Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 5ed Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen rhybudd o leiaf 3 diwrnod gwaith os dymunwch wneud hynny. Darperir cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier a J. Holt.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 232 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Rheolaeth Trysorlys – Datganiad Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi MRP 2021/22 (yn cynnwys Dangosyddion Darbodus). pdf icon PDF 507 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Pholisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) (yn cynnwys dangosyddion darbodus) i gael eu mabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, cyn yr argymhelliad terfynol i’r Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau a gynhwysir ynddo.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at dudalen 45 ar Atodiad A, parthed yr MRP a derbyniadau cyfalaf a dywedodd y gwnaed penderfyniad yn 2018 i stopio MRP llinell syth ôl-weithredol, oedd yn hanfodol er mwyn stopio cynghorau rhag crynhoi dyled ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn awr yn canfod ei hun mewn sefyllfa ar gyfer 2022/2023 y byddai angen iddo ganfod swm sylweddol. Cododd bryderon fod Llywodraeth Cymru yn awr wedi ymgymryd i roi adolygiad cymheiriaid o systemau Rheoli Perfformiad yn ei le ac wrth symud ymlaen gallai arwain at gwestiynau anodd yn ymwneud â sut mae awdurdodau lleol yn rheoli eu cyllid. Teimlai fod angen i waith gael ei wneud cyn yr adolygiadau cymheiriad a bod angen cronfa ar wahân i dynnu ymaith beth o’r ddyled sydd yn yr arfaeth o 2022/23 ymlaen.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau sylw’r Aelod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef Datganiad Blynyddol Strategaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddiad Blynyddol a Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt (Atodiad 1) ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol i’r Cyngor.

 

6.

Strategaeth Cyfalaf 2021/2022 pdf icon PDF 494 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau ystyried y Strategaeth Cyfalaf (ynghlwm yn Atodiad 1) yn dilyn yr adolygiad blynyddol, i’w mabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddi a hysbysodd Aelodau fod yr adroddiad hwn wedi cysylltu’n agos gyda’r adroddiad am y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a ystyriwyd yn flaenorol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y tabl ym mharagraff 4.2.3 ar dudalen 60 am gyllido rhagolwg gwariant cyfalaf a’r cynnydd mawr o 2020/21 i 2021/22. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau bod y gwariant a ragwelir ym mhob un o’r blynyddoedd ariannol yn adlewyrchu’r rhaglen cyfalaf bresennol. Roedd y cynnydd yn bennaf oherwydd y buddsoddiad sylweddol ar raglen Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor, buddsoddiadau Band B, ac roedd disgwyliad y byddai lefelau’r rhaglen cyfalaf yn cynyddu ar gyfer y blynyddoedd hynny ond byddai cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiectau hynny hefyd yn cynyddu.

 

Yng nghyswllt buddsoddiad Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru o £100m dros gyfnod o 10 mlynedd, holodd Aelod sut y gallai Aelodau graffu a monitro’r buddsoddiad. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddir yn rhoi adroddiadau ar unrhyw ddyraniad o’r £100m a wnaed i’r Cyngor drwy adroddiadau Rhaglen Cyfalaf a Monitro Cyfalaf y Cyngor a gyflwynir i’r Cydbwyllgor Craffu Cyllideb yn chwarterol. Awgrymodd y gallai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol gynnig mwy o wybodaeth ar hyn ac mae’r Bwrdd Cymoedd Technoleg hefyd yn ymwneud gyda Llywodraeth Cymru ar sail ymgynghorol ar y ffordd orau i fuddsoddi’r arian hwnnw ym Mlaenau Gwent.

 

Byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yn rhoi gwybodaeth fwy manwl i Aelod tu allan i’r cyfarfod am unrhyw ddyraniadau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef argymell bod y Strategaeth Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 (Atodiad 1) yn cael ei mabwysiadu yn y Cyngor.

 

7.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 System CCTV Gofod Cyhoeddus pdf icon PDF 427 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Interim Masnachol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO CCTV), Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Interim Masnachol sef cyflwyno drafft Adroddiad Monitro Blynyddol CCTV Gofod Cyhoeddus ar gyfer y cyfnod 1 Medi 2019 – 31 Rhagfyr 2020.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo, byddai’r Prif Swyddog Interim Masnachol a’r Pennaeth Gwasanaeth Cymunedol yn atodi ac ymateb i gwestiynau lle mae angen.

 

Cododd Aelod bryderon am gymesuredd, gan ddweud nad oedd unrhyw gamerâu yn Nantyglo a theimlai y dylai camerâu gael eu dosbarthu’n fwy cyfartal. Cyllideb refeniw 2020/21 a neilltuwyd ar gyfer CCTV oedd £84,000 a theimlai fod hyn yn annigonol. Cododd yr Aelod bryderon hefyd yng nghyswllt cyfrinachedd a materion iechyd a diogelwch gyda swyddogion yn gweithio gartref ac yn delio gydag ymholiadau CCTV. Gwyddai’r Aelod fod gan Aelodau eraill bryderon tebyg a chynigiodd y dylid sefydlu gr?p trawsbleidiol i adolygu’r materion hyn yn fwy manwl ac i gynyddu’r gyllideb CCTV gan y teimlai nad oedd y system bresennol yn addas i’r diben.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol, yng nghyswllt gweithio gartref, dan y rheoliadau presennol fod angen i Swyddogion weithio gartref lle bynnag sy’n bosibl. Cafodd trefniadau addas eu rhoi ar waith a dim ond swyddogion oedd wedi gwneud yr hyfforddiant perthnasol fyddai’n cael gweld lluniau CCTV. Sicrhaodd Aelodau fod y trefniadau a gafodd eu rhoi ar waith yn ystod y pandemig wedi dilyn y protocol cywir. Yng nghyswllt casglu tystiolaeth a lleoliad camerâu, roedd lleoliadau presennol yn seiliedig ar ystadegau heddlu, fodd bynnag yn ystod ymgysylltu diweddar gydag Aelodau, roedd Aelodau wedi sôn am dystiolaeth golwg ehangach i roi darlun mwy cyfoethog ac fel rhan o’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer CCTV gallai edrych ar sut i gyflwyno casglu tystiolaeth ehangach. Yng nghyswllt cyllideb CCTV, cydnabu’r Swyddog fod prosesau blaenorol gosod cyllideb wedi gostwng y gyllideb CCTV.

 

Gofynnodd yr Aelod am eglurhad am Swyddogion yn gweithredu’r system CCTV o’u cartrefi. Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol nad oedd y system yng nghartref Swyddog ond mewn adeilad Cyngor gyda mynediad cyfyngedig, a dim ond y Swyddogion priodol oedd wedi cael yr hyfforddiant perthnasol oedd wedi eu hawdurdodi i weld y lluniau CCTV. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig, roedd rhai achosion lle’r oedd Swyddogion wedi gorfod defnyddio gliniaduron ac weithiau gallent fod wedi mynd i adeilad y Cyngor i lawrlwytho mwy o luniau. Cafodd hyn ei wneud o fewn y trefniadau protocol cyffredin.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at ddifrod i gerbydau yn ei Ward a dywedodd y dylai CCTV fod ar gael ym mhob rhan o’r Fwrdeistref. Teimlai y dylai fod y system 24 awr wedi’i monitro i helpu’r heddlu i ddal troseddwyr ar waith. Dywedodd y Prif Swyddog Interim Masnachol y bu’r symud i’r system bresennol mewn partneriaeth gyda’r heddlu, mae hyn yn system recordio byw ond nid monitro 24/7. Yng nghyswllt y sylfaen tystiolaeth ehangach, gellid gweithio gydag Aelodau i gael y sylfaen tystiolaeth ehangach tu allan i ystadegau troseddu yr heddlu.

 

Ailadroddodd yr Aelod ei  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Defnydd Ymgynghorwyr pdf icon PDF 495 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i Aelodau yn ymwneud â gwariant a wnaed yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y cafodd adroddiad ar Ddefnydd Ymgynghorwyr ar gyfer 2018/2019 a 2019/2020 ei gyflwyno a’i dderbyn ym mhob Pwyllgor Craffu ac argymhellodd fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn yn y Pwyllgor hwn.

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Lafur am wybodaeth bellach am AMEO Professional Services Cyf. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod AMEO yn ymgynghorwyr y gofynnwyd iddynt am gymorth yn ystod yr adolygiad dechreuol o daliadau trydydd parti. Mae’r ymgynghorwyr wedi helpu i ddatblygu strwythur a fframwaith i adolygu contractau sydd eisoes yn eu lle a dynodi’r contractau hynny y gellid eu hailnegodi gyda’r potensial o sicrhau arbedion neu well gwerth am arian. Mae’r gwaith a wnaethpwyd wedi helpu i gyflawni targedau ar wariant trydydd parti fel rhan o gynigion Pontio’r Bwlch.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at ddiweddaru meddalwedd gan Northgate Public Services. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau mai Northgate yw un o brif ddarparwyr y Cyngor ar gyfer pecynnau meddalwedd ariannol. Defnyddir un o’r pecynnau meddalwedd hynny i weinyddu’r gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau sydd angen diweddaru meddalwedd bob hyn â hyn. Os yw’r meddalwedd yn datblygu unrhyw broblemau mae’r arbenigedd ganddynt i unioni’r problemau hynny a sicrhau fod y feddalwedd yn gweithredu mor effeithlon ag sydd modd. Yn achlysurol, mae angen i gwmnïau gynnal gwaith cynnal a chadw cyffredinol, monitro ac uwchraddio’r system.

 

Cyfeiriodd Aelod at Midland Software Limited a holodd os oedd hyn yn gysylltiedig gyda system iTrent. Cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod wedi cysylltu gyda system iTrent Datblygu Sefydliadol ac y byddai angen i unrhyw uwchraddio neu ddatblygiadau i’r system gael eu gwneud gan yr ymgynghorwyr.

 

Dywedodd Aelod y cafodd yr adroddiad ar ddefnydd ymgynghorwyr ei ystyried gan bob portffolio ac mae’r adroddiad hwn yn rhoi enghraifft dda o sut y gallai defnydd ymgynghorwyr arwain at arbed arian. Teimlai fod nifer o enghreifftiau lle gallai defnydd ymgynghorwyr fod yn fanteisiol.

 

Cytunodd Arweinydd y Gr?p Llafur gyda sylwadau’r Aelod ac ychwanegu fod y weinyddiaeth flaenorol wedi defnyddio ymgynghorwyr PriceWaterhouse Coopers i edrych ar yr holl Awdurdod, a bod hynny wedi arwain at arbedion sylweddol mewn rhai gosodiadau cyllideb anodd. Teimlai mai hon oedd y ffordd iawn a chywir i ddefnyddio ymgynghorwyr.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod achlysuron pan mae defnydd ymgynghorwyr yn fanteisiol oherwydd eu harbenigedd ac mae’r adroddiad hwn yn dangos yr arbedion y gallai’r Awdurdod eu sicrhau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef nodi’r adroddiad ar Ddefnyddio Ymgynghorwyr.

 

9.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 393 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol sy’n cyflwyno Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ar 16 Ebrill 2021 er trafodaeth a chytundeb.

 

Mynegodd Aelod ei siom nad yw’r adroddiad ar ffyrdd newydd o weithio ar gyfer y sefydliad wedi ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer heddiw.

 

Nodwyd fod y Prif Swyddog Interim Masnachol wedi dweud wrth Aelodau fod proses ymgynghori gyda rhwydweithiau proffesiynol yn mynd rhagddi ar yr adroddiad Strategaeth Gweithle a gall gael ei ohirio gan gyfarfod mis Ebrill y cyfarfod.

 

Gofynnodd aelod am i adroddiad gael ei gyflwyno ar y system Olrhain, Canfod a Diogelu i gynnwys nifer y bobl sy’n cymryd rhan a chanlyniadau achosion i ddangos y cynnydd a wnaed. Byddai Prif Swyddog Interim Masnachol yn paratoi’r adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1: sef cytuno ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 16 Ebrill 2021 a pharatoi adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ar y system Tracio, Olrhain a Diogelu i gynnwys nifer y bobl sy’n gysylltiedig a chanlyniadau’r achosion i ddangos y cynnydd a wnaed.