Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:- Cynghorwyr Jen Morgan a M. Day Rheolwr Gwasanaeth, Perfformiad a Democrataidd
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 209 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gymeradwyo’r cofnodion.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2023 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 532 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol terfynol 2023/2024 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2022/23 y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 409 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef argymell yr adroddiad i’r Cyngor ei gymeradwyo.
|
|
Diweddariad Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol PDF 482 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau a’r Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau a’r Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor yn fodlon gyda’r camau gweithredu hyd yma, a ddynodir yn Atodiad 1, ac ni wnaed unrhyw ddiwygiadau i gamau gweithredu y dyfodol. |
|
Cyfres Polisïau Datblygu Aelodau y Cyngor PDF 579 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cytuno ar y gyfres polisïau a nodir yn yr atodiadau cyn eu cymeradwyo yn y Cyngor:
• Strategaeth Datblygiad Aelodau 2022 – 2027 (atodiad 1) • Fframwaith Mentora Aelodau 2022 – 2027 (atodiad 2) • Adolygiad Datblygiad Personol Aelodau a Fframwaith Cymhwysedd 2022 (atodiad 3).
|
|
Protocol Derisebau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 2023-27 PDF 486 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cytuno ar Brotocol Deisebau 2023-2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (a welir yn Atodiad 1) cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor.
|