Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 16eg Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer:-

 

Cynghorwyr G. A. Davies, K. Hayden, W. Hodgins, G. Paulsen, T. Sharrem, H. Trollope.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 242 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2019.

 

Gadawodd y Cynghorydd S. Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Ymddiheuriad am Absenoldeb

 

Nodwyd na chofnodwyd ymddiheuriad am absenoldeb y Cynghorydd Lee Parsons.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/2021 pdf icon PDF 566 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ymunodd y Cynghorwyr N. Daniels ac S. Thomas â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol yn fyr am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol ynddo:

 

ØBod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol yn rhoi manylion ei benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Ar gyfer 2020/21, penderfynodd y Panel y byddai cynnydd o £350 y flwyddyn yn y cyflog sylfaenol.

 

ØNi chaiff unrhyw gynnydd ychwanegol ei dalu i ddeiliaid cyflogau uwch yn 2020/21 – dim ond yr cynnydd yn yr elfen cyflog sylfaenol a dderbynnid.

 

ØMae Cynghorau yn ymroddedig i ‘weithio di-bapur’ a heb fynediad electronig, byddai Aelodau yn cael eu cyfyngu’n sylweddol yn eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau. Nid oedd yn addas i’r cyfleusterau y mae Aelodau eu hangen i fod ar gael yn unig o fewn swyddfeydd y cyngor o fewn oriau swyddfa

 

ØDylai cyfrifoldeb pob Cyngor drwy ei Bwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd i roi cefnogaeth fod yn seiliedig ar asesiad o anghenion ei Aelodau.

 

ØRoedd y Panel wedi penderfynu na fyddai unrhyw newid i’r cyfraddau milltiroedd y mae gan Aelodau hawl iddynt.

 

ØAd-dalu costau gofal – nid oes unrhyw newid i ad-dalu costau gofal; mae hyn yn parhau ar uchafswm o £403 y mis pan ddangosir derbynebau gan y gofalwr. Fodd bynnag, mae’r Panel yn parhau i adolygu’r ddarpariaeth hon gan ei bod yn glir mai ychydig iawn o Aelodau sydd yn ei defnyddio ac ar 13 Chwefror 2020 roedd y Panel wedi cyhoeddi drafft adroddiad atodol ‘Egwyddorion yn ymwneud ag Ad-dalu Costau Gofal’. Byddai’r ymgynghoriad ar hyn yn dod i ben ar 9 Ebrill 2020 a gwerthfawrogid sylwadau cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

 

Yn ychwanegol, yn flaenorol penderfyniad pob prif Gyngor oedd penderfynu sut y cyhoeddid cost gofal. Ar gyfer 2020/2021, roedd y Panel wedi dileu’r opsiwn hwnnw ac wedi nodi mai dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn y dylai awdurdodau ei gyhoeddi.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau ar yr adroddiad.

 

Gweithio Di-bapur – cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.9.2 yr adroddiad h.y. ‘”Mae Cynghorau yn ymroddedig i ‘weithio di-bapur’ a heb fynediad electronig, byddai Aelodau yn cael eu cyfyngu’n sylweddol yn eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau”.

 

Gan roi ystyriaeth i bandemig Covid 19 fyddai’n effeithio ar bawb, dyma’n bendant yr amser i’r Cyngor ddod mewn i’r 21fed Ganrif yn nhermau ei ddarpariaeth TGCh a gan nad oedd y Cyngor yn cydymffurfio â’r penderfyniad hwn ar hyn o bryd, roedd angen cyfarch hyn fel mater o frys.

 

Cydnabu’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y pwynt pwysig yn gysylltiedig â phandemig Covid 19 a dywedodd y byddid yn gweithredu ar hyn fel rhan o drefniadau’r Tîm Ymateb Argyfwng. Yn nhermau cydymffurfiaeth, dywedwyd fod y Cyngor yn cydymffurfio gyda phenderfyniad y Panel gan y cynigiwyd darpariaeth TGCh i bob Aelod a gallent gael mynediad i hyn tu allan i oriau swyddfa arferol.

 

Aeth yr Aelod ymlaen  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 538 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd) ar gyfer ystyriaeth.

 

Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yn fanwl am yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb o’r trefniadau cynhwysfawr sydd yn eu lle i gefnogi Aelodau. Nodwyd y pwyntiau a godwyd yn yr eitem gynharach a hysbyswyd Aelodau y ceisir cyngor ac arweiniad yn nhermau darpariaeth TGCh.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr adroddiad.

 

System Rheolaeth Agenda Modern.Gov – mynegwyd pryder fod Aelodau yn methu gweld eitemau ‘cyfrinachol’ ar y system hon. Yn ychwanegol, ni fedrid gweld yr eitemau hyn ar ‘ap’ iPad.

 

Tra’n ymrwymo i ddilyn y mater hwn, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y gellid cyrchu eitemau ‘cyfrinachol’ drwy liniaduron Aelodau.

 

Gwnaed y sylwadau/codwyd y cwestiwn ychwanegol:

 

-      Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio dyfeisiau android a dylai’r adran Technoleg Gwybodaeth fod wedi gweithredu ar hyn ynghynt.

 

-      Os gofynnir i Aelodau ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau, a fedrid darparu cyfrineiriau ar wahân i gael mynediad i’r safleoedd hyn?

 

-      Mae angen i’r Cyngor ganolbwyntio ar sut y bydd yn symud ymlaen yn nhermau ei drefniadau TGCh yn y dyfodol. Mae un awdurdod lleol wedi sefydlu Gweithgor Aelodau a fyddai’n cynhyrchu ei adroddiad ei hun a defnyddir hyn i atodi’r adroddiadau a ddarperir gan swyddogion.

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) i gyfarfod nesaf y Pwyllgor fel bod Aelodau yn cael cyfle i ofyn y cwestiynau perthnasol hyn. Gan nad yw dyddiad y cyfarfod nesaf wedi ei drefnu eto, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddid yn galw Pwyllgor Arbennig yn benodol i drafod materion yn ymwneud â threfniadau TGCh.

 

Dywedwyd fod SRS yn cynnal gwaith blaenoriaeth ar hyn o bryd fel rhan o’r trefniadau ymateb argyfwng i bandemig Covid-19 ac roedd y Cadeirydd yn cydnabod y byddai angen i’r gwaith hwnnw gael blaenoriaeth.

 

CYTUNWYD yn unfrydol ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNWYD YMHELLACH i argymell i’r Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor wedi gwneud argymhellion penodol i’r Cyngor eu hystyried cyn eu cymeradwyo.