Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 22ain Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, J.P. Morgan.

 

Prif Swyddog Adnoddau

Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed,

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 373 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 200 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywideb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 203 KB

Derbyn y ddalen weithredu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu a gyfeiriwyd o’r Cydbwyllgor Craffu Cyllideb ar 27 Medi 2021.

 

Soniodd Aelod am yr ansawdd sain gwael yn Ystafell Abraham Derby yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n tynnu sylw uwch swyddogion at hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

7.

Archwilio Cymru – Asesiad Cynaliadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 408 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau sy’n cyflwyno canlyniad yr asesiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ynghylch cynaliadwyedd ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Siaradodd swyddog Archwilio Cymru am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau fod yr adroddiad yn nodi canfyddiadau eu hadolygiad o gynaliadwyedd ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’n ddarn o waith a gynhaliwyd gyda phob Cyngor ledled Cymru i edrych ar gynaliadwyedd ariannol a llywodraeth leol, yn neilltuol yng nghyd-destun pandemig COVID.

 

Dywedodd Aelod y bu’r rhain yn flynyddoedd ariannol da i’r Awdurdod oherwydd setliadau da gan Lywodraeth Cymru. Roedd cyllid caledi wedi helpu i roi’r Cyngor mewn sefyllfa dda ond teimlai y gallai hyn fod yn sefyllfa ffals oherwydd nad yw’r rhaglen Pontio’r Bwlch wedi ei phrofi gan nad yw Aelodau wedi gweld canlyniadau blwyddyn lawn oherwydd y pandemig. Teimlai fod angen cadw mater hylifedd mewn cof a bod angen i’r Awdurdod fod yn ofalus yng nghyswllt gormod o fenthyca. Dywedodd ei fod yn adroddiad da ond bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael effaith fawr arno a chanmolodd waith da y tîm ariannol.

 

Cytunodd Aelod arall ei fod yn adroddiad da ond roedd ganddo bryderon am ddefnydd y cyllid caledi a theimlai y dylid bod wedi defnyddio peth o’r cyllid hwn i helpu cymunedau gyda CCTV a materion diogelwch cyhoeddus. Teimlai y dylid bod wedi rhoi llai o arian mewn cronfeydd wrth gefn a mwy i wasanaethau CCTV i gadw cymunedau’n ddiogel drwy gydol misoedd y gaeaf.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor y cyflwynir adroddiad ar CCTV i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn y dyfodol i gael ei ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg mai grant yw’r gronfa caledi gyda thelerau ac amodau ac nad yw CCTV a Diogelwch y Gymuned yn rhan o’r telerau ac amodau hynny. Mae’r holl arian a wariwyd o’r gronfa caledi yn cydymffurfio gyda’r telerau ac amodau hynny ac i gyd am ymateb i’r pandemig. Dywedodd fod peth cyllid o’r gronfa galedi oedd yn mynd i’r gymuned drwy chwyddo tâl salwch statudol a thaliadau gofal cymdeithasol.

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddfa Archwilio am yr adroddiad cadarnhaol er nad yw effeithiau COVID a amlygir yn yr adroddiad yn hysbys i gyd. Teimlai fod gweithredoedd rhagweithiol y Cyngor wedi ei roi mewn sefyllfa gref iawn i ateb heriau ariannol y dyfodol a gwelai hyn fel cymeradwyaeth gadarnhaol iawn gan y Swyddfa Archwilio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y gymhareb cyfalaf gweithio, dywedodd Swyddog Archwilio Cymru nad oes rhif delfrydol y dylai’r Awdurdod fod yn anelu ei gyflawni. Mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau penodol ym mhob Cyngor a’r dull gweithredu y gallant fod am ei gymryd. Teimlai ei fod am Aelodau yn cael sicrwydd, er fod y ffigur hwn yn isel, bod y Cyngor mewn sefyllfa lle gallai gyflawni ei rwymedigaethau fel a phryd yr oedd angen eu trin. Sonnir yn yr adroddiad fod y Cyngor yn brydlon yn talu ei ddyledion i sicrhau ei fod yn cefnogi’r economi lleol ac roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2022-27 pdf icon PDF 499 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg a gyflwynwyd i nodi’r bwriadau ar gyfer datblygu ail Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-27 y Cyngor, yn unol â Safonau’r Gymraeg (2015) (Safon 145).

 

Siaradodd yr Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn y dull gweithredu a gynigir ar gyfer datblygu Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-27.

 

9.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch pdf icon PDF 474 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol i graffu ar a herio perfformiad Iechyd Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Tân yn y Gwaith yr Awdurdod ar gyfer 2020/21.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hysbysodd Aelodau fod yr adroddiad hefyd yn cynnwys adran ynghylch ymateb y Cyngor i’r pandemig.

 

Cyfeiriodd Aelod at grynodeb yr adroddiad a holodd am ddamweiniau yn ymwneud â rhai heb fod yn weithwyr cyflogedig a’r gostyngiad yn absenoldeb staff. Esboniodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch fod damweiniau yn ymwneud â rhai heb fod yn weithwyr cyflogedig yn cynnwys damweiniau gan ddisgyblion ysgol, aelodau’r cyhoedd yn safleoedd y Cyngor a defnyddwyr gwasanaeth mewn safleoedd Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol at absenoldeb salwch staff ac esboniodd ei fod wedi gostwng ond nad oedd yn is na’r targed. Maent yn y broses o ddilysu ystadegau salwch yr ail chwarter a rhoddir adroddiad ar y ffigurau hynny drwy’r adroddiad Cyllid a Pherfformiad a chânt eu cyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yng nghyswllt y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, holodd Aelodau pam nad oedd y data ar gyfer y gwaith gan Gynghorwyr Iechyd a Diogelwch yr Ymddiriedolaeth wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Esboniodd y Swyddog Iechyd Diogelwch mai adroddiad blynyddol ar gyfer y Cyngor fel cyflogwr yw hyn; mae’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn gyflogwr ar wahân ac felly ni chaiff eu data ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Ffigur 1 ar dudalen 131 – y tueddiad 3 blynedd ar gyfer damweiniau gweithwyr cyflogedig yn yr Awdurdod yn ôl adran, dywedodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch fod y gostyngiad sylweddol yn nifer y damweiniau yn yr Adran Addysg ar gyfer 2020/21 oherwydd bod ysgolion ar gau am gyfnod sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

 

Nododd Aelod fod nifer y damweiniau yn Adran yr Amgylchedd wedi gostwng er fod yr Adran wedi parhau i weithio fel arfer drwy gydol y pandemig. Dywedodd y Swyddog Iechyd a Diogelwch nad oedd tueddiad yn amlwg ynghylch y gostyngiad, fodd bynnag mae’n ganlyniad cadarnhaol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn cefnogi’r adolygiad blynyddol o berfformiad Iechyd a Diogelwch a pherfformiad Diogelwch Tân a’r argymhellion a wnaed.

 

10.

Diweddariad ar Gynlluniau Adsefydlu yn y Deyrnas Unedig a Gwasgaru Ceiswyr Lloches pdf icon PDF 466 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynir i roi diweddariad ar gyfranogiad yn cefnogi cynllun Ailsefydlu y Deyrnas Unedig (sydd yn ddiweddar wedi cynnwys cefnogi adsefydlu dinasyddion Afghan) a cheisio cefnogaeth ar gyfer cymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Gwasgaru Ceiswyr Lloches y Swyddfa Gartref a gyflwynir i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Siaradodd y Cydlynydd Cydlyniaeth Cymunedol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Mae’r adroddiad yn amlinellu bod y pwysau ar y system lloches wedi bod yn cynyddu’n gyson ers blynyddoedd. Gyda chynnydd yn nifer y ceiswyr lloches sydd angen eu lletya’n genedlaethol, bu pwysau ychwanegol ar yr ardal gwasgaru presennol ac mewn ymateb mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi blaenoriaeth i ehangu ardaloedd gwasgaru ac yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi’r adroddiad a dywedodd fod y teuluoedd o Syria oedd wedi adsefydlu yn ei ward yn ychwanegiad gwych i’r gymuned.

 

Ychwanegodd Aelod arall ei fod wedi ymwneud â’r rhaglen adsefydlu ar gyfer ffoaduriaid o Syria a theimlai iddo fod yn llwyddiant. Llongyfarchodd y swyddogion ar y gwaith a wnaed a chefnogai’r adroddiad.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn:-

 

      i.        Nodi’r cynnydd a wnaed mewn cyfranogiad gydag adsefydlu yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys yn fwyaf diweddar y rhaglen ailsefydlu Afghan; ac yn

    ii.        Cefnogi’r cynnig i gymryd rhan yng Nghynllun Ehangu Gwasgariad Ceiswyr Lloches, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

11.

Blaenraglen Gwaith: 3 Rhagfyr 2021 pdf icon PDF 393 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ar 3 Rhagfyr 2021.