Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 9fed Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, L. Elias a H. McCarthy.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiad buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 242 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Drafft Adroddiad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf icon PDF 779 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn ystyried y prif gynigion a gynhwysir o fewn drafft adroddiad 2021/22 fel y maent yn ymwneud yn uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr adroddiad.

 

Holodd Aelod am yr elfen gofal yng nghyswllt treuliau personol. Esboniodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol pan gaiff hynny ei adrodd dan y datganiad o daliadau a wnaed, bod y cofnod isaf ar y datganiad cyfrifon yn dangos y cyfanswm gwerth a ad-dalwyd. Nid yw’r manylion yn priodoli unrhyw gyfeiriad i unrhyw Aelod etholedig.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yn ystod y cyfnod ymgynghori diwethaf a’r drafodaeth am sut yr adroddir cost gofal, bod y Pwyllgor hwn a’r Cyngor wedi cytuno y byddai’n cael ei adrodd fel swm cronnus a heb ei briodoli i unigolion.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.12.6 yr adroddiad a holodd os yw’r Awdurdod yn annog amrywiaeth ac yn hyrwyddo defnydd cyfraniadau tuag at gostau gofal a chymorth personol. Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau ei bod, fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, wedi cefnogi ac annog Aelodau i hawlio cyfraniad at gost gofal. Teimlai y gallai rhai Aelodau fanteisio o’r cyfle, fodd bynnag, dewis personol Aelodau yw hynny. Cafodd y neges hefyd ei hailadrodd pan gyflwynwyd yr adroddiad i’r Cyngor. Pe byddai Aelodau yn dymuno trafod y mater gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd byddai’n croesawu’r cyfle i annog mwy o ddefnydd ar y cynnig.

 

Yng nghyswllt paragraff 2.13 Hawl i Absenoldeb Teuluol, holodd Aelod os oedd cyfnod wedi ei osod ar gyfer Aelodau etholedig yn dirprwyo dros uwch ddeiliad cyflog. Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau, er fod cyfeiriad at hyn, nad yw’r adroddiad yn rhoi unrhyw derfyn amser penodol. Dynodwyd ychydig o anomaliau yn ystod y cyfnod ymgynghori ac mae elfennau o’r adroddiad drafft sydd angen eu gwella. Os oes achos lle penodwyd dirprwy i swydd cyflog uwch, teimlai y byddai cyfnod y penodiad hwnnw yn dibynnu ar amgylchiadau personol y sefyllfa ac y byddai’r Cyngor llawn yn penderfynu pa ymagwedd i’w dilyn.

 

Holodd Aelod am gydnabyddiaeth ariannol i gefnogi Aelodau i wella cysylltedd digidol, cyflymder band eang ac yn y blaen. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod y drafft adroddiad yn cyfeirio at Aelodau etholedig i gael defnydd parod o wasanaethau e-bost a mynediad electronig i wybodaeth briodol drwy gysylltiad rhyngrwyd. Heb gysylltiadau digonol, byddai  Aelodau yn cael eu cyfyngu’n sylweddol yn eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau.

 

Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau mai’r pwynt cyffredinol o’r adroddiad oedd Aelodau yn cael eu cefnogi i gael mynediad i offer TGCh digidol addas a threfniadau fel nad oeddent dan anfantais a theimlai y gallai fod nad yw hyn o reidrwydd yn daliad am gysylltedd band eang estynedig. Nid yw’r drafft adroddiad yn cyfeirio yn benodol at hyn, byddai’r Pennaeth Lywodraethiant a Phartneriaethau yn anfon y sylwadau i gael eu hystyried fel rhan o’r broses ymgynghori.

 

Dywedodd y Cadeirydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2020/21 pdf icon PDF 14 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau am yr adroddiadau ar y Flaenraglen Gwaith. Cafodd cyfarfod y Pwyllgor ei ohirio oherwydd y pandemig a chynigiwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer diwedd Chwefror/dechrau Mawrth fel y byddai Aelodau yn cael cyfle i weld adroddiad terfynol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor. Byddai Adroddiad Cynnydd Diwedd y Flwyddyn Trefniadau Democrataidd yn rhoi sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ac yn clymu lan gydag Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Yng nghyswllt Datganiad Taliadau a Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau, mae goblygiadau statudol yn parhau o fewn yr amserlen a osodwyd ac mae angen i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen. Bydd adroddiad terfynol y Panel yn cael ei ychwanegu at y Flaenraglen Gwaith os yw ar gael.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gydweithwyr o SRS yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion yn ymwneud â chysylltedd digidol, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod materion cysylltedd wedi symud ymlaen mewn modd sylweddol iawn ers y drafodaeth ddiwethaf oherwydd y pandemig gydag Aelodau’n awr yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor ffurfiol drwy Microsoft Teams ac ar-lein gyda chefnogaeth gan Swyddogion ac dyma’r un darlun ledled Cymru. Roedd y materion TGCh a godwyd yn y drafodaeth flaenorol yn benodol iawn ac efallai nad ydynt yn berthnasol nawr. Wrth symud ymlaen, gellid ystyried presenoldeb o bell gan Aelodau mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Holodd Aelod am broblemau cael mynediad i eitemau eithriedig ar ap Modern.Gov. Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y gall hyn fod yn broblem gyda gweithrediad a datblygu cynnyrch ar ap Modern.Gov, byddai’n gwneud ymholiadau i weld os gwnaed unrhyw gynnydd ar y pwynt hwn a rhoi diweddariad i Aelodau ar yr adroddiad.

 

Soniodd Aelod arall y gall fod goblygiadau cost yn gysylltiedig gydag eitemau eithriedig ar ap Modern.Gov. Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y gall fod yn wir fod angen ychwanegu rhai swyddogaethau ychwanegol at ap Modern.Gov a byddai hefyd yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Yng nghyswllt Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, mynegodd Aelod ei werthfawrogiad am waith y Tîm Gwasanaethau Democrataidd i gefnogi Aelodau. Cytunodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor gyda sylwadau’r Aelod a hefyd fynegi eu diolch am y gefnogaeth a gafwyd.

 

Diolchodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau i Aelodau am eu sylwadau a dywedodd y bu’n gyfnod anodd iawn ac y bu’r Aelodau yn rhagorol yn y ffordd y gwnaethant gydio yn y ffordd newydd hyn o weithio, bu’n rhaid i bawb ddysgu llawer mewn cyfnod byr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

7.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 10.00 a.m. yn y dyfodol.