Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Paulsen, P. Baldwin, M. Moore, J.P. Morgan, L. Parsons, J. Wilkins a D. Wilkshire.
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 256 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.
(Dylid nodi y cyflwynir cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Strategaeth Cyfalaf 2020/2021 PDF 511 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y Strategaeth Cyfalaf yn dilyn yr adolygiad blynyddol i’w fabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, cyn ei argymell yn ffurfiol i’r Cyngor.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Strategaeth Cyfalaf a ddiweddarwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethauu a’r Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a’r Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi diweddariad yng nghyswllt adolygiad Pontio’r Bwlch ar y defnydd strategol o grantiau gyda ffocws ar gyfnod cyntaf y Grant Plant a Chymunedau.
Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo, yn cynnwys manylion ffrydiau gwaith penodol.
Holodd Aelod os byddai cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer rhannau o’r fwrdeistref nad ydynt wedi eu cynnwys yn y rhaglen Dechrau’n Deg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod Gweinidog Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai cyllid ychwanegol ar gael, fodd bynnag cynhelir prosiect peilot mewn ardal ehangach a chyflwynir y canfyddiadau i Lywodraeth Cymru i weld os gellid ymestyn hyn ar draws Blaenau Gwent.
Croesawodd yr Aelod y derbyniwyd £23m o gyllid grant ond roedd ganddo bryderon am barhad y cyllid hwnnw ar ôl etholiadau Senedd Cymru yn 2020/21. Dywedodd fod rhannau o amddifadedd ym Mlaenau Gwent nad ydynt wedi eu cynnwys.
Yng nghyswllt blaenoriaethau’r Cyngor, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod blaenoriaethau’r Cyngor yn bwydo i’r Cynllun Corfforaethol ac y gwnaed gwaith helaeth am asesu llesiant i gynhyrchu cynllun cynhwysfawr ar gyfer yr ardal.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am grantiau, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y cafodd y Gronfa Gofal Integredig effaith fawr ar Flaenau Gwent. Esboniodd fod rhai grantiau yn anhyblyg a bod meini prawf y grant yn cynnwys lefelau amddifadedd, monitro defnydd grantiau a gwerth am arian ac yn gysylltiedig gyda’r hyn mae cymunedau ei angen. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod cyllid grant yn mynd i’r lleoedd cywir.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu:-
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y Strategaeth Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi a’r polisi ar Isafswm Darpariaeth Refeniw (yn cynnwys dangosyddion darbodus) i’w fabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, cyn ei argymell yn ffurfiol i’r Cyngor.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Holodd Aelod os gellid gwneud newidiadau i’r Datganiad Strategaeth Trysorlys unrhyw adeg o’r flwyddyn. Atebodd y Prif Swyddog Adnoddau y gwneir newidiadau fel arfer ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, ond cadarnhaodd y gellir gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn ac yr aiff drwy’r broses Craffu a Chyngor arferol. Dywedodd y Swyddog y cafodd rhai newidiadau brys eu hysbysu i’r Cyngor ar ôl iddynt ddigwydd.
CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau’n ystyried y Datganiad Blynyddol ar Strategaeth Trysorlys, y Strategaeth Flynyddol ar Fuddsoddi a’r Datganiad Polisi ar Isafswm Darpariaeth Cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt (Atodiad A) ac nad ydynt yn ystyried unrhyw ddiwygiadau, cyn eu cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo’n ffurfiol.
|
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 PDF 495 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau, Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau a’r Arweinydd Proffesiynol dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg a gyflwynodd Gynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020-24.
Siaradodd yr Arweinydd Proffesiynol dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Hwn oedd trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gylch 4 blwyddyn.
Soniodd y Cadeirydd am y Gweithgor Aelodau a’r cynnydd cadarnhaol a wnaed i gefnogi datblygu amcanion a chynllun cydraddoldeb.
Canmolodd Aelodau waith ymgysylltu rhagorol yr Uwch Gyngor Plant a’r Fforwm Ieuenctid.
Hysbysodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yr Aelodau mai 8 Mawrth yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod a bod y Tîm Cydraddoldeb yn cysylltu gyda’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch. Cafodd gwaith ymgysylltu pwysig hefyd ei wneud gyda’r Maer Ieuenctid oedd yn paratoi adroddiad Delwedd Corff Cadarnhaol i gefnogi’r ymgyrch genedlaethol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau’n cefnogi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig ac argymell ei gymeradwyo yn y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor.
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Gwasanaethau Corfforaethol PDF 422 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau pwyllgorau craffu penodol i graffu ar a herio perfformiad absenoldeb salwch y portffolio perthnasol a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella.
Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Gymorth Busnes, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y dynodwyd fod Cymorth Busnes yn ‘fan poeth’ gyda 643 diwrnod o salwch. Cynhaliwyd archwiliad rheolaethol llawn o absenoldeb salwch ac mae rheolwyr yn dilyn y Polisi Presenoldeb i’r llythyren. Darparwyd staff llanw ar gyfer absenoldeb salwch hirdymor, o dros un mis, gyda staff yn ‘camu lan’ neu gan weithwyr asiantaeth. Ychwanegodd y Swyddog fod prif achos absenoldeb salwch o fewn y gwasanaeth Cymorth Busnes yn gysylltiedig â straen. Mae polisïau yn eu lle i gefnogi staff ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.
Dywedodd Aelod fod 94% o staff yn mynychu’r gwaith yn gyson ac yn gwneud gwaith da. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod Gwasanaethau Corfforaethol o dan y targed ar gyfer Chwarter 1 a hefyd Chwarter 2.
Mynegwyd pryderon y gall staff fod yn dioddef o straen oherwydd materion capasiti. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y cynhelir asesiadau risg yng nghyswllt unrhyw newidiadau i wasanaethau a bod Cofrestr Risg yn ei lle fel y gellid dynodi a chynyddu unrhyw broblemau os oes angen.
Holodd Aelod am nifer y staff sy’n adrodd yn wael yn Gwasanaethau Corfforaethol. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol, allan o tua 200 aelod o staff yn y maes hwn, fod 82 wedi adrodd yn wael am Chwarteri 1 a 2 eleni. Mae gwella presenoldeb yn parhau’n flaenoriaeth sylweddol i’r Cyngor ac mae gan bob gweithiwr cyflogedig ac arweinydd rôl i’w chwarae wrth helpu i ostwng lefelau absenoldeb salwch.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor Craffu yn cymeradwyo’r adroddiad a’r trefniadau arfaethedig i gefnogi’r gwelliant mewn presenoldeb. Gan mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yng nghylch Pwyllgorau 2019/20, diolch y Cadeirydd i Aelodau am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.
|