Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023 12.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

Cynghorwyr J. Wilkins a M. Cross

Prif Swyddog Cwsmeriaid a Masnachol

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau

Pennaeth Datblygu Sefydliadol

Rheolwr Datblygu Sefydliadol

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 220 KB

Derbyn penderfyniadau y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig y Pwyllgor 2023-24 pdf icon PDF 381 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith arfaethedig ar gyfer 2023/2024.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Flaenraglen Waith 2023/2024.

 

6.

Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24 pdf icon PDF 565 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno a chyhoeddi’r Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023/2024.

 

7.

Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Blaenau Gwent pdf icon PDF 420 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodaethiant a Phartneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r broses gynllunio ac ymgynghori ar gyfer Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad newydd a chytuno ar weithdy ar y cyd rhwng y Pwyllgorau Trosolwg Corfforaethol a Pherfformiad a’r Pwyllgor Gwasanaeth Democrataidd ar 26 Gorffennaf 2023 i lunio datblygiad y strategaeth ddechreuol.

 

8.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau amser cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor y bydd holl gyfarfodydd Gwasanaethau Democrataidd yn cychwyn am 10.00 a.m. yn y dyfodol.