Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. A. Davies a J. Holt.

 

PROFEDIGAETH

 

Gyda thristwch yr hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau am farwolaeth Phil Hackling, cyn weithiwr i Gyngor Blaenau Gwent yn y Gwasanaeth Tai. Safodd aelodau a chafwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiad buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Gwasanaethau Cyflawni Addysg (EAS), Adroddiad Gwerth am Arian, Blwyddyn Ariannol 2018/19 pdf icon PDF 641 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a'r Cyfarwyddwr - Adnoddau, Busnes a Llywodraethiant (EAS) a gyflwynodd yr adroddiad yn disgrifio deilliannau adroddiad allanol ar werth am arian y gwasanaeth rhanbarthol yn 2018/19.

 

Cyfeiriodd Aelod at gasgliad yr ymgynghorwyr allanol a theimlai fod angen sicrwydd o ymdrech ar y cyd gan y Pwyllgor Gweithredol ac Aelodau Craffu, yr EAS ac ysgolion i hybu gwelliannau pellach er mwyn cyflawni'r deilliannau addysgol a ddymunir. Mae pawb yn gyfrifol ac yn atebol. Cynigiodd yr Aelod Gweithredol Addysg lefel o sicrwydd a chadarnhaodd y defnyddir dull gweithredu ar y cyd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg enghreifftiau o welliannau perfformiad tebyg i iaith a llenyddiaeth ar gyfer disgyblion 7 oed, graddau A* a lefel 6 Saesneg. Mae cydweithio mewn ffordd holistig wedi dangos gwelliannau clir gyda Chynllun Gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth. Mae ystod o wasanaethau yn ymroddedig i gydweithio a chodi uchelgais disgyblion.

 

Gofynnodd Aelod os yw'r darlun sy'n dod i'r amlwg o Flaenau Gwent yn cael ei adlewyrchu ar draws holl ranbarth EAS a theimlai fod angen mynd i'r afael â phryderon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y cynhelir cyfarfodydd misol ac y gellid codi unrhyw bryderon sy'n dod i'r amlwg. Roedd y trafodaethau hefyd yn cynnwys meysydd oedd angen her ychwanegol i ysgolion. Cynhelir cyfarfodydd gr?p ehangach bob hanner tymor rhwng swyddogion EAS, swyddogion Cynhwysiant, Gwasanaeth Ieuenctid, swyddogion Cyfreithiol a swyddogion o Datblygu Sefydliadol, i gyd yn rhannu gwybodaeth berthnasol i roi cefnogaeth ychwanegol lle mae angen a dal yr EAS i gyfrif.

 

Dywedodd cynrychiolydd EAS y caiff cyfathrebu a gwybodaeth ei rannu mewn cyfarfodydd bob hanner tymor rhwng y pump rhanbarth gyda golwg ar rannu strategaeth a gwybodaeth ysgolion unigol i sicrhau y darparwyd cefnogaeth a her briodol i sicrhau bod gwella'n digwydd ar y cyflymder angenrheidiol. Cedwir cofnodion o'r cyfarfodydd a chaiff camau gweithredu eu hadolygu yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at y gwahaniaethau mewn perfformiad ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y strwythur llywodraethiant yn cynnwys cyfarwyddwyr addysg y pump awdurdod lleol i ystyried a herio adroddiadau arolygu EAS.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am osod y 2% o Gyllideb Ysgolion Unigol yn y gronfa gyffredinol wrth gefn, dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg y byddai hyn yn rhan o'r drafodaeth ehangach ar gyllideb y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r adroddiad ond mynegodd bryderon am ddeilliannau addysgol yn rhanbarthau'r EAS a holodd am y gyfran o Gynghorwyr Her a benodir i ysgolion cynradd ac uwchradd a chefnogaeth mentoriaid ar gyfer ysgolion uwchradd a gofynnodd am ddadansoddiad o'r ffigurau hyn. Dywedodd cynrychiolydd EAS:

 

·       bod ymrwymiad i feithrin gallu drwy gefnogaeth mentor, a ddangosir gan wario tua £167,000 i ariannu'r rhaglen;

·       bod cydnabyddiaeth o berfformiad ysgolion uwchradd;

·       categoreiddio cenedlaethol - mae'r EAS yn gywir ac yn gadarn yn eu categoreiddio gyda chefnogaeth pump awdurdod lleol.

·       Cynghorwyr Her - bu newidiadau o fewn ysgolion uwchradd oherwydd newidiadau cenedlaethol yn ogystal â phenderfyniadau strategol

·       bod cryfder sylweddol mewn arweinyddiaeth ysgolion cynradd.

 

Gofynnodd Aelod am ganrannau a niferoedd Ymgynghorwyr Her sy'n cefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Ieuenctid 2018-2019 pdf icon PDF 548 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar berfformiad y Gwasanaeth Ieuenctid ac i Aelodau graffu ar effaith y gwasanaeth. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y posibilrwydd y daw cyllid Ewropeaidd i ben, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod risg y byddai hynny'n digwydd. Fodd bynnag mae edrych ar gyfleoedd yn rhan o'i swydd ac ymchwilio llwybrau cyllid tebyg i'r Loteri Fawr a'r Fargen Ddinesig.

 

Cododd Aelod bryderon am ddyblygu peth gwaith. Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod y grant Cymorth Ieuenctid a geir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r gwasanaeth i benodi gweithwyr ieuenctid ychwanegol i gefnogi pobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u hiechyd emosiynol a meddwl. Tanlinellodd y Rheolwr ei fod am ddeall a chydnabod sut y gall gwaith ieuenctid gyfrannu at wella iechyd meddwl mewn pobl ifanc ac nid am ddyblygu gwaith. Penodwyd Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid i edrych yn lleol pa broblemau sy'n digwydd ym Mlaenau Gwent gyda'r ffocws ar y bobl ifanc hynny sydd mewn risg o brofi digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ar y gwerth am arian yng nghyswllt prosiect Dug Caeredin, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod gan Flaenau Gwent drwydded ar grwpiau tebyg i dimau pêl-droed a rygbi lleol i  drefnu eu prosiect Dug Caeredin eu hunain, fodd bynnag mae ysgolion yn dal eu trwydded eu hunan.

 

Gofynnodd Aelod tan ba oed mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn cydlynu'r Gwasanaeth Cwnsela 11-18. Mae gofyniad cyfreithiol i gefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed a chafodd arian ei neilltuo i gyflawni'r ddyletswydd hon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y'i darparwyd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Steve Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

6.

Rheoli Lleoedd Disgyblion a'r Stad Ysgolion 2018/19 pdf icon PDF 463 KB

To consider the report of the Education Transformation Manager.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr adroddiad sy'n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar reolaeth lleoedd disgyblion gyda ffocws ar brosesau a hefyd deilliannau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau capasiti a rhagamcaniadau disgyblion mewn ysgolion arbennig, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y byddai'r tîm Cynhwysiant yn edrych ar gapasiti ysgolion arbennig par rhagamcaniadau disgyblion. Bu galw sylweddol am leoedd yn yr ysgol arbennig ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y ddogfen ymgynghori i ehangu i ddarparu ar gyfer niferoedd disgyblion.

 

Gofynnodd yr Aelod am ychwanegu gwybodaeth am yr ysgol arbennig at adroddiadau i Aelodau eu hystyried yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhwysir adroddiad yn y flaenraglen gwaith ac y cynhwysir gwybodaeth ar yr ysgol arbennig mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i weithredu fel hyn.

 

Holodd Aelod eraill sut y byddai'r tîm Trawsnewid Addysg yn trin lleoedd dros ben. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod gwaith ar gynllun gweithredu i ostwng lleoedd dros ben yn cael ei ddatblygu ar gyfer ysgolion a byddai'r tîm yn edrych ar y rhagamcan o nifer disgyblion ar y tueddiadau cyfredol, ymchwilio trefniadau addysgu, edrych ar ffigurau poblogaeth disgyblion yn y dyfodol a chyflwyno mesurau tymor byr i fonitro nifer disgyblion.

 

Mae'r tîm Addysg yn gweithio'n agos gydag ysgolion i fonitro capasiti yn unol â rhagamcaniadau a gyda ffocws ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer yr ysgol neilltuol dan sylw. Byddai'r tîm yn edrych ar hunan-gymorth ar gyfer ysgolion i reoli eu gofodau yn fwy effeithiol.

 

Holodd Aelod os yw'r tîm yn derbyn gwybodaeth gan yr Adran Gynllunio yng nghyswllt datblygiadau preswyl newydd. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y tîm wedi edrych ar ddatblygiadau cyfredol sydd wedi'u cymeradwyo a chynigion ar y gweill ac y byddent yn cynnwys datblygiadau a gymeradwywyd yn rhagamcaniadau'r tîm.

 

CYTUNWYD YMHELLACH gan y Pwyllgor i argymell, yn amodol yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu wedi ystyried yr adroddiad a rhoi sylwadau yn gysylltiedig â gwelliannau y gellir eu gwneud i'r prosesau monitro presennol.