Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 8fed Tachwedd, 2021 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Collins, M. Cross a G.A. Davies.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 212 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Drafft Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 pdf icon PDF 794 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau o’r cynigion a gynhwysir o fewn drafft adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Er ei fod yn cefnogi gwaith y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol, credai Aelod na ddylai Aelodau fod yn gosod eu lefelau eu hunain o gydnabyddiaeth ariannol. Teimlai’n gryf na fedrai gefnogi’r cynnydd a gynigir oherwydd y sefyllfa yng nghyswllt COVID-19, cynnig tâl isel o 1.75% y Llywodraeth i’r Cyngor ac i weithwyr GIG oedd wedi rhoi eu hunain mewn risg drwy gydol y pandemig a theimlai fod gweithlu Prydain yn gyffredinol wedi ei drin yn wael. Ategodd ar ran y gr?p na fedrai gefnogi’r cynnydd hwn a gobeithiai y byddai’r sylwadau hyn yn cael eu hanfon yn ôl i’r panel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer eu trafodaethau.

 

Cytunodd Aelod gyda sylwadau ei gydweithiwr a dywedodd na fedrai gefnogi’r cynnydd, a theimlai y gallai sefyllfa COVID a’r mesurau llymder roi pwysau ar gyllidebau blynyddol. Holodd am y gyllideb gyda gostyngiad yn nifer cynghorwyr o 42 i 33 fis Mai nesaf. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol, yn seiliedig ar 33 aelod etholedig o fis Mai 2022 ac ychwanegu ar y cynnydd cyflog arfaethedig y mae o fewn y gyllideb bresennol, fodd bynnag pe na chytunid ar y cynnydd arfaethedig byddai arbediad i’r Awdurdod. Ni fyddai’r union ffigurau yn hysbys tan ar ôl etholiadau Mai 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y caiff pob adroddiad o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eu cyflwyno i’r Cyngor llawn am benderfyniad ac y cyflwynir drafft adroddiad y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol i gyfarfod llawn nesaf y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod y gallai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wneud argymhellion o amgylch y gwahanol bwyntiau yn yr adroddiad ac aiff yr argymhellion hyn yn ôl i’r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol i’w trafod ynghyd ag argymhellion gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Cyflwynir y cynnig terfynol i’r Cyngor llawn yn gynnar yn 2022.

 

Dywedodd Aelod arall nad oedd yr adroddiad wedi ystyried etholwyr Blaenau Gwent ac effaith COVID, ni fedrai gefnogi’r cynnydd hwn tra bod gweithwyr gofal cartref ar isafswm cyflog a nyrsys wedi cael cynnig cynnydd cyflog o lai na 2%.

 

Teimlai Aelod arall, gyda’r gostyngiad yn nifer y cynghorwyr yn yr etholiad nesaf, ei bod yn anghywir i gynyddu cyflogau. Cytunodd hefyd gyda sylwadau ei gyd-aelod a dywedodd na fedrai gefnogi’r cynnydd gyda rhai pobl yn ennill yr isafswm a chyflog tebyg i yrwyr bws ar gyflogau isel. Fe wnaeth Aelodau eraill hefyd gymeradwyo’r sylwadau hyn.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar uwch gyflogau. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod Aelodau sy’n derbyn uwch gyflog Band 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog o unrhyw NPA neu FRA y cawsant eu penodi iddo, maent yn parhau i fod yn gymwys i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.