Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 11eg Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

Cynghorydd L. Parsons

Cynghorydd M. Cross

Cynghorydd R. Leadbeater

Cynghorydd Jen Morgan

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 74 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Demorataidd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 151 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad ar y sail ei fod yn fodlon fod lefel ddigonol o gymorth ar gyfer Aelodau Etholedig cyn iddo gael ei ystyried gan y Cyngor.

 

6.

Polisi Cyfarfod Aml-leoliad ac Opsiynau ar gyfer Siambr y Cyngor wrth symud ymlaen pdf icon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Opsiynau dilynol:-

 

·       Polisi Cyfarfod Aml-leoliad (atodiad 1) – Opsiwn 1a; sef argymell cymeradwyaeth i’r Polisi Cyfarfod Aml-leoliad yn y Cyngor ac iddo gael ei ddefnyddio i gefnogi pob cyfarfod democrataidd a sesiynau aelodau yn y dyfodol; a

 

·       Sefydlu Gweithgor i ystyried Opsiynau ar gyfer Siambr Cyngor – Opsiwn 2; bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrastaidd yn argymell sefydlu Gweithgor Aelodau i edrych ar ofynion, costau ac opsiynau eriall posibl ar gyfer darparu Siambr y Cyngor a rhoi’r canfyddiadau yn ôl i’r Cyngor i gael eu hystyried.