Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Nodyn: Oherwydd nam technegol nid oes recordiad o’r cyfarfod hwn ar gael 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
L. Parsons, G. Collier ac Alun Williams.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 260 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

DIWEDDARIAD – DYCHWELYD I’R YSGOL YN YSTOD PANDEMIG COVID-19

 

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg ddiweddariad llafar ar ddychwelyd i’r ysgol yn ystod pandemig COVID-19.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Interim y cyflwynir adroddiad llawn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu yn rhoi sylw i’r ymateb argyfwng hyd yma a diweddariad ar ailagor ysgolion.

 

Dywedwyd y bu’r broses i ail-agor yr ysgolion yn un strategol gyda ffurfio Grwpiau Cynllunio Gweithredol ar gyfer y sector ysgolion cynradd ac un arall ar gyfer y sector ysgolion uwchradd. Cynhaliwyd dau ddiwrnod cynllunio a chafodd dau ddiwrnod cynllunio pontio eu cynnwys yn y broses gyda thargedu penodol ar grwpiau blwyddyn neilltuol. Gyda chymorth corfforaethol, datblygodd y tîm Addysg ganllawiau i gefnogi ailagor ysgolion ac roedd hyn yn cynnwys cyngor ar iechyd a diogelwch a chynnal asesiadau risg.

 

Dywedwyd fod pob ysgol ym Mlaenau Gwent wedi agor yn llawn ar 7 Medi. Roedd hyn cyn gofyniad Llywodraeth Cymru o 14 Medi. Yn nhermau presenoldeb, dywedwyd fod presenoldeb yn yr wythnos a ddechreuodd 7 Medi yn 84%, oedd wedi gostwng i 81% erbyn y dydd Gwener. Ni wyddys hyd yma beth oedd y rhesymau dros y gostyngiad mewn presenoldeb.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y cafodd 4 achos o Covid-19 eu cadarnhau mewn ysgolion hyd yma. Roedd un achos mewn ysgol gynradd nad oedd wedi effeithio ar ddisgyblion eraill a 3 disgybl mewn ysgol uwchradd. Cafodd y canllawiau eu diwygio i roi ystyriaeth i’r achosion hyn, er enghraifft ni fyddid yn cynnal gwasanaethau ysgol a chaiff disgyblion eu hannog i wisgo masiau wyneb mewn ardaloedd cymunol. Caiff presenoldeb staff ysgolion ei fonitro gan Datblygu Sefydliadol a hyd yma mae 20 o staff yn hunanynysu, er y rhagwelir y gallai’r ffigur hwn gynyddu.

 

Gofynnodd Aelod os oedd swyddogion yn hyderus bod canllawiau’n cael eu dilyn a gofynnodd hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael i rieni.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim y byddai’r canllawiau’n cael eu cadarnhau yn y cyfarfod cynllunio nesaf ddydd Gwener ac y rhoddwyd negeseuon clir i’r ysgolion a rhieni.

 

Gofynnodd Aelod beth fyddai’r cyngor i rieni pe bai disgybl wedi’i heintio â brawd neu chwaer mewn ysgol arall. Esboniodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y broses a theimlid fod angen i’r canllawiau sydd ar gael i rieni fod yn glir. Cadarnhaodd y Swyddog fod y negeseuon hyn yn cael eu rhoi ac y byddent yn parhau i fod ar gael i rieni.

 

Codwyd pryderon pellach yng nghyswllt canllawiau a dywedwyd ei bod yn hanfodol bod gwybodaeth briodol ar gael i ysgolion, rhieni a disgyblion.

 

Canmolodd Aelod staff ysgolion am eu hymroddiad yn cael yr ysgolion yn ôl yn gweithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt arian Llywodraeth Cymru, gofynnwyd os oedd y cyllid hwn ar gael i gyflenwi masgiau i ddisgyblion. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim y dyrannwyd £1.8m ledled Cymru ac na ddaeth y dyraniad ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Dalen Weithredu – 26 Chwefror 2020 pdf icon PDF 214 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y dylid dechrau cyfarfodydd am 10.00am yn y dyfodol.

 

7.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 385 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Dilynodd trafodaeth am adroddiadau arolygu ysgolion a nododd Aelodau bwysigrwydd yr adroddiadau arolygu, sy’n eitemau statudol ac a ddylai fod ar gael yr agenda, i’w craffu gan Aelodau. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim gyda’r sylwadau hyn ac felly cynigiodd y Cadeirydd y dylid cyflwyno adroddiadau arolygu ysgolion fel rhan o’r agenda o hyn ymlaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1.

 

8.

Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 2021/22: Cymeradwyo a Chyhoeddi (erbyn 1 Hydref 2020) pdf icon PDF 519 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg a gyflwynwyd i ofyn barn aelodau’r Pwyllgor Craffu am yr adolygiad o Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 Blaenau Gwent ar gyfer sesiwn academaidd 2021/22.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i gyhoeddi’r polisïau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac ôl 16. Mae’n rhaid i bolisi’r Cyngor fod ar gael erbyn 1 Hydref yn y flwyddyn academaidd cyn yr un yr oedd y polisi yn cyfeirio ati. Cafodd y polisi ei adolygu gan y timau Trawsnewid Addysg, Cynhwysiant a Chludiant, ynghyd â Gwasanaethau Plant a nododd y Rheolwr yr atodir y ddogfen ddiwygiedig yn Atodiad 1 a chyfeiriodd at y mân newidiadau a gynigiwyd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau ymhellach at y goblygiadau i’r gyllideb a dywedodd fod y gyllideb cludiant Cartref i’r Ysgol tua £1.9km, a bod y gyllideb Ôl 16 tua £133,290 y flwyddyn. Cafodd y polisi ei adolygu ddiwethaf ym mis Medi 2019 a’i fabwysiadu ym mis Hydref 2019. Byddai’r polisi yn sicrhau fod fframwaith addas i gynorthwyo darpariaeth ac y byddai felly’n gostwng y risg o orwariant cysylltiedig.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi ystyried Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 (Atodiad 1), a’i argymell i’r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer ei gymeradwyo.

 

9.

Blaenau Gwent – Cytundeb Partneriaeth Ôl-16 pdf icon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu graffu ar gynigion i sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ôl 16 Blaenau Gwent i oruchwylio datblygiad strategol darpariaeth academaidd a galwedigaethol ar gyfer dysgwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod trefniant partneriaeth cryf rhwng y Cyngor a Choleg Gwent. Roedd yr Hafan Dysgu yn darparu adroddiad perfformiad blynyddol i’r Cyngor sy’n nodwedd allweddol ar Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Yn ogystal â’r Hafan Dysgu, mae nifer o sefydliadau dysgu seiliedig ar waith ôl 16 yn darparu cyfleoedd hyfforddiant eraill ar draws Blaenau Gwent ac mae’r Awdurdod yn cyflwyno rhaglen prentisiaeth Anelu’n Uchel.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod perfformiad Hafan Dysgu Blaenau Gwent yn parhau i wella a bod trawsnewid darpariaeth ôl-16 ar draws y Fwrdeistref Sirol wedi cyflenwi mwy o ddysgwyr ôl-16, ystod ehangach o gyrsiau, yn neilltuol ar gyfer darpariaeth alwedigaethol a gwell lefelau cyrhaeddiad. Roedd y bartneriaeth gref yn parhau i ddatblygu ac mae dull gweithredu systematig yn ei le i rannu data ar lefel strategol a hefyd weithredol. Caiff y bartneriaeth ei datblygu ymhellach drwy sefydlu Bwrdd Partneriaeth Ôl 16 gyda chynrychiolaeth o’r Gyfarwyddiaeth Addysg, Coleg Gwent, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ysgolion uwchradd Blaenau Gwent. Byddai hefyd gynrychiolaeth gan gydweithwyr yn yr adran Adfywio i gwmpasu’r agenda ehangach sgiliau a datblygu economaidd, gan gyfrannu tuag at Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau Blaenau Gwent. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y gobeithid y byddai’r Bwrdd Partneriaeth yn ei le erbyn tymor yr hydref a chroesawodd sylwadau ar y drafft gylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Ôl 16 Blaenau Gwent.

 

Byddai’r Pwyllgor Craffu yn monitro cynnydd yn y dyfodol gan y byddai adroddiadau’n ffurfio rhan o’r Flaenraglen Gwaith.

 

Cododd Aelod bryderon am faint o hyfforddiant ôl 16 a gynhelir tu allan i’r sir. Teimlai’r Aelod fod nifer uchel o ddisgyblion yn mynd i fwrdeistrefi cyfagos gan nad oedd y cyrsiau ar gael yng Nglynebwy. Mae’n bwysig bod Blaenau Gwent yn cynnig ystod eang o opsiynau i godi uchelgais y bobl ifanc hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg fod rhai pobl ifanc a oedd bob amser wedi dewis mynd i gampysau eraill e.e. i ddilyn astudiaethau Garddwriaethol yng Nghampws Brynbuga. Mae gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n mynychu 6ed dosbarth cyfagos, fodd bynnag eleni mae nifer y Lefelau A a ddyfarnwyd wedi cynyddu ac mae hyn yn wahanol i’r tueddiad cenedlaethol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod nifer cynyddol o ddysgwyr yn dewis astudio cyrsiau galwedigaethol.

 

Codwyd pryderon am y rhaglen Anelu’n Uchel sy’n derbyn cyllid grant a theimlid, heb warant grantiau i gynnal prentisiaethau Anelu’n Uchel, y gellid colli’r cyfleoedd hyn i bobl ifanc.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg fod Ysbrydoli, a gaiff ei reoli gan y Gwasanaeth Ieuenctid, ac Anelu’n Uchel a weithredir gan y tîm Adfywio yn cael eu cyllido gyda chymorth arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Caiff y ddwy raglen eu monitro drwy’r broses rheoli risg.

 

Gadawodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent DRAFFT Canfyddiadau Hunanarfarnu pdf icon PDF 527 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod yr adroddiad yn rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu graffu ar ganfyddiadau prosesau hunanarfarnu parhaus a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol. Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim ymhellach am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Gadawodd y Cynghorydd B. Summers y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod pa oblygiadau ariannol a gafodd Covid-19 ar ysgolion yn nhermau athrawon yn hunanynysu, yr angen am staff llanw ac a fyddai’r arian a geir gan Lywodraeth Cymru yn talu am hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim y gwnaed rhai arbedion refeniw pan oedd ysgolion ar gau, felly mae balansau rhai ysgolion wedi gwella, fodd bynnag mae monitro agos ar gyllidebau. Yn nhermau cyllid Llywodraeth Cymru, roedd yr arian a gafwyd wedi cynorthwyo, er enghraifft, gyda glanhau estynedig mewn ymateb i Covid-19.

 

Dilynodd trafodaeth bellach yng nghyswllt canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 a Lefel A am ba mor dda yr oedd y Gyfarwyddiaeth wedi perfformio. Teimlid hefyd fod angen rhoi ystyriaeth i’r effaith a gafodd Covid-19 ar ysgolion yn ogystal â’r angen am ddysgu cyfunol yn y dyfodol. Rhagwelid y byddai angen i ysgolion ddarparu’r math cyfunol hwn o ddysgu yn y dyfodol felly mae angen iddo fod yn effeithlon. Byddai’r materion hyn yn bwysig yn ystod y 12 mis nesaf.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg, os oedd unrhyw ysgolion yn achosi consyrn, y byddid yn codi’r rhain drwy’r broses briodol ac y byddid yn dod â nhw i Aelodau drwy adroddiad Gwella Ysgolion.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y pwyntiau a wnaed a bod yr hysbyseb am swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fyw ar hyn o bryd ac y rhagwelir y gwneir penodiad ym mis Hydref. Dywedodd fod y Gyfarwyddiaeth hefyd yn recriwtio Arweinydd Gwella Ysgolion a bod yr hysbyseb hon hefyd yn fyw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt dysgwyr newydd addysg ddewisol yn y cartref, dywedwyd fod nifer fach o rieni wedi gofyn am addysg ddewisol yn y cartref ar gyfer eu plant. Dywedodd y Rheolwr Cynhwysiant y bu’r Gyfarwyddiaeth yn rhagweithiol wrth drafod pryderon rhieni pan wnaed ymholiad ac y gobeithir y cafodd eu pryderon eu hateb yn y trafodaethau hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod Aelodau yn craffu’r wybodaeth a fanylir o fewn yr adroddiad ac yn cyfrannu at yr asesiad parhaus o effeithlonrwydd drwy wneud argymhellion priodol i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

 

11.

Polisi Diwygiedig Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwella Addysg Strategol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i ymgynghori ag Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu am y polisi diwygiedig ar Lywodraethwyr yr Awdurdod Lleol cyn ei ystyried gan y Pwyllgor Gweithredol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod diweddar o Banel Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol a nododd ei gais am gael clerc yn y cyfarfod. Teimlai ei bod yn bwysig fod penderfyniadau’r panel yn cael eu cofnodi’n ffurfiol gan fod gan ymgeiswyr hawl i ofyn am gais Rhyddid Gwybodaeth i weld trafodaethau. Cadarnhaodd y Swyddog y cafodd hyn yn awr ei gytuno gyda Cymorth Busnes a chytunwyd cynnwys y trefniant hwn yn yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1.