gallai’r seilwaith newydd hwn ymdopi gyda newidiadau mewn dysgu cyfunol ac os y byddai’n helpu gyda dysgu ar draws ysgolion mewn pynciau gyda galw isel e.e. ieithoedd ac yn y blaen fel y gallai disgyblion o ysgolion eraill yn y Fwrdeistref ymuno ar gyfer y pynciau neilltuol hynny. O safbwynt cysondeb a seilwaith, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg bod ysgolion mewn sefyllfa well gyda safonau teg ar draws y stad ysgolion. Mae gwaith gydag ysgolion ar adnewyddu dyfeisiau diwedd bywyd yn parhau. Mae strategaeth TGCh yn cael ei datblygu gydag ysgolion a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, a chaiff y strategaeth ei drafftio dros dymor y gwanwyn ar gyfer ymgynghoriad a gweithredu o fis Medi 2021. Mae’r seilwaith fel y’i hwyluswyd wedi gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu o bell ar draws y bwrdd.

 

Cefnogodd cynrychiolydd SRS sylwadau’r Swyddogion a dywedodd fod TG yn newid yn barhaus a bod Wi-Fi a osodwyd mewn ystafelloedd dosbarth 10 mlynedd yn ôl bellach yn hen ffasiwn. Byddai’r dechnoleg newydd yn galluogi dysgu cyfunol, dysgu o bell a dysgu seiliedig mewn ystafell ddosbarth yn y ffordd fwyaf diogel gyda monitro a chefnogaeth gan dîm Addysg SRS. Maent yn rhoi rhwydwaith penodol i ddarparu ar gyfer defnydd iPads a Chromebooks, mae hefyd fynediad gwesteion i alluogi siaradwyr gwadd i ddod i ysgolion, a llwyfan BYOD o’i fewn, y mae ysgolion yn edrych ar ffyrdd o’i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Mae TG yn hwylusydd mawr, gyda’r un dyfeisiau yn cael eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ac yn y cartref, gwelwyd hyn i ryw raddau gyda dyfeisiau a gafodd eu dosbarthu fel rhan o’r Rhaglen Digidol Amddifadus.

 

Ychwanegodd yng nghyswllt galluogi ysgolion i ryng-gyfathrebu a galluogi dysgwyr o un ysgol i ymuno gyda dysgwyr o ysgolion eraill, bod tystiolaeth fod y dechnoleg yn galluogi hynny i ddigwydd; fodd bynnag ni fedrai SRS gyfeirio ysgolion ar y ffordd orau i ddefnyddio’r dechnoleg a osodwyd ond maent yn gweithio gyda Blaenau Gwent a phartneriaid eraill i gynnwys peth o hyn yn y strategaeth ehangach.

 

Teimlai Aelod y byddai hyn yn fanteisiol iawn yn y dyfodol er mwyn cael ysgolion penodol yn addysgu pynciau neilltuol ar draws y bwrdd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod ar y Ganolfan Data, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod hyn yn cysylltu ag ysgolion yn symud o ddysgu Blaenau Gwent i lwyfan EDU ysgolion. Dywedodd cynrychiolydd SRS y byddai Canolfan Data Blaenafon yn symud i fan arall ond y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ar lwyfan EDU yr ysgolion yn parhau. Mae symud i gyfrifiadureg Cwmwl a byddent yn edrych  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 394 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a  Dysgu.

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth ar ffioedd ymgynghorwyr ar gyfer y portffolio Addysg. Byddai’r Cyfarwyddwr Addysg yn paratoi nodyn gwybodaeth ar gyfer Aelodau.

 

Dywedodd y Cadeirydd, ar  ôl i’r nodyn gwybodaeth gael ei ddarparu, y gellid cynnwys adroddiad ar ffioedd ymgynghorwyr yn y portffolio Addysg yn y cylch Pwyllgor nesaf os oes angen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo blaenraglen gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 26 Ionawr 2021.

 

CYTUNWYD YMHELLACH i baratoi nodyn gwybodaeth i aelodau ar ffioedd ymgynghorwyr a’i anfon at Aelodau, a threfnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pan fyddai’n addas ei ystyried:

 

           Adolygu capasiti Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm

           Trefniadau A106.