Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Cynghorydd L. Elias Cynghorydd G. Collier
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2022/2023 - 2026/2027 PDF 596 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau mai diben yr adroddiad yw rhoi diweddariad i Aelodau ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (MTFS) a’r asesiad diweddaraf o sefyllfa ariannol y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a rhoddodd enghreifftiau o dybiaethau a ddefnyddiwyd o fewn y MTFS a thynnodd sylw at y bylchau cyllideb a aseswyd ar hyn y bryd ynghyd ag amcangyfrif o gyflawniad ariannol yr adolygiadau busnes strategol sydd wedi arwain at y bylchau gweddilliol yn y gyllideb drwy gydol cyfnod y MTFS (tan 2026/2027).
Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau ymhellach at y dadansoddiad sensitifrwydd a dywedodd fod MTFS presennol y Cyngor yn cynnwys nifer o dybiaethau sy’n effeithio ar lefel yr incwm a’r gwariant. Nodwyd y gallai newidiadau yn y tybiaethau hyn gael effaith sylweddol ar y bwlch yn y gyllideb dros y 5 mlynedd nesaf. Adroddodd y Prif Swyddog ar yr effaith y gallai newid o 1% ei gael ar brif dybiaethau’r Cyngor.
Gorffennodd y Prif Swyddog Adnoddau ei chyflwyniad a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau.
Diolchodd Aelod i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a’r briffiad dilynol a chynigiodd opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig hwn.
CYTUNWYD derbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) a bod Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol wedi:- · ystyried y MTFS; · nodi’r bwlch cyllid a ragwelir ar gyfer cyfnod y MTFS; · nodi’r pwysau cost a ddynodwyd yn Atodiad 1 y MTFS; a · nodi’r rhagolwg o gyflawniad ariannol ar gyfer yr Adolygiadau Busnes Strategol a nodir yn Atodiad 2 y MTFS.
|