Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, J. Collins a L. Parsons
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 289 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2020.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Adroddiad Blynyddol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 621 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol/Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol/Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020/21 Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim Masnachol yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at y dirprwyon diweddar yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a theimlai y dylai hyn fod wedi bod yn eitem ar Agenda’r Gwasanaethau Democrataidd i’w ystyried cyn gwneud unrhyw ddirprwyon a rhoi esboniad.
Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod defnydd dirprwyon ar gyfer Craffu a Phwyllgorau eraill yn cael ei nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor ac y byddai angen gwneud unrhyw newidiadau drwy’r Gweithgor Cyfansoddiadol.
Atebodd yr Aelod fod y Cyfansoddiad yn ddogfen eang. Teimlai fod dirprwyo Aelodau Craffu yn effeithio ar yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys presenoldeb Aelod mewn ffurf fer a dywedodd nad oedd yn cynnwys presenoldeb Aelodau Gweithredol. Teimlai fod defnydd dirprwyon mewn Pwyllgorau Craffu yn newid sydyn a theimlai y dylid cael sgyrsiau democrataidd am hyn a holodd pan y digwyddodd dirprwyon ar ganol y tymor ac nid yn y CCB.
Yng nghyswllt y ffigurau presenoldeb, derbyniodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y pwynt na chaiff ffigurau presenoldeb ar gyfer Aelodau Gweithredol eu cynnwys yn yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai’r system sy’n cael ei defnyddio’n awr yn dangos presenoldeb Aelodau ym mhob pwyllgor a chyhoeddir hynny mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Ar ddefnydd dirprwyon, dywedodd Aelod fod hon yn broblem newydd a gallai o bosibl fod gwahanol Aelodau ym mhob Pwyllgor Craffu a holodd pryd a phwy wnaeth y penderfyniad.
Ailddywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y caiff y gallu i ddefnyddio dirprwyon ei nodi yn y Cyfansoddiad a gytunwyd gan y Cyngor. Os oes unrhyw gwestiynau neu ddiwygiadau i’r Cwestiynau, gallai Aelodau godi’r mater drwy’r Gweithgor Cyfansoddiadol cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor. Derbyniodd yr Aelod ymateb y Swyddog a dywedodd nad oedd pob Aelod yn rhan o’r Gweithgor Cyfansoddiadol a gofynnodd eto pwy wnaeth y penderfyniad.
Dywedodd Aelod arall y teimlai mai’r broblem gyda dirprwyon oedd na fyddai’r Aelodau hynny oedd yn dirprwyo o bosibl yn gyfarwydd gyda materion cyfredol y Pwyllgor Craffu hwnnw. Roedd rheoleiddwyr allanol yn y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymunedol ac roedd yn pryderu efallai na fyddai Aelodau dirprwy yn gwerthfawrogi cymhlethdod rhai o’r materion.
Yng nghyswllt cysylltedd technoleg gwybodaeth, teimlai’r Aelod yn gryf y dylai uwch swyddogion sicrhau fod ganddynt gysylltedd rhyngrwyd da er mwyn medru cymryd rhan mewn cyfarfodydd. Teimlai fod hon yn broblem barhaus gyda rhai uwch swyddogion a bod angen ei datrys. Atebodd y Prif Swyddog Interim Masnachol na wyddai am unrhyw broblemau penodol gan gydweithwyr ond y byddai’n codi’r mater gyda’r Aelod y tu allan i’r cyfarfod.
Yng nghyswllt dirprwyon, dywedodd Aelod y dylai unrhyw bryderon gael eu cyfeirio at y Swyddog Monitro i gael cyngor.
Atebodd Aelod ei fod wedi siarad gyda’r Swyddog Monitro a ddywedodd y gellid gweithredu’r Cyfansoddiad i ganiatáu defnydd dirprwyon ond teimlai na chafodd hyn erioed ei wneud o’r blaen. Dywedodd ei fod wedi bod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Adroddiad Blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru 2021/22 PDF 714 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am y cynigion a gynhwysir yn adroddiad blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru 2021/22.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch, am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Holodd Aelod os yw cynrychiolwyr ar Silent Valley yn derbyn tâl ac os felly os oedd hynny’n cael ei ystyried yn Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod cynrychiolwyr yn derbyn tâl ac y byddai’n rhoi mwy o wybodaeth am hynny ar y ddalen weithredu.
Mewn ymateb i gwestiwn am Aelod yn dal mwy nag un swydd uwch, eglurodd y Prif Swyddog Interim Masnachol na fedrai Aelod etholedig dderbyn tâl am fwy nag un swydd uwch o fewn yr Awdurdod.
Dywedodd Aelod fod y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol yn cynnwys pedwar Aelod a holodd os y byddai gan Arweinydd y Gr?p hwn hawl i gydnabyddiaeth ariannol a gofynnodd am eglurdeb am faint o Aelodau oedd angen ar gyfer gr?p gwleidyddol sy’n derbyn cydnabyddiaeth ariannol. Byddai’r Rheolwr Datblygu Sefydliadol yn ceisio eglurhad ar y mater hwn a byddai’n rhoi adborth i Aelodau drwy’r ddalen weithredu.
Gofynnodd Aelod os yw Aelodau’r Cyngor ar Tai Calon yn cael cydnabyddiaeth ariannol ac os y rhoddir adroddiad ar unrhyw daliadau o’r fath. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod hyn yn cyfeirio at y Rhestr o Ad-daliadau, taliadau ar gyfer cyrff allanol a bod y meini prawf ar gyfer adrodd taliadau ychwanegol a wneir i Aelodau yn benodol iawn ac y byddai’n gwirio ar y mater neilltuol hwn ac yn rhoi adroddiad yn ôl drwy’r ddalen weithredu.
Yng nghyswllt Tai Calon, hysbysodd Aelod arall y Pwyllgor y cytunwyd tua 18 mis yn ôl y byddai Aelodau Cyngor ar Tai Calon yn derbyn tâl. Dywedwyd hefyd fod Aelodau Cyngor ar Silent Valley hefyd yn derbyn tâl.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell i’r Cyngor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y penderfyniadau a nodir yn Adroddiad Blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru 2021/22 yn Atodiad 1.
|