Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 11eg Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

Cynghorydd P. Edwards

Cynghorydd J. Hill

Cynghorydd K. Pritchard

Cynghorydd D. Wilkshire

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.  .

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 247 KB

Derbyn Cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 12 Chwefror 2020 pdf icon PDF 94 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Cyfarfod Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2020.

 

Yng nghyswllt yr ail bwynt ar y Ddalen Weithredu, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol na symudwyd ymlaen â gweithredu gan y bu ffocws swyddogion ar yr ymateb argyfwng i Covid-19. Cytunodd y Swyddog i edrych ar y cais a rhoi adroddiad yn ôl yn y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 235 KB

Derbyn Cofnodion y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd fod cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal am 10.00 a.m.

 

CYTUNODD y Pwyllgor â’r llwybr gweithredu.

 

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 385 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad a gyflwynwyd gan  Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

Teimlai Aelod ei bod yn bwysig yn yr hinsawdd bresennol fod y Flaenraglen Waith yn ddogfen y gellid ei diwygio i adlewyrchu gwaith cyfredol a’r deilliannau yng nghyswllt y pandemig Coronafeirws.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo

9.

Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 pdf icon PDF 660 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

ADOLYGIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS

1 EBRILL 2019 I 31 MAWRTH 2020

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod blwyddyn ariannol 2019/2020 dan bwerau a ddirprwywyd gan y Prif Swyddog Adnoddau. Cyfeiriodd y Prif Swyddog yr Aelodau at yr wybodaeth perfformiad a data a dywedodd i’r Awdurdod yn 2019/2020 gymryd £10m mewn dyled hirdymor gan awdurdodau lleol (PWLB) yn lle benthyciadau sy’n aeddfedu neu i gyllido gwariant cyfalaf.

 

Mae’r asiantaethau graddio credyd wedi israddio nifer o sefydliadau ariannol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan nad ydynt mwyach yn diwallu meini prawf gofynnol yr Awdurdod ar gyfer cymeradwyaeth. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi perfformio’n dda yn nhermau Rheoli Trysorlys yn yr hinsawdd ariannol presennol ac amlinellodd y pwyntiau allweddol:-

 

·           Sicrhawyd adenillion buddsoddiad o £61,000 gyda chyfradd log gyfartalog o 0.46%. Roedd hyn ychydig yn is na’r gyfradd meincnod o 0.54% ond mae’n adlewyrchu na all yr Awdurdod fuddsoddi mewn gwrthbartïon sy’n talu cyfraddau uwch oherwydd gostyngiadau graddiad credyd. Mae hyn yn unol â pholisi osgoi risg yr Awdurdod lle mae sicrwydd y swm cyfalaf yw’r brif flaenoriaeth ar draul adenillion buddsoddi mwy cystadleuol.

 

·           Gosodwyd cyfradd log gyfartalog o 1.09% ar fenthyciadau dros dro o gymharu â meincnod o 1.00%, gan ostwng cyn belled ag sy’n bosibl y llog sy’n daladwy gan yr Awdurdod. Mae hyn er gwaethaf y cynnydd mewn cyfraddau marchnad yn dilyn y cynnydd o 1% mewn cyfraddau PWLB ym mis Hydref 2019 – mae hyn yn dystiolaeth o berfformiad da.

 

·           Cydymffurfiwyd yn ystod y flwyddyn â holl derfynau’r Trysorlys a dangosyddion darbodus Rheoli Trysorlys a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

 

·           Nid oedd unrhyw sefydliadau y gwnaed buddsoddiadau ynddynt yn ystod y cyfnod wedi cael unrhyw anhawster mewn ad-dalu buddsoddiadau a llog yn llawn. Felly nid yw’r Awdurdod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr enillion buddsoddiad a sicrhawyd a gofynnodd os y byddai’r gyfradd is yn golygu at unrhyw oblygiadau i’r gyllideb yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na ragwelir unrhyw bwysau cyllideb o’r gyfradd is a sicrhawyd, fodd bynnag nawr fod gan swyddogion well dealltwriaeth o effaith y PWLB, caiff hyn ei gynnwys mewn cynlluniau yn y dyfodol. Ychwanegodd y Prif Swyddog y rhoddir adroddiad i Aelodau os oes unrhyw bwysau yn dod i’r amlwg ar y gyllideb.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef bod Aelodau wedi craffu ar y gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2019/2020 ac ni roddwyd unrhyw sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

10.

Datganiad Sefyllfa ar System Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) y Cyngor (Ebrill i Awst 2020) pdf icon PDF 525 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO ar gyfer CCTV), y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar system CCTV y Cyngor ar gyfer y cyfnod yn ystod y pandemig Covid-19 o fis Ebrill i fis Awst 2020. Siaradodd y Prif Swyddog am yr adroddiad a rhoi trosolwg o’r wybodaeth perfformiad a’r data fel y’i manylir yn yr adroddiad. Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i’r casgliad, er y bu problemau gweithredu lleol gyda chamerâu, bod y system CCTV yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth.

 

Nododd yr Aelod nad oedd camerâu wedi eu defnyddio oherwydd y pandemig a gofynnodd os y gellid yn awr osod y rhain mewn ardaloedd lle mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dipio anghyfreithlon o fewn y Fwrdeistref.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant fod protocolau a gweithdrefnau yn eu lle yn nhermau materion diogelwch technegol a chymunedol wrth leoli camerâu. Mae angen tystiolaeth ddigonol i ddefnyddio camerâu mewn ardaloedd penodol. Os oes ardaloedd yn achosi pryder o fewn gwahanol wardiau, awgrymwyd y gellid trafod y rhain gyda’r Swyddog Diogelwch Cymunedol.

 

Mewn ymateb i bryderon pellach am leoliadau, dywedwyd y cynhelir adolygiad blynyddol o safleoedd camerâu CCTV. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl  i bob safle lle cawsant eu gosod i barhau’n ‘fyw’ yn unol ag ardaloedd problem.

 

Teimlai Aelodau ei bod yn bwysig cynnwys CCTV ar y Flaenraglen Gwaith a nododd y Swyddog bod Adroddiad Cynnydd Blynyddol i’w gyflwyno ym mis Chwefror 2021. Cytunwyd y byddid yn cyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol i sicrhau ei fod yn cwmpasu cyfnod da i gael tystiolaeth ddigonol.

 

Credai Aelod y dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal â diweddariad ar gynnydd.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda’r sylwadau a wnaed a chafodd sicrwydd fod yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar y Flaenraglen Waith.

 

Nododd Aelod fod tanwariant ar y gyllideb CCTV a gofynnodd os y gellid defnyddio’r arian hwn i drin problemau gyda chamerâu nad ydynt yn gweithio mewn ardaloedd penodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y problemau yn y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â’r offer ond gyda WiFi neu’r rhwydwaith. Hysbyswyd y cynhelir adolygiad o’r systemau CCTV bob dydd Llun a dydd Iau i ddynodi unrhyw broblemau cyn ac ar ôl y penwythnos. Yn nhermau tanwariant, dywedwyd yn y rhan fwyaf o achosion y byddai’r arian hwn yn cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn i drin unrhyw broblemau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor wedi ystyried a rhoi sylwadau ar y datganiad sefyllfa ar swyddogaeth CCTV yn ystod pandemig COVID-19.

 

11.

Cefnogi Cydnerthedd Ariannol – Adroddiad Dilynol Archwilio Cymru pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi canfyddiadau’r adolygiad dilynol a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru ar eu ffrwd gwaith Cefnogi Cadernid Ariannol.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog yr Aelodau am y gwaith a wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru yn 2018 yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd y Cyngor yn nhermau uchafu cyfleoedd cyllid a chynnwys gofynion gwariant. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau i’r adolygiad ddod i’r casgliad fod angen i’r Cyngor ddatblygu diwylliant ariannol cryfach i barhau’n gadarn yn ariannol ac y cynigiwyd nifer o feysydd ar gyfer gwella. Mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion ar gyfer gwella ac wedi gwneud cynnydd ar y cynigion ac wedi dynodi gwaith i’w wneud yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog yr Aelodau at yr atodiad i’r adroddiad sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar bob un o’r meysydd gwella a ddynodwyd yn 2018.

 

Ar wahoddiad y Prif Swyddog Adnoddau, ychwanegodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y cynhaliwyd yr adolygiad dilynol i sicrhau fod y Cyngor wedi ymateb yn gydnaws i’r meysydd gwella. Derbyniwyd ymateb cadarnhaol gyda chynllun clir yn ei le ar gyfer y dyfodol. Teimlai cynrychiolydd Archwilio Cymru felly fod yr Awdurdod mewn sefyllfa gryfach i drin unrhyw heriau ariannol a all godi.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad sy’n dangos ymrwymiad Aelodau a Swyddogion i sicrhau y gwneir y gwelliannau gofynnol ar gyfer ein preswylwyr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor yn adolygu canfyddiadau Archwilio Cymru, yn ystyried y cynnydd a wnaed ar y cynigion ar gyfer gwella ac yn derbyn yr adroddiad a’r atodiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol.