Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 16eg Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyn unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Collier.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 253 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2021.

 

Dywedodd Aelod na chafodd ymateb i gais a wnaeth yn y cyfarfod diwethaf. Roedd yr Aelod yn siomedig nad oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol wedi ymateb i’w gais a theimlai fod hyn yn annerbyniol.

 

Ymddiheurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i’r Aelod a dywedodd y byddai’n cysylltu ag ef yn uniongyrchol ar amser cyfleus i’r ddau ohonynt gan ei bod yn wybodaeth tu allan i’r adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 5 Mawrth 2021 pdf icon PDF 93 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2021, yn cynnwys:-

 

CCTV

 

Gofynnodd Aelod pryd y medrid disgwyl yr adroddiad i adolygu cydraddoldeb o ran darpariaeth CCTV. Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y byddai angen casglu data dros gyfnod a chynnwys gwybodaeth a gafwyd o gyfarfodydd gydag Aelodau. Byddai’r canfyddiadau hyn wedyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r adroddiad monitro blynyddol.

 

Teimlai’r Aelod mai gorau po gyntaf y gellid mynd i’r afael â’r materion hyn gan fod anghenion cymunedau yn newid yn barhaus.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod angen cyfnod monitro cyn y gellid cyflwyno adroddiad cynnydd/diweddaru.

 

Pwysleisiodd yr Aelod nad oedd unrhyw gamerâu yn Ward Nantyglo a theimlai felly ei bod yn bwysig i’r Ward y caiff diweddariadau eu derbyn yn fwy rheolaidd nag unwaith y flwyddyn.

 

Cytunodd Aelod arall gyda’r pryderon a godwyd a dywedodd fod Aelodau eisiau gweld cynnydd. Ychwanegodd yr Aelod fod gan awdurdodau eraill yng Ngwent gysylltiadau uniongyrchol gyda’r Cwmwl ac felly roedd gan yr Heddlu luniau fel maent yn digwydd. Dyma’r hyn mae preswylwyr ac Aelodau ei angen. Byddai’n dangos fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu i roi sicrwydd fod ein preswylwyr yn ddiogel.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol, yn dilyn cyswllt pellach gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, na fu newid yn eu sefyllfa ac nad oedd cyllid ar gael. Nododd yr Aelod fanteision bod wedi cysylltu â’r Cwmwl, fodd bynnag os nad oes unrhyw gamerâu mewn rhai lleoedd yna ni fyddai unrhyw fudd i’r ardaloedd hynny. Mae’r Aelod yn edrych ymlaen at adroddiadau yn y dyfodol i fonitro cynnydd ar y mater hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol – Diweddariad Chwarterol pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol fod yr adroddiad yn rhoi cynnydd fel yn Chwarter 4 ar y Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol. Siaradodd y Prif Swyddog Interim am yr adroddiad a dywedodd fod y pandemig wedi golygu fod cyflenwi’r strategaeth yn canolbwyntio’n llwyr ar y cyfathrebu yn gysylltiedig â Covid-19. Daeth pwysigrwydd cyfryngau digidol a chymdeithasol hyd yn oed yn fwy sylweddol yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau y caiff ein cymunedau eu hysbysu.

 

Nodwyd fod y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yn aelod allweddol o Gr?p Rhybuddio a Hysbysu Fforwm Gwent Gadarn. Mae’r Gr?p yn gyfrifol am alinio cyfathrebu a chyfathrebu gwybodaeth allweddol i breswylwyr Gwent yn ystod y pandemig. Nododd y Prif Swyddog Interim Masnachol bwysigrwydd y Tîm gan sicrhau ymagwedd gyson rhwng partneriaid lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Oherwydd fod y pandemig yn newid yn barhaus, bu angen llif cyson o wybodaeth ac mae angen i hynny fod yn glir ac effeithlon yn ogystal â chael ei chydlynu rhwng pob sector.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim Masnachol amlinelliad pellach o nodau’r Cynllun Cyfathrebu yng nghyswllt ymateb Covid-19 fel y manylir yn yr adroddiad.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi ystyried diweddariad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth 2021) ar y Strategaeth Gyfathrebu cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 594 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol. 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Interim Masnachol am yr adroddiad sy’n amlinellu Chwarter 4 y Strategaeth Fasnachol. Dywedodd y Prif Swyddog Interim y caiff gweithgareddau masnachol y Cyngor eu gyrru gan yr uchelgais a fanylir yn y Strategaeth. Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith ar gyflenwi’r Strategaeth, fodd bynnag gwnaed cynnydd sylweddol yn Chwarter 4 a chyfeiriodd Aelodau at y gweithgaredd allweddol a gaiff ei grynhoi yn yr adroddiad yn unol â themâu ac uchelgeisiau allweddol y Cyngor.

 

Codwyd y cwestiynau dilynol ar y pwynt hwn ac ymateb iddynt yn unol â hynny:-

 

Bwrdd Strategol Comisiynu a Masnachol – cadarnhawyd fod y Bwrdd yn cynnwys y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a swyddogion Cyfreithiol, Adnoddau a Chaffael.

 

Cronfa Democratiaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru – dywedwyd fod y gronfa yng nghyswllt ymchwil defnyddwyr gyda phobl ifanc 16 i 25 oed i gael dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn cael mynediad i’r gronfa ddemocratiaeth a chael adborth ar eu profiadau.

 

Canolfan Gyswllt – codwyd pryderon am y Ganolfan Gyswllt, yn arbennig bod y ‘Gwasanaeth Allan o Oriau’ yn cael ei gyrchu tu allan i Flaenau Gwent gan ei bod yn bwysig fod gweithredwyr yn adnabod yr ardal leol. Gofynnwyd hefyd i Aelodau Etholedig gael eu hysbysu os oes unrhyw newidiadau.

 

Cadarnhaodd Swyddog y byddid yn ceisio darpariaeth gwasanaeth lleol. Dywedodd y Swyddog ymhellach fod nifer o gamau gweithredu yn cael eu dilyn gyda SRS i drin y materion a godwyd.

 

Cau’r Ganolfan Ddinesig – codwyd pryderon am y gwasanaethau a gynigir yn y Ganolfan Ddinesig drwy’r Derbynnydd a gofynnodd os y byddai’r gwasanaethau hyn, tebyg i geisiadau Bathodyn Glas, ar gael yn yr Hybiau cymunedol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol yr edrychir ar holl agweddau’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan Ddinesig er mwyn deall anghenion cwsmeriaid. Byddai’r data yn cael ei gasglu a’i gyfathrebu i Aelodau i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu amdanynt.

 

Neges Ddwyieithog y Ganolfan Gyswllt – dywedwyd fod preswylwyr wedi codi pryderon gydag Aelodau mai cyfarchiad Cymraeg oedd gyntaf gan y Ganolfan Gyswllt. Roedd yn neges hir ac mewn rhai achosion yn gostus i’r preswylwyr. Gofynnodd Aelod os y gallai’r Saesneg ddod yn gyntaf, sef yr hyn sy’n digwydd mewn rhai awdurdodau lleol eraill.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Interim Masnachol yr Aelodau fod gan y Cyngor ddyletswydd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg a dywedodd y gellid ymchwilio’r cais hwn. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y Cyngor yn gweithredu o fewn ei gyfrifoldeb dan y Ddeddf.

 

Amserau Galw i’r Ganolfan Gyswllt – mewn ymateb i bryderon a godwyd yng nghyswllt cost amserau aros oedd weithiau yn faith i’r Ganolfan Gyswllt, dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y caiff amserau aros eu monitro fel rhan o’r trefniadau perfformiad gwasanaeth ac y byddid yn datblygu gwelliannau megis system ciwio.

 

Rhifau Symudol Swyddogion – oherwydd trefniadau gweithio ystwyth, dywedwyd nad oedd rhai swyddogion brin yn y swyddfa a’u bod wedi cael ffonau symudol. Gofynnodd Aelod os y gellid rhoi’r rhifau ffôn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol a’r Rheolwr Gwasanaeth Profiad Cwsmeriaid a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol a Rheolwr Gwasanaeth Profiad Gwasanaeth a Thrawsnewid.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Interim Masnachol drosolwg o’r adroddiad a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Profiad Cwsmeriaid a Thrawsnewid i roi diweddariad ar y sefyllfa bresennol a pherfformiad y gwasanaeth fel y manylir yn yr adroddiad. Nodwyd fod perfformiad gwasanaeth TTP Gwent fel rhanbarth yn y chwartel uchaf.

 

Dywedodd Aelod iddo ofyn am yr adroddiad hwn gan ei fod wedi monitro’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Fynwy sy’n rhoi’r manylion hyn ar sail ward wrth ward. Mae’r Aelod yn gwerthfawrogi gwaith ardderchog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Awdurdod Lleol, fodd bynnag fel Aelod Etholedig teimlai fod angen y lefel yma o fanylion ar gyfer Blaenau Gwent. Gobeithid y byddai rhifau Covid-19 yn awr yn parhau i ostwng a diolchodd i’r Swyddogion am adroddiad defnyddiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y diweddariad cynnydd.

 

9.

Polisi Arfaethedig ar Weithio Ystwyth pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol yr adroddiad sy’n rhoi cyfle i Aelodau graffu, herio a gwneud awgrymiadau ar y polisi arfaethedig ar Weithio Ystwyth ar gyfer gweithlu’r Cyngor yn dilyn yr adroddiad a gymeradwywyd yn y Cyngor ar 25 Mawrth 2021 ar fodel gweithredu a threfniadau gwaith newydd y Cyngor.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai cyflwyno model newydd o weithio ystwyth yn dod ag arferion gwaith modern, gwella profiad gwaith aelodau staff, gwella perfformiad a chynhyrchiant a gwireddu buddion ariannol. Mae’r Polisi Gweithio Ystwyth yn allweddol i fodel gweithio’r dyfodol ac yn gysylltiedig gyda gweledigaeth y Cyngor ar gyfer datblygu cynaliadwy yn cynnwys twf economaidd cynaliadwy a datgarboneiddio.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol ymhellach am yr adroddiad a nododd y cyfrifoldebau a fanylir yn y polisi. Nododd y Swyddog bod undebau llafur Unsain, GMB ac Unite i gyd wedi ymwneud yn llawn â datblygu hyn a’r drafft bolisi Gweithio Hyblyg.

 

Anfonwyd y drafft bolisi at undebau llafur ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol a derbyniwyd dau gais gan Undeb i gael eu hystyried, fel sy’n dilyn:-

 

·         hoffai Unsain weld lwfans o £16 ac nid £12 ar gyfer gweithwyr Ystwyth. Roedd y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol wedi trafod y cynnig hwn ac yn cefnogi ffigur o £15.60 i’w argymell i Aelodau ei ystyried (ffigur pro rata a fyddai’n deg i bob gweithiwr); a

·         phob gweithiwr cyflogedig presennol a gawsant eu dynodi fel gweithwyr cartref neu ystwyth i fedru defnyddio lwfans hyd at £200 i dalu am gost cadair a desg a fyddai’n ffitio yn amgylchedd eu cartref. Dylid defnyddio’r lwfans hwn gyda chyflenwr cymeradwy y cyngor. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yn cefnogi’r dewis ar gyfer y gweithlu gan gyflenwyr cymeradwy yn cynnwys offer wedi’i ailgylchu. Gofynnodd Unsain hefyd fod unrhyw weithlu yn y dyfodol (recriwtiaid newydd) yn cael opsiwn y lwfans os ydynt ar gyflog gradd C neu is.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol yr Aelodau at yr opsiynau a nodi’r opsiwn a ffafrir.

 

Gwahoddodd y Swyddog gwestiynau/sylwadau gan yr Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd yr Aelod os oedd unrhyw aelod o staff wedi gadael y Cyngor gan nodi gweithio ystwyth fel rheswm ar ôl cymeradwyo’r trefniadau gwaith newydd oedd wedi ffurfio’r polisi hwn.

 

Dywedodd Aelod iddo wneud ei bwynt yn glir yng nghyfarfod y Cyngor a’i ailadrodd ei fod yn hollol yn erbyn y ffordd newydd o weithio ar hyn o bryd. Mae gan yr Aelod lawer o bryderon sy’n cynnwys iechyd meddwl gweithwyr. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn ystod y pandemig yn arswydus gyda phobl wedi eu cyfyngu i’w cartrefi. Dymunai’r Aelod gael sicrwydd gan y Cyngor y gellid darparu ar gyfer hynny os nad oedd gweithiwr eisiau gweithio gartref am reswm penodol.

 

Fel rhan o’r polisi, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod nifer o ddogfennau i gael eu llenwi gyda gweithwyr a’u rheolwyr fel rhan o gyfarfodydd ymgynghori un-i-un a gaiff eu cynnal. Rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau’r unigolyn, eu hiechyd a’u llesiant ac iechyd meddwl, a byddai unrhyw addasiadau gofynnol yn cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 9.