Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 17eg Medi, 2021 11.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb can y Cynghorwyr J. Collins, G.L. Davies, M. Day, S. Healy, L. Parsons, J. Holt, T. Sharrem a H. Trollope.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Datganodd y Rheolwr Gwasanaeth, Perfformiad a Democrataidd fuddiant yn eitem 5 – Dynodiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 212 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dynodiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 479 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Datganodd y Rheolwr Gwasanaeth, Perfformiad a Democrataidd fuddiant yn yr eitem hon ac aros yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a gyflwynwyd i geisio cadarnhad am ddynodiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd statudol y Cyngor.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Dywedodd fod swydd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yn wag ar hyn o bryd ac mae’r broses recriwtio yn mynd rhagddi. Gofynnodd i Aelodau ystyried a chytuno i ddynodiad y swydd statudol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd barhau i gael ei halinio at Bennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a chael ei cymryd gan y Swyddog newydd ar ôl penodi.

 

Fel y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sy’n gadael y swydd, diolchodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid i Aelodau am y cyfle a’u gwaith ar y cyd dros y blynyddoedd a dywedodd y bu’n fraint dal y swydd a gweithio gydag Aelodau yn y rôl honno.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaethau Ddemocrataidd sy’n gadael y swydd am ei holl waith ac er na fyddai’n gadael, byddid yn gweld ei cholli yn ei rôl bresennol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar ddynodiad swydd statudol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i Bennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

6.

Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol pdf icon PDF 445 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd sy’n cyflwyno y drafft Gynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol i’w ystyried.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys y cafodd y cynllun gweithredu ei ddatblygu ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ôl ei gytuno yn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021 i ddod yn gyngor amrywiol gan y cafodd ei gydnabod yn genedlaethol fod diffyg amrywiaeth mewn cynghorau. Fel rhan o’r cytundeb hwnnw, cytunwyd i gynnal cynllun gweithredu.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 30 y Cynllun Gweithredu, y pwynt bwled olaf sy’n darllen – ‘Cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ymchwilio grantiau neu sefydlu  ‘taliadau parasiwt’ ar gyfer Aelodau sy’n colli eu seddi mewn etholiad’. Teimlai’r Aelod fod hyn yn ddiangen ac yn gosod baich annheg ar drethdalwyr. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd mai’r rheswm am hyn oedd y byddai Aelodau’r Senedd yn cael taliad parasiwt os oeddent yn aflwyddiannus mewn etholiad. Dywedwyd wrth y Panel a Llywodraeth Cymru y dylai Aelodau awdurdodau lleol gael yr un gydnabyddiaeth ariannol. Hysbysodd Aelodau fod hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru a’r Panel ei ymchwilio, nid yw yn nhrefniadau presennol y Panel ac os cyflwynir y grantiau adsefydlu yn genedlaethol yna byddem ni fel Cyngor yn edrych ar ei gefnogi.

 

Dywedodd Aelod y gallai cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i wneud y swydd fod yn un o’r rhwystrau i ddenu cynghorwyr mwy amrywiol a holodd am hawliau statudol yng nghyswllt hyn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y dylai cynghorwyr gael amser gan eu cyflogwr i ymgymryd â’u rôl, fodd bynnag ni fedrir gorfodi hyn ac mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn edrych arno wrth ystyried pa opsiynau y gellid eu rhoi ar waith i ddarparu ar gyfer Aelodau sy’n gweithio h.y. amrywio amserau cyfarfodydd, rhannu swyddi a chynlluniau gwyliau ac yn y blaen.

 

Dywedodd Aelod y teimlai y byddai angen gwneud mwy os yw’r Cyngor o ddifrif am amrywiaeth. Teimlai nad oedd gan Flaenau Gwent yr un problemau ag oedd gan ardaloedd eraill e.e. Caerdydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd bod Llywodraeth Cymru eisiau i gynghorau ddod yn fwy amrywiol a chytunodd y byddai gwahaniaethau ac arlliw wahanol ymysg gwahanol awdurdodau lleol. Y Cynllun Gweithredu yw dull Blaenau Gwent sydd wedi ceisio dynodi meysydd allweddol sydd naill ai angen iddynt eu gweithredu’n uniongyrchol neu eu cefnogi fel Cynghorydd. Byddai dull ar y cyd gydag awdurdodau lleol a gallai’r Cyngor wedyn edrych ar yr hyn sydd ei angen yn benodol ym Mlaenau Gwent i ddynu set mwy amrywiol o Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.5 yr adroddiad, y pwynt bwled cyntaf sy’n darllen ‘annog pob plaid wleidyddol, drwy Grwpiau Gwleidyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ymrwymo i weithgareddau rhyngweithiol a chydlynol i wella amrywiaeth mewn democratiaeth leol’ a theimlai y dylid aileirio hyn gan nad yw rhai Aelodau yn rhan o gr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.