Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol - Dydd Gwener, 10fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, L. Elias, C. Meredith, a S. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 226 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 209 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Cyfathrebu (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 416 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynwyd i roi diweddariad chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021) o gymharu â’r Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor yn ystyried diweddariad cynnydd chwarter 2 o gymharu â’r Strategaeth Cyfathrebu, cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r  Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 609 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynwyd i roi diweddariad cynnydd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021) o gymharu â’r Strategaeth Fasnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ystafelloedd trafod preifat o fewn hybiau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cafodd hyn ei drin a bod ardal o fewn y llyfrgelloedd a gafodd ei neilltuo o ofod cyffredinol ar gyfer y cyhoedd i’w ddefnyddio ar drafodaeth breifat os dymunent.

 

Cyfeiriodd Aelod at y 924 preswylydd a oedd wedi methu hunan-weini yn yr hybiau. Esboniodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod cyfran sylweddol o breswylwyr oedd yn medru hunan-weini a chawsant eu cefnogi gan staff Hyb Cymunedol. Mae hefyd angen sicrhau fod cyflenwi gwasanaethau digidol yn glir ac yn rhwydd i breswylwyr eu defnyddio. Cytunodd y Swyddog i roi manylion i’r Pwyllgor am y cymorth a roddwyd ar gyfer y preswylwyr hynny na fedrai hunan-weini.

 

Cyfeiriodd Aelod at breswylwyr oedd yn byw tu allan i ganol trefi ac yn methu teithio i’r hybiau a holodd am bosibilrwydd cyflwyno system lle gallai staff Hyb Cymunedol gysylltu â’r preswylwyr hynny pan fo angen. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid eu bod yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu’r dull hyb a chytunodd i ymchwilio’r opsiwn gyda’r tîm, tra hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion cyfrinachedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed cyllid ac ehangu nifer y dyddiau yr oedd rhai hybiau yn gweithredu, eglurodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod y cyllid yn ymwneud â’r timau ymateb ardal oedd yn gweithredu yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig a gall y cyllid hwn ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ond na fyddai’n effeithio ar yr Hybiau Cymunedol. Yng nghyswllt ehangu dyddiau gweithredu ar gyfer hybiau yn y Blaenau, Cwm a Sefydliad Llanhiledd, roeddent yn monitro’r nifer oedd yn mynd i mewn i’r adeiladau ac yn adolygu’r galw yn yr ardaloedd i edrych ar sut i drin hyn o fewn adnoddau staff presennol. Dywedodd y Swyddog y byddai’n sicrhau y caiff dyddiau gweithredu Hybiau Cymunedol yn cael eu gweithredu’n glir i breswylwyr.

 

Teimlai Aelod y dylid rhannu arfer da ymysg Hybiau Cymunedol o fewn Blaenau Gwent. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid wrth yr Aelodau fod staff wedi bod yn rhagweithiol iawn ac wedi creu rhwydwaith cryf lle maent yn rhannu gwybodaeth i ddatblygu lefel o gysondeb yn yr holl hybiau.

 

Credai’r Aelod y byddai’n fuddiol i aelod o’r tîm i fynychu’r Pwyllgor Craffu i gael mwy o fanylion. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y gellid trefnu sesiwn wybodaeth rywbryd yn y dyfodol i Aelodau gael gwell dirnadaeth o rai o’r materion sy’n cael eu trin.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid i gwestiynau Aelod. Yng nghyswllt y cynnydd yn nifer sy’n defnyddio’r hybiau, dywedodd fod y tîm yn medru yn rhwydd gefnogi’r nifer o breswylwyr sy’n ymweld â’r hybiau. Mae’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Adolygu Canol-blwyddyn Rheoli Trysorlys - 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 590 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y gweithgaredd Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y buddsoddiadau tymor byr a wnaed, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r holl fenthyciadau unigol wedi bod yn gyfanswm o £692,000,000, fodd bynnag ni fyddai gan y Cyngor y swm hwnnw o fuddsoddiad ar unrhyw un amser ond gallai fod wedi bod â 20 benthyciad ar £5 miliwn yr un am gyfnodau byr. Esboniodd ei bod yn fwy manteisiol i fenthyca am dymor byr nag i fenthyca ar gyfer y tymor hir oherwydd lefel y cyfraddau llog yn y farchnad ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y sefyllfa trysorlys fel ar 30 Medi 2021. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y tabl yn dangos gostyngiad gan fod lefelau benthyca wedi gostwng oherwydd fod y Cyngor wedi benthyca llai ar 30 Medi 2021 o gymharu â 31 March 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef bod Aelodau’n craffu ar y gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 ac ni roddodd sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

9.

Adroddiad Cynnydd Contractau dros £500k pdf icon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gynnydd prosiectau cyfalaf dros £500,000 mewn cost a, lle’n briodol, i geisio’r gymeradwyaeth angenrheidiol sydd ei hangen dan y Rheolau Gweithdrefnol Gwariant i wariant ychwanegol ar brosiect neilltuol.

 

Siaradodd Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am waith ar y Bwa Mawr, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod gwaith i ddechrau yn y dyfodol agos ac y byddai wedyn yn dod yn gynllun byw dros £500,000 i’w adrodd i’r Pwyllgor Craffu.

 

Gofynnodd Aelod am gynnydd ar ddyraniad cyllid i ailgynllunio’r cyffordd ym Mhyllau Bedwellte.  Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol nad oedd hyn eto yn gynllun wedi ei gontractio i adrodd arno. Derbyniwyd arian dichonolrwydd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr hyn y gellid ei wneud yn y gyffordd ac ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y cyllid hwnnw i’r flwyddyn nesaf i symud ymlaen ar y cynllun hwnnw.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr wybodaeth a gynhwysir o fewn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.

 

10.

Blaenraglen Gwaith: 4 Chwefror 2022 pdf icon PDF 395 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y cafodd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol y bwriedid ei gynnal ar 4 Chwefror 2022 wedi ei ail-drefnu ac y’i cynhelir yn awr ar 23 Chwefror 2022.

 

Dywedwyd wrth Aelodau hefyd y cafodd yr adroddiad Gwrthderfysgaeth – Dyletswyddau Sianel ac Ymryson a’r Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg eu symud i gylch nesaf y Pwyllgor ac yn eu lle byddai Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 a’r Adolygiad Strategaeth Cyfalaf gan y cafodd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol y bwriedid ei gynnal ym Mawrth 2022 ei ganslo.

 

 

Yn amodol ar yr uchod, CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar gyfer y cyfarfod ar 23 Chwefror 2022 yn ystyried yr adroddiadau dilynol:

 

           Cyd-adroddiad Cyllid a Pherfformiad

           Archwiliad Coffa Cymru

           Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23

           Adolygiad Strategaeth Gofal

 

11.

Cynigion Model Darpariaeth CCTV

To consider the report of the Chief Officer Commercial and Customer.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid sy’n rhoi diweddariad ar yr adolygiad o’r swyddogaeth CCTV a’r cynigion ar gyfer gwell model cyflenwi gwasanaeth.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at broblemau cysylltedd yn ei ardal a’r angen am fwy o gamerâu. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod yr adroddiad hwn yn rhoi sylw i’r seilwaith presennol, byddai adolygiad parhaus ar leoliad camerâu. dywedodd y byddai camerâu cudd yn rhan o drafodaeth ehangach am CCTV.

 

Cododd Aelod bryderon am ddiogelwch y cyhoedd. Teimlai nad oedd y cynnig hwn yn becyn llawn ac nad oedd yn rhoi monitro byw ar gamerâu a bod angen mwy o gamerâu ym mhob ward gan fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem ym Mlaenau Gwent a theimlai y dylid dod â darpariaeth CCTV yn ôl i fod yn wasanaeth mewnol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid na chynhwysir monitro byw ar gamerâu, fodd bynnag mae’r model yn cynnwys sefyllfa well ar fynediad i a darpariaeth lluniau. Dywedodd fod Heddlu Gwent yn cefnogi’r gwelliannau arfaethedig gan bod darpariaeth bresennol y gwasanaeth CCTV yn brin o’r disgwyl a bod yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen i ddarparu model gwasanaeth gwell sy’n bwrpasol ar gyfer Blaenau Gwent.

 

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r model arfaethedig yn cynnig gwelliannau clir ar lefel bresennol darpariaeth gwasanaeth.

 

Credai Aelod nad oedd y system bresennol yn addas i’r diben ac y byddai’r symud i ddatblygu model darpariaeth gwasanaeth partner a chytundeb lefel gwasanaeth yn fanteisiol a’r cam cyntaf i wella’r system.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddiweddariad cynnydd, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y byddid yn rhoi adolygiadau cyson ar gynnydd i’r Pwyllgor hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol:

      i.        yn nodi’r cynnydd a wnaed fel rhan o’r adolygiad, rhoi sylwadau ac yn

    ii.        cefnogi’r gwelliannau arfaethedig a’r symudiad i ddatblygu model cyflenwi gwasanaeth partner a chytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer y swyddogaeth CCTV cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol ei gymeradwyo.