Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Mercher, 23ain Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier a J.P. Morgan.

 

Prif Swyddog Masnachol a Phartneriaid

Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 248 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 10 Rhagfyr 2021 pdf icon PDF 206 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor y dylid nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Cynllun Adferiad Covid 19 Blaenau Gwent pdf icon PDF 669 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a gyflwynwyd i nodi a cheisio barn y Pwyllgor Craffu ar y dull gweithredu i’w ddefnyddio i fonitro adferiad o bandemig Covid 19 ar draws gwasanaethau’r Cyngor a’r gymuned yn ehangach.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd yr adroddiad yn absenoldeb y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at nifer yr ymwelwyr yng nghanol tref Brynmawr a holodd os oedd y data yn gywir. Os mai’r bwriad yw cynyddu’r nifer i lefelau cyn y pandemig, teimlai fod angen i’r data fod yn fanwl gywir. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod wedi cymryd data o ddyfeisiau cyfrif pêl-droed yng nghanol pob un o’r canol trefi ond byddai’n holi cydweithwyr yn yr adran Amgylchedd i sicrhau fod y niferoedd yn gywir.

 

Gan fod cynllun ffyrlo y Llywodraeth yn dod i ben ym mis Mawrth, holodd Aelod am ymgynghoriad yr Awdurdod a chyswllt gyda busnesau lleol. Gan fod Swyddogion Adfywio wedi methu mynychu’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd y dynodwyd fod yr economi yn faes allweddol o ffocws a bod cynllun gweithredu dan arweiniad cydweithwyr yn yr adran economaidd yn ei le i gefnogi busnesau ar draws Blaenau Gwent. Yng nghyswllt dialog gyda busnesau byddai angen iddi ymgynghori gydag arweinwyr thema. Dywedodd wrth Aelodau mai man dechrau yw hyn ac y gallai adroddiadau a gyflwynir i bwyllgorau craffu o hyn ymlaen gynnwys mwy o fanylion yng nghyswllt ardaloedd penodol.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd i’r pwyllgor craffu perthnasol i ystyried pa becynnau cymorth all fod eu hangen oherwydd fod y cynllun ffyrlo yn dod i ben. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y gellid cyflwyno adroddiad cynnydd ar themâu a ddynodwyd fel eitem agenda bosibl ar gyfer cylch newydd y pwyllgor.

 

Gan nad oedd Swyddogion Adfywio yn bresennol yn y cyfarfod, awgrymodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y gallai’r Aelod godi ei bryderon gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol ar ôl y cyfarfod i gael dealltwriaeth well o’r gwaith a wneir gyda busnesau lleol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef argymell i’r Pwyllgor Gweithrediaeth y dylid symud ymlaen gyda’r dull gweithredu a nodir i reoli adferiad o bandemig Covid 19 ar draws gwasanaethau’r Cyngor a’r gymuned yn ehangach. 

 

7.

Adroddiad Cyllid a Pherfformiad Chwarteri 1 a 2 (Ebrill 2021 i Medi 2021) pdf icon PDF 410 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd sy’n cyflwyno Adroddiad Cyllid a Pherfformiad ar gyfer Chwarteri 1 a 2 (Ebrill 2021 i Medi 2021).

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn siomedig nad oedd pob uwch swyddog yn bresennol i gynrychioli’r gwasanaeth i gyfarch sylwadau Aelodau a theimlai fod yr adroddiad yn rhy gadarnhaol. Er mwyn rhoi darlun go iawn teimlai y dylai’r adroddiad gynnwys crynodeb ar ddechrau pob adran wedi ei baratoi gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol unigol. Yng nghyswllt pwysau ariannol, teimlai hyd yn oed gyda mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf, bod yr Awdurdod yn dal i fod mewn trafferthion ariannol ac wedi gorfod defnyddio’r MRP i gael cyllideb gytbwys. Cyfeiriodd at Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dolen reilffordd Abertyleri a theimlai y dylai’r Awdurdod ddefnyddio cyllid y Brifddinas-Ranbarth ar gyfer cyfleoedd eraill i ddatblygu prosiectau.

 

Cododd y Cadeirydd hefyd bryderon am bresenoldeb uwch swyddogion a theimlai y dylid hysbysu’r Cadeirydd ymlaen llaw os nad yw uwch swyddogion yn medru mynychu cyfarfodydd craffu.

 

Derbyniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y pwynt hwn a chyfeiriodd at sylwadau Aelodau am Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dywedodd fod prosiectau eraill yn cael eu datblygu tebyg i’r prosiect hyfywedd tai yn Nhredegar. Mae hefyd brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn dod ymlaen ar draws y rhanbarth sydd mewn camau cynnar cael eu hystyried gyda chydweithwyr rhanbarth Blaenau’r Cymoedd a Bargen Ddinesig Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gwasanaeth bws a theimlai y gallai hyn ffurfio system drafnidiaeth integredig gyda’r ddolen reilffordd.

 

Teimlai Aelod arall fod angen i’r adroddiad fod yn fwy cytbwys a rhoi sylw i’r materion y mae’r Awdurdod yn eu gwneud yn dda a materion lle mae angen mwy o waith. Cododd bryderon am nifer o faterion e.e. cyfathrebu gyda’r cyhoedd pan nad yw systemau ar gael, cysylltedd technoleg gwybodaeth, system iTrent, rhyddhau o ysbyty a CCTV. Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod yr Awdurdod wedi buddsoddi’n sylweddol mewn systemau TG a fod ganddo bartneriaeth gref gyda SRS, awdurdodau lleol eraill a Heddlu Gwent. Bu’r newid i weithio cartref bron yn ddiwnïad ac mae’r Cyngor yn haeddu ei ganmol am hynny. Roedd Aelodau wedi cytuno ar gynllun buddsoddiad TG y llynedd er mwyn parhau i uwchraddio systemau TG, fodd bynnag byddai heriau gyda systemau’n methu o bryd i’w gilydd ond yn bwysig mae partneriaeth gadarn gyda SRS i ymateb yn gyflym i’r materion hynny. Teimlai fod y sefydliad wedi symud yn anhygoel o effeithlon i weithio ar blatfformau TG a  drwyddi draw roedd systemau TG yr Awdurdod wedi perfformio’n rhagorol.

 

Yng nghyswllt cysylltedd TG mewn ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bu rhai heriau am gysylltedd ysgolion ond y bu hwn yn fater Cymru gyfan yn gysylltiedig gyda Chroniad Band Eang Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan sydd tu allan i reolaeth uniongyrchol SRS ond sydd wedi creu gwahanol lefelau o gysylltedd ar draws nifer o ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rheoli Trysorlys – Datganiad Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi MRP 2022/23 (yn cynnwys Dangosyddion Darbodus) pdf icon PDF 507 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y Strategaeth Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Incwm (MRP) (yn cynnwys dangosyddion darbodus) i gael eu mabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, cyn ei hargymell yn ffurfiol i’r Cyngor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod Aelodau yn ystyried y Datganiad Strategaeth Trysorlys Blynyddol, y Strategaeth Buddsoddiad Blynyddol a Datganiad Polisi’r MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023 a Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt (Atodiad A) ac ni ystyriwyd unrhyw ddiwygiadau, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

9.

Strategaeth Cyfalaf 2022/2023 pdf icon PDF 517 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau ystyried y Strategaeth Cyfalaf (a roddir yn Atodiad 1) yn dilyn yr adolygiad blynyddol, i gael ei fabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn ystyried y Strategaeth Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 (a roddir yn Atodiad 1) ac na ystyriwyd unrhyw ddiwygiadau, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yng nghylch y Pwyllgorau, diolchodd y Cadeirydd i Aelodau a Swyddogion am eu cyfraniad a’u cefnogaeth dros y 5 mlynedd ddiwethaf.