Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mawrth, 3ydd Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr G. Collier ac L. Elias.

 

Aelod Cyfetholedig

A. Williams

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Wayne Hodgins a Lee Parsons fuddiant yn Eitem 9 – Canlyniad yr Adolygiad Hamdden a Monitro Perfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

4.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 247 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020.

 

Dywedodd Aelod y cafodd dau bwynt eu gadael allan o’r cofnodion blaenorol:

           Diweddariadau rheolaidd am COVID-19 o fewn Addysg a’r Fwrdeistref Sirol.

           Profion COVID-19 rheolaidd ar gyfer athrawon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddai’n trin y materion hyn dan eitem 10 Ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i COVID-19.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 15 Medi 2020 pdf icon PDF 185 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 397 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Siaradodd y Cadeirydd am yr adroddiad a gwahoddodd sylwadau gan aelodau.

 

Rheoli Lleoedd Disgyblion a’r Stad Ysgolion 2019/20

 

Gofynnodd Aelod am i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am ysgolion gyda nifer cynyddol o leoedd gwag. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddai’r adroddiad yn canolbwyntio ar leoedd gwag a hefyd lle mae problemau digonolrwydd mewn ysgolion.

 

Gwella Ysgolion

 

Yng nghyswllt gwella ysgolion, holodd Aelod os y byddai’r adroddiad yn cynnwys yr holl wybodaeth a dialog i edrych sut mae ysgolion yn gwella. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddai’r adroddiad yn cynnwys ysgolion sy’n achos pryder ac y caiff Aelodau eu hysbysu’n llawn am y cynnydd a wneir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ar gyfer y cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2020.

 

Gadawodd Tim Baxter, Aelod Cyfetholedig, y cyfarfod ar y pwynt hwn..

 

7.

Deilliannau 2019-2020: Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 pdf icon PDF 819 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol EAS.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol EAS a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am drefniadau adrodd perfformiad ysgolion Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-2020, rhoi trosolwg o’r deilliannau cenedlaethol fel cyd-destun a rhoi data lleol dienw lle mae ar gael.

 

Siaradodd Cyfarwyddwr Corfforaethol EAS am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo a hysbysodd Aelodau bod Llywodraeth Cymru oherwydd y pandemig wedi canslo pob casglu data statudol ar y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 ac wedi llacio’r trefniadau adroddiadau gan ysgolion i awdurdodau lleol fel nad oedd y data yr un fath ag mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am hen ddata, dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol EAS mai’r rheswm pam nad oedd unrhyw ddiweddariad cyfredol i’r data hwn oedd oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r prosesau ar gyfer rhannu’r data hwnnw yn ô i awdurdod lleol.

 

Dywedodd Aelod fod y ffigurau yn yr adroddiad yn rhoi peth gwybodaeth ar gyfer y dyfodol a theimlai fod angen gwella gwyddoniaeth yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd. Mynegodd bryderon nad oedd disgyblion wedi medru sefyll arholiadau yn yr haf ac y gallai hynny ddigwydd eto y flwyddyn nesaf a gofynnodd os byddai cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer disgyblion pan fyddant yn sefyll arholiadau lefel A mewn dwy flynedd. Cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol EAS gyda sylwadau’r Aelod fod dysgwyr ar eu colled drwy beidio sefyll arholiadau ac y byddai dysgwyr angen cymorth ychwanegol gan ysgolion, hyd yn oed os yw ysgolion ar gau dros dro ac y byddid yn rhaid defnyddio dysgu o bell a dysgu cyfunol naill ai gyda’r ysgol gyfan neu garfannau bach o fewn yr ysgol wrth iddynt hunanynysu Roedd llesiant dysgwyr yn flaenoriaeth i’w hailgysylltu gyda dysgu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo 2, sef derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

8.

Crynodeb o Ddeilliannau Arolygon Sefydliadau Addysgol – Tymor yr Hydref 2019 a Thymor y Gwanwyn 2020 pdf icon PDF 674 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth bwysig i Aelodau ar fonitro perfformiad parthed yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn o sefydliadau addysgol.

 

Siaradodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r tair  ysgol a gafodd arolwg gan Estyn:

           Ysgol Sylfaen Brynmawr

           Ysgol Gynradd Cwm

           Ysgol Gymraeg Bro Helyg

 

Dywedodd Aelod i’r ddwy ysgol gynradd gael adroddiadau da ond cododd bryderon difrifol parthed Ysgol Sylfaen Brynmawr yng nghyswllt diffygion pwysig yn arbennig mewn llythrennedd a rhifedd ac rheoli arweinyddiaeth. Dywedodd Prif Gynghorydd Her EAS mai’r pethau allweddol sylweddol yn yr adroddiad oedd arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu. Cafodd arweinyddiaeth ei gryfhau’n sylweddol yn yr ysgol, mae’r Pennaeth wedi penodi Dirprwy Bennaeth a dau Bennaeth Cynorthwyol ychwanegol. Bu diffyg mewn dysgu proffesiynol ond hysbysodd Aelodau fod yr ysgol wedi parhau i gysylltu gyda EAS drwy ddysgu proffesiynol drwy gydol y pandemig. Mae’r ysgol wedi ymgysylltu gyda Rhaglen Genedlaethol Datblygu Arweinyddiaeth Ganol ar gyfer yr holl arweinwyr canol a defnyddir ei arweinwyr uwch fel rhan o’r tîm hwyluso ac mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod gan Ysgol Sylfaen Brynmawr gynllun dysgu cadarn iawn ar gyfer dysgu o bell a dysgu cyfunol ac y caiff ei rannu’n rhanbarthol. Mae’n bwysig i Aelodau wybod fod cyfarfodydd wedi parhau gyda’r ysgolion sy’n achosi pryder i sicrhau gwerthusiad effeithlon o’r gwaith yn y fan a’r lle ac i ddynodi anghenion dysgu proffesiynol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y cynhaliwyd sesiynau SCC gydag Ysgol Sylfaen Brynmawr ac ysgolion eraill yn achosi consyrn. Cafodd arweinyddiaeth yn yr ysgol ei gryfhau ond teimlai y byddai’n cymryd amser i welliannau gael effaith yn yr ysgol a byddai’n diweddaru Aelodau ar y cynnydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddiffyg dqarpariaeth llyfrgell yn yr ysgol, dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg bod ysgolion nad oedd ganddynt lyfrgell ‘arferol’ gweithredol ond nad oedd dysgwyr dan anfantais gan fod ganddynt fynediad i’r ddarpariaeth hon naill ai drwy ofodau tawel neu drwy ddulliau digidol.

 

Gadawodd y Cynghorydd Cook y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at raglen garlam darllen a theimlai ei bod yn fanteisiol i lesiant dysgwyr gael ystafell ddiogel dawel i ddarllen a dal llyfr go iawn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg bod cyfleoedd eraill o fewn ysgolion i sicrhau fod gan ddysgwyr amgylcheddau mewn ysgol oedd yn addas ar gyfer cyfnodau grwpiau bach, ac y byddir yn symud ymlaen â hyn yn rhaglen Ysgolion Ysgol y 21ain Ganrif. Byddai Ysgol Sylfaen Brynmawr yn brosiect blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad fel rhan o raglen Band B.

 

Cefnogodd y Prif Gynghorydd Her sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd er nad oedd gan Ysgol Sylfaen Brynmawr lyfrgell penodol, ei bod yn defnyddio’r adnoddau hynny yn eang ar draws yr ysgol ac mewn ystafelloedd dosbarth. Sicrhaodd Aelodau fod yr ysgol fel rhan o’u cynllunio datblygu yn dod â rhaglen garlam darllen i’r ysgolion fel rhan o’r gwaith ymyriad o  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Canlyniad yr Adolygiad Hamdden a Monitro Perfformiad Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 589 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Wayne Hodgins a Lee Parsons fuddiant yn yr eitem ddilynol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a gyflwynwyd i roi diweddariad i Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad o’r Ymddiriedolaeth Hamdden.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau am ganlyniad yr adolygiad o’r Ymddiriedolaeth Hamdden ac egluro bod y swyddogaeth cleient yn awr wedi’i halinio o fewn y portffolio Addysg. Mae hefyd gyfle i Aelodau graffu ar y trefniadau monitro a gynigir ar gyfer y dyfodol i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Gadawodd y Cynghorydd Clive Meredith y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Holodd y Cadeirydd am drosglwyddo asedau i Theatr Metropole yn Abertyleri. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid y cafodd y broses ei gohirio oherwydd y pandemig ac y disgwylir y byddai’n digwydd erbyn mis Ebrill 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y Metropole, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid ei fod ar hyn o bryd mewn sefyllfa ddal gan yr Ymddiriedolaeth. Roeddent wedi gwneud cais llwyddiannus i Gyngor y Celfyddydau, sy’n awr yn ariannu’r holl weithlu yn y Metropole tan ddiwedd mis Mawrth.

 

Holodd Aelod os caiff unrhyw gyfleusterau y bwriedir eu cau yn y dyfodol eu hadrodd i’r Pwyllgor, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddid yn cyflwyno adroddiad cynnydd misol i’r Pwyllgor hwn fel rhan o’r argymhelliad ac y byddai’n cynnwys unrhyw oblygiadau yn gysylltiedig gyda COVID-19 ar ddarpariaeth hamdden ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bu goblygiadau ariannol yn gysylltiedig gyda cholli incwm, fodd bynnag mae’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn adrodd ac yn rheoli eu colled incwm drwy ostwng gwriant yn gysylltiedig gyda goblygiadau staffio a ffyrlo ac yn y blaen. Teimlai nad oedd unrhyw reswm ar hyn o bryd i fod yn trafod posibilrwydd colli gwasanaethau.

 

Cyfeiriodd Aelod at weithgorau a grwpiau gorchwyl a gorffen blaenorol ar lyfrgelloedd lle mai un o’r argymhellion oedd defnyddio’r llyfrgelloedd fel hybiau cymunedol a holodd os y gwnaethpwyd hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg fod darparu hybiau cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol yn bendant iawn yn rhan o’r agenda strategol allweddol. Byddai manteision o safbwynt defnyddwyr a hefyd safbwynt y llyfrgell i sicrhau y caiff y ddarpariaeth ei diogelu yn y dyfodol. Mae llyfrgelloedd ar gael yng nghanol y rhan fwyaf o’r trefi ac yn cefnogi anghenion y gymuned, mae hefyd botensial ar gyfer datblygiadau digidol a defnyddio setiau sgiliau staff tebyg i gefnogi pobl yng nghyswllt darparu ceisiadau Refeniw a Budd-daliadau ac yn y blaen. Teimlai mai dyma’r dull gweithredu cywir a hysbysodd Aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo i fanteisio ar y gosodiadau cymunedol hynny.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid gyda sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth yn cwrdd bob bythefnos gyda’r Cyngor i ddatblygu’r dull gweithredu hwn a bod pob llyfrgell yn cael ei ystyried.

 

Dywedodd Aelod fod darpariaeth swyddfa’r post unwaith yr wythnos yn y llyfrgell yn ei Ward. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg fod hyn yn enghraifft wych o sut y gallai hyb cymunedol weithio pan mae  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cyfarwyddiaeth Addysg – Ymateb i COVID-19 pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar ymateb y Gyfarwyddiaeth Addysg i sefyllfa COVID-19, yn arbennig yn cefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Cyflwynwyd diweddariad llafar i Bwyllgor mis Medi; fodd bynnag mae’r adroddiad hwn yn rhoi mwy o gyd-destun cefndirol a golwg gyfredol ar yr ymateb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan  Aelod am brofi staff ysgol bod tri dull o brofi:-

1.         Porth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan am fynediad i brofion.

2.         Protocol profi staff o fewn yr awdurdod lle gall ysgolion ac aelodau unigol o staff hunangyfeirio am brofion yn ddyddiol, gyda blaenoriaeth mynediad i ganolfannau profi yn cynnwys Rodney Parade yng Nghasnewydd.

3.         Opsiwn Tîm Rheoli Digwyddiad gyda chynrychiolaeth o Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar glystyrau sylweddol neu achosion posibl fel canlyniad i drosglwyddo seiliedig mewn ysgolion.

 

Mae prosesau effeithlon yn eu lle i sicrhau y gall staff gael mynediad prydlon i brofion. Mae’r protocol profion staff a gyflwynwyd drwy Argyfyngau Sifil Posibl yn sicrhau fod mynediad i brofion ar yr un dydd ag atgyfeirio. Bu’r broses yn gyflym ac yn effeithlon iawn hyd yma. Sicrhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau fod pob ysgol wedi cael asesiadau risg diogel o ran Covid, a gaiff eu hadolygu’n rheolaidd pan ddynodir achosion positif o fewn ysgolion.

 

Holodd Aelod am y cyfraddau trosglwyddo uchel o fewn y gymuned a pha fesurau sydd ar waith i atal trosglwyddo ar adegau dechrau a gorffen ysgolion. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod gan bob ysgol fesurau cadarn yn eu lle yn cynnwys protocol ymwelwyr. Mae ymgysylltu gyda rhieni yn mynd rhagddo un ai’n rhithiol neu dros y ffôn a chyfyngir mynediad i ysgolion os nad yw’n hollol hanfodol. Rhoddwyd llawlyfrau a chanllawiau i rieni a threfnu dechrau am yn ail a systemau un ffordd mewn rhai safleoedd. Mae mesurau effeithlon yn eu lle i gyfyngu ymgysylltu â rhieni ar y safle ac i sicrhau fod rhieni yn symud i ffwrdd o’r safle myn brydlon wrth ddod â disgyblion i’r ysgol a’u casglu oddi yno.  Mae tîm Cyfathrebu y Cyngor yn cefnogi ysgolion gyda negeseuon allweddol rheolaidd i rieni a chodi ymwybyddiaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed diweddariad ar PPE, sicrhaodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr Aelodau nad oedd unrhyw broblemau gyda phrinder PPE mewn unrhyw osodiad. Bu prinder cenedlaethol mewn cynhyrchu a dosbarthu menig yng nghamau cynnar y pandemig ond roedd y Gyfarwyddiaeth wedi cynllunio a rheoli dyraniad a dosbarthiad PPE yn effeithlon ar gyfer pob safle ysgol ac ni effeithiwyd yn negyddol ar unrhyw ysgol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg y derbyniwyd peth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gorchuddion wyneb ar gyfer disgyblion, fodd bynnag nid oedd y cyllid yn ddigonol i dalu am gost dau orchudd wyneb i bob disgybl ac mae’r Gyfarwyddiaeth wedi ychwanegu cyllid.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod dosbarthiad gorchuddion wyneb wedi ei  ...  view the full Cofnodion text for item 10.