Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 16eg Gorffennaf, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol gan:-

 

Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd

Cynghorydd T. Sharrem

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

To consider any declarations of interest and dispensations received.

Cofnodion:

Gofynnodd Aelod os oes angen i Aelodau Etholedig sy’n derbyn cydnabyddiaeth ariannol am wahanol weithgareddau ddatgan buddiant yn y sefydliadau allanol y maent yn gynrychiolwyr arnynt. Dywedodd y Prif Swyddog y gallai Aelodau ddatgan buddiant, fodd bynnag teimlai nad oedd angen gwneud hynny ar yr achlysur hwn gan nad oes angen unrhyw benderfyniadau.

 

Gwnaed y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Eitem Rhif 7

Datganiad Taliadau a wnaed i Aelodau yn 2020/2021

 

Cynghorydd M. Day – Aelod Bwrdd Tai Calon

Cynghorydd G.A. Davies – Aelod Bwrdd Tai Calon

Cynghorydd J. Hill – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cynghorydd B. Summers – Bwrdd Silent Valley

Cynghorydd C. Meredith – Panel Heddlu a Throseddu

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cychwyn am 9.30am a chynigiodd gan fod ychydig o hyblygrwydd gyda’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Democrataidd fod y dyddiad yn cael ei newid fel bo angen i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro yn nyddiadur y Cyngor i alluogi’r Cyngor i gychwyn am 9.30 am.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 222 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 22 Mawrth 2021 pdf icon PDF 194 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol Cyflogres, Iechyd a Diogelwch y Ddalen Weithredu a nodi’r ymatebion yn unol â hynny.

 

Taliadau i gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Cyfeiriodd Aelod at daliadau a wneir i Aelodau Etholedig ar sefydliadau allanol a theimlai y dylent i gyd gael eu cyhoeddi. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na ofynnir am yr wybodaeth fel rhan o ofynion cyhoeddi y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol fodd bynnag os yw Aelodau yn dymuno i’r wybodaeth gael ei chynnwys byddai hynny ar ddisgresiwn y sefydliad dan sylw ac felly gallai’r Awdurdod ofyn, fodd bynnag efallai na chaiff ei datgelu.

 

Yn amodol ar yr uchod, CYTUNODD y Pwyllgor ar y Ddalen Weithredu.

 

7.

Datganiad o Daliadau a Wnaed i Aelodau Etholedig 2020/2021 pdf icon PDF 666 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol Cyflogres, Iechyd a Diogelwch am yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyo cyhoeddi’r Datganiad Taliadau a wnaed i Aelodau ar gyfer 2020/2021. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gofynion adrodd ar gyfer cyhoeddi’r rhestr flynyddol o daliadau a wnaed i Aelodau ar gyfer 2020/21. Dywedodd y Swyddog fod angen i’r Cyngor baratoi rhestr flynyddol o daliadau a wnaed i’w aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r wybodaeth a roddir yn Atodiad 1. Nododd Rheolwr Datblygu Sefydliadol Cyflogres, Iechyd a Diogelwch newid yn yr Atodiad yn nhermau’r swm a delir gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cadarnhaodd y Swyddog fod y swm yn £4000.92 ac y cafodd yr adroddiad ei ddiweddaru yn barod i’w ystyried yn y Cyngor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a rhoi cyhoeddusrwydd i’r datganiad taliadau a wnaed i Aelodau (Opsiwn 1).

 

8.

Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2021/22 pdf icon PDF 671 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol Cyflogres, Iechyd a Diogelwch am yr adroddiad sy’n rhoi manylion Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2021-22 ac sy’n rhoi trosolwg o’r rhestr arfaethedig ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a roddir yn Atodiad 1. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r Rhestr sy’n cynnwys y trefniadau ar gyfer talu cyflogau, lwfansau a ffioedd i bob aelod ac aelod cyfetholedig.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol Cyflogres, Iechyd a Diogelwch newid yn Atodiad 1 a chadarnhaodd bod T. Edwards bellach wedi ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant. Ychwanegodd y Swyddog y cafodd y newid hwn ei wneud i’r adroddiad i gael ei ystyried yn y Cyngor llawn.

 

CYTUNODD y Cyngor i dderbyn yr adroddiad a chytunwyd cyhoeddi’r Rhestr Cydnabyddiaeth Aelodau 2021/22 (Opsiwn 1).