Agenda and minutes

DEMSERV, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 5ed Tachwedd, 2019 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau absenoldeb ar gyfer:-

 

Cynghorwyr J. Hill, W. Hodgins, K. Rowson a J. Wilkins.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 209 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019, ar hynny:-

 

Ymddiheuriadau

 

Nodwyd fod y Cynghorydd Julie Holt wedi cyflwyno ei hymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod uchod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol i'r uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

5.

Drafft Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/2021 pdf icon PDF 568 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol    am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol ynddo:-

 

ØMae'r adroddiad yn rhoi manylion prif benderfyniadau drafft adroddiad blynyddol 2020/21 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ('y Panel').

 

ØCyfarfu Aelodau Panel gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o'r broses ymgynghori. Y safbwynt a fynegwyd yn gyffredinol gan swyddogion ac Aelodau oedd bod llwyth gwaith sylfaenol pob Aelod etholedig yn parhau'n sylweddol, yn neilltuol yng nghyd-destun llymder, ac yn fwy na 3 diwrnod yr wythnos.

 

ØWrth wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol, penderfynodd y Panel y dylai fod cynnydd o £350 y flwyddyn i'r lefel cyflog sylfaenol yn 2020/2021, sy'n gyfwerth â 2.5%. 

 

ØNodwyd y dylai pob prif awdurdod yng Nghymru dalu cyflog sylfaenol o £14,218 o 1 Ebrill 2020 i bob un o'i Aelodau etholedig os nad yw Aelod unigol wedi dewis yn bersonol ac mewn ysgrifen i dderbyn swm is.

 

ØNi thelir unrhyw gynnydd ychwanegol i uwch ddeiliaid cyflog yn 2020/21 - byddai'r Aelodau hyn yn derbyn y cynnydd elfen cyflog sylfaenol.

 

ØNid oes unrhyw newid i ad-dalu costau gofal, sy'n parhau ar uchafswm o £403 y mis pan ddangosir derbynebau gan y gofalwr. Nodwyd fod y Panel yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth ar hyn o bryd gyda golwg ar annog mwy o ddefnydd gan yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldeb gofalu.

 

ØYn flaenorol mater i bob prif Gyngor oedd penderfynu sut y cyhoeddir cost gofal. Fodd bynnag, ar gyfer 2020/2021 mae'r Panel wedi dileu'r opsiwn hwn ac wedi dweud ei fod wedi penderfynu mai dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn y dylai'r awdurdodau perthnasol ei gyhoeddi.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr adroddiad.

 

ØAd-dalu Costau Gofal - canmolodd y Cadeirydd fod y cynigion drafft yn parhau i gynnwys ad-dalu costau gofal ar gyfer yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu.

 

Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd) y cafodd y mater hwn ei drafod yn faith yn nigwyddiad ymgynghori'r Panel. Nodwyd fod y defnydd yn gyffredinol isel yng Nghymru ar gyfer ad-dalu costau gofal ac mae'r Panel, fel yr amlinellir uchod, yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gyda golwg ar annog mwy o ddefnydd gan yr Aelodau hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu.

 

Caiff yr Aelodau hynny sy'n teimlo eu bod angen y gefnogaeth hon eu hannog i gysylltu â'r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd).

 

ØCefnogi Gwaith Aelodau Etholedig – cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.9.1 yr adroddiad h.y. nad oedd y Panel yn ei hystyried yn briodol y dylai fod yn ofynnol i Aelodau dalu am wasanaethau rhyngrwyd i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau cyngor a gofynnodd os y dylai fod terfyn uchaf ar gyfer y ddarpariaeth (er enghraifft £10-£15 y mis).

 

Dywedodd y Cadeirydd fod problemau o ran cysylltiad rhyngrwyd mewn rhai rhannau o Gymru ac awgrymodd y dylai'r pwynt perthnasol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Trefniadau Democrataidd a Chynnydd Craffu pdf icon PDF 473 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd yn fanwl am yr adroddiad sy'n rhoi sylw i'r trefniadau democrataidd a chynnydd craffu ar gyfer y cyfnod mis Ebrill i fis Medi 2019.

 

Daeth y Rheolwr Gwasanaeth i ben drwy dynnu sylw Aelodau at y gostyngiad yn lefel presenoldeb cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu o gymharu â chwarter 1af ac 2il chwarter y flwyddyn ac o gymharu gyda'r un chwarter y flwyddyn flaenorol.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau am yr adroddiad.

 

ØAp Mobile Iron - mynegodd Aelod ei bryder mai dim ond i'r rhai sydd â mynediad i liniadur mae'r fewnrwyd ar gael a gofynnodd os gellid darparu'r un gwasanaeth i Aelodau sy'n cyrchu gwybodaeth ar ddyfeisiau iPad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai'n ymchwilio'r mater.

 

ØModern.Gov – mynegodd Aelod ei bryder nad oedd yn medru cyrchu gwaith papur agendâu yr awdurdod drwy wefan y Cyngor.

 

Esboniodd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd) fod problemau technegol gydag ap Modern.Gov ar hyn o bryd a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda SRS i unioni'r mater. Fodd bynnag, mae gwaith papur agendâu yn dal yn hygyrch yn gyhoeddus ar y rhyngrwyd.

 

Ymunodd y Cynghorydd J. Millard â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

ØGwe-ddarlledu – canmolodd y Cadeirydd yr agwedd at we-ddarlledu a dywedodd y gobeithiai y gallai cyfarfodydd o'r Cyngor gael eu gwe-ddarlledu yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod arall fod y Cyngor wedi gwe-ddarlledu cyfarfodydd mewn blynyddoedd blaenorol fel cynllun peilot a dywedodd y byddai hefyd yn croesawu gwe-ddarlledu cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

ØPresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu/Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau – mynegodd Aelod ei bryder am nifer y cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu/Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau a gafodd eu canslo neu eu haildrefnu'n ddiweddar a gofynnodd am i'r mater gael sylw.

 

Dywedodd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau (Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd) y byddai'n edrych ar y mater.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan fynegodd Aelod arall hefyd ei bryder am lefel isel presenoldeb mewn Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau a chyfarfodydd Pwyllgor Craffu.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai lefelau presenoldeb gael ei drafod o fewn cyfarfodydd o'r gwahanol grwpiau gwleidyddol.

 

ØAp Fy Ngwasanaethau Cyngor – mewn ymateb i gais, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y byddai'n edrych os oes opsiwn ar gael i hysbysu am nifer o faterion ar unwaith ar ap Fy Ngwasanaethau Cyngor yn hytrach na chyflwyno ceisiadau gwasanaeth unigol. Nodwyd pwysigrwydd defnyddio'r ap i roi gwybod am faterion gan ei fod yn medru casglu a chofnodi gwybodaeth hollbwysig.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell i'r Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi'r wybodaeth a gynhwysir o fewn yr adroddiad ac argymell yr adroddiad i'r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo.