Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd os dyunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. McCarthy a D. Wilkshire.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Phil Edwards fuddiant yn Eitem 10 – Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Adfer Incwm.
|
|
Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 236 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Medi.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 4 Medi 2019 PDF 187 KB Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Medi, yn cynnwys:-
Blaenraglen Gwaith - CCTV
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yng nghyswllt diweddariad cynnydd ar CCTV, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y gellid rhoi datganiad sefyllfa gyda chydweithwyr yng nghyfarfod mis Rhagfyr. Byddid yn darparu’r nifer o geisiadau gan yr heddlu i weld tystiolaeth sy’n arwain at erlyniadau fel rhan o’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ym mis Ionawr 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol PDF 242 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 26 Medi 2019 PDF 93 KB Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019, yn cynnwys:- Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr amserlen ar gyfer dadansoddiad mwy manwl o ddamweiniau/digwyddiadau e.e. achosion o drais ac ymosod ar staff, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y rhoddir dadansoddiad pellach o ddata 2018/19 ar achosion trais ac ymosod at staff yn y Cyngor ac ysgolion i’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol ym mis Ionawr 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol PDF 195 KB Derbyn Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.
|
|
Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Ffioedd a Thaliadau PDF 585 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar yr Adolygiad Busnes Strategol ar Ffioedd a Thaliadau.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at eitemau gwastraff swmpus a chododd bryderon am agwedd iechyd a diogelwch eitemau’n cael eu gadael ar balmentydd ac ymyl ffyrdd am gyfnodau hir cyn eu casglu. Dywedodd y Cadeirydd y caiff yr eitem hon ei chyfeirio at y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.
Dywedodd Aelod ei bod yn croesawu’r model adfer cost llawn a dull cyfrif a fedrai alinio ffioedd a thaliadau.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am y 700 llinell o ffioedd a thaliadau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y defnyddir dull mewn camau i adolygu a gweithredu’r dull cyfrifo adferiad cost llawn. Mae’n gweithio gyda deiliaid cyllideb a phartneriaid busnes cyllid am brofi’r farchnad a byddai’r ffigurau a ddynodir yn dangos lle mae cyfle i wneud adferiad cost llawn.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn ystyried a chraffu’r dull gweithredu a gynigir ac atodiad 1.
|
|
Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Adennill Incwm PDF 511 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Phil Edwards fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar y gwaith a wnaed fel rhan o’r Adolygiad Busnes Strategol ar Adfer Incwm.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am dalu anfonebau yn brydlon a sut y caiff anfonebau eu gyrru, dywedodd y Prif Swyddog na chynigir unrhyw ddisgownt talu cynnar ar hyn o bryd ac y caiff y rhan fwyaf o anfonebau eu hanfon drwy’r post, gyda rhai yn cael eu hanfon yn electronig weithiau. Yng nghyswllt symud gwastraff swmpus, gwneir taliadau ymlaen llaw i osgoi darparu anfonebau ac mae’r Cyngor yn edrych ar gynnig mwy o wasanaethau yn y ffordd hon lle mae hynny’n briodol.
Soniodd Aelod am waith da yr Undeb Credyd i gefnogi preswylwyr a gofynnodd am wahodd yr Undeb Credyd i roi cyflwyniad mewn Sesiwn Wybodaeth i Aelodau. Dywedodd y Cadeirydd y trefnir Sesiwn Wybodaeth i Aelodau yn y flwyddyn newydd.
Soniodd Aelod am y gwaith ar y cyd gyda Cyngor Ar Bopeth a’r nifer cynyddol o breswylwyr sy’n gofyn am gyngor am reoli arian a dyledion a chododd bryderon am y sefyllfa pe gweithredid y toriadau arfaethedig yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gefnogi ac ymgysylltu gydag unigolion, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y caiff cynllun treialu ei weithredu gyda Hyb Dechrau’n Deg yng Nghefn Golau i ddynodi a phrofi’r dull mwyaf addas o ymgysylltu a datblygu ffyrdd priodol y gallai’r Cyngor eu cefnogi.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y pwyllgor yn craffu ac yn rhoi sylwadau penodol ar y canfyddiadau a’r camau gweithredu a gynigir cyn gwneud argymhelliad i’r Cyngor.
|
|
Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Gwariant Trydydd Sector PDF 585 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar yr Adolygiad Busnes Strategol ar Wariant Trydydd Parti.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y sefydlwyd llinell sylfaen ym mis Gorffennaf i fis Medi. Byddai’r Adolygiad Busnes Strategol ar Wariant Trydydd Parti yn symleiddio’r systemau a defnyddir i fonitro a rheoli trefniadau contract gyda chyflenwyr a chaiff effaith gyffredinol y gwariant ei fonitro drwy’r rhaglen Pontio’r Bwlch.
Holodd Aelod am ddisgownt ar gyfer taliadau prydlon. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol, gyda tua 7,000 o gyflenwyr, ei bod yn bwysig gwneud taliadau prydlon gan y byddai rhan o’r arian hwnnw yn mynd yn ôl i’r economi leol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gaffael y premiwm yswiriant blynyddol, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y byddai’r Cyngor bob amser yn ceisio gwerth am arian. Mae canllawiau ar reolau a rheoliadau i’w dilyn wrth gaffael gwasanaethau, fodd bynnag nid mater o bris yw hi bob amser ac mae ystyriaethau eraill tebyg i ansawdd, gwerth cymdeithasol a chyfrifoldebau eraill gyda gwario’r bunt gyhoeddus. Gallai dadansoddiad o’r ddata ddynodi buddsoddiad y Cyngor yn yr economi lleol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau yn derbyn yr adroddiad ar yr Adolygiad Busnes Strategol ar Wariant Trydydd Parti ac atodiad 1 ac argymell bod y Cyngor yn eu mabwysiadu.
|
|
Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Trawsnewid Gweithle PDF 589 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar yr Adolygiad Busnes Strategol ar Drawsnewid Gweithle.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am y rhaglen weithredu ddiweddaraf, esboniodd y Prif Swyddog Masnachol fod yn rhaid prynu trwyddedau i redeg systemau gweithredu ac na fyddai trwyddedau cyfredol yn cael eu cefnogi mwyach yn 2021. Mae’r system weithredu yn cael ei huwchraddio i Windows 10 ac Office 2016 i baratoi ar gyfer defnyddio Office 365.
Holodd Aelod am y gofrestr asedau. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol fod cael cofrestr lawn o asedau i reoli’r stad Technoleg Gwybodaeth yn fwy effeithlon yn rhan hanfodol o’r broses adolygu.
Holodd Aelod os gellir cyfrannu gliniaduron dros ben i elusennau. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y byddai rhai gliniaduron ar ddiwedd eu hoes ac y defnyddir i eraill ar gyfer atgyweirio gliniaduron presennol. Gallai’r Swyddog ymchwilio’r opsiwn hwn os oes gliniaduron dros ben ar ddiwedd y broses.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn ystyried a chraffu ar y dull gweithredu a gynigir ac atodiad 1.
Gadawodd y Cynghorydd Martin Cook y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Treth Gyngor - Dileu Lwfans Disgownt Eiddo Gwag ar gyfer Anheddau Dosbarth C a Ragnodwyd PDF 555 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi manylion y polisi presennol yng nghyswllt disgownt Treth Gyngor.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os gellid gosod ardoll unwaith y gwerthir eiddo a fu’n wag am gyfnod hir. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y gellid ymchwilio’r cynnig hwn ond mai’r ffocws yw cael eiddo’n ôl i safon i bobl fyw ynddynt. Mae grantiau ar gael ar hyn o bryd i ddod ag eiddo’n ôl i safon y gellir byw ynddynt.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyfraddau casglu, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod cyfraddau casglu tua 95%.
Holodd Aelod os byddai angen rhoi hysbysiad ymlaen llaw. Atebodd y Prif Swyddog Adnoddau, pe byddai’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r cynnig, y byddai angen cysylltu gyda landlordiaid a pherchnogion/meddianwyr cyn 2020.
Dywedodd y Prif Swyddog bod Llywodraeth Cymru yn newid y fformiwla cyllido ac ni fyddai mwyach yn rhoi ystyriaeth i’r disgownt ar gyfer eiddo Dosbarth C. Gallai’r Cyngor weld gostyngiad o tua £480,000 mewn cyllid.
Nododd y Cadeirydd baragraff 6.3 sy’n cyfeirio at y llu o ganlyniadau cadarnhaol wrth annog eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried ac argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo gosod y disgownt cyfredol ar gyfer anheddau Dosbarth A, B a C ar 0% yn weithredol o 1 Ebrill 2020.
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch PDF 899 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch 2018/19 a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella.
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cafodd Cadeirydd y Gangen – Unsain wahoddiad gan y Cadeirydd i annerch y Pwyllgor.
Dywedodd Cadeirydd y Gangen, fel canlyniad i 9 mlynedd o fesurau llymder, bod awdurdodau lleol wedi derbyn setliadau is gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu fod yn rhaid i Gynghorau wneud mwy gyda llai ac fel canlyniad bu cynnydd sylweddol mewn llwyth gwaith staff. Nododd nad yw 95% o’r staff yn cymryd unrhyw absenoldeb salwch ac y byddai’n annheg caniatáu i leiafrif staff sarnu enw da’r Awdurdod yng ngolwg y cyhoedd a’r wasg.
Mae’r Polisi Absenoldeb Salwch yn addas i’r diben, fodd bynnag, mae angen i reolwyr ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. Os yw ffigurau absenoldeb salwch yn uchel mewn maes neilltuol, mae angen i Reolwyr ddeall y rhesymau am y ffigurau hynny a mynd i’r afael yn brydlon yn eu sesiynau un i un gyda staff. Mae angen gwerthfawrogi y staff hynny sy’n rhoi blaenoriaeth ac yn aros yn y gwaith.
Mae Unsain wedi buddsoddi mewn iechyd meddwl drwy dalu am gyrsiau i staff eu mynychu a bu’n gweithio’n ddiflino gyda Datblygu Sefydliadol a’r Prif Swyddog Masnachol i ddynodi meysydd lle mae absenoldeb salwch yn uchel. Dywedodd fod gan yr Awdurdod weithlu heneiddiol gyda rhai staff rheng flaen â swyddi corfforol tebyg i godi pobl. Tanlinellodd fod angen datblygu strategaeth os disgwylir i staff weithio nes byddant yn 67 mlwydd oed, er ei fod yn ymwybodol o’r darlun cyffredinol gan mai awdurdod bach yw Blaenau Gwent.
Holodd y Cadeirydd am iTrent, system electronig Adnoddau Dynol/Cyflogres. Dywedodd y Pennaeth Datblygiadol y cafodd hunan-wasanaeth rheoli ei ymestyn ym mis Ebrill 2019 ac y cafodd y system electronig a’r system gofnodi â llaw ar gyfer cofnodi absenoldeb salwch eu rhedeg yn gyfochrog am gyfnod i gefnogi rheolwyr. Datblygwyd dangosfwrdd absenoldeb salwch a byddai’n weithredol cyn y flwyddyn newydd a fyddai’n galluogi dadansoddiad estynedig ar dueddiadau salwch.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adolygiadau chwarterol o absenoldeb salwch, esboniodd y Pennaeth Datblygu sefydliadol fod gwybodaeth i reolwyr yn cael ei datblygu’n fisol ac y byddai trafodaethau manwl yn chwarterol mewn Timau Rheoli Cyfarwyddiaethau.
Dywedodd Cadeirydd y Gangen y cafodd y Gwasanaeth Cwnsela ei ddadgomisiynu oherwydd arbedion cyllideb a dymunai edrych ar ffyrdd i ailddechrau hyn fel gwasanaeth efallai drwy Iechyd Galwedigaethol gan fod cwnsela yn wasanaeth gwerthfawr a buddiol i staff yn ymwneud â materion llesiant ac yn y blaen. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod cynlluniau yn eu lle i adolygu’r contract Iechyd Galwedigaethol a byddai’n edrych ar y cyfle fel rhan o’r trefniant hwnnw.
Cyfeiriodd Aelod ar y camau gweithredu rheoli yn deillio o ymgysylltiad y Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol a soniodd am yr effeithlonrwydd rheolwyr a theimlai y dylid eu gallu i gyfrif os nad yw rheolwyr yn dilyn y camau ... view the full Cofnodion text for item 14. |
|
Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019 PDF 587 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau i graffu ar y gweithgareddau Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys fod yr Awdurdod wedi perfformio’n dda o ran Rheolaeth Trysorlys.
Holodd Aelod am fenthyciadau cyfnod sefydlog. Atebodd y Prif Swyddog Adnoddau fod gan yr Awdurdod gymysgedd o fenthyciadau sefydlog, dros dro, tymor hir a thymor byr.
Cyfeiriodd Aelod at y polisi o beidio buddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oes gan yr Awdurdod bolisi penodol ar hyn, fodd bynnag mae’r Awdurdod yn rhan o Gynllun Pensiwn Torfaen ac maent wedi dechrau newid eu polisi oherwydd materion yn ymwneud â’r amgylchedd a newid hinsawdd.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod Aelodau’n craffu ar y gweithgaredd yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 ac nad ydynt yn ystyried unrhyw ddiwygiadau i Strategaeth y Trysorlys yn y dyfodol cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.
|
|
Blaenraglen Gwaith – 5 Rhagfyr 2019 PDF 479 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ar 5 Rhagfyr 2019.
|