Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Paulsen, J. Hill, M. Moore, L. Parsons a D. Wilkshire.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol PDF 255 KB Derbyn Cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Cyffredin a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.
(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu 5 Rhagfyr 2019 PDF 99 KB Derbyn y ddalen weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.
Dalen Weithredu – 26 Medi 2019
Gofynnodd Aelodau am i’r wybodaeth a roddir ar fanylion y digwyddiadau gael ei diweddaru gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.
Cododd Aelodau bryderon difrifol yng nghyswllt trais ac ymosodiad tuag at staff a gofynnodd am i Sesiwn Wybodaeth i Aelodau gael ei threfnu i drafod iechyd a diogelwch staff a’r mesurau sydd yn eu lle i’w diogelu.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o'r Trefniadau Corfforaethol ar gyfer Diogelu Plant PDF 493 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflwyno canfyddiadau adolygiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac ymateb y rheolwyr i’r cynigion ar gyfer gwella.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a thynnodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y cafodd gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan eu diweddaru ym mis Tachwedd 2019 ac felly mae angen diweddaru’r Polisi Corfforaethol ar Ddiogelu i sicrhau fod staff gyda chyfrifoldebau diogelu yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu hysbysu am unrhyw faterion o fewn diogelu. Caiff rhaglen hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru ei lledaenu yn y dyfodol agos a byddid angen ystyried pa lefel o staff ddylai ddilyn yr hyfforddiant ym mhob cyfarwyddiaeth. Byddai hefyd angen cynnwys trydydd partïon a rhanddeiliaid sy’n darparu gwasanaethau ar ran yr Awdurdod yn yr hyfforddiant diogelu. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at yr Ymateb Rheolwyr a’r camau gweithredu i symud ymlaen a chyfeiriodd at Argymhelliad R2, eitem 2 - datblygu opsiynau ar gyfer y Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol a theimlai mai lledaenu cylch gorchwyl y Cydbwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddod yn Bwyllgor Craffu Diogelu Corfforaethol yw’r ffordd orau ymlaen.
Cefnogodd Aelod farn y Cyfarwyddwr a dywedodd fod diogelu yn rhan ganolog o’r Cyngor a bod angen i Aelodau gyda’i gilydd sicrhau y caiff trefniadau diogelu eu cryfhau.
Holodd Aelod os caiff datblygu opsiynau ar gyfer Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol ei ystyried yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai 2020. Esboniodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y byddai angen i newidiadau i bwyllgorau fynd drwy’r broses CCB, mae Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes yn ei le a gellid datblygu hyn fel Cydbwyllgor Craffu Diogelu. Cyfeiriwyd at hyn yn y camau gweithredu Ymateb Rheolwyr i fynd ymlaen â hwy.
CYTUNODD y Pwyllgor argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol:
· Wedi ystyried adolygiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant ac ymateb y rheolwyr a rhoi sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol; · Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gweithredol cyflwynir yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio ar gyfer sicrwydd; a · Derbyn adolygiad 6 misol o gynnydd yr ymateb rheolwyr fel rhan o Flaenraglen Waith y Pwyllgor.
Gadawodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Strategaeth Fasnachol 2020-2025 PDF 422 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynodd Strategaeth Fasnachol Blaenau Gwent am y cyfnod 2020-2025. Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd y Cadeirydd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a bod y Strategaeth Fasnachol yn fenter newydd i’r Cyngor wrth symud ymlaen gyda phwyslais ar werth am arian.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol fod bod yn Gyngor gyda ffordd fasnachol o feddwl yn helpu i ganolbwyntio ar brofiad cwsmeriaid gyda mwy o sylw ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei brynu sy’n helpu’r economi lleol.
Cyfeiriodd Aelod at hawliadau yswiriant a difrod i gelfi stryd e.e. pyst lamp ac yn y blaen a gofynnodd sut y gellid adennill y costau hynny a sut y gallai Aelodau roi adroddiad am ddigwyddiadau o’r fath. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y cafodd rhaglen ei chyflwyno’n ddiweddar ac y sicrhawyd cwmni i ddilyn hawliadau yswiriant yng nghyswllt difrod i gelfi stryd ac adennill costau. Byddid yn anfon manylion cyswllt ar gyfer rhoi adroddiad am ddigwyddiadau o’r fath i Aelodau er gwybodaeth.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cefnogi’r Strategaeth Fasnachol a’r rhaglen waith gysylltiedig cyn eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor..
|
|
Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol PDF 506 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata sy’n cyflwyno Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol 2020-2025.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Dywedodd Aelod fod y Cyngor yn hyrwyddo cyfathrebu digidol a chyfryngau cymdeithasol, fodd bynnag nid oes unrhyw sôn am ap ‘Fy Ngwasanaethau Cyngor’ yn yr adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol fod ap Fy Ngwasanaethau Cyngor yn ddull pwysig ar gyfer rhoi hysbysiad am ddigwyddiadau a chynnal llif gwaith ac y dylai fod cyfeiriad at hyn yn y strategaeth. Mae rhai problemau gyda’r gwasanaeth yn ymwneud ag adborth i gwsmeriaid ac mae angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn. Byddai’r Swyddog yn codi materion penodol gydag Aelodau gan ei bod yn hanfodol cael safbwynt Aelodau ar y gwasanaeth mae’r cyhoedd yn ei dderbyn.
Yng nghyswllt ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ‘Cadw lan gyda’r Joneses’, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y gellid efallai gynnal gwerthusiad o’r dull hwn i edrych ar beth sy’n gweithio.
Dywedodd y Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata wrth Aelodau y byddent yn gweithio gyda Chyngor Merthyr ar ymgyrch genedlaethol ar y cyd ‘WRAP’ dros yr ychydig fisoedd nesaf ac y byddent yn rhannu’r wybodaeth hon gydag Aelodau i gael eu sylwadau.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi’r Strategaeth Gyfathrebu a’r rhaglen waith gysylltiedig ar gyfer eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor.
|
|
Datganiad Safleoliad ar system CCTV y Cyngor PDF 523 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau (SIRO ar gyfer CCTV) Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a gyflwynwyd i roi datganiad safleoliad ar system CCTV agored newydd y Cyngor.
Siaradodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo sy’n cynnwys bod y Cyngor yn awr yn gweithredu system ‘recordio yn unig’.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am leoliad camerâu, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent ar leoliad camerâu gyda ffocws ar ganol trefi yn seiliedig ar dystiolaeth o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddai lleoliadau’n cael eu hadolygu’n flynyddol. Gellid symud camerâu os oes angen a byddai angen iddynt gael Asesiad Effaith ar Ddiogelu Data i ddangos fod angen y camera yng nghyswllt atal troseddau a byddai hefyd angen i arwyddion priodol fod yn amlwg.
Holodd Aelod am yr amserlen ar gyfer lawrlwytho data. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau y byddai’r system newydd yn defnyddio technoleg ddigidol gyda camerâu diffiniad uchel yn defnyddio technoleg ddiwifr ac, hyd yma, ni fu unrhyw oedi sylweddol wrth lawrlwytho darnau o ffilm i ateb ceisiadau’r heddlu.
Gofynnodd Aelodau os oedd cynlluniau yn eu lle i Heddlu Gwent gael mynediad uniongyrchol i lawrlwytho darnau o ffilm. Dywedodd y Prif Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng yr heddlu a phartneriaid SRS ond na wnaethpwyd unrhyw benderfyniad hyd yma.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am nifer y camerâu CCTV eglurodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau fod 53 camera CCTV wedi eu gosod ledled y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd gyda phedwar camera symudol i’w defnyddio ar gyfer y mannau gwaethaf ar gyfer troseddau. Nifer wreiddiol y camerâu a gytunwyd yn adroddiad y Cyngor yn 2018 oedd 32. Roedd y cynnydd oherwydd arolygon ar y safle a’r broses dylunio cyn-tendr a ddynododd gyfyngiadau technegol yn gysylltiedig gyda throsglwyddo diwifr, llinellau safle mewn mannau penodol a meysydd gweld camerâu i sicrhau gorchudd effeithlon.
Dywedodd Aelod fod CCTV yn helpu i ddynodi troseddu ac anrhefn ar draws ardaloedd lleol gan fod y delweddau o safon uchel.. Gofynnodd yr Aelod am i sesiwn wybodaeth i Aelodau gael ei chynnal i roi gwybodaeth bellach a gwahodd yr heddlu i fynychu i roi sylw i nifer yr erlyniadau a wnaed.
Roedd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau yn cefnogi’r farn hon gan ei bod yn bwysig cael ymgyfraniad yr heddlu yn y sesiwn wybodaeth oherwydd eu gwaith o fewn cymunedau Blaenau Gwent.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau wrth Aelodau yr ymgynghorwyd â’r heddlu am leoliad y camerâu ac y gellid cynnal adolygiad i wirio os yw lleoliadau’n dal i fod yn addas neu os oes angen symud rhai camerâu i gael gorchudd gwell i sicrhau y caiff cymunedau eu cadw’n ddiogel.
Holodd y Cadeirydd os derbyniwyd cyllid gan Heddlu Gwent. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na dderbyniwyd unrhyw gyllid hyd yma.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Adroddiad Cynnydd Contractau dros £500k PDF 480 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gynnydd prosiectau cyfalaf dros £500,00 mewn cost, a gynhaliwyd o fewn yr Awdurdod a, lle’n briodol, yn ceisio’r gymeradwyaeth angenrheidiol sydd ei angen dan y Rheolau Gweithdrefnol Contract i wariant ychwanegol a wnaethpwyd ar brosiect neilltuol.
Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr her am iawndal ar gyfer dymchwel Canolfan Hamdden Abertyleri, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod ymgyfreitha ar hyn o bryd ac y gweithredir ynddo. Cyflwynwyd tystiolaeth i dîm Cyfreithiol Cyngor a gobeithiai am y datrysiad gorau posibl.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef derbyn yr wybodaeth a gynhwysir o fewn yr adroddiad fel y’i cyflwynir.
|
|
Blaenraglen Gwaith - 1 Ebrill 2020 PDF 481 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.
Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau y gohiriwyd y cyfarfod nesaf tan fis Mai.
Dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau mai dim ond os y gwnaed unrhyw gynnydd y rhoddir diweddariad ar baratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ym mis Mai 2020.
|