Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 19eg Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Collier a T. Baxter (Aelod Cyfethol).

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

YMATEB DIWEDDARIAD LLAFAR I COVID-19

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg Corfforaethol drosolwg strategol byr o ymateb addysg ac ysgolion i COVID-19.

 

Y sefyllfa ddiweddaraf ar draws Blaenau Gwent oedd 518 achos fesul 100,000 o boblogaeth. Mae Blaenau Gwent yn y 14eg safle allan o 22 awdurdod lleol ledled Cymru yng nghyswllt nifer yr achosion positif. Fodd bynnag, yr arwyddion gan Iechyd yr Amgylchedd oedd bod hyn yn debyg o fod tua 800 fesul 100,000 o boblogaeth dros yr ychydig ddyddiau nesaf.

 

Mae’r cyfraddau digwyddiad uchaf ymhlith rhai dan 16 oed ac yn debyg i’r sefyllfa bresennol ar draws Cymru. Mae ysgolion wedi trin 142 achos positif yn y sector cynradd a 274 yn y sector uwchradd yn y 14 diwrnod diwethaf. Cafodd Fframwaith Rheoli Haint Ysgolion ei roi ar waith ac yn yr un modd ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth, mae Blaenau Gwent ar lefel gymedrol o ymateb ar hyn o bryd.

 

O safbwynt gweithlu ysgolion, dynodwyd 40 achos positif, 23 achos positif wedi eu cadarnhau, gyda 5 yn y categori bregus, 7 wedi dynodi fel bod â symptomau newydd, a TTP wedi dynodi y dylai 2 staff hunan-ynysu, roedd 1 wedi derbyn prawf llif un-ffordd positif a dau aelod o staff gyda symptomau cyfredol yn gysylltiedig gyda COVID hir. Mae ysgolion wedi sicrhau dysgu wyneb i wyneb ar gyfer dysgwyr yn gyffredinol, er yr heriau sy’n eu hwynebu. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod gwasanaethau cymorth ar gyfer arlwyo a glanhau yn ymdopi ar hyn o bryd. O safbwynt dysgwyr mae’n bwysig nodi fod y rhaglen frechu ar gyfer rhai 12 i 15 oed yn ymestyn ac yn datblygu’n dda a bod tua 60% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi eu brechu ar hyn o bryd.

 

O safbwynt Addysg, mae’r Gyfarwyddiaeth wedi rhoi blaenoriaeth i bedwar maes: h.y. llesiant dysgwyr, cymorth i ddysgwyr bregus, safonau a chynnydd ar gyfer dysgwyr, a gweithrediadau ysgol. Teimlai’r Cyfarwyddwr ei bod yn bwysig cael dull gweithredu strategol, cysondeb a chyffredinedd ar draws y stad ysgolion.

 

Soniodd Aelod am y cynnydd sylweddol o 518 achos a’r disgwyliad y bydd cynnydd pellach i 800 a holodd am y mesurau diogelwch sydd yn eu lle i gadw plant a staff yn ddiogel. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y ffigur o 518 fesul 100,000 yn cyfeirio at nifer yr achosion positif ar draws Blaenau Gwent i gyd ac yn cynnwys achosion positif o fewn y stad ysgolion.  Mae’r fframwaith rheoli haint ysgolion yn gweithio ar sail ysgol unigol i ystyried y lliniaru risg sydd ei angen. Bu’r tîm Trawsnewid Addysg yn gweithio gydag un ysgol uwchradd am fesurau ychwanegol posibl oherwydd nifer yr achosion positif oedd ganddynt. Mae gorchuddion wyneb yn enghraifft a fydd yn cael eu cyflwyno er mwyn gostwng unrhyw drosglwyddiad o COVID.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod addysg ar hyn o bryd ar lefel risg canolig a’u bod yn adolygu’r lefel risg yn rheolaidd mewn cysylltiad gyda chydweithwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 253 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 14 Medi 2021 pdf icon PDF 105 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The action sheet arising from the meeting of the Education & Learning Scrutiny Committee held on 14th September, 2021 was submitted, whereupon:-

 

Education Services – Main Self Evaluation Report (SER)

 

A Member referred to the attachment and asked for clarification on the rates of transfer figures for Brynmawr Foundation School and Georgetown Primary school.  The Service Manager Education Transformation & Business Change explained that the wrong document had been attached in error and she would provide Members with the correct document.

 

A Member raised concerns regarding the number of outward migration of pupils and enquired why pupils were choosing to be educated outside of Blaenau Gwent.  The Director said the overall data illustrated that there was comparability between those learners that were moving out of county and those that were coming in county. The Member commented that in year transfers out of Blaenau Gwent also needed to be captured in the tables to give Members a clearer picture of transfer rates.

 

The Director commented in relation to the secondary sector, three of the four secondary settings were now starting to experience, not surplus places, but sufficiency issues. That meant schools were actually having more applications than the amount of school places that were available.  He informed Members there had been some progress against Section 106 planning agreements, where the housing prospectus was now starting to generate additional requirements for places across the school estate.  Overall, the position was improving across the secondary sector in relation to the amount of learners that were either staying or actually coming into those schools.

 

With regard to reasons for outward migration, the Service Manager Education Transformation & Business Change said they vary significantly from application to application.  Parental preference usually dictated where the pupil attended school, other considerations were friendship groups, transport, child care and sometimes the parent’s workplace, it could be a matter of convenience to access out of county schooling rather than better Education provision.

 

A Member suggested that post-16 transfer figures for pupils transferring from Blaenau Gwent secondary schools to out of county colleges be available in the future. The Officer would look into providing this information in future.

 

The Committee AGREED, subject to the foregoing, that the action sheet be noted.

6.

Rhaglen Gwella Ysgolion 2021 pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi diweddariad i Aelodau ar raglen Gwella Ysgolion Blaenau Gwent, yn unol â newidiadau cenedlaethol i werthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion. Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi sylw i gynllun peilot y dull gweithredu newydd 2021-2022, sy’n adlewyrchu’r newidiadau cenedlaethol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Roedd yr EAS wedi cydweithio ar yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad byr ar bob ysgol.

 

Dywedodd Aelod fod arweinyddiaeth dda a chynllunio da yn allweddol i fynd ag ysgolion ymlaen i wneud gwelliannau. Mae gan yr EAS rôl fawr mewn cefnogi ysgolion a staff a holodd sut mae ysgolion Blaenau Gwent yn cymharu gyda’n teulu o ysgolion. Dywedodd y bu pryderon yn y gorffennol gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri fod disgyblion yn trosglwyddo allan o’r ardal a bod hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer disgyblion gyda goblygiadau adnoddau. Cytunodd y Cyfarwyddwr gyda sylwadau Aelodau ac ategodd bwysigrwydd arweinyddiaeth. Yng nghyswllt meincnodi a’n teulu o ysgolion, cafodd trefniadau adrodd mesurau perfformiad eu llacio ledled Cymru ond rhoddodd sicrwydd i Aelodau ar sail ysgol wrth ysgol a dysgwr wrth ddysgwr y byddent yn edrych ar gynnydd ar lefel fforensig. Yng nghyswllt creu Cymuned Ddysgu Abertyleri, roedd cynaliadwyedd yn un o’r prif sbardunau. Dywedodd am y drydedd blwyddyn yn olynol fod poblogaeth disgyblion blwyddyn 7 yr ysgol wedi bod yn fwy na’r capasiti o 150 dysgwr. Mae’r cohort sy’n mynd drwy blwyddyn 7 yn awr yn 160 o ddysgwyr ac maent yn uwch na chapasiti derbyn yr ysgol, sy’n bwysig yn nhermau cael adnoddau i’r ysgol a gwneud yn si?r fod gan ddysgwyr barhad o ddysgu cyfnod cynradd i’r cyfnod uwchradd.

 

Cododd Aelod bryderon am Gymuned Ddysgu Canolfan yr Afon a theimlai fod angen i’r ddarpariaeth hon fynd yn ôl ar y trywydd neu gallai effeithio ar ysgolion eraill yn y fwrdeistref. Dywedodd y Cyfarwyddwr eu bod yn gweithio’n agos gyda’r ysgol ac EAS i sicrhau fod y gefnogaeth yn addas i’r diben. Mae Canolfan yr Afon yn gweithio gyda’r cyngor am feysydd gwella drwy’r trafodaethau ar ysgolion sy’n achosi consyrn. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod hon yn brif flaenoriaeth gan fod darpariaeth Canolfan yr Afon yn effeithio ar leoli dysgwyr o bob ysgol arall ar draws y stad ysgolion. Mae’n bwysig fod y ddarpariaeth gywir yn ei lle ar gyfer dysgwyr ac y caiff y dysgwyr cywir eu rhoi yn y lleoliad gyda’r gefnogaeth maent ei hangen.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr y caiff y gofynion am ddisgwyliadau’r Cyngor eu hamlinellu’n glir yn yr hysbysiad cyn-rhybudd a’r hysbysiad rhybudd statudol. Bu’r tîm Cynhwysiant yn gweithio i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen ac maent yn ymroddedig i wneud y gwahaniaethau lle dynodwyd heriau. Dywedodd fod yr EAS hefyd wedi bod yn cefnogi’r arweinyddiaeth a’r corff llywodraethu o fewn y lleoliad.

 

Gadawodd y Cynghorydd Martin Cook y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda nodi y cynnydd a wnaed yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri. Yng  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Gwahardd Disgyblion pdf icon PDF 612 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ddata gwahardd mewnol ar gyfer Blaenau Gwent yn y sector cynradd a’r sector uwchradd am flwyddyn academaidd 2020-21, yn ogystal â data gwahardd rhanbarthol ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt cyfarfodydd datblygu proffesiynol holodd y Cadeirydd os byddai’n fanteisiol cysylltu gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr Ysgol. Holodd hefyd am waharddiadau yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal. Cadarnhaodd y Swyddog y gwahoddir Cadeiryddion Llywodraethwyr i gyfarfodydd datblygu proffesiynol.

 

Yng nghyswllt data ar gyfer gwaharddiadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, esboniodd yr Uwch Swyddogion Lles Addysg y dechreuwyd cofnodi gwybodaeth yn nhymor yr haf ar lefel ranbarthol drwy’r EAS a byddai’n rhoi gwybodaeth i Aelodau ar hyn maes o law.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am eglurhad ar fod gwaharddiadau answyddogol yn anghyfreithlon, eglurodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod canllawiau Llywodraeth Cymru ar waharddiadau yn glir mai dim ond pennaeth ysgol fedrai wahardd, naill ai drwy waharddiad cyfnod penodol neu waharddiad parhaol. Er enghraifft, ni fedrai penaethiaid ysgol anfon disgybl adref i bwyllo; byddai hyn yn cael ei ystyried fel gwaharddiad answyddogol a byddai’n anghyfreithlon.

 

Holodd Aelod os oes gweithdrefn safonol ar gyfer gwaharddiadau ar gyfer pob ysgol. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant mai un dull gweithredu sydd ar gael ym mhob ysgol yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Yng nghyswllt paragraff 6.1.12 yr adroddiad – Nifer Gwaharddiadau yn ôl Rhesymau, holodd Aelod am y categori ‘arall’. Dywedodd yr Uwch Swyddog Lles Addysg nad oedd unrhyw ddiffiniad swyddogol ac y byddai’n edrych ar y categori hwn.

 

Yng nghyswllt rhannu arfer da, dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant bod y gweithgor adfer ac adnewyddu gyda phenaethiaid ysgol yn cynnwys llesiant a rhannu syniadau ar sut i gefnogi’r bobl ifanc hynny yr effeithiwyd yn niweidiol arnynt drwy gael cyfnodau sylweddol i ffwrdd o’r ysgol. Rhoddodd enghraifft o ysgol oedd wedi sefydlu gr?p cefnogi, y syniad oedd y byddai pobl ifanc yn defnyddio’r ddarpariaeth a phan deimlent yn barod byddid yn cael eu hailgyflwyno’n raddol i ddosbarthiadau prif ffrwd. Dywedodd y cafodd hyn effaith gadarnhaol iawn ar gyfraddau gwahardd yr ysgol.

 

Teimlai Aelod fod nifer y plant yn gymharol isel o gymharu gyda nifer y dyddiau gwahardd a’r prif bwynt oedd sut i weithio gyda’r bobl ifanc hynny sy’n tarfu fwyaf. Cytunodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant eu bod yn nifer cymharol fach o bobl ifanc sy’n fregus iawn ac sydd angen cefnogaeth sylweddol gan ysgolion. Roedd nifer o ysgolion wedi dilyn hyfforddiant seiliedig ar drawma ac mae hyn yn allweddol i gefnogi’r bobl ifanc hynny cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng a’i bod yn hanfodol fod ymyriadau cynnar yn cael eu rhoi ar waith i osgoi dangos ymddygiad gwahardd.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 5.1.1 yr adroddiad – mae’n ofyniad gan Ddeddf Addysg 1996 fod y Cyngor yn sicrhau y caiff disgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Gofynion Cynllunio Addysg – Trosolwg pdf icon PDF 511 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes a gyflwynwyd i roi trosolwg i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu o Oblygiadau Cynllunio Addysg a phrosesau cysylltiedig.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Soniodd Aelod am y tai y gellid eu hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol dros y 4-5 mlynedd nesaf a holodd sut fedrai’r Cyngor gynyddu capasiti ysgolion i hwyluso’r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant. Dywedodd y Swyddog, er y cyflwynir amcanestyniadau safonol ddwywaith y flwyddyn, fod hefyd brosesau monitro a rheoli effeithlon yn eu lle, sy’n llywio’r asesiadau capasiti a gynhelir yn nhymor yr hydref bob blwyddyn. Rhoddodd y Swyddog wedyn drosolwg o’r gwaith a wnaed i lywio’r asesiadau capasiti. Defnyddir yr wybodaeth hefyd i gynllunio ad-drefnu ysgolion a blaenoriaethau ysgolion 21ain ganrif a chynnal a chadw wedi’i gynllunio o brosesau rheoli stad ysgolion. Cynhelir modelu o fewn pob ysgol yn unol ag amcanestyniadau, data genedigaethau a data tueddiad ac yn y blaen. Mae ysgolion uwchradd dan bwysau ac wedi’u rhaglennu ar gyfer buddsoddiad dan Band B ac efallai Fand C y rhaglen ysgolion 21ain Ganrif.

 

Dywedodd Aelod y dylid cynnwys y Gyfarwyddiaeth Addysg mewn trafodaethau am faterion cynllunio. Soniodd am ddwy ysgol ym Mlaenau Gwent a gafodd gytundebau Adran 106 wedi eu dileu ac roedd ganddo bryderon am sut y byddai hyn yn effeithio ar addysg o fewn yr ardal honno. Teimlai fod hwn yn adroddiad ardderchog gan ei fod yn rhoi cyfle i Aelodau  weld sut mae materion cynllunio yn effeithio ar gapasiti o fewn ysgolion.

 

Amlinellodd y Swyddog y weithdrefn mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am wneud cais am gytundebau Adran 106. Mae fformat wedi’i sefydlu gyda ffurflen arbennig a fformiwla benodol. Dywedodd y caiff y dull o gyfrif taliadau ei nodi ym mharagraff 2.7 yr adroddiad. Esboniodd y caiff ffurflen neilltuol ei llenwi a’i thrafod gyda’r Adran Cynllunio oedd wedyn yn trafod gyda’r datblygydd pan ddynodir oblygiad cynllunio posibl. Cyfeiriodd at y ddwy ysgol o fewn Blaenau Gwent lle cafodd cytundebau Adran 106 eu dileu ac esboniodd y bu pryderon am hyfywedd y datblygiadau preswyl hynny pe byddai’r cyfraniad i Addysg ac eraill yn cael eu gwireddu. Roeddent wedi craffu ar y data i benderfynu os y byddai’n bosibl rheoli’r stad ysgolion heb gyfraniad y datblygydd.

 

Cododd Aelod gonsyrn, gan nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’r cytundebau Adran 106 ar ddatblygiad preswyl ar gyfer dros 200 o dai oherwydd hyfywedd y cynllun, y cafodd cynsail ei osod ar gyllid Adran 106. Teimlai’r Swyddog na osodwyd cynsail a’i fod yn hylaw gan y gwnaed darn mawr o waith o amgylch y datblygiad hwnnw a gan fod yr ysgolion yr effeithiwyd mwyaf arni yn destun cynnig cyllid ysgolion 21ain ganrif, roeddent wedi penderfynu y gallent wneud heb gyfraniad y datblygydd gan y gellid ei drin o fewn eu hadnoddau ariannol eu hunain  wedi alinio gyda’r buddsoddiad cyfalaf gan yr Awdurdod Lleol a  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Blaenraglen Gwaith: 30 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 397 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu sy’n cyflwyno Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y cyflwynir adroddiad Trosolwg 2021 y Cyfarwyddwr Addysg i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Chwefror.

 

Cododd Aelod bryderon am yr ymyriad diweddar ar drafnidiaeth a sut mae’n effeithio ar drafnidiaeth rhwng y cartref a’r ysgol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes fod y materion yn cael eu trin gyda chydweithwyr ac y byddai’n darparu nodyn gwybodaeth ar y sefyllfa ddiweddaraf i Aelodau ei ystyried.

 

Gofynnodd Aelod am i wybodaeth am nifer y lleoedd gwag gael ei chynnwys yn adroddiad Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

·         cyflwyno adroddiad Trosolwg 2021 y Cyfarwyddwr Addysg i gyfarfod Chwefror 2022 o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu; a

·         chynnwys gwybodaeth am nifer y lleoedd gwag yn adroddiad Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2020/21.

 

10.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Cynllun Adfer ac Adnewyddu pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Gwasanaeth – Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y blaenoriaethau a ddynododd y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer adfer ac adnewyddu, fel rhan o’r ymateb i sefyllfa COVID-19.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cododd y Cadeirydd bryderon fod offer TG a ddosbarthwyd i ddysgwyr yn ystod y pandemig yn awr yn cael ei alw’n ôl, a’r effaith y gallai hynny ei gael ar ddysgwyr bregus. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes nad oedd offer TG yn cael ei ad-alw’n ffurfiol, ond y cynhelir adolygiad o offer a gofynnwyd i ysgolion adolygu data dysgwyr dan anfantais digidol i sicrhau y gallai’r Cyngor edrych i gefnogi uwchraddio gyda’r offer presennol a sicrhau ei fod yn gweithio’n gywir. Gofynnwyd i ysgolion barhau i fonitro a lle mae angen amlwg ymhlith disgyblion, ni fyddai disgwyl i ysgolion ddychwelyd unrhyw offer TG nes y byddai dyfais yn ei lle ar gael.

 

Teimlai Aelod fod hon yn rhaglen fawr o adferiad a chododd nifer o bryderon yn cynnwys:-.

           nifer disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim;

           iechyd meddwl disgyblion;

           oedi gyda’r rhaglen CAHMS; a

           rhaglenni llythrennedd a rhifedd gyda rhai rhieni’n methu helpu eu plant gyda’u rhaglenni TG. 

 

Teimlai’n gryf fod yn rhaid i blant gael y cyfleoedd gorau posibl. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y Cynllun Adfer ac Adnewyddu yn ddogfen sy’n esblygu, gan weithio’n agos gydag ysgolion drwy Gr?p Strategol gyda phenaethiaid ysgolion er mwyn cadw o flaen unrhyw newidiadau o fewn eu poblogaeth disgyblion. Cafodd Julia Carmichael ei phenodi i swydd Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant yn ddiweddar a byddai’n canolbwyntio ar lesiant a chaiff hynny ei adlewyrchu yn y cynllun adfer ac adnewyddu. Yng nghyswllt llythrennedd a rhifedd, mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gefnogi’r bobl ifanc hynny y dynodwyd fod ganddynt fwlch yn eu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cefnogi ysgolion, ynghyd â’r EAS, i’w galluogi i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd pob person ifanc a dywedodd fod rhai ysgolion wedi cynnal dosbarthiadau i rieni i helpu rhieni pe dychwelyd i’r sefyllfa dysgu cyfunol.

 

Ailadroddodd yr Aelod ei bryderon, gan fod y set olaf o ffigurau o 2019 a bod gan rai ysgolion lefelau rhifedd o 33%, ac nid oes unrhyw wybodaeth newydd ar gael i Aelodau ei ystyried, gan na fu unrhyw brofion neu arolygiadau Estyn oherwydd y pandemig, a gobeithiai nad oedd y disgwylion hyn yn syrthio ar ôl.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.4 yr adroddiad – Hyfforddiant Staff Addysg. Nid yw anghenion hyfforddiant staff wedi’u halinio â gweithrediadau i gyd wedi’u haddasu ar hyn o bryd i’w cyflwyno ar-lein e.e. cymorth cyntaf - a holodd pryd y dysgid cymorth cyntaf mewn ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolorion a Chynhwysiant fod gan nifer o ysgolion raglen cymorth cyntaf, a bod  ...  view the full Cofnodion text for item 10.